Ymylau Byd

Ciw-restr ar gyfer Parry

(Roberts) {Gan droi at Parry sydd wrth y drws.}
 
(Roberts) Maen nhw'n...
(1, 0) 36 Deall yn iawn.
(1, 0) 37 Deall yn iawn.
(Roberts) Steddwch.
 
(Roberts) Steddwch.
(1, 0) 39 Diolch o galon.
(1, 0) 40 Caredig iawn.
(1, 0) 41 Caredig iawn.
(Roberts) Y peth lleia' medra dyn ei wneud ar ôl cymaint o flynyddoedd.
 
(Roberts) Y peth lleia' medra dyn ei wneud ar ôl cymaint o flynyddoedd.
(1, 0) 43 Byw.
(1, 0) 44 Ymddeol i Ynys Môn.
(1, 0) 45 Dyna ydi gwir nefoedd ar y ddaear.
(1, 0) 46 Y peth gwâr i'w wneud ar ôl oes o lafur di-ildio.
(1, 0) 47 Cael lle, stafell, llyfrgell fechan, i freuddwydio, meddwl a chreu.
(Roberts) Diferyn bach?
 
(Roberts) {Yn ymestyn at y wisgi.}
(1, 0) 50 Caredig iawn.
(1, 0) 51 Caredig iawn.
(Roberts) Dŵr?
 
(Roberts) Dŵr?
(1, 0) 54 Hanner diferyn.
(1, 0) 55 Dim mwy.
(1, 0) 56 Dim llai.
(1, 0) 57 Dyna fo.
(1, 0) 58 Perffaith.
 
(1, 0) 60 Diolch.
 
(1, 0) 62 Mm.
(1, 0) 63 Cael byw efo'ch llyfrau.
(1, 0) 64 A'r fath lyfrau.
(1, 0) 65 Gwerth cannoedd.
(1, 0) 66 Miloedd mae'n siwr.
(Roberts) Rhyfedd, taro ar ein gilydd ar ôl yr holl flynyddoedd.
 
(Roberts) Rhyfedd, taro ar ein gilydd ar ôl yr holl flynyddoedd.
(1, 0) 68 Digwydd bod yn y gogledd.
(1, 0) 69 Pwyllgor ym Mangor 'fory.
(1, 0) 70 Penderfynu picio i Fôn.
(1, 0) 71 Stopio yn Rhosneigr am betrol; a phwy wel'is i?
(Roberts) Bob amser yn mynd am ryw dro bach ar ôl swper, bydda', Emily?
 
(Roberts) {Nid yw'n ei ateb ond bwrw 'mlaen gyda'i gwnïo.}
(1, 0) 74 Iach iawn.
(Roberts) Rhywun yn cysgu'n well.
 
(Roberts) Rhywun yn cysgu'n well.
(1, 0) 76 Ma' rhywun.
(Roberts) Awyr môr, ynte Emily?
 
(Roberts) Dim gormod o ddŵr, gobeithio?
(1, 0) 80 Na, na.
(1, 0) 81 Na, na.
(Roberts) O Ben Llŷn, ynte?
 
(Roberts) O Ben Llŷn, ynte?
(1, 0) 83 Eifionydd.
(Roberts) Eifionydd.
 
(Roberts) Wrth gwrs.
(1, 0) 87 A chitha o...?
(Roberts) Fan 'ma.
 
(Roberts) Môn.
(1, 0) 90 Gwyn ych byd chi...
(1, 0) 91 Ych tad yn weinidog efo'r Hen Gorff, ynte?
(Roberts) Yr Annibynwyr.
 
(Roberts) Yr Annibynwyr.
(1, 0) 93 Siwr iawn.
(1, 0) 94 Wedi'i gladdu?
(Roberts) Ugain mlynedd yn ôl.
 
(Roberts) Ugain mlynedd yn ôl.
(1, 0) 96 Dw i'n siwr mod i wedi darllen am yr angladd.
(1, 0) 97 Ysgolhaig, on'd oedd?
(Roberts) Oedd, oedd.
 
(Roberts) Oedd, oedd.
(1, 0) 99 Mi sgwennodd esboniad ar Epistol Iago.
(Roberts) Epistol cyntaf Pedr.
 
(Roberts) Epistol cyntaf Pedr.
(1, 0) 101 Wrth gwrs.
(1, 0) 102 Wrth gwrs.
(1, 0) 103 Be' haru mi?
(Roberts) Mi wel'is i gopi ohono fo mewn siop lyfra' ail law ym Mangor ryw fis neu ddau yn ôl.
 
