Ymylau Byd

Ciw-restr ar gyfer Roberts

 
(1, 0) 34 Yr awyrenna'.
(1, 0) 35 Maen nhw'n...
(Parry) Deall yn iawn.
 
(Parry) Deall yn iawn.
(1, 0) 38 Steddwch.
(Parry) Diolch o galon.
 
(Parry) Caredig iawn.
(1, 0) 42 Y peth lleia' medra dyn ei wneud ar ôl cymaint o flynyddoedd.
(Parry) Byw.
 
(Parry) Cael lle, stafell, llyfrgell fechan, i freuddwydio, meddwl a chreu.
(1, 0) 48 Diferyn bach?
 
(Parry) Caredig iawn.
(1, 0) 53 Dŵr?
(Parry) Hanner diferyn.
 
(Parry) Miloedd mae'n siwr.
(1, 0) 67 Rhyfedd, taro ar ein gilydd ar ôl yr holl flynyddoedd.
(Parry) Digwydd bod yn y gogledd.
 
(Parry) Stopio yn Rhosneigr am betrol; a phwy wel'is i?
(1, 0) 72 Bob amser yn mynd am ryw dro bach ar ôl swper, bydda', Emily?
 
(Parry) Iach iawn.
(1, 0) 75 Rhywun yn cysgu'n well.
(Parry) Ma' rhywun.
 
(Parry) Ma' rhywun.
(1, 0) 77 Awyr môr, ynte Emily?
 
(1, 0) 79 Dim gormod o ddŵr, gobeithio?
(Parry) Na, na.
 
(Parry) Na, na.
(1, 0) 82 O Ben Llŷn, ynte?
(Parry) Eifionydd.
 
(Parry) Eifionydd.
(1, 0) 84 Eifionydd.
(1, 0) 85 Wrth gwrs.
(1, 0) 86 Wrth gwrs.
(Parry) A chitha o...?
 
(Parry) A chitha o...?
(1, 0) 88 Fan 'ma.
(1, 0) 89 Môn.
(Parry) Gwyn ych byd chi...
 
(Parry) Ych tad yn weinidog efo'r Hen Gorff, ynte?
(1, 0) 92 Yr Annibynwyr.
(Parry) Siwr iawn.
 
(Parry) Wedi'i gladdu?
(1, 0) 95 Ugain mlynedd yn ôl.
(Parry) Dw i'n siwr mod i wedi darllen am yr angladd.
 
(Parry) Ysgolhaig, on'd oedd?
(1, 0) 98 Oedd, oedd.
(Parry) Mi sgwennodd esboniad ar Epistol Iago.
 
(Parry) Mi sgwennodd esboniad ar Epistol Iago.
(1, 0) 100 Epistol cyntaf Pedr.
(Parry) Wrth gwrs.
 
(Parry) Be' haru mi?
(1, 0) 104 Mi wel'is i gopi ohono fo mewn siop lyfra' ail law ym Mangor ryw fis neu ddau yn ôl.
(Parry) Tewch â deud.
 
(Parry) Tewch â deud.
(1, 0) 106 Deg ceiniog oedden nhw eisiau amdano fo.
(Parry) Ac mi ddaru chi ei brynu o.
 
(Parry) Ac mi ddaru chi ei brynu o.
(1, 0) 108 O, do.
(Parry) O barch, fel petai.
 
(Parry) O barch, fel petai.
(1, 0) 110 Hollol.
(Parry) A rhoi mwy na deg ceiniog iddyn nhw siwr o fod.
 
(Parry) A rhoi mwy na deg ceiniog iddyn nhw siwr o fod.
(1, 0) 112 Punt.
(Parry) Chware teg ichi.
 
(Parry) Chware teg ichi.
(1, 0) 114 Nid 'mod i angen copi.
(Parry) Na, na.
 
(Parry) Na, na.
(1, 0) 116 Ma' gen i dri.
(Parry) Fawr o fynd ar esboniada y dyddia' yma.
 
