a1

Ymylau Byd (1999)

William R Lewis

Ⓗ 1999 William R Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


YR ACT GYNTAF

Pan gyfyd y llen gwelir stafell, stafell mewn hen dŷ, ond erbyn hyn wedi ei throi yn stydi. Ar un mur mae silffoedd llyfrau yn llawn o hen lyfrau Cymraeg di-liw. Wrth y silffoedd mae cadair efo llyfrau arni. Ar y mur sydd gyferbyn mae ffenestr a'r llenni wedi eu tynnu. O flaen y ffenestr mae telisgop seryddol a chadair wrth ei ymyl. Yn y cefn, sef y mur gweladwy arall, mae drws yn y canol, yr unig ddrws yn y stafell. Wrth ymyl y drws, eto yn y cefn, mae bwrdd ac arno lyfrau. Yn wir, mae llyfrau wedi eu gadael yma ac acw ar hyd y stafell.

Yng nghanol y stafell mae soffa hynod o flêr efo rhyw fath o gwrlid gwlân budr ar ei chefn. Wrth ei hochr mae hen gadair ledr hynod flêr a chlustogau budr arni. Rhwng y soffa a'r gadair mae bwrdd coffi ac arno botel o wisgi, gwydrau, jwg ddŵr, a phaced o fisgedi. Yn nhu blaen y llwyfan, yn y canol, mae tân trydan ac yn y tu blaen hefyd wrth ymyl cadair olwyn mae hen lamp drydan.

Wrth ymyl y soffa, yn eistedd yn y gadair olwyn, mae hen wraig, sef Emily, yn eistedd. Mae ei dillad yn flêr, hen, a budr. O'i blaen mae bwrdd bychan ac arno deganau clwt. Mae hi wrthi'n gwnïo'n llafurus pan gyfyd y llen.

O hirbell, clywir sŵn awyren jet yn nesâu. Mae Emily yn rhoi'r gorau i'r gwnïo a chodi ei phen. Fel y cryfha'r sŵn mae Emily yn aflonyddu a dechrau mwmial yn annealladwy, sy'n troi yn fath o weiddi hunllefus.

Ynghanol y llefain hwn mae'r drws yn agor a daw Roberts a Parry i mewn. Mae Roberts yn flêr ei wisg — hen siwt, hen grys a thei budr — ac nid yw wedi siafio ers dyddiau. Mae Parry yn weddol dalcus — trowsus llwyd, crys gwyn, a'i wddw'n agored, a chôt olau ysgafn sy'n gweddu i'w oed.

Pan wêl Roberts ei wraig Emily yn y cyflwr y mae hi, mae'n rhuthro ati a'i chysuro fel pe bai'n cysuro plentyn. Saif Parry yn syllu ar hyn. Yn raddol, daw Emily ati ei hun ac y mae'n mynd ymlaen unwaith eto efo'r gwnïo.

Roberts

(Gan droi at Parry sydd wrth y drws.) Yr awyrenna'. Maen nhw'n...

Parry

Deall yn iawn. Deall yn iawn.

Roberts

Steddwch.

Parry

Diolch o galon. Caredig iawn. Caredig iawn.

Roberts

Y peth lleia' medra dyn ei wneud ar ôl cymaint o flynyddoedd.

Parry

Byw. Ymddeol i Ynys Môn. Dyna ydi gwir nefoedd ar y ddaear. Y peth gwâr i'w wneud ar ôl oes o lafur di-ildio. Cael lle, stafell, llyfrgell fechan, i freuddwydio, meddwl a chreu.

Roberts

Diferyn bach? (Yn ymestyn at y wisgi.)

Parry

Caredig iawn. Caredig iawn.



Mae Roberts yn tywallt dau wydriad o wisgi.

Roberts

Dŵr?

Parry

Hanner diferyn. Dim mwy. Dim llai. Dyna fo. Perffaith. (Yn cymryd y gwydr.) Diolch. (Saib.) Mm. Cael byw efo'ch llyfrau. A'r fath lyfrau. Gwerth cannoedd. Miloedd mae'n siwr.

Roberts

Rhyfedd, taro ar ein gilydd ar ôl yr holl flynyddoedd.

Parry

Digwydd bod yn y gogledd. Pwyllgor ym Mangor 'fory. Penderfynu picio i Fôn. Stopio yn Rhosneigr am betrol; a phwy wel'is i?