(Roberts) Mi wel'is i gopi ohono fo mewn siop lyfra' ail law ym Mangor ryw fis neu ddau yn ôl.
(1, 0) 105 Tewch â deud.
(Roberts) Deg ceiniog oedden nhw eisiau amdano fo.
 
(Roberts) Deg ceiniog oedden nhw eisiau amdano fo.
(1, 0) 107 Ac mi ddaru chi ei brynu o.
(Roberts) O, do.
 
(Roberts) O, do.
(1, 0) 109 O barch, fel petai.
(Roberts) Hollol.
 
(Roberts) Hollol.
(1, 0) 111 A rhoi mwy na deg ceiniog iddyn nhw siwr o fod.
(Roberts) Punt.
 
(Roberts) Punt.
(1, 0) 113 Chware teg ichi.
(Roberts) Nid 'mod i angen copi.
 
(Roberts) Nid 'mod i angen copi.
(1, 0) 115 Na, na.
(Roberts) Ma' gen i dri.
 
(Roberts) Ma' gen i dri.
(1, 0) 117 Fawr o fynd ar esboniada y dyddia' yma.
(Roberts) Ma' gen i ddwsina ohonyn nhw.
 
(Roberts) Pobol glên iawn, cofiwch, a diwylliedig.
(1, 0) 127 Diwylliedig neu beidio.
(1, 0) 128 Maen nhw'n fwy o werth i chi nag iddyn nhw.
(Roberts) Hollol.
 
(Roberts) Damwain car.
(1, 0) 134 Mae'n ddrwg gen i.
(Roberts) Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.
 
(Roberts) Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.
(1, 0) 136 Wel, wel.
(Roberts) Wrth Pentrafoelas.
 
(Roberts) Doeddwn i ddim gwaeth.
(1, 0) 141 Mae hi'n fyw.
(1, 0) 142 Dyna'r peth mawr.
(Roberts) Hollol.
 
(Roberts) Hollol.
(1, 0) 144 Ac yn gysur mawr a chwmni ichi.
(Roberts) Ydi.
 
(Roberts) Ydi.
(1, 0) 147 Môn.
(Roberts) {Yn troi yn sydyn.}
 
(Roberts) Mm?
(1, 0) 150 Gwneud byd o les i rywun ddwad i Fôn.
(1, 0) 151 Ynys, yn wir, gwlad, ar ei phen ei hun.
(1, 0) 152 Wyddoch chi na wnes i rioed deimlo nac ing na gwewyr ar dir Môn 'ma.
(1, 0) 153 Ac wedi meddwl am y peth, dyna pam na chododd llenor gwir fawr o'r lle 'ma rioed.
(1, 0) 154 Pobol wedi clywed am boen ydi pobol Môn.
(1, 0) 155 Clywed sgrechfeydd o hirbell.
(1, 0) 156 Cael rhyw gip sydyn ar ingoedd Eryri drwy dduwch y Fenai.
(Roberts) {Yn estyn paced o fisgedi.}
 
(Roberts) Bisgedan?
(1, 0) 159 Caredig iawn.
 
(1, 0) 161 Caredig iawn.
 
(1, 0) 165 Digestive.
(Roberts) Ia.
 
(Roberts) Digestive.
(1, 0) 168 Hyfryd.
 
(1, 0) 170 Cymaint o flynyddoedd, on'd oes?
(Roberts) Oes, mae.
 
(Roberts) Oes, mae.
(1, 0) 172 Rywsut mi ddaru ni... golli nabod ar yn gilydd.
(Roberts) Meddwl llawer amdanoch chi.
 
(Roberts) Meddwl llawer amdanoch chi.
(1, 0) 174 Chwarae teg ichi.
(Roberts) Mi gawsoch yrfa brysur?
 
(Roberts) Ffrwythlon?
(1, 0) 177 Do... do.
(Roberts) Y Cyd-Bwyllgor Addysg, ynte?
 
(Roberts) Y Cyd-Bwyllgor Addysg, ynte?
(1, 0) 179 Y Llyfrgell Genedlaethol.
(Roberts) Wrth gwrs.
 
(Roberts) Yr hen go' yn pallu.
(1, 0) 183 Rwan te, cyn ymddeol roeddech chi yn ochrau Maldwyn?
(Roberts) Ddim yn hollol.
 
