Yr Wylan

Ciw-restr ar gyfer Sorin

(Medfedenco) Pam 'rydych chi'n gwisgo du bob amser?
 
(1, 0) 42 Neith byw yn y wlad mo'r tro i mi o gwbl, a debyg iawn, na i byth ddygymod ag o.
(1, 0) 43 Es i'r gwely ddeg o'r gloch neithiwr, a chysgais tan naw o'r gloch y bore ma, ac wedi'i holl gysgu mae fy mennydd yn glynud wrth esgyrn fy mhen ac felly yn y blaen.
 
(1, 0) 45 Ac ar ôl cinio es i gysgu wedyn, megis ar ddamwain, ac rwan rwy'n llipa fel hen gadach ac wedi byddaru mewn gair.
(Treplieff) Digon gwir, rhaid i chi gael byw yn y dre.
 
(Medfedenco) Cofiwch adael inni wbod mewn pryd.
(1, 0) 56 Hynny yw, bydd y ci yn udo trwy'r nos heno eto.
(1, 0) 57 Ches i rioed fyw yn y wlad yn ôl fy ffansi, dyna'r gwir amdani.
(1, 0) 58 Yn yr hen ddyddiau, byddwn yn cael mis o wyliau ac yn dwad yma i orffwys ac felly yn y blaen, ond 'roedd hi mor annifyr yma, 'roedd arna i eisiau mynd o ma ben bore wedyn.
 
(1, 0) 60 Roedd yn dda gin i gael mynd i ffwrdd, ond 'rwan, wedi imi gadw noswyl, 'does gin i unlle i fynd, mewn gair.
(1, 0) 61 Ond licio neu beidio, rhaid imi fyw yma.
(Iago) {Wrth Treplieff.}
 
(Treplieff) Codir y llen hanner awr wedi wyth pan gyfyd y lleuad.
(1, 0) 73 Ardderchog.
(Treplieff) Os bydd Zarietsnaia yn hwyr, collir yr |effect|, wrth gwrs.
 
(1, 0) 80 Dyna drasiedi fy mywyd i.
(1, 0) 81 Pan oeddwn i'n ddyn ifanc, byddwn yn edrych fel pe bawn i wedi cael tropyn, ac felly yn y blaen.
(1, 0) 82 Fyddai'r merched byth yn fy licio i.
 
(1, 0) 84 Pam y mae fy chwaer mor ddrwg ei hwyl?
(Treplieff) Pam?
 
(1, 0) 92 Dim perig, wir.
(Treplieff) Fedr hi ddim diodde meddwl mai Zarietsnaia, ac nid hi, sydd yn cael tipyn o glod ar |stage| fechan fel hon.
 
(Treplieff) Mae gynni hi saith mil o bunnoedd yn y banc yn Odessa, 'rwy'n siŵr o hynny, ond gofynnwch iddi am fenthyg arian, a dyna hi'n dechrau crio.
(1, 0) 102 Rydych chi'n credu na licith hi mo'ch drama.
(1, 0) 103 Byddwch dawel, mae'ch mam yn eich addoli chi.
(Treplieff) {Yn pigo blodeuyn ac yn tynnu ei ddail bob yn un.}
 
(Treplieff) Pan geisiant dynnu gwres o'u darluniau a'u hymadroddion ystrydebol, ceir gwers dila, eiddil, hawdd i'w deall, addas i fywyd beunyddiol y teulu; pan welaf hyn i gyd dro ar ôl tro, y ffurf yn newid ond yr un hen beth ffiaidd yn aros yr un, yr un, yr un hen beth, byddaf yn rhedeg ac yn rhedeg fel y rhedodd Guy de Maupassant o olwg y Tŵr Eiffel rhag ofn i'w hylltra di-chwaeth ei yrru o'i go.
(1, 0) 115 Ond fedrwn ni ddim gwneud heb y ddrama.
(Treplieff) Rhaid cael ffurfiau newydd, heb ffurfiau newydd fedr neb neud dim, byddai'n well rhoi'r gorau iddi hi.
 