(Parry) Fawr o fynd ar esboniada y dyddia' yma.
(1, 0) 118 Ma' gen i ddwsina ohonyn nhw.
(1, 0) 119 Llond stafell i fyny 'na.
(1, 0) 120 Sawl un sy wedi bod yma, Emily?
(1, 0) 121 Pedwar?
(1, 0) 122 Pump?
(1, 0) 123 Ia.
(1, 0) 124 Pump.
(1, 0) 125 Pump wedi bod yma yn cynnig eu prynu nhw.
(1, 0) 126 Pobol glên iawn, cofiwch, a diwylliedig.
(Parry) Diwylliedig neu beidio.
 
(Parry) Maen nhw'n fwy o werth i chi nag iddyn nhw.
(1, 0) 129 Hollol.
(1, 0) 130 Dyma be ddeud'is i, ynte, Emily?
 
(1, 0) 133 Damwain car.
(Parry) Mae'n ddrwg gen i.
 
(Parry) Mae'n ddrwg gen i.
(1, 0) 135 Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.
(Parry) Wel, wel.
 
(Parry) Wel, wel.
(1, 0) 137 Wrth Pentrafoelas.
(1, 0) 138 Methu'r tro.
(1, 0) 139 Mi gafodd ei bwrw o'r car.
(1, 0) 140 Doeddwn i ddim gwaeth.
(Parry) Mae hi'n fyw.
 
(Parry) Dyna'r peth mawr.
(1, 0) 143 Hollol.
(Parry) Ac yn gysur mawr a chwmni ichi.
 
(Parry) Ac yn gysur mawr a chwmni ichi.
(1, 0) 145 Ydi.
(Parry) Môn.
 
(1, 0) 149 Mm?
(Parry) Gwneud byd o les i rywun ddwad i Fôn.
 
(1, 0) 158 Bisgedan?
(Parry) Caredig iawn.
 
(Parry) Digestive.
(1, 0) 166 Ia.
(1, 0) 167 Digestive.
(Parry) Hyfryd.
 
(Parry) Cymaint o flynyddoedd, on'd oes?
(1, 0) 171 Oes, mae.
(Parry) Rywsut mi ddaru ni... golli nabod ar yn gilydd.
 
(Parry) Rywsut mi ddaru ni... golli nabod ar yn gilydd.
(1, 0) 173 Meddwl llawer amdanoch chi.
(Parry) Chwarae teg ichi.
 
(Parry) Chwarae teg ichi.
(1, 0) 175 Mi gawsoch yrfa brysur?
(1, 0) 176 Ffrwythlon?
(Parry) Do... do.
 
(Parry) Do... do.
(1, 0) 178 Y Cyd-Bwyllgor Addysg, ynte?
(Parry) Y Llyfrgell Genedlaethol.
 
(Parry) Y Llyfrgell Genedlaethol.
(1, 0) 180 Wrth gwrs.
(1, 0) 181 Wrth gwrs.
(1, 0) 182 Yr hen go' yn pallu.
(Parry) Rwan te, cyn ymddeol roeddech chi yn ochrau Maldwyn?
 
(Parry) Rwan te, cyn ymddeol roeddech chi yn ochrau Maldwyn?
(1, 0) 184 Ddim yn hollol.
(Parry) O?
 
(Parry) O?
(1, 0) 186 Mwy tua'r gororau.
(Parry) Wrth gwrs...
 
(Parry) Dysgu?
(1, 0) 189 Am gyfnod.
(Parry) Wedyn?
 
(Parry) Wedyn?
(1, 0) 191 Sgwennu.
(Parry) Sgwennu...
 
(Parry) Gwyn ych byd chi.
(1, 0) 194 Un arall?
 
(Parry) Caredig iawn.
(1, 0) 197 Digestive.
(Parry) Hyfryd.
 
(Parry) Hyfryd.
(1, 0) 199 Y ddau ohonan ni yn mynd drwy baced bob dydd, tydan Emily?
 
(Parry) Sgwennu dan ffugenw fyddech chi?
(1, 0) 203 Bob amser.
(Parry) Doeth iawn.
 
(Parry) Pobol yn medru bod mor greulon.
(1, 0) 206 Cenedl fechan.
(Parry) Credu imi'ch gweld chi yn Steddfod Llangefni.
 
