a1, g1a1, g2
Ⓗ 1975 Willam R Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 2


GOLYGFA 2

Tu allan i borth yr eglwys.

Trewir cord ar yr organ ac y mae'r golau yn diffodd ar Huw. Mae'r organ yn mynd yn ei blaen i ganu. Y mae'r gerddoriaeth yn mynd i lawr yn araf. Cyfyd y golau yn llawn a gwelir porth eglwys, wal syml a bwrdd hysbysu du. Mae cynulleidfa fechan wedi ymgasglu o flaen y porth ac yn siarad...

Gwraig 1

Un ateb sy' na. Mae'n rhaid iddo fo fynd.

Gwraig 2

Mynd?

Gwraig 3

Ia. Mynd.

Gwraig 1

Ac mae hi'n hwyr glas i'r esgob gael gw'bod. Mae o'n lladd y lle 'ma. Gwarthus, Bron â throi nghôt. Ydw wir.

Gwraig 2

Gweld dim bai arnoch chi. Wn i ddim pam 'dw i'n bustachu i ddwad yma bob bore Sul. Na wn i, wir. Cymun bob bore Sul ers blwyddyn.

Gwraig 3

O'r hen lyfr newydd 'na.

Gwraig 2

Dynes llyfr gweddi 'dwi on'd e?

Gwraig 1

Wedi'n magu arno fo; on'd ydan?

Gwraig 3

(Wrth gŵr sy'n sefyll ar ei ben ei hun yn tanio pibell.) Be' ddeudwch chi, Mr Rowlands?

Gŵr

Mae hi'n chwith meddwl. Ydi. Yn chwith meddwl.

Gwraig 3

Mor ddifyr fydda' hi. Mor ddifyr.

Gŵr

(Fel pe'n gweld y ffermydd o flaen ei lygaid.) 'R Hendra, Foty. Hendy Mawr. Creigle Ucha'. Hogia i gyd. Cofio?

Gwraig 3

Yr hen gôr ers talwm? Ydw'n iawn. Fel ddoe.

Gŵr

Y gangell yn orlawn.

Gwraig 2

Côr o ddeg ar hugain. Pedwar llais.

Gwraig 3

A tada wrth yr organ.

Gŵr

A'r hen ganon yn ei morio hi.

Gwraig 2

Tenor da oedd o.

Gwraig 3

Chwith ar ei ôl o.

Gŵr

Dynion da oedd rheini. Dynion da.



Saib.

Gwraig 3

Difyr fydda hi, on'd e?

Gwraig 2

'Nenwedig tua'r 'Dolig.

Gwraig 3

Tada druan a'i garola'.

Gwraig 2

Yr hen garola' rheini.

Gŵr

Cofio'r hen Ddafydd Owen yn dyrnu'r sêt efo'i ddwrn i gadw amser. (Yn efelychu.) "Odlau tyner engyl/O'r ffurfafen glir." Be' ddoth o'i ferch o, 'dwch?

Gwraig 2

Mi briododd efo'r boi RAF hwnnw.

Gŵr

Duw. Do?

Gwraig 2

Byw yn Gloucester. Mi gwelis i hi llynedd. Yn y primin oedd hi, 'dwch? Ia. Yn y primin. Hi a'r ferch. Honno'n ddipyn o oed bellach hefyd. O. Mi 'roedd hi'n rhyfedd, chi?

Gwraig 1

Rhyfedd?

Gwraig 2

Siarad Saesneg efo Jini. Jini o bawb.

Gwraig 3

Mae hi wedi magu'r plant yn Saeson, felly?

Gwraig 2

Be arall 'na hi? Mae'i gwreiddia hi yn Lloegr erbyn hyn, on'd ydi?

Gŵr

Chwith meddwl. Chwith meddwl.

Gwraig 3

Ydi. Mae hi. Dyddia' difyr. Difyr.

Gŵr

Ddon nhw byth yn ôl.

Gwraig 1

Ddim tra mae hwn yma. Digrì Cambridge neu beidio.

Gŵr

Mewn coleg mae'i le o.

Gwraig 2

Pobol y wlad ydan ni.

