Yr Wylan

Ciw-restr ar gyfer Nina

(Medfedenco) Pam 'rydych chi'n gwisgo du bob amser?
 
(1, 0) 140 'Dw i ddim yn hwyr, na, debyg iawn, 'dw i ddim yn hwyr?
(Treplieff) {Yn cusanu ei dwylo.}
 
(Treplieff) Na, na...
(1, 0) 143 'Dw i wedi bod mor anesmwyth trwy'r dydd, wedi dychryn, ofn i nhad fy nghadw yn y tŷ, ond mae o a mam-yng-nghyfraith wedi mynd allan.
(1, 0) 144 Mae'r awyr yn goch a'r lleuad ar fin codi ac mi yrrais i'r ceffylau, mi yrrais i nhw, do.
 
(1, 0) 146 'Rydw i mor falch.
(Sorin) {Yn chwerthin.}
 
(Sorin) FIX Ha, ha, thâl peth fel na ddim.
(1, 0) 150 O, dim o gwbl, welwch chi fedra i ddim cael ngwynt.
(1, 0) 151 Rhaid imi fynd mhen hanner awr, mae'r amser yn brin.
(1, 0) 152 Na, na, da chi, peidiwch â gneud imi aros.
(1, 0) 153 Ŵyr nhad ddim mod i yma.
(Treplieff) Yn wir, mae'n hen bryd inni ddechrau.
 
(Sorin) Ron i'n canu rywbryd ers talwm, a dyma J.P yn deud wrtha i, "Mae gynnoch chi lais nerthol, syr", ac wedi meddwl tipyn dyma fo'n deud wedyn: "ond hen lais go gas ydi o hefyd".
(1, 0) 161 Mae nhad a'i wraig yn gwrthod gadael imi ddwad yma.
(1, 0) 162 Mae nhw'n deud mai pobol go rydd ydych chi, ac y mae arnyn nhw ofn imi fynd yn actres ─ mae rhywbeth yn fy nhynnu i at y llyn fel gwylan.
(1, 0) 163 'Rydych chi'n llond fy nghalon i.
(Treplieff) Does na neb ond ni yma.
 
(Treplieff) Does na neb ond ni yma.
(1, 0) 166 Ond mae rhywun fan acw...
(Treplieff) Na, 'does na neb yna.
 
(Treplieff) Na, 'does na neb yna.
(1, 0) 169 Pa goeden ydi honna?
(Treplieff) Llwyfen.
 
(Treplieff) Llwyfen.
(1, 0) 171 Pam mae hi mor dywyll?
(Treplieff) Mae'n nosi a phopeth yn troi'n ddu.
 
(Treplieff) Peidiwch â mynd adra'n gynnar, 'rwy'n crefu arnoch.
(1, 0) 174 Fedra i ddim aros.
(Treplieff) Ond be tawn i'n dwad acw, Nina?
 
(Treplieff) Mi safa i drwy'r nos yn yr ardd â'm llygad ar eich ffenast chi.
(1, 0) 177 Na, rhaid ichi beidio, rhag i'r gwyliwr eich gweld chi.
(1, 0) 178 'Dydi Trysor ddim yn eich nabod chi ac mi fydd yn cyfarth.
(Treplieff) 'Rwy'n eich caru chi.
 
(Treplieff) 'Rwy'n eich caru chi.
(1, 0) 180 Isht, isht.
(Treplieff) Pwy sy na?
 
(Treplieff) Dacw'r lleuad yn codi.
(1, 0) 188 Ydi, mae o.
(Treplieff) Oes gynnoch fethylated spirit a brwmstan?
 
(Treplieff) Ewch, mae popeth yn barod, a ydych chi wedi cynhyrfu?
(1, 0) 193 Ydw, yn arw iawn.
(1, 0) 194 Waeth gin i am eich mam, 'does arna i mo'i hofn hi.
(1, 0) 195 Ond mae Trigorin yma.
(1, 0) 196 Mae arna i ofn, mae arna i gywilydd actio o'i flaen o.
(1, 0) 197 Llenor enwog!
(1, 0) 198 Ydi o'n ifanc?
(Treplieff) Ydi.
 
