1-300301-600

Y Gŵr Kadarn (c1530)

Anyhysbys, gol. Sarah Beatrice Campbell

Ⓗ 2005 Sarah Beatrice Campbell
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Llinellau 1-300

Yr effeiriad yn doedyd wrth Gwas y gwr kadarn

Offeiriad
Pwy ydiw y gwr draw gwych
ymay ymerched arno e yn edrych
sydd yn gwisgo ffwr beynydd
brethyn ffein a melfed newydd
kadwyn ayr a modrwie
Nyd oes arno onid chware
Ay wyr ffrolig ar i ol
Ally yn rhwygo yr heol



Yno ydoyde was yr effeyriad


Gwas
Gwr yw a yddoeth o loyger
fo wyr y bedwar kwarter
Ar kowrt y by yn ymarfer
fe wyddys ar y faner


Offeiriad
Awn oddima hyd atto
pe medrwn gyfarch yddo
yw gressewi ef yr wlad
Ac y wrando ar i siarad


Gwas
Ny wyddost ddim oy arfer
ymay ef yn ffywmys llawn o falchder
kymer gyngor gwel dy barch
Naddoes atto fo y gyfarch
fo fydd digon diestyr gantho
dy di yn wir ath holl reso


Offeiriad
Ny wnafi ar hyn moth gyngor
ymay genyfi synwy rhagor
Nyd ydiwr gwr mor gryfwych
Ac y may fo yn y edrych
Dygaf ar ddealld y chwi wir
Nad ydiw r byd ond fentyr


Gwas
wel kymer yddel attad
Nid raid brys i ddrwg farchnad
Nyd da arssaint mor kellwair
Ny chymeran ddim yn ofeir



Yr Effeiriad wrth y Gwr Kadarn


Offeiriad
Trwy ych keniad meistir gwych
ymay gresso yma wrthych
Allawen gan fy nghalon
Gael klowed ych ymadroddion
y gael ym ddysg o newydd
ymhob penn ymay menydd
Ag arhyny ro y chwi r gwin
er annhowsed ych meithrin



Y Gwr Kadarn wrth y yfferiad


Gŵr Cadarn
Goromarsi yttir kydymayth
dros dy lendid ar unwaith
Am dy win mi ai kymera
Nyd wytti onid jawn dda
dyweled di yn ynghwmp <...>


Clown
nad edrych eylldae ond iawn dda


Offeiriad
Ny byddwni gwaeth yrwyn tybio
yn day er amendio


Clown
rhwi allerch fod \r/ howdd gware
ag ateb yn ef mwy thare
a doyd yd yn ddi dda[r]


Offeiriad
Maneg ymi nid ofer
bodd y gelwyr dy feistir
para liw yssy ar y lifray
May yn raid y gynen ddechrey


Gŵr Cadarn
Mastyr mwndws pawb yw alw
Mayn ddigon teg y henw
Ay wnsneythy mawr yw elw
Ac oy fodd ni fyddwni far[w]
Ay lifre yw semyd lliw
Gwcha sieked sy heddiw


Offeiriad
Gweddys yddo fo ywr lifre
Ansafadwy fel ynte
nid abal neb er arfer
a dichell ddal y lopster
Twyllodrys yw dy feister
Ac ann wadal bob amser
Gway yroddo ar no fo bwys
Ac ywrthoto byradwys


Gŵr Cadarn
Nyd wytti onid ethrodwr
fe meistir yw fy swkwr
fy mwkled i am kysgod
yneythyr kam ay wrthod
deythym atto yn dranoeth
yn fab bychan tryan llednoeth
heb un ede amdana
Ac wrth ytt y kyffesa
Ac yrowrossn yrwyfi yn llyn
yddo y diolcha fi fy ffortyn
yn gwissgo melfed a sidan
Gwnaed pawb ymyfi y hamkan
Ar fy holl genedl yma a ben
Ny chymran hwy fi amgen
yrwy fi yn ddigon trythyll
Gwilied pawb ar y kewill
Ny wni beth yw eisiey
Amhyny yrwyti yn ddifai
Kefais gantho ayr a chyfoeth
ddigon o aur achowoeth
Ymay ym bryd y ddilid
Heb geisio moi gyfnewid


Offeiriad
Er maint dy goel di arno
Fe fydd tebig yth dwyllo
A rhoir kyfoeth y arall
Yrwyti yn hir heb ddeall
Ath illwng di oddiwrtho
Fel ag ydoythost i ato


Gŵr Cadarn
Na bych di hapys dy dafod
Am dyddrogan drwg ddowad
yt dehyn y del dyfireyddwyd
Nyd w wyti onyd ffalst broffwyd
nid klaer ymi dy siarad
dy menyd nid yw wastad
kasa dyn yn y farchnad
ydiw genyfi yr effeiriad
Ny allaimwy ddim oth aros
fo las kant yn llai o aros


Offeiriad
y ddihareb hon sydd eirwir
kas pawb lie nichery r
kas gan ffol ddysg achyngor.
Rayd ynfyd gael yragor
Y ddweto r gwir yn rowiog
Knawd yddo gael pen drylliog
fel y mayn eglyrason
Yn siompol y postolion
Mayn raid ytti gonsydro
Ahyn mi safa wrthdo
Na ellidim hyder
Chwaith tra mawr ar dyfeistir
Sef nyd ydiw ef ond ffalstwr
A thebig iawn y bentiwr
Nyd wytithe onid ffol
Am wssnaythyr fath hydol
y niwedd pob peth y may barny
kyffelib fydd ath wady
Mwya gobrwy ytt athal
Ny chysgy di un nos diofal
Ond dy syddo mewn bydding
Athrafferth fawr a hwndring
pob addeiliad yssy serfyll
ynneler un o y towyll
Oddyw oddyw nid wytti ddyn
Am wasnaythy dy elyn