(Roberts) Ddim yn hollol.
(1, 0) 185 O?
(Roberts) Mwy tua'r gororau.
 
(Roberts) Mwy tua'r gororau.
(1, 0) 187 Wrth gwrs...
(1, 0) 188 Dysgu?
(Roberts) Am gyfnod.
 
(Roberts) Am gyfnod.
(1, 0) 190 Wedyn?
(Roberts) Sgwennu.
 
(Roberts) Sgwennu.
(1, 0) 192 Sgwennu...
(1, 0) 193 Gwyn ych byd chi.
(Roberts) Un arall?
 
(Roberts) {Ymestyn at y paced bisgedi.}
(1, 0) 196 Caredig iawn.
(Roberts) Digestive.
 
(Roberts) Digestive.
(1, 0) 198 Hyfryd.
(Roberts) Y ddau ohonan ni yn mynd drwy baced bob dydd, tydan Emily?
 
(Roberts) {Nid yw'n ei ateb, ond bwrw mlaen gyda'i gwnïo.}
(1, 0) 201 Rywsut, am ryw reswm, blerwch ar fy rhan i mae'n debyg, ddois i rioed ar draws eich erthygla chi.
(1, 0) 202 Sgwennu dan ffugenw fyddech chi?
(Roberts) Bob amser.
 
(Roberts) Bob amser.
(1, 0) 204 Doeth iawn.
(1, 0) 205 Pobol yn medru bod mor greulon.
(Roberts) Cenedl fechan.
 
(Roberts) Cenedl fechan.
(1, 0) 208 Credu imi'ch gweld chi yn Steddfod Llangefni.
(1, 0) 209 Roeddech chi yno, on'd oeddech?
(Roberts) Siwr o fod.
 
(Roberts) Siwr o fod.
(1, 0) 211 Yng ngwaelod y cae oeddech chi.
(1, 0) 212 Tu ôl i'r pafiliwn.
(1, 0) 213 Roeddech chi'n eistedd dan sycamorwydden anferth yn darllen y cyfansoddiada'.
(1, 0) 214 Mi godi's i law arnoch chi.
(1, 0) 215 Ond ddaru chi mo 'ngweld i.
(1, 0) 216 Rhy brysur yn darllen yr awdl mae'n siwr...
(1, 0) 217 Welsoch chi fi?
(Roberts) Na.
 
(Roberts) Na.
(1, 0) 219 Na.
(Roberts) Na.
 
(Roberts) Emily...
(1, 0) 225 Deall yn iawn.
(1, 0) 226 Deall yn iawn.
(Roberts) Un arall?
 
(Roberts) {Mae'n ymestyn at y botel wisgi.}
(1, 0) 230 Caredig iawn.
 
(Roberts) Dŵr?
(1, 0) 233 Hanner diferyn.
(1, 0) 234 Dim mwy.
(1, 0) 235 Dim llai.
(1, 0) 236 Perffaith.
 
(1, 0) 238 Diolch.
(1, 0) 239 Ma' un peth sy'n ddirgelwch i mi.
(1, 0) 240 Sut ar wyneb y ddaear na wnaethoch chi gipio'r Goron neu'r Gadair neu'r Fedal Ryddiaith.
(1, 0) 241 Chi oedd y llenor yn ein plith ni.
(1, 0) 242 Yr athrylith efo'r gynghanedd a'r mesurau.
(1, 0) 243 Atoch chi y bydden ni i gyd yn dod am gymorth.
(1, 0) 244 Chi fyddai'n cipio'r Goron a'r Gadair yn Steddfod y Colega.
(1, 0) 245 Cofio'r fuddugoliaeth yn Abertawe?
(1, 0) 246 Roeddwn i efo chi yn cael pryd o fwyd ar ôl y seremoni.
(1, 0) 247 Cofio?
(1, 0) 248 Mae gen i ryw frith gof...
(Roberts) 'Aberhenfelen'.
 
(Roberts) 'Aberhenfelen'.
(1, 0) 250 Testun ych awdl.
(Roberts) Ia.
 
(Roberts) Ia.
(1, 0) 252 Ia.
(1, 0) 253 Wrth gwrs.
(1, 0) 254 'Aberhenfelen'.
(1, 0) 255 Cofio rwan.
(1, 0) 256 Ac mi gafodd hi 'i chyhoeddi debyg?
(Roberts) Do, do.
 
