| |
---|
|
Llyma yr ymddiddan a vy ryng y tri Brenin o gwlen ac erodr grevlon ac val jr aeth mair ai mab a ssiesseph o vethlem ar tair anrrec ganthyn
|
Y Genad
|
1. Tewch ach ssiarad a gwrandewch ffrae ystrwmant neb nis gwnewch yn wir chwi a gewch amarch gwedi gych kyferch onis tewch 2. Edrychwch bawb ywch benn chwi gewch weled y seren yn wyneb y gorllewin ar tri brenin o gwlen 3. Kerddwch i veddlen ssiwdi ach tri ffeth genwchi aur a ssens a myr arab yw roi ir mab newydd eni 4. Y sseren ywch ben y byd a reddaf yn gyfrwyddyd jch dwyn att vab aur fflwch arwydd ywch iraidd iechyd
|
Y Brenin Gyntaf
|
5. Dyrys ywr ffordd i veddlem achos anghyfarwydd vyddem i gael kyngor a dysc llawn nyni awn i gaersalem
|
Yr Ail Brenin
|
6. Y porthor pyrth ni ddinas agor y pyrth ith addas j vynd at vrenin erod anryddfeddod y dyrnas
|
Y Porthor
|
7. Vynghenad a fedd parod dos a dywaid i erod vod yma dri brenin or gorllewin yn dywod
|
Y Genad
|
8. Mae tri brenin mawr bob vn wrth y porth ích ymofyn ydrychwch och doethineb pa ra ateb a roeir yddyn
|
Erod
|
9. Arch ir porthor egori ai gillwng hwy atavi j gael gwybod i meddwl mae kythryfwl yn kodi
|
Y Genad
|
10. Mae erod yn gorchymyn ygori y pyrth yddyn i gael gwybod nid ymraen pa beth i maen yn i ofyn
|
Y Porthor
|
11. Adolwg ywch na ddigioch am y taring a gosoch ewch yn hy gidar genad mawr yw rhad ffodd i doethoch
|
Y Genad
|
12. Brenhinoedd glan ydychi dowch oddyma gida mi i weled brenin erod ai ddefod ai riolti 13. Val dyma y brenhinoedd arwydd rryfeddod ydoedd dyweten i hvnain i neges ai hanes or eithafoedd
|
Y Brenin Kynta
|
14. Pa le mae hwn a aned brenin iddefon addfed y seren a fu yn kyfrwyddyd gwyn i vyd a gae i weled
|
Erod
|
15. O gwalsochi y seren y nos vnaws ar hevlwen arwydd geni y y gras ar grym nid gwiw yn ddywedyd amgen
|
Yr Ail Brenin
|
16. Y seren ni ai gwalsom ai ffroffwydo i byon efo aned yr Jessu oi anrregv i doethon
|
Erod
|
17. Dowch ynes vysgolheigion beth a ddywedwchi yr cwron ple i ganed mab ir vorwyn ai gwiw dwyn arwiddion
|
Yr Ysgolheigion
|
18. Y mab a ddylav i eni meddynt ymeddlem siwdi o ddoedyd y gwir yn ddiav ni a ddylem í ddoli
|
Erod
|
19. Ewchi ymofyn y mab kv a ddoeth ymaf in dysgv megis id gallomi vyned a thyrnged yw anregv
|
Y Brenin
|
20. Y seren vu yn kyfrwyddyd sy n gyfyrgoll yn hefyd nid oes weithian yn yn mysc neb a ddysc ini vvned
|
Erod
|
21. Vy nghenad dos yw hanfon a dysc yddyn lle ir elon nhwy a gan wabar yn lle gwir a mwy o sir pan ddelon
|
Y genad
|
22. Ych siwrnai vawr sy ryfedd yrddas gorllewin dvedd rwng synwyr a doethineb ewch ií wyneb y gogledd
|
Brenin
|
23. Kyfod dy wyneb bydd lawen gwir a ddyfod mab mair wen ni bydd arnomi ddim drygeir yn wír dakwr seren
|
Y Brenin Kynta
|
24. Hempych gwell brenin nefoedd a brenin y brenhinioedd ac aur mae danrregv kyfoeth a gallv da oedd
|
Yr Ail Brenin
|
25. Anrrydedd yt dduw keli llyma ssens yr eglwisi velly ir ydwyd tithe yrogle a goleni
|
Y Trydydd Brenin
|
26. Yt i kyfarcha dduw marwol gwreiddyn y drydydd daiarol wrth dy gladdv hir a byrr y myrr sy nattyriol
|
Yr Angel
|
27. Erod grevlon sydd angall aniwair anodd i ddyall nag ewchi ddim ato ef ewchi adre ffordd arall
|
Erod
|
28. Yr wyvi yn vrenin gallvoc ynghaer selem ddonoc ac ar babilon yn berchen ymhob tir penn tywysoc 29. Beth ddywedi di dere yn nes vy mrenhines goranoc 30. Maer gair nid wi vodlon vod brenin ir iddewon Ryfedd genyr gair ar godd ple maer brenhinioedd weithion
|
Y Frenhines
|
31. Gyrwchi rai yw gofyn Rac na alloch gael arnyn ond mwy o gost a thrafel i geisio gafel arnyn
|
Erod
|
32. Mae vy herod am kariad am emddiriaid am kenad dered yma vanwylyd parod oeddyd yn wastad
|
Y Genad
|
33. Ymeith mi af hai how y naill ai yn vyw ai yn varw mi af at vrenin erod hwyp am i vod yn galw 34.Varglwydd vrenin mawr wyrthoc mi a ddoethym val heboc gair ych bron nid rryfedd ym yn gyflym ac yn chwanoc
|
Erod
|
35. Kerdda i vethlem siwdi ac ymofyn o ddifri lle idd aeth y tri brenin or gorllewin hanoeddi
|
Y Genad
|
36. Arglwydd vrenin mi af yno mahownt amen am katwo ac addawa hwyp ar vrys ith lys kyn gorffwyso 37. How mast porthor kyfod i vyny agor i genad brenin erod ai herod ai ben kyngor
|
Gwas y Porthor
|
38. Nid yw meistr yn gwrando mogel gena i ddyhvno hwde ddyrnod at dy siad a dos ith wlad i gwyno
|
Y Genad
|
39. Ho hwrswn lleidir gwaetha i strangk no gwr or tir kyfod i vyny yn ebrwydd er onestrwydd ith veistir
|
Gwas y Porthor
|
40. Mi a roddais iti gyne ddyrnod at dy glyste hwde eto yn dy blith ymhob rridd i daw ange
|
Y Porthor
|
41. How pa gad gymen a wnaethoch hyd y plygen yn ymladd val dav geiloc yngroc i bo ych devben
|