(Treplieff) Dois o'r coleg cyn gorffen fy nghwrs ─ "dan bwys amgylchiadau nad oeddwn yn gyfrifol amdanynt" chwedl gwŷr y wasg, heb dalent, heb geiniog, ac ar fy mhasport "gweithiwr o Cieff", dyna oeddwn i, "Gweithiwr o Cieff" oedd fy nhad hefyd er ei fod yn actor enwog, a phan fyddai'r bobol fawr yn ei pharlwr hi mor fuan â dal sylw arna i, teimlwn eu bod yn fy mesur o'm corun i'm sowdwl ac yn fy nirmygu fel creadur gwael a diddim, ac yr oedd hynny'n rhoi poen imi, wrth gwrs.
(1, 0) 124 Ar draws popeth sut ddyn ydi'r llenor yna?
(1, 0) 125 'Dw i ddim yn ei ddallt o, chewch chi ddim gair o'i ben o.
(Treplieff) Dyn deallus, syml, eitha clên hefyd, ond bydd yn aml iawn yn y felan.
 
(Treplieff) 'Dydi o ddim yn ddeugain oed, ond mae'n cael llond i fol o glod y byd, am ei waith o fel llenor, 'dwn i ddim sut i roi'r peth mewn geiriau; mae'n swynol, mae'n llawn talent, ond rywsut, 'does ar neb eisiau darllen Trigorin wedi darllen Tolstoi a Zola.
(1, 0) 128 'Rwy'n hoff iawn o lenorion.
(1, 0) 129 Roedd gin i ddau nod unwaith, priodi a bod yn llenor, a ches i'r un o'r ddau.
(1, 0) 130 Mae bod yn llenor bach well na dim, wedi'r cwbl.
(Treplieff) {Yn clustfeinio.}
 
(1, 0) 148 Mae dagrau yn ei llygad hi, oes wir.
(1, 0) 149 FIX Ha, ha, thâl peth fel na ddim.
(Nina) O, dim o gwbl, welwch chi fedra i ddim cael ngwynt.
 
(Treplieff) Heliwch nhw i gyd yma.
(1, 0) 156 Mi a i FIX nôl nhw ac felly yn y blaen, y munud yma.
 
(1, 0) 158 "Dau Filwr ifanc gynt yn Ffrainc".
(1, 0) 159 Ron i'n canu rywbryd ers talwm, a dyma J.P yn deud wrtha i, "Mae gynnoch chi lais nerthol, syr", ac wedi meddwl tipyn dyma fo'n deud wedyn: "ond hen lais go gas ydi o hefyd".
(Nina) Mae nhad a'i wraig yn gwrthod gadael imi ddwad yma.
 
(Treplieff) Chwi gysgodion, sanctaidd, hen, fydd yn lledu eich adenydd dros y llyn liw nos, bwriwch drymder cwsg ar ein hamrantau fel y breuddwydiom am yr hyn a ddigwydd ymhen dau gan mil o flynyddoedd.
(1, 0) 267 Ond fydd na ddim yn bod ymhen dau gan mil o flynyddoedd.
(Treplieff) O'r gorau, gadewch inni freuddwydio am y dim hwnnw.
 
(Arcadina) Be sy arno fo?
(1, 0) 315 Irina bach, nid dyna'r ffordd i drin dyn ifanc balch fel y fo.
(Arcadina) Ond be ddeudais i?
 
(Arcadina) Ond be ddeudais i?
(1, 0) 317 'Roeddych yn rhy gas o lawer.
(Arcadina) Ond mi ddeudodd o ei hun mai tipyn o ddireidi oedd y cwbl, ac mi goeliais innau hynny.
 