(Roberts) Do, do.
(1, 0) 258 Diolch am hynny.
(1, 0) 259 Mae'n bwysig rhoi ceinder ar gof a chadw.
(Roberts) Pryd o fwyd, ddeudsoch chi?
 
(Roberts) Pryd o fwyd, ddeudsoch chi?
(1, 0) 261 Ar ôl y seremoni.
(1, 0) 262 Ia.
(Roberts) Yng Nghaerdydd?
 
(Roberts) Yng Nghaerdydd?
(1, 0) 264 Abertawe.
(Roberts) Y ddau ohonan ni.
 
(Roberts) Y ddau ohonan ni.
(1, 0) 266 Y ddau ohonan ni.
(Roberts) Gwâr.
 
(Roberts) Gwâr.
(1, 0) 268 Hynod wâr.
(Roberts) Yr awyrennau jet...
 
(Roberts) Maen nhw'n...
(1, 0) 274 Deall yn iawn.
(1, 0) 275 Deall yn iawn.
(Roberts) {Wrth Emily.}
 
(Roberts) F'asech chi mor garedig â...?
(1, 0) 283 Mm?
(Roberts) Y drws?
 
(Roberts) Y drws?
(1, 0) 285 Wrth gwrs.
(1, 0) 286 Mae'n ddrwg gen i.
(Roberts) Abertawe.
 
(Roberts) Abertawe.
(1, 0) 291 Abertawe.
(Roberts) Aberhenfelen.
 
(Roberts) Aberhenfelen.
(1, 0) 293 Aberhenfelen.
 
(1, 0) 297 Wedi dal ati mae'n siwr?
(Roberts) Dal ati?
 
(Roberts) Dal ati?
(1, 0) 299 I sgwennu.
(Roberts) Do, do...do.
 
(Roberts) Do, do...do.
(1, 0) 301 Cerdd?
(1, 0) 302 Nofel?
(1, 0) 303 Ysgrif?
(Roberts) Nofel.
 
(Roberts) Nofel.
(1, 0) 305 Nofel.
(1, 0) 306 Diddorol.
(1, 0) 307 Edrych ymlaen yn fawr at 'i darllen hi.
(1, 0) 308 Pa bryd wnewch chi 'i chyhoeddi hi?
(1, 0) 309 Eleni?
(1, 0) 310 Y flwyddyn nesaf?
(Roberts) Yn fuan.
 
(Roberts) Yn fuan.
(1, 0) 312 Ddylai neb ruthro efo nofel.
(Roberts) Anfodlon iawn ar rai rhannau.
 
(Roberts) Anfodlon iawn ar rai rhannau.
(1, 0) 314 Perffeithydd fuoch chi erioed.
(Roberts) Ambell gystrawen ddim yn taro deuddeg.
 
(Roberts) Ambell gystrawen ddim yn taro deuddeg.
(1, 0) 316 A 'chydig, gwaetha'r modd, sy'n poeni am hynny heddiw.
(Roberts) Ond cystrawen ydi iaith.
 
(Roberts) Ond cystrawen ydi iaith.
(1, 0) 318 Hollol.
(Roberts) A be' am gywirdeb gramadegol?
 
(Roberts) A be' am gywirdeb gramadegol?
(1, 0) 320 Wedi peidio â bod.
(Roberts) Dyna chi Gymraeg y to ifanc 'ma.
 
(Roberts) Dyna chi Gymraeg y to ifanc 'ma.
(1, 0) 322 Erchyll.
(Roberts) Treiglada gwallus.
 
(Roberts) Treiglada gwallus.
(1, 0) 324 Diffyg gwybodaeth sylfaenol o amserau'r ferf.
(Roberts) A be' am y Modd Dibynnol?
 
(Roberts) A be' am y Modd Dibynnol?
(1, 0) 326 Wedi peidio â bod.
(Roberts) Ac y mae'n rhaid wrtho fo.
 
(Roberts) Sut?
(1, 0) 330 Nid bod y to ifanc heb ddyheadau.
(Roberts) Mae'u dyheadau gwleidyddol nhw i'w canmol.
 
(Roberts) Mae'u dyheadau gwleidyddol nhw i'w canmol.
(1, 0) 332 Doedd gynnon ni, wel y rhan fwyaf ohonan ni, ddim mo'r...
(Roberts) Asgwrn cefn?
 
(Roberts) Asgwrn cefn?
(1, 0) 334 Nac oedd.
(Roberts) Plant ein hoes.
 