(Treplieff) Ydi.
(1, 0) 200 A'r straeon gwych sy gynno fo!
(Treplieff) {Yn sych.}
 
(Treplieff) Dwn i ddim am hynny, ddarllenais i monyn nhw.
(1, 0) 203 Mae'n anodd actio'ch drama chi.
(1, 0) 204 'Does na ddim cymeriadau byw.
(Treplieff) Cymeriadau byw, wir!
 
(Treplieff) Rhaid mynegi bywyd nid fel y mae, nid fel y dylai fod, ond fel yr ymddengys mewn breuddwyd.
(1, 0) 207 Does na ddim digon o symudiad yn eich drama chi, dim yn digwydd, dim ond areithiau.
(1, 0) 208 Yn y marn i rhaid cael cariad mewn drama, mae hynny'n anhepgor.
(Polina) Mae'n damp yma.
 
(Arcadina) Breuddwydiwn ta.
(1, 0) 271 Mae dynion, llewod, eryrod a phetris, ceirw corniog, gwyddau, pryfed cop, pysgod mud, sêr, y môr ac ymlusgiaid na aller y llygad eu canfod, mewn gair, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, wedi cyflawni eu cylch truenus, ac wedi diffodd ─ aeth weithian filoedd o oesau heibio, a'r ddaear heb greadur byw yn trigo arni, a hithau'r loer, druan, yn cynnau ei llusern yn ofer.
(1, 0) 272 Ni chlywir mwyach ysgrech yr aran yn deffro ar y weirglodd na'r chwilod mân yn sio ar ddail y waglwyf.
(1, 0) 273 Oer! oer! gwag, gwag, ofnadwy, ofnadwy, ofnadwy!
(1, 0) 274 Aeth pob corff byw yn llwch, troes tragwyddol fater hwy oll yn gerrig, yn ddŵr ac yn gymylau, a'u heneidiau oll wedi llifo ynghyd.
(1, 0) 275 Enaid y byd wyf |i|, ynof |i| mae Enaid Alecsandr Fawr, enaid Cesar, enaid Shakespeare, enaid Napoleon a phryfyn distatlaf y llwch; yn fy mherson i crynhowyd holl reddfau'r byw, ac adnewyddaf bob bywyd ynof i fy hun.
(Arcadina) {Yn ddistaw bach.}
 
(Treplieff) O, mam!
(1, 0) 281 Nid oes neb byw ond myfi.
(1, 0) 282 Unwaith yn y can mlynedd agoraf fy ngenau, dyrchafaf fy llais yn drist yn y diffeithwch, ac nid oes neb a'm clyw.
(1, 0) 283 A chwithau, oleuadau gwelwon, ni chlywch fy llef, fe'ch cenhedlir gan y corsydd lleidiog cyn toriad dydd, a chrwydrwch hyd y wawr, heb feddwl, heb ewyllys, heb symudiad byw.
(1, 0) 284 Ac wele'r diafol, tad tragwyddol fater, rhag i fywyd dreiddio hyd atoch, bob munud awr yn symud yr atomau o'ch mewn, megis yn y cerrig â'r dŵr, a chwithau'n newid agwedd yn ddi-baid, yn ddi-dor; yn yr holl greadigaeth nid erys ond un enaid yn ddigyfnewid a pharhaus.
 
(1, 0) 286 Fel carcharor a fwriwyd i waelodion pydew gwag, ni wn ym mha le yr wyf, na pha beth a ddaw; un peth yn unig sydd hysbys imi yn yr ymdrech gyndyn greulon â'r diafol, pennaeth holl alluoedd mater, tynghedwyd i'm gorchfygu, ac yna gwelir mater ac enaid yn cyd-lifo yn un mewn cytgord, a sefydlir teyrnas rhyddid y byd.
(1, 0) 287 Ond ni ddaw hyn i fod am oesau, filoedd hir, wedi i'r lloer a FIX Siriws disglair, a'r ddaear raddol droi yn llwch, o'r dyddiau hyn i hynny, braw, braw!
 
(1, 0) 290 Wele fy ngwrthwynebwr cadarn, y diafol, yn FIX nesáu; gwelaf ei lygaid erchyll, coch.
(Arcadina) Oglau brwmstan!
 
(Treplieff) Mam!
(1, 0) 297 Mae'n unig heb gwmni dyn.
(Polina) {Wrth Dorn.}
 
(1, 0) 361 Dyna bopeth ar ben, rhaid inni ddwad allan debyg.
(1, 0) 362 Dydd da i chi.
(Sorin) Bravo, bravo.
 