(Arcadina) Ond mi ddeudodd o ei hun mai tipyn o ddireidi oedd y cwbl, ac mi goeliais innau hynny.
(1, 0) 319 Ond...
(Arcadina) Mae'n ymddangos ei fod o wedi cyfansoddi campwaith, os gwelwch chi'n dda.
 
(Arcadina) Dyna i chi fachgen larts, mae o'n stimiau i gyd.
(1, 0) 323 Ond ceisio rhoi tipyn o hwyl ichi oedd yr hogyn.
(Arcadina) O, aie, felly wir, ond pam y dewisodd o destun mor ddiarth a disgwyl inni wrando ar hen stynt fodern fel yna?
 
(Nina) Dydd da i chi.
(1, 0) 364 Bravo, bravo.
(Arcadina) Bravo, bravo!
 
(Nina) O, na, na!
(1, 0) 411 Da chi, rhoswch.
(Nina) Fiw imi aros, Piotr Nicolaiefits.
 
(Nina) Fiw imi aros, Piotr Nicolaiefits.
(1, 0) 413 Rhoswch am un awr bach, ac felly yn y blaen.
(Nina) {Wedi ystyried. Dan grio.}
 
(Dorn) Ie, bwystfil o ddyn ydi ei thada hi, rhaid gneud hyna o gyfiawnder iddo fo beth bynnag.
(1, 0) 420 Mae'n well i ninnau ei throi hi hefyd.
(1, 0) 421 Mae gwayw yn y nghoesau i.
(1, 0) 422 Mae'n damp yma.
(Arcadina) Mae nhw fel sglodion, prin y medrwch chi symud.
 
(Shamraieff) Madam!
(1, 0) 428 Dacw'r ci'n cyfarth eto.
 
(1, 0) 430 Da chi, deudwch wrth y gwas am ei ollwng o.
(Shamraieff) Thâl hynny ddim, mae arna i ofn i'r lladron fynd i'r sgubor a dwyn yr ŷd.
 
(2, 0) 530 Wel?
(2, 0) 531 Ydan ni'n hapus?
(2, 0) 532 'Rydan wrth yn bodd heddiw 'n tydan ni?
 
(2, 0) 534 Mae ar ben ei ddigon.
(2, 0) 535 Ein tad, a mam-yng-nghyfraith wedi mynd i rodio a ninnau'n rhydd am dri diwrnod cyfa.
(Nina) {Yn eistedd wrth ymyl Arcadina a'i chofleidio.}
 
(2, 0) 539 Mae hi'n glysach na rioed heddiw.
(Arcadina) A dillad da amdani, ac yn edrych yn ddiddorol.
 
(Arcadina) Piotr bach!
(2, 0) 566 Y?
(Arcadina) Ydych chi'n cysgu?
 
(Arcadina) Ydych chi'n cysgu?
(2, 0) 568 Dim o'r fath beth.
(Arcadina) Thâl hyn ddim, rhaid ichi gymyd ffisig.
 
(Arcadina) Thâl hyn ddim, rhaid ichi gymyd ffisig.
(2, 0) 571 Mi 'dw i'n ddigon parod i gymyd ffisig, ond cha i ddim gin y doctor.
(Dorn) Ffisig, wir, a chithau'n drigain oed!
 
(Dorn) Ffisig, wir, a chithau'n drigain oed!
(2, 0) 573 Ond mae ar ddyn trigain oed eisiau byw.
(Dorn) {Yn sur.}
 
(Medfedenco) Mi ddylai Piotr Nicolaiefits roi gorau i smocio.
(2, 0) 582 Lol.
(Dorn) Na, nid lol, mae'r ddiod a baco yn lladd personoliaeth dyn.
 