Gŵr

Pobol y pridd... (Saib.) Be' sy'n digwydd inni 'dwch?

Gwraig 3

Wn i ddim be sy'n digwydd inni wir. Na wn i.



Saib.

Gwraig 1

Ydach chi'n mynd heibio'r siop Mr Rowlands? Eisio nôl papur i'r gŵr.

Gŵr

Mwy na thebyg.

Gwraig 1

Ga'i ddwad efo chi?

Gŵr

Ydy'ch traed chi'n lân?

Gwraig 1

Be' 'dach chi'n feddwl?

Gŵr

(Yn pwyntio.) Lecio fo?

Gwraig 1

Chi pia fo. Wel.



Mae'r merched eraill yn edrych.

Gwraig 2

Newydd sbon?

Gŵr

Newydd sbon ddydd Iau. Mi 'neith imi tra bydda' i.

Gwraig 3

Hen bryd i'r gŵr 'cw brynu'n newydd hefyd.

Gŵr

Mi es i Lerpwl efo fo ddoe i edrach am y ferch a'r gŵr. Mynd fel ruban. Car gora' ges i 'rioed.

Gwraig 2

Sut mae'r babi?

Gŵr

Siort ora'. Wel. Be' am ei throi hi? Dwad?

Gwraig 1

(Yn bryfoclyd.) Ydw i'n mentro 'dwch?

Gwraig 2

Watjiwch o. Mae car newydd yn gwneud petha' rhyfedd i hen ddynion.

Gwraig 3

W! Gladys!



Mae Gŵr a Gwraig 1 yn cychwyn.

Gwraig 2

Mr Rowlands!

Gŵr

Mm?

Gwraig 2

Be' mae nhw am ei galw hi?

Gŵr

Pwy?

Gwraig 2

Yr hogan bach?

Gŵr

O. Mandy.

Gwraig 2

Neis.



Exit Gŵr a Gwraig 1.

Gwraig 2

Mandy.

Gwraig 3

Yr un enw a hogan bach 'y mrawd. Wyddoch chi...



Mae Gwraig 4 yn mynd heibio.

Gwraig 4

Sut 'dach chi?

Gwraig 2

Bora braf.

Gwraig 4

Digon o ryfeddod.



Saib.

Gwraig 2

Sut mae'r gŵr?

Gwraig 4

Siort ora'. Diolch.

Gwraig 2

A'r plant?

Gwraig 4

Y ddau yn eu gwelyau. Clwy penna',

Gwraig 3

O, tewch. Sglyfaeth o beth. Hen beth yn eich cael chi i lawr. Mae gofyn swatio, 'chi?

Gwraig 2

Aros i mewn.

Gwraig 4

Be?

Gwraig 2

Angen cadw golwg arnyn nhw.

Gwraig 4

Oes. (Mae'n mynd.)

Gwraig 2

Gwynab gin rhei, on'd oes?

Gwraig 3

Gwynab?

Gwraig 2

Hon'na,

Gwraig 3

Be?

Gwraig 2

Mi fasa chi'n synnu.

Gwraig 3

Dydi hi ddim yn...?



Mae Gwraig 2 yn gwneud ystum efo'i phen i ddangos ei bod yn deall.

Gwraig 3

A'i gŵr hi'n ddyn mor neis.

Gwraig 2

Rhy neis.

Gwraig 3

Nid yfo oedd Santa Clos llynedd?

Gwraig 2

Un da oedd o hefyd.

Gwraig 3

Yr hen gnawes w'nebog.

Gwraig 2

Mae Meri'n iawn.

Gwraig 3

Y?

Gwraig 2

Ar hwn mae'r bai. Hwn swcrodd hi yma. Adeg diolchgarwch. Cofio? Eisio rhywun i drimio'r allor. Fedrwn i ddim dwad. Elis 'cw'n cwyno efo'i frest. Dim rhaid iddo fo ofyn i honna chwaith. Ond dyna fo. Os y teip yna mae o'n lecio...

Gwraig 3

(Ar ei thraws.) Efo pwy mae hi'n...

Gwraig 2

Mi synnach.

Gwraig 3

Pwy?



Mae sŵn siarad i glywed o'r fynwent. Geiriau megis "Na, na".