(Parry) Roeddech chi yno, on'd oeddech?
(1, 0) 210 Siwr o fod.
(Parry) Yng ngwaelod y cae oeddech chi.
 
(Parry) Welsoch chi fi?
(1, 0) 218 Na.
(Parry) Na.
 
(Parry) Na.
(1, 0) 220 Na.
 
(1, 0) 222 Eich hun oeddech chi?
(1, 0) 223 Fy hun fyddwn i'n arfer mynd i'r Steddfod.
(1, 0) 224 Emily...
(Parry) Deall yn iawn.
 
(Parry) Deall yn iawn.
(1, 0) 228 Un arall?
 
(Parry) {Mae Roberts yn ei dywallt.}
(1, 0) 232 Dŵr?
(Parry) Hanner diferyn.
 
(Parry) Mae gen i ryw frith gof...
(1, 0) 249 'Aberhenfelen'.
(Parry) Testun ych awdl.
 
(Parry) Testun ych awdl.
(1, 0) 251 Ia.
(Parry) Ia.
 
(Parry) Ac mi gafodd hi 'i chyhoeddi debyg?
(1, 0) 257 Do, do.
(Parry) Diolch am hynny.
 
(Parry) Mae'n bwysig rhoi ceinder ar gof a chadw.
(1, 0) 260 Pryd o fwyd, ddeudsoch chi?
(Parry) Ar ôl y seremoni.
 
(Parry) Ia.
(1, 0) 263 Yng Nghaerdydd?
(Parry) Abertawe.
 
(Parry) Abertawe.
(1, 0) 265 Y ddau ohonan ni.
(Parry) Y ddau ohonan ni.
 
(Parry) Y ddau ohonan ni.
(1, 0) 267 Gwâr.
(Parry) Hynod wâr.
 
(Parry) Hynod wâr.
(1, 0) 272 Yr awyrennau jet...
(1, 0) 273 Maen nhw'n...
(Parry) Deall yn iawn.
 
(1, 0) 277 Hwyr glas ichi fynd am y drol 'nghariad i.
(1, 0) 278 Mae hi wedi troi naw.
(1, 0) 279 Mi fydd y doctor yn deud y drefn.
(1, 0) 280 Dowch rwan.
 
(1, 0) 282 F'asech chi mor garedig â...?
(Parry) Mm?
 
(Parry) Mm?
(1, 0) 284 Y drws?
(Parry) Wrth gwrs.
 
(Parry) Mae'n ddrwg gen i.
(1, 0) 290 Abertawe.
(Parry) Abertawe.
 
(Parry) Abertawe.
(1, 0) 292 Aberhenfelen.
(Parry) Aberhenfelen.
 
(Parry) Wedi dal ati mae'n siwr?
(1, 0) 298 Dal ati?
(Parry) I sgwennu.
 
(Parry) I sgwennu.
(1, 0) 300 Do, do...do.
(Parry) Cerdd?
 
(Parry) Ysgrif?
(1, 0) 304 Nofel.
(Parry) Nofel.
 
(Parry) Y flwyddyn nesaf?
(1, 0) 311 Yn fuan.
(Parry) Ddylai neb ruthro efo nofel.
 
(Parry) Ddylai neb ruthro efo nofel.
(1, 0) 313 Anfodlon iawn ar rai rhannau.
(Parry) Perffeithydd fuoch chi erioed.
 
(Parry) Perffeithydd fuoch chi erioed.
(1, 0) 315 Ambell gystrawen ddim yn taro deuddeg.
(Parry) A 'chydig, gwaetha'r modd, sy'n poeni am hynny heddiw.
 
(Parry) A 'chydig, gwaetha'r modd, sy'n poeni am hynny heddiw.
(1, 0) 317 Ond cystrawen ydi iaith.
(Parry) Hollol.
 
(Parry) Hollol.
(1, 0) 319 A be' am gywirdeb gramadegol?
(Parry) Wedi peidio â bod.
 
(Parry) Wedi peidio â bod.
(1, 0) 321 Dyna chi Gymraeg y to ifanc 'ma.
(Parry) Erchyll.
 
(Parry) Erchyll.
(1, 0) 323 Treiglada gwallus.
(Parry) Diffyg gwybodaeth sylfaenol o amserau'r ferf.
 