(2, 0) 587 Digon hawdd i chi ymresymu, mi gawsoch chi fyw 'n do?
(2, 0) 588 Ond beth amdana i?
(2, 0) 589 Bûm mewn offis am wyth mlynedd ar hugain heb ddechrau byw, heb brofi dim, wrth gwrs, ac mae arna i eisiau byw, debyg iawn.
(2, 0) 590 'Rydych chi wedi cael eich gwala ac felly yn ddi-daro; dyna pam 'rydych chi mor hoff o athronyddu; ac mae arna i isio byw; dyna pam y bydda i'n yfed glasiad o sieri amser cinio ac yn smocio sigar ac felly yn y blaen.
(Dorn) Rhaid edrych ar fywyd yn fwy difrifol, a gwamalrwydd rhonc ydi cymyd ffisig a chithau'n drigain oed, a chwyno am na chawsoch fwy o hwyl pan oeddych yn ŵr ifanc.
 
(Dorn) Mi eith hi i lyncu dau lasiad o frandi cyn cinio.
(2, 0) 598 Fydd yr eneth druan yn cael fawr o bleser yn y byd ma.
(Dorn) Lol botas, anrhydeddus syr.
 
(Dorn) Lol botas, anrhydeddus syr.
(2, 0) 600 'Rydych chi'n barnu fel dyn wedi cael digon o bethau da'r byd ma.
(Arcadina) Ych, beth a all fod yn fwy diflas na diflastod byw yn y wlad?
 
(Nina) Ardderchog, 'rwy'n eich dallt chi.
(2, 0) 606 Wrth gwrs, mae'n well byw yn y dre.
(2, 0) 607 Eistedd yn eich stydi, deud wrth y gwas am beidio â gadael neb ddwad i mewn heb ofyn caniatâd, teliffon, cerbydau yn y stryd, ac felly yn y blaen.
(Dorn) {Yn canu.}
 
(Arcadina) Sut y gwn i?
(2, 0) 622 Ond y mae gynnoch chi geffylau cerbyd.
(Shamraieff) {Yn gyffrous.}
 
(2, 0) 641 Y fath hyfdra digywilydd, a'u cipio nhw!
(2, 0) 642 'Rydw i wedi laru, ac felly yn y blaen.
(2, 0) 643 Dowch â'r ceffylau y munud ma!
(Nina) {Wrth Polina.}
 
(2, 0) 653 Awn at fy chwaer a chrefwn arni beidio â mynd.
(2, 0) 654 Yntê?
(2, 0) 655 Fedra i ddim diodde'r dyn, rhaid iddo gael bod yn fistar ar bawb.
(Nina) {Yn ei ddal i lawr.}
 
(Nina) Dychrynllyd, dychrynllyd!
(2, 0) 661 Ie, wir, dychrynllyd iawn, ond eith o ddim i ffwrdd, mi â i ato fo rwan am sgwrs.
(Dorn) Ond tydi pobol yn ddiflas, mi ddylid cicio'ch gŵr o'r tŷ; ond mi fydd yr hen frechdan na Piotr Nicolaiefits a'i chwaer yn crefu arno faddau iddyn nhw, mi gewch chi weld.
 
(Arcadina) Yn wir, Piotr bach, mi ddylech aros gartre.
(3, 0) 919 Wedi i chi fynd, mi fydd yn annifyr iawn arna i yma.
(Arcadina) Faint gwell fydd hi yn y dre?
 
(Arcadina) Faint gwell fydd hi yn y dre?
(3, 0) 921 'Does na ddim neilltuol yno; ond eto, mi fyddan yn gosod carreg sylfaen y Neuadd bentre newydd ac felly yn y blaen, cawn i ond dingyd am awr neu ddwy o'r hen dwll ma, 'r wy'n teimlo fel hen getyn wedi torri a'i daflu ar y domen.
(3, 0) 922 'Rwy i wedi deud wrthyn nhw am gael y cerbyd yn barod ac mi awn o ma gyda'n gilydd.
(Arcadina) {Ar ôl ysbaid byr.}
 
