Yr Wylan

Ciw-restr ar gyfer Shamraieff

(Medfedenco) Pam 'rydych chi'n gwisgo du bob amser?
 
(1, 0) 238 Rwy'n ei chofio hi'n actio yn fendigedig yn ffair fawr Poltafa yn 1873, digon o ryfeddod di-ha-fal!
(1, 0) 239 A fyddwch chi cystal â deud wrtha i ble mae'r comedian Tsiadin, Pafel Semionits Tsiadin y dyddiau hyn?
(1, 0) 240 'Doedd na neb tebyg iddo am actio Raspliwieff, 'roedd o'n well na'r gorau, yn well na Sadoffski ei hun.
(1, 0) 241 Ble mae o rwan, foneddiges fwyn?
(Arcadina) Be dach chi'n holi am bobol oedd yn byw cyn i Noah fynd i'r arch?
 
(1, 0) 245 Pashca Tsiadin!
(1, 0) 246 Chewch chi neb fel y fo heddiw.
(1, 0) 247 Mae'r ddrama wedi cael codwm, Irina Nicolaiefna.
(1, 0) 248 'Roedd derw nerthol yn y dyddiau hynny, chewch chi ddim ond eu bonion nhw heddiw.
(Dorn) Ychydig o dalentau disglair a geir yn yr oes hon, ond mae safon actio wedi codi cryn dipyn.
 
(Dorn) Ychydig o dalentau disglair a geir yn yr oes hon, ond mae safon actio wedi codi cryn dipyn.
(1, 0) 250 Fedra i ddim cyd-weld â chi fan yna, ond o ran hynny, matter o chwaeth ydi'r cwbl; |de gustibus aut bene aut nihil|. [1]
(Arcadina) {Wrth ei mab.}
 
(Dorn) Mae ei olwg o yn gneud i ryw ias oer fynd drwydda i.
(1, 0) 383 Iago, machgen i, tyn y cyrten na i fyny.
(Nina) {Wrth Trigorin.}
 
(Arcadina) Peidiwch â deud pethau fel yna, cyn gynted ag y clyw rhywun yn ei ganmol, mae o'n mynd yn llipa ac yn hurt.
(1, 0) 395 Rhywbryd erstalwm yn yr opera yn Mosco, 'rwy'n cofio'n dda, canodd yr enwog Silfa y |do| uchaf, a'r noson honno, fel pe tae o bwrpas, roedd canwr bas o gôr ein plwy ni yn eistedd ar ymyl y galeri, ac ar drawiad, dyma lais o'r galeri gryn wythawd yn is: "Bravo Silfa' nes synnu'r holl dŷ.
(Dorn) Ac ehedodd angel distawrwydd dros y lan.
 
(1, 0) 427 Madam!
(Sorin) Dacw'r ci'n cyfarth eto.
 
(Sorin) Da chi, deudwch wrth y gwas am ei ollwng o.
(1, 0) 431 Thâl hynny ddim, mae arna i ofn i'r lladron fynd i'r sgubor a dwyn yr ŷd.
 
(1, 0) 433 Ie, gryn wythawd "Bravo, Silfa", nid cantwr, ond aelod distadl o'r côr.
(Medfedenco) Be di cyflog aelod o'r côr?
 
(Dorn) 'O, fy mlodau, dwedwch wrthi.'
(2, 0) 611 Dyma nhw.
(2, 0) 612 Bore da.
 
(2, 0) 614 Mae'n dda gin i eich gweld i gyd yn iach.
 
(2, 0) 616 Mae'r wraig acw yn deud eich bod chi'n meddwl mynd i'r dre gyda'ch gilydd, ydi hyna'n wir?
(Arcadina) Ydi, 'rydym yn meddwl mynd.
 
(Arcadina) Ydi, 'rydym yn meddwl mynd.
(2, 0) 618 H-m-m.
(2, 0) 619 Rhagorol iawn, ond sut yr ewch chi yno, foneddiges barchus?
(2, 0) 620 Mae nhw'n cario'r ŷd heddiw a'r gweision i gyd yn gweithio, a lle cewch chi geffylau, os ca i fod mor hy â gofyn?
(Arcadina) Sut y gwn i?
 
(2, 0) 624 Ceffylau cerbyd, yn wir!
(2, 0) 625 Ond, ble ca i goleri iddyn nhw, ble ca i goleri, 'rwy'n gofyn ichi.
(2, 0) 626 Mae peth fel hyn yn an-ni-odd-ef-ol.
(2, 0) 627 'Rwy'n barod i fynd ar fy ngliniau gerbron eich talentau chi, foneddiges barchus; ac i aberthu deng mlynedd o mywyd er eich mwyn, ond fedra i ddim rhoi ceffylau ichi.
(Arcadina) Ond mae rhaid imi fynd, welais i rioed y fath beth.
 