(Parry) Diffyg gwybodaeth sylfaenol o amserau'r ferf.
(1, 0) 325 A be' am y Modd Dibynnol?
(Parry) Wedi peidio â bod.
 
(Parry) Wedi peidio â bod.
(1, 0) 327 Ac y mae'n rhaid wrtho fo.
(1, 0) 328 Sut gallwn ni fel cenedl gyfleu'n dyheadau hebddo fo.
(1, 0) 329 Sut?
(Parry) Nid bod y to ifanc heb ddyheadau.
 
(Parry) Nid bod y to ifanc heb ddyheadau.
(1, 0) 331 Mae'u dyheadau gwleidyddol nhw i'w canmol.
(Parry) Doedd gynnon ni, wel y rhan fwyaf ohonan ni, ddim mo'r...
 
(Parry) Doedd gynnon ni, wel y rhan fwyaf ohonan ni, ddim mo'r...
(1, 0) 333 Asgwrn cefn?
(Parry) Nac oedd.
 
(Parry) Nac oedd.
(1, 0) 335 Plant ein hoes.
(Parry) Dau ryfel byd.
 
(Parry) Dau ryfel byd.
(1, 0) 337 Roeddech chi yn y rhyfel?
(Parry) Na.
 
(Parry) Na.
(1, 0) 339 Cydwybod?
(Parry) Ia.
 
(Parry) Ia.
(1, 0) 341 Llawer mwy anodd mynd yn groes i'r llif yr adeg honno, cofio'n iawn.
(Parry) Ac eto, mi fyddai'n teimlo'n aml, o edrych yn ôl, mod i wedi colli rhywbeth mawr.
 
(Parry) Ac eto, mi fyddai'n teimlo'n aml, o edrych yn ôl, mod i wedi colli rhywbeth mawr.
(1, 0) 343 Choll'soch chi ddim.
(1, 0) 344 Dim.
(Parry) Na.
 
(Parry) Ydi'r nofel 'ma am y cyfnod hwnnw?
(1, 0) 361 Dw i'n oer.
(1, 0) 362 Ydach chi?
 
(1, 0) 366 Fyddwn ni byth yn gwneud tân.
(1, 0) 367 Gormod o faeddol.
(1, 0) 368 Gweld rhain yn llawer mwy cyfleus.
(Parry) Glanach.
 
(Parry) Glanach.
(1, 0) 370 O lawer.
(Parry) Mi fydda'i bob amser yn prynu 'poppy'.
 
(Parry) Mi fydda'i bob amser yn prynu 'poppy'.
(1, 0) 372 'Poppy'?
(Parry) I gofio'r hogia'.
 
(Parry) I gofio'r hogia'.
(1, 0) 374 O.
(Parry) Lleddfu tipyn ar y gydwybod siwr o fod.
 
(Parry) Mi ddylwn i fod wedi mynd.
(1, 0) 378 Buddug, ynte?
(Parry) Pwy?
 
(Parry) Pwy?
(1, 0) 380 Ych gwraig.
(Parry) Gwenllian.
 
(Parry) Gwenllian.
(1, 0) 382 Merch o Abertawe.
(Parry) Y Drenewydd.
 
(Parry) Y Drenewydd.
(1, 0) 384 Wrth gwrs...
(1, 0) 385 Mae hi efo chi.
(Parry) Na.
 
(Parry) Na.
(1, 0) 387 Gartra?
(Parry) Wedi'i chladdu.
 
(Parry) Wedi'i chladdu.
(1, 0) 389 Mae'n ddrwg gen i.
(1, 0) 390 Yn ddiweddar?
(Parry) Llynedd.
 
(Parry) Llynedd.
(1, 0) 392 Wel, wel...
(Parry) Roedd o yn y Daily Post a'r Western Mail.
 
(Parry) 'I chwaer hi fynnodd mod i'n gwneud.
(1, 0) 396 Teulu.
(1, 0) 397 Hardd on'd oedd?
(Parry) Pwy?
 
(Parry) Pwy?
(1, 0) 399 Gwenllian.
(Parry) Oedd.
 