Roberts

Bob amser yn mynd am ryw dro bach ar ôl swper, bydda', Emily? (Nid yw'n ei ateb ond bwrw 'mlaen gyda'i gwnïo.)

Parry

Iach iawn.

Roberts

Rhywun yn cysgu'n well.

Parry

Ma' rhywun.

Roberts

Awyr môr, ynte Emily? (Nid yw'n ei ateb.) Dim gormod o ddŵr, gobeithio?

Parry

Na, na. Na, na.

Roberts

O Ben Llŷn, ynte?

Parry

Eifionydd.

Roberts

Eifionydd. Wrth gwrs. Wrth gwrs.

Parry

A chitha o...?

Roberts

Fan 'ma. Môn.

Parry

Gwyn ych byd chi... Ych tad yn weinidog efo'r Hen Gorff, ynte?

Roberts

Yr Annibynwyr.

Parry

Siwr iawn. Wedi'i gladdu?

Roberts

Ugain mlynedd yn ôl.

Parry

Dw i'n siwr mod i wedi darllen am yr angladd. Ysgolhaig, on'd oedd?

Roberts

Oedd, oedd.

Parry

Mi sgwennodd esboniad ar Epistol Iago.

Roberts

Epistol cyntaf Pedr.

Parry

Wrth gwrs. Wrth gwrs. Be' haru mi?

Roberts

Mi wel'is i gopi ohono fo mewn siop lyfra' ail law ym Mangor ryw fis neu ddau yn ôl.

Parry

Tewch â deud.

Roberts

Deg ceiniog oedden nhw eisiau amdano fo.

Parry

Ac mi ddaru chi ei brynu o.

Roberts

O, do.

Parry

O barch, fel petai.

Roberts

Hollol.

Parry

A rhoi mwy na deg ceiniog iddyn nhw siwr o fod.

Roberts

Punt.

Parry

Chware teg ichi.

Roberts

Nid 'mod i angen copi.

Parry

Na, na.

Roberts

Ma' gen i dri.

Parry

Fawr o fynd ar esboniada y dyddia' yma.

Roberts

Ma' gen i ddwsina ohonyn nhw. Llond stafell i fyny 'na. Sawl un sy wedi bod yma, Emily? Pedwar? Pump? Ia. Pump. Pump wedi bod yma yn cynnig eu prynu nhw. Pobol glên iawn, cofiwch, a diwylliedig.

Parry

Diwylliedig neu beidio. Maen nhw'n fwy o werth i chi nag iddyn nhw.

Roberts

Hollol. Dyma be ddeud'is i, ynte, Emily?



Nid yw'n ateb ond bwrw 'mlaen gyda'i gwnïo.

Roberts

(Yn codi a mynd at Emily.) Damwain car.

Parry

Mae'n ddrwg gen i.

Roberts

Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

Parry

Wel, wel.

Roberts

Wrth Pentrafoelas. Methu'r tro. Mi gafodd ei bwrw o'r car. Doeddwn i ddim gwaeth.

Parry

Mae hi'n fyw. Dyna'r peth mawr.

Roberts

Hollol.

Parry

Ac yn gysur mawr a chwmni ichi.

Roberts

Ydi.



Saib.

Parry

Môn.

Roberts

(Yn troi yn sydyn.) Mm?

Parry

Gwneud byd o les i rywun ddwad i Fôn. Ynys, yn wir, gwlad, ar ei phen ei hun. Wyddoch chi na wnes i rioed deimlo nac ing na gwewyr ar dir Môn 'ma. Ac wedi meddwl am y peth, dyna pam na chododd llenor gwir fawr o'r lle 'ma rioed. Pobol wedi clywed am boen ydi pobol Môn. Clywed sgrechfeydd o hirbell. Cael rhyw gip sydyn ar ingoedd Eryri drwy dduwch y Fenai.

Roberts

(Yn estyn paced o fisgedi.) Bisgedan?

Parry

Caredig iawn. (Yn cymryd un.) Caredig iawn.



Mae Roberts yn mynd at Emily a rhoi bisgeden yn ei llaw gan arwain ei llaw at ei cheg. Mae Emily yn bwyta. Daw Roberts yn ôl ac eistedd.

Parry

Digestive.

Roberts

Ia. Digestive.

Parry

Hyfryd. (Saib.) Cymaint o flynyddoedd, on'd oes?

Roberts

Oes, mae.

Parry

Rywsut mi ddaru ni... golli nabod ar yn gilydd.

Roberts

Meddwl llawer amdanoch chi.