(Arcadina) Mae'n ddyletswydd arnoch fynd ar y stage.
(1, 0) 370 Ie, dyna mreuddwyd i.
 
(1, 0) 372 Ond ddaw o byth yn wir.
(Arcadina) Pwy ŵyr?
 
(Arcadina) O, dyma Trigorin, Boris Alecsiefits Trigorin.
(1, 0) 375 Mae'n dda gin i...
 
(1, 0) 377 Mi fydda i'n darllen llawer ar eich llyfrau chi.
(Arcadina) Peidiwch â bod yn swil, nghariad i.
 
(1, 0) 386 Drama ryfedd, yntê?
(Trigorin) Dydw i ddim yn ei dallt hi, ond 'roedd yn bleser edrych arni, 'roeddych yn actio â'ch holl enaid.
 
(Trigorin) Rhaid bod digon o bysgod yn y llyn acw.
(1, 0) 390 Oes.
(Trigorin) 'Rydw i'n hoff iawn o bysgota, wn i am ddim mwy difyr nag eistedd ar y lan gyda'r hwyr â'm llygad ar y fflôt.
 
(Trigorin) 'Rydw i'n hoff iawn o bysgota, wn i am ddim mwy difyr nag eistedd ar y lan gyda'r hwyr â'm llygad ar y fflôt.
(1, 0) 392 Ond i'r sawl a brofodd win melys awduriaeth, mi ddylai popeth arall yn y byd golli ei flas, debygwn i.
(Arcadina) {Yn chwerthin.}
 
(Dorn) Ac ehedodd angel distawrwydd dros y lan.
(1, 0) 398 Mae'n bryd imi fynd.
(1, 0) 399 Nos dawch.
(Arcadina) Ond pam 'rydych chi'n mynd mor gynnar?
 
(Arcadina) Neith yr un ohonom ni adael ichi fynd.
(1, 0) 402 Mae tada'n fy nisgwyl i.
(Arcadina) Un rhyfedd ydi o, mewn difri calon.
 
(Arcadina) Piti garw fod rhaid ichi fynd.
(1, 0) 407 Taech chi'n gwbod mor drwm mae nghalon i wrth fynd!
(Arcadina) Rhaid i rywun fynd gyda chi, ta, fy mhwt clws i.
 
(1, 0) 410 O, na, na!
(Sorin) Da chi, rhoswch.
 
(Sorin) Da chi, rhoswch.
(1, 0) 412 Fiw imi aros, Piotr Nicolaiefits.
(Sorin) Rhoswch am un awr bach, ac felly yn y blaen.
 
(1, 0) 415 Fedra i ddim.
(Arcadina) Wir, mae'r eneth yn anlwcus iawn.
 
(2, 0) 537 'Rydw i mor hapus, 'rydw i'n un ohonoch chi rwan.
(Sorin) {Yn eistedd yn ei gadair freichiau.}
 
(Arcadina) Ble mae Boris Alecsiefits?
(2, 0) 545 Wrth y llyn yn pysgota.
(Arcadina) Sut medr o?
 
(Arcadina) Stumog, 'n tê?
(2, 0) 548 Be sy gynnoch chi fanna?
(Arcadina) 'Ar y Dŵr' gan Guy de Maupassant, nghariad i.
 
(Masia) Adroddwch rywbeth o'i ddrama o, os gwelwch chi'n dda.
(2, 0) 559 Beth, ond 'tydi hi mor ddwl.
(Masia) {Yn ceisio cuddio ei theimlad.}
 
(2, 0) 605 Ardderchog, 'rwy'n eich dallt chi.
(Sorin) Wrth gwrs, mae'n well byw yn y dre.
 
(2, 0) 645 Gwrthod Irina Nicolaiefna, yr actres enwog!
(2, 0) 646 Mae'n anodd credu'r fath beth.
(2, 0) 647 Ond tydi pob chwiw o'i heiddo hi yn bwysicach o lawer nag unrhyw waith ffarm.
(Polina) {Yn dorcalonnus.}
 
(2, 0) 657 Steddwch, steddwch.
(2, 0) 658 Mi awn ni â chi yno.
 
(2, 0) 660 Dychrynllyd, dychrynllyd!
(Sorin) Ie, wir, dychrynllyd iawn, ond eith o ddim i ffwrdd, mi â i ato fo rwan am sgwrs.
 