(Arcadina) Ond mae rhaid imi fynd, welais i rioed y fath beth.
(2, 0) 629 Foneddiges barchus, wyddoch chi ddim am ofalon ffarmwr.
(Arcadina) {Yn wyllt.}
 
(2, 0) 635 Dyma fi'n mynd heddiw, chwiliwch am rywun arall yn stiward ichi.
(Arcadina) 'Run fath bob ha, yn cael f'insyltio yma bob ha!
 
(3, 0) 1159 Mae gennyf yr anrhydedd o hysbysu, gyda gofid, fod y cerbydau yn barod!
(3, 0) 1160 Mae'n bryd ichi gychwyn, foneddiges barchus; bydd y tren i mewn bum munud wedi dau.
(3, 0) 1161 A newch chi gymwynas â mi?
(3, 0) 1162 Peidiwch ag anghofio gadael inni wbod ble mae'r actor Swsdatseff.
(3, 0) 1163 Ydi o'n fyw ac iach?
(3, 0) 1164 Mi fyddem yn cael glasiad hefo'n gilydd ers talwm.
(3, 0) 1165 'Doedd na neb tebyg iddo am actio yn 'Rhaib y Post.' 'R wy'n cofio'r tragedian enwog Ismailoff yn actio gydag o yn Elisofetgrad.
(3, 0) 1166 'D oes dim brys, foneddiges barchus, mae gynnoch chi bum munud eto.
(3, 0) 1167 'Roedd y ddau yn cymyd rhan dau fradwr mewn melodrama rywbryd, a phan ddatguddiwyd y brad, dyma Ismailoff yn lle deud 'Dyma ni yn y ddalfa' yn deud 'Dyma ni yn yr helfa'.
 
(3, 0) 1169 'Yn yr helfa.'
(Polina) {Â basged yn ei llaw.}
 
(Iago) Bendith yr Arglwydd ar eich pen!
(3, 0) 1199 Mi fyddai'n dda gynno ni gael pwt o lythyr.
(3, 0) 1200 Da y boch, Boris Alecsiefits!
(Arcadina) Ble mae Constantin?
 
(4, 0) 1420 'Rydym ni i gyd wedi heneiddio ar ôl y gwynt a'r glaw arnom; ond 'rydych chi'n fengach na rioed, foneddiges fwyn, jecad olau, sioncrwydd pert... a... a...
(Arcadina) Dyna chi wrthi hi'n ffalsio eto, yr hen ŵr atgas ichi.
 
(4, 0) 1455 O, ie, 'ceffylau, mynd adre' unwaith eto.
 
(4, 0) 1457 Gellwch farnu eich hun, mae'n nhw newydd fod yn y stesion; 'does dim modd eu gyrru nhw allan eto heno.
(Masia) Ond mae gynnoch chi geffylau erill.
 
(Medfedenco) (Exit.)
(4, 0) 1473 Gadwch iddo gerdded, nid general ydi o.
(Polina) {Yn curo'r bwrdd.}
 
(Masia) Deg!
(4, 0) 1501 Peidiwch bod ar gimint o frys.
(Arcadina) Mi ges i'r fath dderbyniad yn Charcoff, nefoedd fawr, mae mhen i'n troi hyd y dydd hwn.
 
(Arcadina) {Yn dangos ei brooch iddynt.}
(4, 0) 1509 Wel, dyna rywbeth yn wir.
(Masia) Hanner cant.
 
(Polina) Dyna Costia yn canu piano, arwydd ei fod yn ddigalon.
(4, 0) 1515 Mae o'n ei chael hi'n arw yn y papurau newydd.
(Masia) Dau ar bymtheg a thrigain.
 
(4, 0) 1542 Mae'ch bethma chi yma'n ddigon diogel.
(Trigorin) Be dych chi'n feddwl?
 
(Trigorin) Be dych chi'n feddwl?
(4, 0) 1544 Wedi i Constantin Gafrilits saethu gwylan, mi ddaru'ch ofyn imi ei stwffio hi ichi.
(Trigorin) 'Dwy'n cofio dim am y peth.
 
(Arcadina) Bravo, bravo!
(4, 0) 1559 Bravo!
(Arcadina) Mae hwn yn sgubo popeth o'i flaen ym mhobman.
 
(4, 0) 1732 Dyma'r beth-ma hwnnw o'n i'n sôn amdano.
 
(4, 0) 1734 Chi ofynnodd i mi.