(Roberts) Plant ein hoes.
(1, 0) 336 Dau ryfel byd.
(Roberts) Roeddech chi yn y rhyfel?
 
(Roberts) Roeddech chi yn y rhyfel?
(1, 0) 338 Na.
(Roberts) Cydwybod?
 
(Roberts) Cydwybod?
(1, 0) 340 Ia.
(Roberts) Llawer mwy anodd mynd yn groes i'r llif yr adeg honno, cofio'n iawn.
 
(Roberts) Llawer mwy anodd mynd yn groes i'r llif yr adeg honno, cofio'n iawn.
(1, 0) 342 Ac eto, mi fyddai'n teimlo'n aml, o edrych yn ôl, mod i wedi colli rhywbeth mawr.
(Roberts) Choll'soch chi ddim.
 
(Roberts) Dim.
(1, 0) 345 Na.
(1, 0) 346 Fedra'i ddim cytuno efo chi.
(1, 0) 347 Mi ddylwn i fod wedi mynd.
(1, 0) 348 Roeddwn i'n teimlo mod i'n poeri yn wyneb rhagluniaeth.
(1, 0) 349 Yn bradychu fy oes fy hun.
(1, 0) 350 Gweld y presennol yn toddi yn y fflama a'r sgrechfeydd a finne'n rhythu o hirbell ar y cwbwl.
(1, 0) 351 Gorfod derbyn y byddwn i ar ôl y rhyfel yn ŵr wedi colli'i gyfle.
(1, 0) 352 Yn gachwr ar gyfeiliorn yn chwilio am noddfa.
(1, 0) 353 Rhywun ar ymylon bywyd.
(1, 0) 354 Yn wahanol iawn i chi.
(1, 0) 355 Roeddech chi yno.
(1, 0) 356 Yno, yn creu Ewrop newydd, byd newydd.
(1, 0) 357 Ac o'ch nabod chi, roeddech chi'n ymwybodol o'r peth, yn gwybod eich bod chi'n rhan o rywbeth — be' ydi'r gair? — anorfod?
(1, 0) 358 Mi fedrwch heno, y funud yma, edrych yn ôl a dweud, 'Roeddwn i yno, yn creu Ewrop newydd'.
(1, 0) 359 Teimlad gwefreiddiol dw i'n siwr.
(1, 0) 360 Ydi'r nofel 'ma am y cyfnod hwnnw?
(Roberts) Dw i'n oer.
 
(Roberts) {Mae'n codi a rhoi'r tân trydan ymlaen.}
(1, 0) 364 Mm.
(Roberts) {Yn rhoi'r lamp ymlaen.}
 
(Roberts) Gweld rhain yn llawer mwy cyfleus.
(1, 0) 369 Glanach.
(Roberts) O lawer.
 
(Roberts) O lawer.
(1, 0) 371 Mi fydda'i bob amser yn prynu 'poppy'.
(Roberts) 'Poppy'?
 
(Roberts) 'Poppy'?
(1, 0) 373 I gofio'r hogia'.
(Roberts) O.
 
(Roberts) O.
(1, 0) 375 Lleddfu tipyn ar y gydwybod siwr o fod.
(1, 0) 376 Mi ddylwn i fod wedi mynd.
(Roberts) Buddug, ynte?
 
(Roberts) Buddug, ynte?
(1, 0) 379 Pwy?
(Roberts) Ych gwraig.
 
(Roberts) Ych gwraig.
(1, 0) 381 Gwenllian.
(Roberts) Merch o Abertawe.
 
(Roberts) Merch o Abertawe.
(1, 0) 383 Y Drenewydd.
(Roberts) Wrth gwrs...
 
(Roberts) Mae hi efo chi.
(1, 0) 386 Na.
(Roberts) Gartra?
 
(Roberts) Gartra?
(1, 0) 388 Wedi'i chladdu.
(Roberts) Mae'n ddrwg gen i.
 
(Roberts) Yn ddiweddar?
(1, 0) 391 Llynedd.
(Roberts) Wel, wel...
 
(Roberts) Wel, wel...
(1, 0) 393 Roedd o yn y Daily Post a'r Western Mail.
(1, 0) 394 Doeddwn i ddim eisiau ei roi o yn y papur o gwbwl.
(1, 0) 395 'I chwaer hi fynnodd mod i'n gwneud.
(Roberts) Teulu.
 