(2, 0) 684 Mae Irina Nicolaiefna yn crio a brest Piotr Nicolaiefits yn gwichian.
(Dorn) {Yn codi.}
 
(2, 0) 688 Cymwch nhw.
 
(2, 0) 697 Mae'n syn gin i weld actres yn crio ac am beth mor ddibwys hefyd, a'r llenor enwog poblogaidd â'i enw yn y papur newydd a'i lun yn ffenestri'r siopau a'i lyfrau wedi eu cyfieithu mewn ieithoedd diarth, ac yntau'n pysgota o fore tan nos, ac ar ei ben ei ddigon os medr o ddal un neu ddau o silod mân.
(2, 0) 698 'Ro'n i'n meddwl fod pobol enwog yn falch, yn cadw draw o'r byd, yn dirmygu'r dorf ac yn cymyd mantais o'u clod a'u henwogrwydd i ddial ar y dorf am ei bod yn gosod bonedd a chyfoeth yn uwch na phopeth arall yn y byd; ond dyma nhw'n crio, yn pysgota, yn chwarae cardiau; yn chwerthin a gwylltio fel pawb arall.
(Treplieff) {Yn dyfod i mewn.}
 
(Treplieff) Oes ma neb ond chi?
(2, 0) 701 Nag oes.
(2, 0) 702 Be di ystyr hyn?
(Treplieff) Bûm mor ffôl â saethu'r wylan ma.
 
(Treplieff) Dyma hi wrth eich traed.
(2, 0) 705 Be sy arnoch chi?
(Treplieff) {Ar ôl ennyd.}
 
(Treplieff) 'Rydw i am ladd fy hun yn yr un modd cyn pen hir.
(2, 0) 708 'Dydw i ddim yn eich nabod chi heddiw.
(Treplieff) 'Dydw innau ddim yn eich nabod chithau chwaith.
 
(Treplieff) 'Rydych chi wedi newid, mae'ch llygad chi'n oer, ac 'rydw i'n rhwystr ichi.
(2, 0) 711 'Rydych chi wedi mynd yn bigog ac yn siarad mewn damhegion, a dameg ydi'r wylan ma hefyd, mae'n debyg; peidiwch â digio, ond 'dydw i ddim yn dallt, 'rydw i'n rhy ddwl i ddallt.
(Treplieff) Mi ddechreuodd hyn i gyd y noson yr aeth fy nrama druan i'r clawdd.
 
(Treplieff) {Exit yn gyflym.}
(2, 0) 726 Bore da, Boris Alecsiefits.
(Trigorin) Bore da ichi, mae'n ymddangos fod rhaid inni fynd i ffwrdd heddiw.
 
(Trigorin) Mi liciwn fod yn eich sgidiau chi am awr fechan i gael gwbod sut y byddwch yn edrych ar y byd a sut un ydych chi'n gyffredinol.
(2, 0) 731 Mi garwn innau fod yn eich sgidiau chithau.
(Trigorin) Pam?
 
(Trigorin) Pam?
(2, 0) 733 Imi gael gwbod sut y bydd llenor enwog a thalentog yn teimlo.
(2, 0) 734 Sut ydych chi'n teimlo yn eich enwogrwydd?
(Trigorin) Sut?
 
(Trigorin) Rhaid eich bod chi'n fy ngosod yn rhy uchel neu ynte d'oes gan f'enwogrwydd ddim effaith o gwbwl ar fy nheimlad.
(2, 0) 738 Ond pan fyddwch yn gweld eich enw yn y papur?
(Trigorin) Os byddan nhw'n canmol, mi fyddaf wrth fy modd; os bydden nhw'n lladd arna i, byddaf yn ddrwg fy hwyl am ddiwrnod neu ddau.
 
(Trigorin) Os byddan nhw'n canmol, mi fyddaf wrth fy modd; os bydden nhw'n lladd arna i, byddaf yn ddrwg fy hwyl am ddiwrnod neu ddau.
(2, 0) 740 Lle rhyfedd ydi'r byd ma.
(2, 0) 741 Taech chi'n gwbod fel y mae arna i wenwyn, a'r fath wahaniaeth ym myd pobol!
(2, 0) 742 Un yn pydru'n ddinod mewn rhyw gongol dywyll, lle y mae pawb fel ei gilydd a phawb yn anhapus, a'r lleill, chi er enghraifft, un o filiwn ydych chi, yn cael byw yn y golau – bywyd diddorol a phawb yn sylwi arnoch.
(2, 0) 743 Yr ydych chi'n hapus.
(Trigorin) Fi?
 