Gwraig 2

Dowch o'ma. Mi ddeuda'i wrthoch chi. Clywed wnes i. Gin Harri Morris. 'Roedd o yng Nghaer. Efo'i waith. Ac yn cael cinio yn yr hotel 'ma a phwy gerddodd i mewn ond hon'na â...



Mae'r ddwy yn mynd oddi ar y llwyfan yn mân siarad ac yn dweud pethau megis "Tewch, wir i chi, naci, wel, etc.". Yn syth, daw Huw a'r warden drwy'r porth, mae Huw yn ei gasog, mae'r ddau yn ffraeo.

Huw

Na. Fedra i ddim.

Warden

Pam?

Huw

Am mai dyna ydi dymuniad y Corff Llywodraethol.

Warden

Be' am ddymuniad y bobl?

Huw

Mae 'na bobol ar y Corff Llywodraethol.

Warden

Dydw i ddim.

Huw

Nid fy mai i ydi hynny. Dydw i ddim arno fo fy hun.

Warden

Nid fy mai i ydi hynny. Ylwch. Yn y festri 'na mae 'na dri dwsin o Lyfra Gweddi. Dydyn nhw ddim gwaeth.

Huw

Ond nid...

Warden

Mi es i. Nid 'mod i'n edliw cofiwch. Mi es i, yn un swydd i Gaerdydd i nhôl nhw. Yr holl ffordd. Ei prynu nhw efo f'arian fy hun. Nid 'mod i'n edliw cofiwch. Mi wna'i rywbeth i'r hen eglwys 'ma. 'Dach chi'n gwybod hynny. Rhywbeth. Ond mae pobol y plwy' 'ma'n...

Huw

(Wedi gwylltio.) Ydach chi'n disgwyl i mi fynd yn groes i ddymuniad yr esgob? Ydach chi?

Warden

Lle ma'ch asgwrn cefn chi?

Huw

Dyna un peth na ch'es i mo ngeni efo fo. Rŵan os wnewch chi...

Warden

Magu asgwrn cefn ydach chi. Byw yn yr hen fyd 'ma roith hwnnw ichi.

Huw

Felly.

Warden

Mae'i Gymraeg o'n warthus.

Huw

O.

Warden

Yn merwino clustia' eglwyswr o'r iawn ryw.

Huw

Tybed.

Warden

Mae'n rhaid moderneiddio popeth heddiw. Sgubo'r hen betha' fel tasa nhw'n faw.

Huw

Mae'n rhaid inni symud efo'r oes.

Warden

Symud i le?

Huw

Mae hynny i fyny i ni. Faint o'r...

Warden

Yn onest rŵan. Ydach chi'n hapus efo Cymraeg y gwasanaeth newydd 'ma?

Huw

A bod yn onest? Nac ydw. Mae'n well gen i Gymraeg y Llyfr Gweddi.

Warden

Ewch yn ôl at yr hen Lyfr Gweddi 'ta?

Huw

Ond dydi'r gwasanaeth newydd 'ma ddim yn ddrwg i gyd, cofiwch. Ac nid son am yr iaith 'rydw i.

Warden

Mae'n rhaid i iaith crefydd...

Huw

Mae iddo fo'i ragoriaethau.

Warden

Pa ragoriaethau?

Huw

Rhagoriaethau diwinyddol. Pan oedd Cranmer yn...

Warden

Pwy?

Huw

Cranmer. Yfo oedd yn gyfrifol am...

Warden

Ylwch. Dyn cyffredin ydw i. Peidiwch â dechra' lluchio llwch i fy ll'gada i,

Huw

(O'r neilltu.) Roeddwn i'n meddwl fod y werin Gymraeg yn diwinyddion o'r groth?

Warden

Be?

Huw

Dim byd. Dim byd.



Saib.

Warden

Be' amdani.

Huw

Be' amdani, be?

Warden

Be' am wasanaeth y Llyfr Gweddi. Sul nesa'?

Huw

Mi feddylia'i dros y peth.



Saib.

Warden

Be aeth o'i le bore 'ma?

Huw

Be' ydach chi'n feddwl?