Parry

Chwarae teg ichi.

Roberts

Mi gawsoch yrfa brysur? Ffrwythlon?

Parry

Do... do.

Roberts

Y Cyd-Bwyllgor Addysg, ynte?

Parry

Y Llyfrgell Genedlaethol.

Roberts

Wrth gwrs. Wrth gwrs. Yr hen go' yn pallu.

Parry

Rwan te, cyn ymddeol roeddech chi yn ochrau Maldwyn?

Roberts

Ddim yn hollol.

Parry

O?

Roberts

Mwy tua'r gororau.

Parry

Wrth gwrs... Dysgu?

Roberts

Am gyfnod.

Parry

Wedyn?

Roberts

Sgwennu.

Parry

Sgwennu... Gwyn ych byd chi.

Roberts

Un arall? (Ymestyn at y paced bisgedi.)

Parry

Caredig iawn.

Roberts

Digestive.

Parry

Hyfryd.

Roberts

Y ddau ohonan ni yn mynd drwy baced bob dydd, tydan Emily? (Nid yw'n ei ateb, ond bwrw mlaen gyda'i gwnïo.)

Parry

Rywsut, am ryw reswm, blerwch ar fy rhan i mae'n debyg, ddois i rioed ar draws eich erthygla chi. Sgwennu dan ffugenw fyddech chi?

Roberts

Bob amser.

Parry

Doeth iawn. Pobol yn medru bod mor greulon.

Roberts

Cenedl fechan.



Saib.

Parry

Credu imi'ch gweld chi yn Steddfod Llangefni. Roeddech chi yno, on'd oeddech?

Roberts

Siwr o fod.

Parry

Yng ngwaelod y cae oeddech chi. Tu ôl i'r pafiliwn. Roeddech chi'n eistedd dan sycamorwydden anferth yn darllen y cyfansoddiada'. Mi godi's i law arnoch chi. Ond ddaru chi mo 'ngweld i. Rhy brysur yn darllen yr awdl mae'n siwr... Welsoch chi fi?

Roberts

Na.

Parry

Na.

Roberts

Na.



Saib.

Roberts

Eich hun oeddech chi? Fy hun fyddwn i'n arfer mynd i'r Steddfod. Emily...

Parry

Deall yn iawn. Deall yn iawn.



Saib.

Roberts

Un arall? (Mae'n ymestyn at y botel wisgi.)

Parry

Caredig iawn. (Mae Roberts yn ei dywallt.)

Roberts

Dŵr?

Parry

Hanner diferyn. Dim mwy. Dim llai. Perffaith. (Yn derbyn y gwydr.) Diolch. Ma' un peth sy'n ddirgelwch i mi. Sut ar wyneb y ddaear na wnaethoch chi gipio'r Goron neu'r Gadair neu'r Fedal Ryddiaith. Chi oedd y llenor yn ein plith ni. Yr athrylith efo'r gynghanedd a'r mesurau. Atoch chi y bydden ni i gyd yn dod am gymorth. Chi fyddai'n cipio'r Goron a'r Gadair yn Steddfod y Colega. Cofio'r fuddugoliaeth yn Abertawe? Roeddwn i efo chi yn cael pryd o fwyd ar ôl y seremoni. Cofio? Mae gen i ryw frith gof...

Roberts

'Aberhenfelen'.

Parry

Testun ych awdl.

Roberts

Ia.

Parry

Ia. Wrth gwrs. 'Aberhenfelen'. Cofio rwan. Ac mi gafodd hi 'i chyhoeddi debyg?

Roberts

Do, do.

Parry

Diolch am hynny. Mae'n bwysig rhoi ceinder ar gof a chadw.

Roberts

Pryd o fwyd, ddeudsoch chi?

Parry

Ar ôl y seremoni. Ia.

Roberts

Yng Nghaerdydd?

Parry

Abertawe.

Roberts

Y ddau ohonan ni.

Parry

Y ddau ohonan ni.

Roberts

Gwâr.

Parry

Hynod wâr.



O'r pellter megis, daw sŵn peiriant awyren jet eto a'r un yw ymateb Emily pan fo'r awyren yn nesâu. Mae Roberts yn rhuthro ati a'i chofleidio. Mae'r sŵn yn graddol bellhau.

Roberts

Yr awyrennau jet... Maen nhw'n...

Parry

Deall yn iawn. Deall yn iawn.