(Trigorin) 'Rydych chi'n ifanc ac yn garedig iawn.
(2, 0) 748 Ond y mae'ch bywyd chi'n ardderchog.
 
(Trigorin) 'Roedd yn ddychrynllyd, yn arteithiol.
(2, 0) 778 Ydyn, mae sgwennu'n beth difyr; ac y mae darllen y proflenni'n ddifyr hefyd; ond pan fydd fy ngwaith mewn print tu hwnt i'm cyrraedd, byddaf yn canfod brychau, yn ei gondemnio fel methiant, yn credu mai camgymeriad dybryd oedd cyfansoddi'r fath druth, ac yn ddrwg fy hwyl, wedi laru ar bopeth.
 
(2, 0) 780 A phan ddarllenir fy llyfr, dyma glywch chi, 'Ie, clws iawn, yn wir, mae yna dalent hefyd, ond mae "Tadau a Phlant" Twrgenieff yn well' a cheir dim ond 'clws a thalentog, clws a thalentog' nes pwyo'r hoelen ola ar gaead f'arch, a bydd fy nghyfeillion wrth fynd heibio fy medd yn deud: "yma y gorwedd Trigorin, llenor da, ond fedra fo ddim sgwennu fel Twrgenieff.'
(2, 0) 781 Choelia i mo hyna, llwyddiant sydd wedi'ch difetha chi.
(Trigorin) Ond sut llwyddiant?
 
(Trigorin) Mae bywyd a gwyddoniaeth yn mynd rhagddynt yn rhy gyflym i mi eu dal, ac yr wyf bob amser ar ôl fel hogyn o'r wlad wedi colli'r trên, ac yn teimlo o'r diwedd mai am natur yn unig y gallaf ysgrifennu ac nad yw pob gair arall o'm heiddo ond hoced, ffalster a thwyll.
(2, 0) 790 'Rydych chi'n gweithio'n rhy ddwys ac nid oes gennych amser nac ewyllys i werthfawrogi'ch gwaith.
(2, 0) 791 Pa waeth os ydych yn anfodlon arno?
(2, 0) 792 I eraill mae'n wych a mawreddog.
(2, 0) 793 Pe tawn i'n llenor fel chi, mi gyflwynwn fy holl fywyd i'r werin, ac mi gai'r werin deimlo mai esgyn hyd ataf i yw ei hunig obaith am wynfyd, ac mi'm llusgai mewn cerbyd yn ei gorfoledd.
(Trigorin) Ie, mewn cerbyd, fel Agamemnon i'r lladdfa.
 
(Trigorin) Ie, mewn cerbyd, fel Agamemnon i'r lladdfa.
(2, 0) 795 Ond imi gael bod yn llenores neu'n actres, mi aberthwn bopeth; 'rwy'n barod i oddef adfyd, a chasineb, ac angau a siom, ac i fyw ar fara sych mewn twll dan y to, a chydnabod holl ddiffygion ac amherffeithrwydd fy ngwaith, os caf glod, clod gwirioneddol yn taraddu...
(2, 0) 796 Mae'n bendro arna i... ych!
 
(Trigorin) Y fath wynfa!
(2, 0) 805 Welwch chi'r tŷ ar ardd cw ar y lan?
(Trigorin) Gwelaf.
 
(Trigorin) Gwelaf.
(2, 0) 807 Dyna dŷ fy mam druan.
(2, 0) 808 Yna y'm ganwyd i, ac 'rydw i'n nabod pob ynys arno.
(Trigorin) Mae hi'n braf arnoch chi yma.
 
(Trigorin) Be di hwn?
(2, 0) 812 Gwylan a saethodd Constantin Gafrilits.
(Trigorin) Deryn braf, yn wir, 'does arna i ddim isio mynd.
 
(Trigorin) {Yn taro nodyn yn ei lyfr.}
(2, 0) 816 Be dych chi'n neud?
(Trigorin) O, dim ond nodyn, awgrym testun stori fer ddaeth i mhen i.
 
(2, 0) 828 Breuddwyd gwag!
(Masia) 'Rwy'n deud hyn i gyd wrthoch chi fel llenor, gellwch neud defnydd ohono rywbryd.
 