(Parry) Mi oedd hi.
(1, 0) 402 Gwallt du.
(1, 0) 403 Gwisgo ffrog goch neu wyrdd bob amser.
(Parry) Fydde hi 'dwch?
 
(Parry) Fydde hi 'dwch?
(1, 0) 405 Bydda.
(Parry) Mae gynnoch chi go' da.
 
(Parry) Mae gynnoch chi go' da.
(1, 0) 407 Soprano wefreiddiol.
(1, 0) 408 'I chofio hi'n canu yn y 'Meseia' rhyw Ddolig yn neuadd PJ.
(1, 0) 409 Tynnu'r lle i lawr.
(Parry) Do, mi wnaeth.
 
(Parry) Do, mi wnaeth.
(1, 0) 411 Wnaeth hi... ddioddef?
(1, 0) 412 Gafodd hi gystudd?
(1, 0) 413 Be oedd o?
(1, 0) 414 Yr hen elyn?
(Parry) Ia.
 
(Parry) Ia.
(1, 0) 416 Oedd hi ei hun yn gwybod.
(Parry) O, oedd.
 
(Parry) O, oedd.
(1, 0) 418 Fyddai hi'n sôn am y peth?
(Parry) Byth.
 
(Parry) Byth.
(1, 0) 420 Byth?
(Parry) Byth.
 
(Parry) Byth.
(1, 0) 422 Be fyddech chi yn ei drafod?
(Parry) Ma'n ddrwg gen i?
 
(Parry) Ma'n ddrwg gen i?
(1, 0) 424 Pan fyddech chi'n galw i'w gweld hi.
(1, 0) 425 Yn y sbyty oedd hi, ia?
(Parry) Gartra.
 
(Parry) Gartra.
(1, 0) 427 Be fyddech chi yn ei drafod?
(Parry) Sawl peth.
 
(Parry) Y Steddfod.
(1, 0) 433 Y coleg?
(Parry) Y coleg?
 
(Parry) Y coleg?
(1, 0) 435 Fydda hi'n sôn am y coleg?
(1, 0) 436 Sôn am yr hen ddyddia.
(1, 0) 437 Sôn am yr hen griw?
(Parry) Weithia'.
 
(Parry) Weithia'.
(1, 0) 439 Be fydda' hi'n 'i ddweud?
(Parry) Anodd cofio.
 
(Parry) Roedd y beth bach yn mwydro cymaint... cyffuriau.
(1, 0) 442 Diolch amdanyn nhw.
(Parry) Ia...
 
(Parry) Pwy oedd Emlyn?
(1, 0) 448 Emlyn?
(Parry) Mi fyddai hi'n sôn yn aml am rywun o'r enw Emlyn.
 
(Parry) Fawr o go' am neb o'r enw Emlyn.
(1, 0) 453 Emlyn?...
(1, 0) 454 Emlyn?...
(1, 0) 455 Emlyn?
(Parry) Ewch drwy'r criw.
 
(Parry) Ewch drwy'r criw.
(1, 0) 457 Dic Roberts.
(Parry) Ei gofio fo.
 
(Parry) Ei gofio fo.
(1, 0) 459 Arthur Huws, Tregarth.
(Parry) Morris Elis, Rhosesmor.
 
(Parry) Morris Elis, Rhosesmor.
(1, 0) 461 Gwilym bach, Glyn.
(1, 0) 462 Trefor Stiniog.
(Parry) Ond Emlyn?
 
(Parry) Ond Emlyn?
(1, 0) 464 Na.
(1, 0) 465 Cymaint o amser yn ôl.
(1, 0) 466 Blynyddoedd.
(1, 0) 467 Oes.
(1, 0) 468 Eto, mae'r enw yn canu cloch.
(Parry) Mae o.
 
(Parry) Mae o.
(1, 0) 471 Oedd hi'n crybwyll ei enw fo efo... tynerwch?
(Parry) O, oedd.
 
(Parry) Oedd.
(1, 0) 475 Hynny'n gysur.
(1, 0) 476 Dim byd gwaeth nag edrych yn ôl ar eich bywyd efo...
(Parry) Efo be?
 
(Parry) Efo be?
(1, 0) 478 Dirmyg.