Roberts

(Wrth Emily.) Hwyr glas ichi fynd am y drol 'nghariad i. Mae hi wedi troi naw. Mi fydd y doctor yn deud y drefn. Dowch rwan. (Mae'n troi at Parry.) F'asech chi mor garedig â...?

Parry

Mm?

Roberts

Y drws?

Parry

Wrth gwrs. Mae'n ddrwg gen i.



Mae Parry yn rhuthro at y drws a'i agor. Mae Roberts yn cychwyn rowlio Emily o'r stafell. Cyn mynd mae'n troi at Parry.

Roberts

Abertawe.

Parry

Abertawe.

Roberts

Aberhenfelen.

Parry

Aberhenfelen.



Mae Roberts yn rowlio Emily allan gan adael y drws yn lled agored. Mae Parry yn y stafell ei hun ac y mae'n cerdded yn syth at y silff lyfrau, tynnu ei sbectolau a byseddu'r llyfrau. Daw Roberts yn ôl.

Parry

Wedi dal ati mae'n siwr?

Roberts

Dal ati?

Parry

I sgwennu.

Roberts

Do, do...do.

Parry

Cerdd? Nofel? Ysgrif?

Roberts

Nofel.

Parry

Nofel. Diddorol. Edrych ymlaen yn fawr at 'i darllen hi. Pa bryd wnewch chi 'i chyhoeddi hi? Eleni? Y flwyddyn nesaf?

Roberts

Yn fuan.

Parry

Ddylai neb ruthro efo nofel.

Roberts

Anfodlon iawn ar rai rhannau.

Parry

Perffeithydd fuoch chi erioed.

Roberts

Ambell gystrawen ddim yn taro deuddeg.

Parry

A 'chydig, gwaetha'r modd, sy'n poeni am hynny heddiw.

Roberts

Ond cystrawen ydi iaith.

Parry

Hollol.

Roberts

A be' am gywirdeb gramadegol?

Parry

Wedi peidio â bod.

Roberts

Dyna chi Gymraeg y to ifanc 'ma.

Parry

Erchyll.

Roberts

Treiglada gwallus.

Parry

Diffyg gwybodaeth sylfaenol o amserau'r ferf.

Roberts

A be' am y Modd Dibynnol?

Parry

Wedi peidio â bod.

Roberts

Ac y mae'n rhaid wrtho fo. Sut gallwn ni fel cenedl gyfleu'n dyheadau hebddo fo. Sut?

Parry

Nid bod y to ifanc heb ddyheadau.

Roberts

Mae'u dyheadau gwleidyddol nhw i'w canmol.

Parry

Doedd gynnon ni, wel y rhan fwyaf ohonan ni, ddim mo'r...

Roberts

Asgwrn cefn?

Parry

Nac oedd.

Roberts

Plant ein hoes.

Parry

Dau ryfel byd.

Roberts

Roeddech chi yn y rhyfel?

Parry

Na.

Roberts

Cydwybod?

Parry

Ia.

Roberts

Llawer mwy anodd mynd yn groes i'r llif yr adeg honno, cofio'n iawn.

Parry

Ac eto, mi fyddai'n teimlo'n aml, o edrych yn ôl, mod i wedi colli rhywbeth mawr.

Roberts

Choll'soch chi ddim. Dim.

Parry

Na. Fedra'i ddim cytuno efo chi. Mi ddylwn i fod wedi mynd. Roeddwn i'n teimlo mod i'n poeri yn wyneb rhagluniaeth. Yn bradychu fy oes fy hun. Gweld y presennol yn toddi yn y fflama a'r sgrechfeydd a finne'n rhythu o hirbell ar y cwbwl. Gorfod derbyn y byddwn i ar ôl y rhyfel yn ŵr wedi colli'i gyfle. Yn gachwr ar gyfeiliorn yn chwilio am noddfa. Rhywun ar ymylon bywyd. Yn wahanol iawn i chi. Roeddech chi yno. Yno, yn creu Ewrop newydd, byd newydd. Ac o'ch nabod chi, roeddech chi'n ymwybodol o'r peth, yn gwybod eich bod chi'n rhan o rywbeth — be' ydi'r gair? — anorfod? Mi fedrwch heno, y funud yma, edrych yn ôl a dweud, 'Roeddwn i yno, yn creu Ewrop newydd'. Teimlad gwefreiddiol dw i'n siwr. Ydi'r nofel 'ma am y cyfnod hwnnw?

Roberts

Dw i'n oer. Ydach chi? (Mae'n codi a rhoi'r tân trydan ymlaen.)