(3, 0) 874 Un ta dwy?
(Trigorin) Dwy.
 
(3, 0) 877 Na, un bysen sy gin i.
(3, 0) 878 'R'on i'n trio cael gwbod a ddylwn i fynd ar y stage ai peidio.
(3, 0) 879 Mae arna i isio cyngor.
(Trigorin) Fedr neb roi cyngor ichi.
 
(Trigorin) Fedr neb roi cyngor ichi.
(3, 0) 882 Dyma ni'n mynd bawb ei ffordd ei hun.
(3, 0) 883 Welwn ni mo'n gilydd eto, mae'n debyg.
(3, 0) 884 A fyddwch chi cystal â chymyd y fedal bach yma i gofio amdana i?
(3, 0) 885 Mae nhw wedi torri'ch enw arni ar un ochor ac ar yr ochor arall mae teitl eich llyfr chi 'Nos a Dydd.'
(Trigorin) Mae hi'n neis.
 
(Trigorin) {Cusana'r fedal.}
(3, 0) 888 Meddyliwch amdana i weithiau.
(Trigorin) Mi fydde i'n siwr o neud, mi feddylia i amdanoch fel yr oeddech chi ar y diwrnod heulog hwnnw, ydych chi'n cofio, 'r wythnos dwaetha, mewn ffrog wen – mi gawsom sgwrs – a'r wylan wen ar y fainc.
 
(3, 0) 891 Ie, yr wylan.
 
(3, 0) 893 Ond dyna ben ar ein sgwrs ni, mae nhw'n dŵad – ga i ddau funud bach gynnoch chi cyn ichi fynd i ffwrdd, peidiwch â gwrthod.
(Arcadina) Rhoswch gartre, 'r hen fachgen.
 
(Trigorin) 'R ydym ni ar fin cychwyn.
(3, 0) 1219 'R o'n i'n gwbod ein bod am gael gweld ein gilydd.
 
(3, 0) 1221 Boris Alecsiefits, 'r ydw i'n mynd ar y stage.
(3, 0) 1222 Welir mona i yma fory, 'r wy'n gadael fy nhad a phopeth ac yn dechrau byw o'r newydd.
(3, 0) 1223 Fel chi, 'r wyf innau'n mynd i Mosco.
(3, 0) 1224 Mi gawn weld ein gilydd yno.
(Trigorin) Ewch i aros yn y Slafiansci Bazâr, a gadwch imi wbod ar unwaith; 'moltsianoffca, Grocholsci,' dyna'r drecswin.
 
(Trigorin) Rhaid imi frysio.
(3, 0) 1228 Hanner munud.
(Trigorin) {Yn gostwng ei lais.}
 
(Treplieff) Peidiwch â chrio, peidiwch â chrio.
(4, 0) 1604 Mae rhywun yma.
(Treplieff) Nag oes, neb.
 
(Treplieff) Nag oes, neb.
(4, 0) 1606 Rhowch glo ar y drws, neu mi ddaw rhywun.
(Treplieff) Ddaw neb i mewn.
 
(Treplieff) Ddaw neb i mewn.
(4, 0) 1608 Mi wn fod Irina Nicolaiefna yma.
(4, 0) 1609 Rhowch glo ar y drws.
(Treplieff) 'Does na ddim clo ar y drws arall.
 
(Treplieff) Peidiwch ag ofni, ddaw neb i mewn.
(4, 0) 1614 Gadwch imi gael golwg arnoch chi.
(4, 0) 1615 Mae'n braf ac yn gynnes neis.
(4, 0) 1616 Yma 'roedd y parlwr gorau.
(4, 0) 1617 Ydw i wedi newid yn arw?
(Treplieff) Ydych, 'rydych chi wedi teneuo ac y mae'ch llygaid yn fwy.
 