(Arcadina) 'Rwy'n credu mai cenfigen oedd y rheswm penna, a gorau po gynta y gwêl gynffon Trigorin.
(3, 0) 930 Sut y medra i ddeud wrthoch chi?
(3, 0) 931 Mae na resymau erill.
(3, 0) 932 Welwch chi, gŵr ifanc ydi o, debyg iawn, yn byw yn y wlad, ym mhen draw'r byd, heb arian, heb safle, heb ragolygon o gwbl.
(3, 0) 933 Mae'n segur ac mae arno gwilydd o'i segurdod.
(3, 0) 934 'Rwy'n hoff iawn ohono, ac y mae o'n ddigon hoff ohonof innau hefyd, ond y mae o'n tybied, mewn gair, nad oes ar neb ei isio fo, dda gynno ddim byw ar fywyd pobol erill heb ennill ei damaid ei hun, hunan-barch, debyg iawn.
(Arcadina) Mae'n biti gin i drosto fo.
 
(3, 0) 939 Mi greda i... mai'r peth... gorau... fel pe tae... fyddai ichi roi tipyn o arian iddo.
(3, 0) 940 I ddechrau mi ddylai wisgo yn debycach i Gristion ac felly yn y blaen.
(3, 0) 941 Styriwch y peth, yr un hen gôt sy gynno fo ers tair blynedd, a d'oes gynno fo ddim top côt ar ei elw.
 
(3, 0) 943 Eitha peth hefyd fyddai iddo fo fynd i weld tipyn ar y byd, i wlad bell, chostiai hyna fawr ichi.
(Arcadina) Wel, mi fedra i fforddio prynu dillad iddo fo, ond am fynd i wlad bell...
 
(3, 0) 952 Wel, wel, peidiwch â digio.
(3, 0) 953 Mi goelia i hynny.
(3, 0) 954 Gwraig ardderchog, nobl ydych chi.
(Arcadina) {Yn ddagrau i gyd.}
 
(Arcadina) 'Does gin i ddim arian.
(3, 0) 957 Tae gin i arian, wrth gwrs, mi cai nhw, ond 'r ydw i ar y clwt, 'does gin i ddim ffadan.
(3, 0) 958 Mae pob dimai o mhensiwn yn mynd i'r stiward i'w sgwandro ar drin y tir, magu anifeiliaid a gwenyn, a dim o gwbl yn dŵad i mewn.
(3, 0) 959 Mae'r gwenyn yn marw, y gwartheg yn marw, a cha i ddim ceffylau gynnyn nhw.
(Arcadina) Oes, ma gin i arian, ond artist ydw i, cofiwch hyna, rhaid imi wario ffortsiwn ar fy nillad.
 
(Arcadina) Oes, ma gin i arian, ond artist ydw i, cofiwch hyna, rhaid imi wario ffortsiwn ar fy nillad.
(3, 0) 961 Gwraig annwyl, dda, ydych chi, 'r wy'n eich parchu chi'n fawr, ydw... o... mae o'n dŵad trosto i eto...
(3, 0) 962 mae mhen i'n ysgafn.
 
(3, 0) 964 'Rwy'n teimlo'n sal ac felly yn y blaen.
(Arcadina) {Wedi dychryn.}
 
(Arcadina) Mae o'n wael.
(3, 0) 973 Dim byd, dim byd.
 
(3, 0) 975 Mae o wedi mynd heibio rŵan, ac felly yn y blaen.
(Treplieff) {Wrth ei fam.}
 
(Treplieff) Rhaid ichi fynd i orwedd, f'ewyrth bach.
(3, 0) 981 Rhaid, am funud neu ddau, ond 'r ydw i am fynd i'r dre wedi gorwedd tipyn bach, debyg iawn.
(3, 0) 982 (Cychwyn allan a'i bwys ar ei ffon.)
(Medfedenco) {Yn gafael yn ei fraich.}
 
(3, 0) 986 Felly'n union, ac yn y nos ar wastad ei gefn.
(3, 0) 987 Diolch yn fawr ichi, ond mi fedra i gerdded fy hun.
(Medfedenco) Dowch, dowch, dim lol!
 