Warden

Mwydro tipyn, on'd oeddach? Tua'r diwedd. Be' sy?

Huw

Rhyw ben'sgafnder ddoth drosta i. Dyna'r cwbl,.

Warden

Gormod â'ch trwyn yn yr hen lyfra 'na ydach chi.

Huw

(Yn goeglyd.) Mae'n rhaid cael pregeth yn barod ichi, bydd?

Warden

Rhywbeth syml mae'n nhw eisio yma.

Huw

Ond 'dydi popeth ddim yn syml, yn nac ydi?

Warden

Yn yr ochra' yma; ydyn. 'Dydi syniada Awstin Sant am amser yn golygu dim i ni. Dim.

Huw

(O'r neilltu.) "Duw gadwo y werin."

Warden

Mae 'na fawredd mewn symlrwydd cofiwch.

Huw

(Yn edrych arno.) Mi gofia i hynny. Mae'n well imi...

Warden

O. Un peth arall. Dowch yma. 'Drychwch. Mae'r fynwent 'ma'n friw i lygaid rhywun. Welis i rioed y fath sgrwff. Ddaru chi dd'eud wrth y Wil Huws 'na am ddwad yma efo'i bladur? Ddaru chi?

Huw

Mi a'i weld o 'fory. Beth bynnag...

Warden

Ewch heno nesa'.

Huw

A'i wraig o'n cwyno?

Warden

Pa wahaniaeth wneith hynny?

Huw

Mae ganddo fo ddigon ar ei blat. Mwy na digon.

Warden

Y felan eto m'wn, Duw annw'l Dad.

Huw

Mae hi'n ddynes wael.

Warden

Cwyno fuo hanes honno 'rioed.

Huw

Mae hi'n dioddef oddi wrth ei nerfau.

Warden

Nerfa'. Twt lol. Hen bryd iddi dynnu'i hun at 'i gilydd. Wn i ddim be ydi nerfa'.

Huw

Gwyn eich byd chi.

Warden

A wyddoch chi pam?

Huw

Mae gen i syniad.

Warden

Am fod gen i Ffydd. Ffydd yn yr Hollalluog.

Huw

Ffydd, ia? Hy.

Warden

Ac 'neith eich holl bregethu modern chi ddim siglo mymryn arni hi.

Huw

Dim hyn'na oedd fy mwriad i.

Warden

Naci?

Huw

Naci.



Saib.

Warden

(Yn mynd at y wal ac edrych trosti.) Dyna be' cadwodd hi i fynd. Ffydd,

Huw

Pwy?

Warden

Y musus.

Huw

Ia.

Warden

Ffydd syml. At y diwedd. Roedd o'n gysur iddi.

Huw

Mae ffydd yn fwy na chysur.

Warden

Meidrol ydan ni cofiwch, Dysgwch dderbyn hynny. Bodlonwch.

Huw

Be ydach chi'n feddwl?

Warden

Lladdwch o. Rwan. Ne' mi lladith o chi.

Huw

Lladd be?

Warden

Wyddoch chi ddim?

Huw

Na wn i.

Warden

Petha' mawr o'ch blaen chi felly, on'd oes?

Huw

Petha' mawr?

Warden

Am ddwad nos Ferchar?

Huw

Mm?

Warden

Nos Ferchar. I'r Steddfod?

Huw

(Braidd yn sbeitlyd.) Go brin.

Warden

Glyw'is i eich bod chi'n englynwr o fri.

Huw

Lle clywsoch chi'r fath lol?

Warden

'Roeddwn i'n meddwl mai tynnu 'nghoes i 'roeddan nhw.

Huw

I ddweud y lleia'.



Saib.

Warden

Mae 'na le i betha' felly cofiwch. Rhan o fywyd, on'd ydi? Hwyl, syml, pobol... gyffredin.

Huw

Hy.



Mae'r Warden yn cychwyn.

Warden

Ugain punt.

Huw

Be?

Warden

Peidiwch a chynnig mwy nag ugain punt i Wil Huws. Llawn ddigon i ddyn am waith tridia'. A chofiwch Sul nesa'.

Huw

Sul nesa',

Warden

Cymun o'r Llyfr Gweddi. (Exit.)