(Treplieff) Mi fûm i acw bob dydd yn sefyll dan eich ffenast fel cardotyn.
(4, 0) 1624 'Roedd arna i ofn eich bod yn fy nghasau i; mi fyddwn yn breuddwydio bob nos eich bod yn sbio arna i ac yn gwrthod fy nabod.
(4, 0) 1625 Taech chi'n gwybod!
(4, 0) 1626 'Rydw i wedi bod yma bob dydd – wrth y llyn, ac wrth y tŷ ma hefyd lawer gwaith; ond feiddiwn i ddim dŵad i mewn.
(4, 0) 1627 Gadwch inni eistedd a sgwrsio, sgwrsio.
(4, 0) 1628 Mae hi'n glyd ac yn gynnes braf yma.
(4, 0) 1629 Glywch chi'r gwynt?
(4, 0) 1630 Mae Twrgenieff yn deud yn rhywle "gwyn ei fyd y gŵr sydd ganddo dŷ a tho ac aelwyd gynnes ar noson fel hon".
(4, 0) 1631 Gwylan ydw i – na, thâl hyna ddim.
(4, 0) 1632 Lle'r oeddwn i hefyd?
(4, 0) 1633 O, ie, Twrgenieff: 'A'r Arglwydd a ofala am bob crwydryn heb le i roi ei ben i lawr' – Waeth befo...
 
(Treplieff) Nina, dyna chi'n crio eto, Nina bach!
(4, 0) 1636 Waeth befo, mi neith les imi.
(4, 0) 1637 Chriais i ddim ers dwy flynedd.
(4, 0) 1638 Mi es i'r ardd neithiwr i weld a oedd ein theatr ni yno, ac yno y mae hi hefyd.
(4, 0) 1639 Mi griais i am y tro cynta ers dwy flynedd ac 'ro'n i'n teimlo'n sgafnach wedyn, a llai o bwys ar y nghalon i.
(4, 0) 1640 Welwch chi, 'dwy ddim yn crio rŵan.
(4, 0) 1641 A dyma chi'n llenor, chi'n llenor a finnau actores, yn mynd gyda'r lli ein dau.
(4, 0) 1642 'Roeddwn i mor hapus ers talwm, yn canu fel plentyn ben bore, yn breuddwydio am glod, a rŵan – rhaid imi fynd i Ielets yfory, third class gyda'r gweithwyr, ac mi fydd siopwyr diwylliedig y dre yn fy nghanlyn i ac yn dechrau caru a hel lol.
(4, 0) 1643 Bywyd isel yntê?
(Treplieff) Pam y mae rhaid ichi fynd i Ielets?
 
(Treplieff) Pam y mae rhaid ichi fynd i Ielets?
(4, 0) 1645 Mae gin i engagement yno am y gaea, ond mae'n bryd imi fynd.
(Treplieff) Nina, melltithiais chi, caseais chi, rhwygais eich llythyrau a'ch llun chi, ond mi wyddwn i bob munud fod fy nghalon yn glynu wrthoch am byth.
 
(4, 0) 1651 Pam y mae o'n siarad fel hyn, pam y mae o'n siarad fel hyn?
(Treplieff) 'Rwyf yn unig, heb neb yn fy ngharu, 'rwyf yn oer, ac megis yn byw mewn seler dywyll, afiach, a bydd popeth a sgrifennaf yn dywyll ac yn sych fel hen grystyn.
 
(Treplieff) Yn enw Duw, Nina?
(4, 0) 1657 Mae'r cerbyd wrth y giât.
(4, 0) 1658 Peidiwch â dŵad gyda mi, mi a i fy hun.
 
(4, 0) 1660 Ga i lymaid o ddŵr?
(Treplieff) {Yn tywallt dŵr.}
 
(Treplieff) I ble'r ydych chi'n mynd?
(4, 0) 1663 I'r dre.
(4, 0) 1664 Ydi Irina Nicolaiefna yma?
(Treplieff) Ydi.
 
(Treplieff) 'Roedd f'ewyrth yn waeth ddydd Iau ac mi ddaru ni yrru teligram yn ei galw adre.
(4, 0) 1667 Pam y deudsoch chi y byddwch yn cusanu'r pridd y bu fy nhraed arno?
(4, 0) 1668 Mi ddylid fy lladd i.
(4, 0) 1669 O! 'rydw i wedi blino.
(4, 0) 1670 Gawn i orffwys... gorffwys.
(4, 0) 1671 Gwylan ydw i – nage actres ydw i.
 