(3, 0) 1184 Irina annwyl, rhaid inni beidio bod yn hwyr.
(3, 0) 1185 Mi a i i eistedd am funud neu ddau.
 
(Masia) Gall fynd allan i'r ardd, pan fyn, a myfyrio yno.
(4, 0) 1334 Ble mae fy chwaer?
(Dorn) Mae hi wedi mynd i'r stesion i gwarfod Trigorin, mi fydd yma gyda hyn.
 
(Dorn) Mae hi wedi mynd i'r stesion i gwarfod Trigorin, mi fydd yma gyda hyn.
(4, 0) 1336 Os oedd gofyn ichi anfon am fy chwaer, rhaid mod i'n ddifrifol o wael.
 
(4, 0) 1338 Dyma fel y mae hi, 'rwy'n ddifrifol o wael ac eto cha i ddim tropyn o ffisig gennyn nhw.
(Dorn) Be liciech chi gael?
 
(Dorn) Valerian drops, soda, quinine?
(4, 0) 1341 Dyma chi'n dechrau bwrw drwyddi hi unwaith eto, rêl plâg.
 
(4, 0) 1343 I mi mae hwn?
(Polina) Ie, i chi.
 
(Polina) Ie, i chi.
(4, 0) 1345 'Rwy'n ddiolchgar iawn ichi.
(Dorn) {Yn canu.}
 
(Dorn) 'Mae'r lloer yn nofio'r nefoedd yn y nos.'
(4, 0) 1348 Mae gin i destun stori i Costia: 'The Man Who Would.' Pan o'n i'n hogyn, breuddwydiwn am fod yn llenor; cheis i ddim bod yn llenor: breuddwydiwn am fod yn areithiwr huawdl, a dyma fi'n siarad fel y gog ar yr un hen nodyn ac felly yn y blaen, felly yn y blaen, mewn gair, mewn gair, ac yn chwys diferud bob tro y codaf ar fy nhraed; breuddwydiwn am briodi, a dyma fi'n hen lanc ar y silff, breuddwydiwn am fyw yn y dre a dyma fi'n pydru ym mherfedd y wlad ac felly yn y blaen.
(Dorn) Breuddwydiwn am fod yn J.P. a dyma fi wedi llwyddo.
 
(4, 0) 1351 Ie, heb geisio, nelais i rioed at hynny.
(Dorn) Cwyno a lladd ar fywyd, a chithau'n drigain oed.
 
(Dorn) Dydi hyna ddim yn deg, ydi o?
(4, 0) 1354 'Rydych chi'n ddyn styfnig.
(4, 0) 1355 Mae arna i eisiau byw, cofiwch hyna.
(Dorn) Peidiwch â bod mor wamal, yn ôl deddfau natur mae diwedd i fod ar bob bywyd.
 
(Dorn) Peidiwch â bod mor wamal, yn ôl deddfau natur mae diwedd i fod ar bob bywyd.
(4, 0) 1357 Digon hawdd i chi siarad, mi gawsoch chi lond eich bol, 'does ryfedd eich bod mor ddifater.
(4, 0) 1358 Ond mi fydd arnoch chithau ofn marw.
(Dorn) Anifail yn unig sydd yn ofn marw, rhaid i ddyn fod yn drech na'r ofn na.
 
(4, 0) 1363 Wyth mlynedd ar hugain, os gwelwch chi'n dda.
(Dorn) Ond dyma ni'n rhwystr i Constantin ac yntau'n brysur.
 
(Treplieff) Digon hawdd bod yn athronydd, ar bapur, doctor, ond byw fel athronydd ydi'r gamp.
(4, 0) 1409 Geneth ardderchog oedd hi.
(Dorn) Be?
 
(Dorn) Be?
(4, 0) 1411 Geneth ardderchog oedd hi.
(4, 0) 1412 Bu Sorin Esgweiar, J.P. yn ei charu hi ers talwm.