Huw

Hy.



Mae Huw ar fin mynd pan ymddengys Gwraig 5.

Gwraig 5

Mr Wilias.

Huw

O'r nefoedd. Be' nesa?

Gwraig 5

Ga' i air bach efo chi?

Huw

Dwi ar frys.

Gwraig 5

Gair bach?

Huw

(Yn edrych ar ei wats.) Be' sy?

Gwraig 5

(Yn edrych i'r ochr.) Hen gena brwnt.

Huw

Be?

Gwraig 5

Hwn'na. Hen gena brwnt.

Huw

Be' fedra i...

Gwraig 5

Mi yrrodd ei wraig druan yn lloerig, 'chi? Ei chofio hi?

Huw

Cyn fy amser i.

Gwraig 5

Dynas neis.

Huw

Felly.

Gwraig 5

Dynas neis iawn i dd'eud y gwir.

Huw

Oedd hi? (Mae Huw yn gwbl ddiamynedd.)

Gwraig 5

Oedd, mi 'roedd hi. Teulu da. Capelwraig, cofiwch. (Mynd ato.) Gorfod priodi.

Huw

Dim byd newydd.

Gwraig 5

Priodi'n capal hefyd. Ddaru o ddim madda' iddi 'chi? Doedd o ddim yn ei lecio hi, medda nhw. Eglwyswrs mawr, ei deulu o. Rioed. Mmm. Ddaru o ddim madda' iddi. Mae rhei yn d'eud i fod o tua'r diwedd.

Huw

Be?

Gwraig 5

Madda' iddi. Petha' rhyfedd 'dan ni, Mr Williams? Chwit chwat felly; on'd ydan? Dim byd yn sicr, nac oes? Ond dyna fo, bywyd ydi bywyd. Fel'na mae hi, fydda i'n deud. Neis, tydi?

Huw

Ydi.

Gwraig 5

Neisiach na Sul dwytha 'dwi'n meddwl.

Huw

Wn i ddim. Ylwch mae'n...

Gwraig 5

Gaddo glaw. Dyna ddeudodd y dyn. Neis bora'ma. Glaw at y pnawn. Biti. A hitha' mor neis. Meddwl siwr y b'asa hi'n dal. Mm. Tan diwadd y mis beth bynnag. 'R hogan 'cw'n priodi 'chi.

Huw

Sheila?

Gwraig 5

Susan.

Huw

Ydi hi?

Gwraig 5

Hogyn o dre.

Huw

O.

Gwraig 5

'Dad o ar y lein.

Huw

Be' well?

Gwraig 5

Holyhead i Euston.

Huw

Difyr dros ben.

Gwraig 5

Teulu neis.

Huw

Pwy?

Gwraig 5

Pobol neis. 'R hogan 'cw'n lwcus.

Huw

Da iawn.

Gwraig 5

Mansel ydi enw fo. Enw neis 'te?

Huw

Hyfryd.

Gwraig 5

'Dydi o ddim yn gweithio rŵan felly. Nid ei fod o'n ddiog, cofiwch. Mi fuo fo'n gweithio 'chi?

Huw

Do?

Gwraig 5

Yn Rio Tinto 'te? Ond methu dal y gwres. A'r hen sglyfaeth llwch 'na. Uffernol, on'd ydi? W! Sori.

Huw

(Yn flin.) Pa bryd mae'r briodas?

Gwraig 5

Gyntad sy bosib. Mae 'na...

Huw

Waith bedyddio imi mae'n siwr? O'r nefoedd.

Gwraig 5

Fel 'na mae hi. Rhaid cym'yd y melys efo'r chwerw, chi?

Huw

(Yn ddiarwybod.) Mmm?

Gwraig 5

Ches i ddim priodas neis. Ond mi 'rydw i eisio iddi hi gael un. Hogan bach ffeind, chi?

Huw

Ydi hi?

Gwraig 5

'Dwi wedi trefnu risepsiyn. Dau o'r gloch. March 17 yn y Bull. O! lle neis, cofiwch.

Huw

Grawys.

Gwraig 5

Y?

Huw

Yng nghanol y Grawys?

Gwraig 5

Be?