Parry

Mm.

Roberts

(Yn rhoi'r lamp ymlaen.) Fyddwn ni byth yn gwneud tân. Gormod o faeddol. Gweld rhain yn llawer mwy cyfleus.

Parry

Glanach.

Roberts

O lawer.

Parry

Mi fydda'i bob amser yn prynu 'poppy'.

Roberts

'Poppy'?

Parry

I gofio'r hogia'.

Roberts

O.

Parry

Lleddfu tipyn ar y gydwybod siwr o fod. Mi ddylwn i fod wedi mynd.



Saib.

Roberts

Buddug, ynte?

Parry

Pwy?

Roberts

Ych gwraig.

Parry

Gwenllian.

Roberts

Merch o Abertawe.

Parry

Y Drenewydd.

Roberts

Wrth gwrs... Mae hi efo chi.

Parry

Na.

Roberts

Gartra?

Parry

Wedi'i chladdu.

Roberts

Mae'n ddrwg gen i. Yn ddiweddar?

Parry

Llynedd.

Roberts

Wel, wel...

Parry

Roedd o yn y Daily Post a'r Western Mail. Doeddwn i ddim eisiau ei roi o yn y papur o gwbwl. 'I chwaer hi fynnodd mod i'n gwneud.

Roberts

Teulu. Hardd on'd oedd?

Parry

Pwy?

Roberts

Gwenllian.

Parry

Oedd. Mi oedd hi.

Roberts

Gwallt du. Gwisgo ffrog goch neu wyrdd bob amser.

Parry

Fydde hi 'dwch?

Roberts

Bydda.

Parry

Mae gynnoch chi go' da.

Roberts

Soprano wefreiddiol. 'I chofio hi'n canu yn y 'Meseia' rhyw Ddolig yn neuadd PJ. Tynnu'r lle i lawr.

Parry

Do, mi wnaeth.

Roberts

Wnaeth hi... ddioddef? Gafodd hi gystudd? Be oedd o? Yr hen elyn?

Parry

Ia.

Roberts

Oedd hi ei hun yn gwybod.

Parry

O, oedd.

Roberts

Fyddai hi'n sôn am y peth?

Parry

Byth.

Roberts

Byth?

Parry

Byth.

Roberts

Be fyddech chi yn ei drafod?

Parry

Ma'n ddrwg gen i?

Roberts

Pan fyddech chi'n galw i'w gweld hi. Yn y sbyty oedd hi, ia?

Parry

Gartra.

Roberts

Be fyddech chi yn ei drafod?

Parry

Sawl peth. Yr ardd. Y ci. Cymru... Y Steddfod.

Roberts

Y coleg?

Parry

Y coleg?

Roberts

Fydda hi'n sôn am y coleg? Sôn am yr hen ddyddia. Sôn am yr hen griw?

Parry

Weithia'.

Roberts

Be fydda' hi'n 'i ddweud?

Parry

Anodd cofio. Roedd y beth bach yn mwydro cymaint... cyffuriau.

Roberts

Diolch amdanyn nhw.

Parry

Ia... Mi fyddai hi'n sôn ym aml am ryw bnawn. Rhyw bnawn yn Llandysilio. Y Fenai... Pwy oedd Emlyn?

Roberts

Emlyn?

Parry

Mi fyddai hi'n sôn yn aml am rywun o'r enw Emlyn. Pwy oedd o? Un ohonan ni? Fawr o go' am neb o'r enw Emlyn.

Roberts

Emlyn?... Emlyn?... Emlyn?

Parry

Ewch drwy'r criw.

Roberts

Dic Roberts.

Parry

Ei gofio fo.

Roberts

Arthur Huws, Tregarth.

Parry

Morris Elis, Rhosesmor.

Roberts

Gwilym bach, Glyn. Trefor Stiniog.

Parry

Ond Emlyn?

Roberts

Na. Cymaint o amser yn ôl. Blynyddoedd. Oes. Eto, mae'r enw yn canu cloch.

Parry

Mae o. Mae o.

Roberts

Oedd hi'n crybwyll ei enw fo efo... tynerwch?



Mae Parry yn anesmwytho.

Parry

O, oedd. Oedd.

Roberts

Hynny'n gysur. Dim byd gwaeth nag edrych yn ôl ar eich bywyd efo...

Parry

Efo be?

Roberts

Dirmyg.



Saib.



[Rhagor o destun i'w ychwanegu]



a1