(4, 0) 1673 O!
(4, 0) 1674 Mae o yma.
(4, 0) 1675 Wel, waeth befo...
(4, 0) 1676 Doedd o ddim yn credu yn y theatr a byddai'n chwerthin am ben fy mreuddwydion, ac o dipyn i beth mi gollais innau fy ffydd a thorrais fy nghalon – a gofalon serch, cenfigen, a phryder am yr hogyn bach yn fy mlino ddydd a nos – a minnau'n isel ysbryd, a'r actio'n druenus ac ynfyd, wyddwn i ddim sut i ddal fy nwylo, fedrwn i ddim sefyll yn iawn ar y stage, 'doedd gin i ddim meistrolaeth ar fy llais chwaith.
(4, 0) 1677 Gwylan ydw i – na, thâl hyna ddim – ydych chi'n cofio saethu'r wylan?
(4, 0) 1678 Daeth dyn heibio ar ddamwain, a'i gweld hi am nad oedd ganddo ddim gwell i'w wneud – ei difa hi.
(4, 0) 1679 Testun stori fer.
(4, 0) 1680 Na, thâl hyna ddim.
(4, 0) 1681 Lle'r oeddwn i hefyd?
(4, 0) 1682 O, ie, yn sôn am y stage.
(4, 0) 1683 Ond 'rydw i wedi newid erbyn hyn.
(4, 0) 1684 'Rwyf yn wir actres, yn cael blas ar actio, yn llawn gorfoledd, wedi meddwi ar y stage ac yn teimlo fy mod yn gampus.
(4, 0) 1685 Ac er pan ddois yma, 'rwyf yn cerdded o gwmpas ac yn myfyrio ac yn teimlo fod nerthoedd f'enaid yn tyfu bob dydd.
(4, 0) 1686 'Rwyf wedi dysgu gwers, Costia, yn ein gwaith ni ar y stage neu wrth y ddesg, nid clod, nid rhwysg llwyddiant, nid yr hyn y byddem gynt yn breuddwydio amdano sy'n bwysig, ond y gallu i ddioddef.
(4, 0) 1687 Dysg godi'r groes a chredu.
(4, 0) 1688 Mae gennyf ffydd, ac felly mae'r loes yn llai, a phan feddyliaf am fy ngalwad, nid oes arnaf ofn byw.
(Treplieff) {Yn drist.}
 
(4, 0) 1692 Sh!...
(4, 0) 1693 'Rydw i'n mynd.
(4, 0) 1694 Nos dawch.
(4, 0) 1695 Pan fydda i'n actres enwog, dowch i ngweld i – ydych chi'n addo dŵad?
(4, 0) 1696 Ond hyd hynny...
(4, 0) 1697 Mae hi'n hwyr.
(4, 0) 1698 Prin y medra i sefyll 'rydw i wedi blino, mae arna i isio bwyd.
(Treplieff) Ond rhoswch, mi a i i nôl tipyn o swper ichi.
 
(Treplieff) Ond rhoswch, mi a i i nôl tipyn o swper ichi.
(4, 0) 1700 Na, na!
(4, 0) 1701 Peidiwch â dŵad hefo mi chwaith.
(4, 0) 1702 'Dydi'r cerbyd ddim ymhell.
(4, 0) 1703 Mae hi wedi dŵad â fo yma felly?
(4, 0) 1704 Wel, waeth gin i.
(4, 0) 1705 Pan welwch chi Trigorin, peidiwch â deud dim wrtho fo – 'rydw i'n ei garu o, yn ei garu o'n fwy nag erioed.
(4, 0) 1706 Testun stori fer...
(4, 0) 1707 'Rydw i'n ei garu o'n wyllt, yn angerddol.
(4, 0) 1708 'Roedd hi mor ddifyr yma ers talwm, ydych chi'n cofio Costia?
(4, 0) 1709 Bywyd golau, cynnes, llon.
(4, 0) 1710 A'r fath deimladau!
(4, 0) 1711 Teimladau fel blodau, tyner, gwych, ydych chi'n cofio.
 
(4, 0) 1713 ~
(4, 0) 1714 'Mae dynion, llewod, eryrod, a phetris, ceirw corniog, gwyddau, pryfed copyn, pysgod mud, sêr, y môr ac ymlusgiaid na all y llygad eu canfod, mewn gair, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd wedi cyflawni eu cylch truenus, ac wedi diffodd.
(4, 0) 1715 Aeth weithian filoedd o oesau heibio a'r ddaear heb greadur byw yn trigo arni, a hithau'r lloer, druan, yn cynnau ei llusern yn ofer.
(4, 0) 1716 Ni chlywir mwyach ysgrech garan yn deffro ar y weirglodd na'r chwilod mân yn sio ar ddail y waglwyf.'