Huw

Dydi hi ddim yn arferiad priodi yn nhymor y Grawys.

Gwraig 5

Mi geith hi, ceith?

Huw

Dydi hi ddim...

Gwraig 5

Chi mae hi eisio 'chi?

Huw

Does wnelo hynny...

Gwraig 5

Mae hi'n lecio'r ffordd 'dach chi'n mynd trwy'r gwasanaeth a'r ffordd 'dach chi'n rhoi cymun i'r ddau wrth 'r allor. Mae o'n neis hefyd, yn tydi?

Huw

(Yn gwylltio.) Phrioda'i neb yn y Grawys. Neis neu beidio. Reit?

Gwraig 5

Ond pam?

Huw

Rheol ydi rheol.

Gwraig 5

Mi fydda'r hen ganon yn g'neud.

Huw

'Doedd ganddo fo mo'r hawl.

Gwraig 5

Lle ma'ch teimlad chi? Hogan bach ffeind.

Huw

Mi brioda i hi ar ôl y Pasg.

Gwraig 5

Mi geith briodi yn Jeriwsalem.

Huw

Rhyngoch chi â'ch pethau.

Gwraig 5

Eglwyswrs fuo teulu ni 'rioed.

Huw

(Yn goeglyd.) Mi ddylech fod yn gwybod y rheolau felly.

Gwraig 5

Be?

Huw

Dydach chi ddim yn dallt. Yn dallt dim. Pe bydda' hi'n aelod o'r brenhinol deulu wnawn ni ddim ei phriodi hi.



Saib.

Gwraig 5

Cythral oer di-deimlad.

Huw

Mmm?

Gwraig 5

Pwy 'dach chi'n feddwl ydach chi? Dyn 'dach chi'n y diwadd.



Saib.

Huw

Ewch! Ewch o ngolwg i. Ewch. Ewch. Ewch!



Mae Gwraig 5 wedi dychryn ac y mae'n mynd. Mae'r golau yn newid. Mae Huw yn mynd at y wal a rhoi'i ddwylo arni. Y mae'n meddwl a thanio sigaret.

Huw

Ffyliad dwl... Gad'wch lonydd imi... O'r nefoedd... Y... y...



Daw ymwelydd heibio. Mae'n gwisgo 'jeans' a 'jumper' ac yn cario camera ac wrthi'n brysur yn tynnu lluniau'r porth etc. Gwel Huw. Mae'n crechwenu.

Ymwelydd

Mae hi'n hardd.

Huw

Mm? (Yn troi ato.)

Ymwelydd

Chweched ganrif?

Huw

Chweched ganrif?

Ymwelydd

Yr eglwys. Chweched ganrif ydi hi?

Huw

Felly mae'n nhw'n dweud.

Ymwelydd

Ond 'dydach chi ddim mor siwr.

Huw

Chweched? Nawfed? Yr ugeinfed ganrif? Be' ydi'r ots? (Mae'n cychwyn mynd.) Maddeuwch i mi, mae'n rhaid imi...

Ymwelydd

Huw Williams?

Huw

Be?

Ymwelydd

Dyna'ch enw chi, on'd e? Huw Williams?

Huw

Sut gwyddoch chi?

Ymwelydd

(Mynd at y bwrdd hysbysu.) Rheithor, Y Parchedig Huw Williams, M.A. (Cantab.)

Huw

O. Hwnna. Hy.

Ymwelydd

Caergrawnt.

Huw

Ia.

Ymwelydd

Pa goleg?

Huw

Ioan Sant.

Ymwelydd

Yr un coleg a fi.

Huw

(Yn meirioli tipyn.) Tybed.

Ymwelydd

Blynyddoedd?

Huw

Pum deg chwech hyd at bum deg wyth. A ch'tha?

Ymwelydd

Gorffen ddwy flynedd yn ôl.

Huw

Dal ar ei draed, felly.

Ymwelydd

Cystal ag erioed. Ydi.

Huw

Coleg difyr.

Ymwelydd

Dyddiau difyr.

Huw

Bendigedig.

Ymwelydd

Coleg Edmwnd Prys.

Huw

A'r Esgob William Morgan.