(Roberts) Hardd on'd oedd?
(1, 0) 398 Pwy?
(Roberts) Gwenllian.
 
(Roberts) Gwenllian.
(1, 0) 400 Oedd.
(1, 0) 401 Mi oedd hi.
(Roberts) Gwallt du.
 
(Roberts) Gwisgo ffrog goch neu wyrdd bob amser.
(1, 0) 404 Fydde hi 'dwch?
(Roberts) Bydda.
 
(Roberts) Bydda.
(1, 0) 406 Mae gynnoch chi go' da.
(Roberts) Soprano wefreiddiol.
 
(Roberts) Tynnu'r lle i lawr.
(1, 0) 410 Do, mi wnaeth.
(Roberts) Wnaeth hi... ddioddef?
 
(Roberts) Yr hen elyn?
(1, 0) 415 Ia.
(Roberts) Oedd hi ei hun yn gwybod.
 
(Roberts) Oedd hi ei hun yn gwybod.
(1, 0) 417 O, oedd.
(Roberts) Fyddai hi'n sôn am y peth?
 
(Roberts) Fyddai hi'n sôn am y peth?
(1, 0) 419 Byth.
(Roberts) Byth?
 
(Roberts) Byth?
(1, 0) 421 Byth.
(Roberts) Be fyddech chi yn ei drafod?
 
(Roberts) Be fyddech chi yn ei drafod?
(1, 0) 423 Ma'n ddrwg gen i?
(Roberts) Pan fyddech chi'n galw i'w gweld hi.
 
(Roberts) Yn y sbyty oedd hi, ia?
(1, 0) 426 Gartra.
(Roberts) Be fyddech chi yn ei drafod?
 
(Roberts) Be fyddech chi yn ei drafod?
(1, 0) 428 Sawl peth.
(1, 0) 429 Yr ardd.
(1, 0) 430 Y ci.
(1, 0) 431 Cymru...
(1, 0) 432 Y Steddfod.
(Roberts) Y coleg?
 
(Roberts) Y coleg?
(1, 0) 434 Y coleg?
(Roberts) Fydda hi'n sôn am y coleg?
 
(Roberts) Sôn am yr hen griw?
(1, 0) 438 Weithia'.
(Roberts) Be fydda' hi'n 'i ddweud?
 
(Roberts) Be fydda' hi'n 'i ddweud?
(1, 0) 440 Anodd cofio.
(1, 0) 441 Roedd y beth bach yn mwydro cymaint... cyffuriau.
(Roberts) Diolch amdanyn nhw.
 
(Roberts) Diolch amdanyn nhw.
(1, 0) 443 Ia...
(1, 0) 444 Mi fyddai hi'n sôn ym aml am ryw bnawn.
(1, 0) 445 Rhyw bnawn yn Llandysilio.
(1, 0) 446 Y Fenai...
(1, 0) 447 Pwy oedd Emlyn?
(Roberts) Emlyn?
 
(Roberts) Emlyn?
(1, 0) 449 Mi fyddai hi'n sôn yn aml am rywun o'r enw Emlyn.
(1, 0) 450 Pwy oedd o?
(1, 0) 451 Un ohonan ni?
(1, 0) 452 Fawr o go' am neb o'r enw Emlyn.
(Roberts) Emlyn?...
 
(Roberts) Emlyn?
(1, 0) 456 Ewch drwy'r criw.
(Roberts) Dic Roberts.
 
(Roberts) Dic Roberts.
(1, 0) 458 Ei gofio fo.
(Roberts) Arthur Huws, Tregarth.
 
(Roberts) Arthur Huws, Tregarth.
(1, 0) 460 Morris Elis, Rhosesmor.
(Roberts) Gwilym bach, Glyn.
 
(Roberts) Trefor Stiniog.
(1, 0) 463 Ond Emlyn?
(Roberts) Na.
 
(Roberts) Eto, mae'r enw yn canu cloch.
(1, 0) 469 Mae o.
(1, 0) 470 Mae o.
(Roberts) Oedd hi'n crybwyll ei enw fo efo... tynerwch?
 
(Roberts) Oedd hi'n crybwyll ei enw fo efo... tynerwch?
(1, 0) 473 O, oedd.
(1, 0) 474 Oedd.
(Roberts) Hynny'n gysur.
 
(Roberts) Dim byd gwaeth nag edrych yn ôl ar eich bywyd efo...
(1, 0) 477 Efo be?