Ymwelydd

Glywsoch chi'r côr yn ddiweddar?

Huw

Do,. Y llynedd. 'Roedden nhw ym Mangor. Aruthrol. Yn enwedig ei dehongliad nhw o'r salmau cân.

Ymwelydd
"Dy babell di mor hyfryd yw
O Arglwydd byw y lluoedd."

Huw
(Yn edrych ar y porth.)
"Mynych chwenychais weled hon
Rhag mor dra thirion... ydoedd."

Ymwelydd

Ydoedd?

Huw

Hyfryd oedd byw yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Ymwelydd

Sinicaidd iawn ar fore Sul. (Mae'n chwarae efo'i gamera.) Yr haul 'ma fel fynno fo bore 'ma. Rŵan, 'ta.

Huw

Ar eich gwyliau?

Ymwelydd

(Mae'n dal i chwarae efo'r camera.) Bwrw'r Sul... Dyna ni.

Huw

Yma?

Ymwelydd

Ym Mangor. Y ddarpar wraig yn y coleg. Gorffen 'leni hefyd... Daria!

Huw

Ac wedi cael swydd?

Ymwelydd

Be?

Huw

Ydi hi wedi cael gwaith?

Ymwelydd

Do.

Huw

Ymhle?

Ymwelydd

Yn y Rhondda. Athrawes.

Huw

Swydd galed i ferch.

Ymwelydd

Dibynnu.

Huw

Dibynnu ar be'?

Ymwelydd

Dibynnu ar yr ysgol. Ches i 'rioed le i gwyno. (Mae'n paratoi i dynnu llun o Huw.) Dyna ni. Sefwch yn llonydd.

Huw

Ond...

Ymwelydd

Sefwch yn llonydd... Dyna ni. Llun lliw o'r Parchedig Huw Williams, M.A. (Cantab) yn sefyll tu allan i borth ei eglwys Geltaidd ar fore Sul yn nhymor y Grawys.

Huw

(Yn gwenu.) Hyddysg iawn yn y flwyddyn eglwysig.

Ymwelydd

Diolch yn fawr,

Huw

Dylanwad Caergrawnt.

Ymwelydd

Coeliwch neu beidio, 'roeddwn inna' ar fin mynd i'r barchus arswydus swydd.

Huw

Be' ddigwyddodd?

Ymwelydd

Wel...

Huw

Difaru?

Ymwelydd

Weithia'. Gan amlaf ar fore Llun. Mae plant yn swnllyd iawn ar fore Llun.

Huw

Athro ydach chitha?

Ymwelydd

Ia.

Huw

Pwnc?

Ymwelydd

(Llond ei geg.) Ysgrythur.

Huw

Difyr?

Ymwelydd

Dim llei gwyno. Mae'r cyflog yn iawn a'r gwyliau'n hir. Diddordeb?

Huw

Wn i ddim,

Ymwelydd

Efo gradd o Gaergrawnt chaech chi ddim trafferth i gael swydd. (Mae'n paratoi i dynnu llun arall.) Damia. Ffilm wedi darfod. Mi ddylwn i fod wedi prynu ffilm arall. 'Ryda ni ar ganol project ar eglwysi Celtaidd. A dyma fi, yma o bob man, heb ffilm. Hurt 'te?

Huw

Ydi hi'n bosib dysgu Sgrythur bellach?

Ymwelydd

Dibynnu be 'dach chi'n feddwl wrth Ysgrythur.

Huw

Wel. Y Beibl. Hanes Israel. Yr eglwys fore...

Ymwelydd

Ydi. Ond nid dyna'r gwaith pwysica' i athro 'Sgrythur.

Huw

Dydw i ddim yn eich dilyn chi.

Ymwelydd

Mae'n rhaid imi fod yn fugail yn ogystal ag athro.

Huw

Dwyn gwaith yr eglwys?

Ymwelydd

Mae'r eglwys wedi methu.



Saib.

Ymwelydd

Sut mae hi, yma?

Huw

Hy.

Ymwelydd

Mor ddrwg â hynny.

Huw

'Dydyn nhw'n gwybod dim. Yn deall dim. A dydyn nhw ddim eisiau deall dim.

Ymwelydd

Yng nghanol y Cymry Cymraeg? Wel wir.

Huw

Wyddoch chi mai Cymru ydi'r wlad fwyaf anghrefyddol yn Ewrop? I'r Cymro, 'dydi eglwys a chapel yn ddim mwy na chlwb diwylliannol. Mae'r rhan fwyaf o grefyddwyr Cymru yn gwybod mwy am gerdd dafod nag am hanfodion y ffydd. Mae hi'n cymryd canrif i syniad Ewropeaidd gyrraedd deallusion Cymru heb sôn am y werin. Yma, 'dydw i ddim yn teimlo 'mod i'n byw yn yr ugeinfed ganrif. Hy. Ymhen hanner canrif mi fydd y cwbl drosodd. Drosodd.

Ymwelydd

Ac mi fyddwch chitha' yma i gau'r drws?

Huw

Emosiwn. Cenedl wedi thagu gan emosiwn arwynebol. Mae meddwl yng Nghymru bellach yn un o'r saith pechod marwol. 'Does neb efo'r arfau meddyliol i wrthsefyll dim.

Ymwelydd

Ac mi gan nhw ei llyncu gan seciwlariaeth.

Huw

Mae o'n digwydd eisoes.

Ymwelydd

Pam gwastraffu'ch amser a'ch talent yma, felly?

Huw

Pa ddewis arall sy gen i?

Ymwelydd

Gwrand'wch. I achub cymdeithas, i achub y byd seciwlar mae'n rhaid i'r bobl orau dreiddio i'w ganol o. Bod wrth law yn y mannau tyngedfennol. Lle mae'r penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud. Mewn gwleidyddiaeth, mewn llywodraeth leol, yn y byd addysg. Yn y byd. Yn y byd. Yno mae'n lle ni. Yn arwain pethau ac yn creu cymdeithas Gristnogol. Cymdeithas wâr. Cymdeithas dda.

Huw

A dyma fi. Yma. Yn edwino ar gyrion cymdeithas.

Ymwelydd

Yn ddyn deallus. Yn ddyn efo rhywbeth mawr i'w gynnig.

Huw

Rhywbeth mawr?

Ymwelydd

Ia. Rhywbeth mawr. Mawr.



Saib.

Huw

Mi olygai fynd yn ôl i'r coleg.

Ymwelydd

Dim o angenrheidrwydd.

Huw

Braidd yn hen i ddechrau eto, on'd ydw?

Ymwelydd

Mae'r dewis yn glir. Cael byw yn y byd neu farw, yma. Gogoniant neu ebargofiant. Rydach chi'n haeddu gogoniant. (Daw'r ymwelydd yn nes ato.)

Huw

Gogoniant.

Ymwelydd

Anfarwoldeb.

Huw

Anfarwoldeb.

Ymwelydd

Mi fedra' i 'nabod mawredd.



Saib.

Huw

(Yn edrych i'w wyneb.) Cinio?

Ymwelydd

Mm?

Huw

Ddowch chi am damaid o ginio?

Ymwelydd

Rhyw dro eto. Hynny ydi, os byddwch chi yma.



Saib.

Huw

Mi fydd eich cariad chi'n...

Ymwelydd

Cariad?

Huw

Ym Mangor.

Ymwelydd

O. Ia. Wrth gwrs. (Mae'r ymwelydd yn cychwyn.) Huw.

Huw

Huw?

Ymwelydd

Enw gwael. Rhy gyffredin o lawer.

Huw

Ella.

Ymwelydd

Mae hogia' Ioan Sant yn haeddu gwell?

Huw

Ydyn nhw?

Ymwelydd

Ydyn! Maen nhw. Llawer gwell.



Mae'r Ymwelydd yn mynd. Mae Huw yn sefyll, yna troi at yr eglwys. Mae llawer mwy o asbri yn ei gerddediad y tro hwn ac hyd yn oed gwen ar ei wyneb. Mae'n mynd at y bwrdd hysbysu ac edrych arno.

Huw

Gogoniant? Mm.



Mae'r golau'n diffodd yn sydyn.

Diwedd yr olygfa.

a1, g1a1, g2