Gŵr Cadarn
Fel gelyn y kymerai dydi
Os wrthyfi felly y doydi
Ny hayddy ti arnafi amgen
onid kaell tori dy dalken
Ath wnethyr di yn siompol
pebai heb fod yn fwy y kost nar trafel
mi a nefais y rwyfin fywmo
lawer dyn yn llai o gyffro.
rhag ofni <...> neyt<...> wyrddrwg


Offeiriad
Ym groes di ac na lafyr
achosba dy ddrwg nattyr
Nag arfer ochreyloni
May ytti beth yw golli
Naddot dy ddawn dros dy ddireidi
Gwyn y fyd y fetro ym gospi
os dy dda y gymryd di yn ddyw
bydd y difar kai ymliw


Gŵr Cadarn
tra feddo i ar ayr athrysor
Nyd raid ymi wrth dy gyngor
Yrwyfi ynmeddy ar ddeg o hafodydd
yrwy fi ar dda yn ddedwydd
Ac ynthyn fil owartheg
be dwedwni chwaneg
Ni wni pwy mewn pwy allan
ymay geni ayr agarian
Ac oddefed ac aneiri
Na wyr neb yrhifedi
Ahobiod gwnion mawr
Allestri arian athryssawr
Adar byd fwy na digon
wrth fodd wllys fynghalon


Offeiriad
Taw ath wag fost rwysg ryfig
nid yw koweth ond benthig
ymay fo yneyddoti heddiw
Nid hwyrach y kay ymliw
yfory yn eyddo arall
Nyd wyti onyd angall
Christ ay galwodd ef yn drain
nid rhaid iti ormod koelfon
Nyd oes llonyddwch meddwl
lie mae koweth ond trwbwl
gida gofal athristwch
o 'r tu miawn heb gael heddwch
Gan gyr a thrafferth y byd
ni chwsg y kwaethog hyn hyfryd
may krist yn hayry hefyd
llyma ddwediad sydd enbyd
fod yn hawssach i fawr gamel
fynd drwy gray ynydwydd ydd gwarel
Na r kywaythog fyned yr ne
May yn orthrwm lawn y geyrie
Gwell yw kyflwr y tlawd diolchgar
0 bydd boddlon efydd gar
01 brinder yssydd gantho
Adiolch yddyw am dano
Dowaid krist drachefen heb dro
dylem bawb i gofleidio
keisiwch i wlad y dernas ne
oflaen dim dy ma y eire ef
Achwi a gewch yma wrth raid
bob peth yfo anghen Raid
bwrwn ar grist bob gofal
Dar byd sydd anwadal
nithal dim moi anwylo
Na rhoi koel nathryst arno
byddwn fodlon yr hwn yfo
diolchwn yddyw am dano
Ac yn ddiddig bob amser
os bychan fydd os llawer
Nyddyle neb onyd efo
Nay foliany nay fowrio


Gŵr Cadarn
Myfi y pie yr hollgwesti
Nyd Raid yneb ond tewi
ymay ympercheni ddigon
o wyr a dyngy nydon
chodai fymys ar amnayd
fe offrymyff pawb y enayd
Mawr ywr gras ar ffortyn
ferodded ymi hyn o dokyn


Offeiriad
nid yw hyn beth yfostio
Ond peth trwm y mofydio
am anog gwyr i nydon
yssy dryan fel all dydion
wrth dyarchiad ath orchymyn
Gwae dydi Rag anffortyn
Gelyn wyt yddi heneydiay
kymer di yn lie Chwaray
yth enaid dy hynan hefyd.
Ykweiriesti wely enbyd
eskelerach yw yr anogwr
Aday gwaeth nor ydonwr
wytti yn tybied y diengi
Rag kael amhyn dy gospi
mae dialedd duw dy wch dy ben
di addyg ddrwg ddiben
krist a fydd barnwr kreylon
ddydd farn ar bob anydon
Ny ddowaid y gwir ddim kelwydd
Ty ar yffern ymay dogwydd
Teimla dy godwybod
Nad ychwant y byd dy orfod
Nag anog neb ynydon
ohyn allan bydd union
Assa di gida chyfiawnder
yneythyr kam ay arfer
As syrth yr etifeirwch
o myni gael dy heddwch


Gŵr Cadarn
yfom tyedd ibob merch wych
o daw arnaf y chwenych
o drachwant yn hayr llydayn
kafi fy wllys am hamkan
gae dy dafod yn segyr


Offeiriad
Gwych yrwyti yn gweithio
dros dy anlladrwydd ynffyno
yffern dowyll ath ayr ky
yrwyti yny ffwrkasy,
Am dwyllo merched gwragedd
Ath ayr mawr ath anwiredd
llwy byr kyfing sy yfyned yr nef
Allydan ywr ffordd yffern lef
haws yw ymellwg tiagowared
Nadringo yr alld ay hyched
y may ar yffern saith borth mowrion
heb wikede ry rwyddion
sef balchedd Hid kenfigen
chwant kybydd dra wrth angen
Glothineb godineb dwys
y beyr kolli pyradwys
Trwy bob un or hain ar lied
y yffern y gellyr myned.
Nyd oes ond un porth yr ne
Ahwn yw krist yn ddie
Yn wir niall neb fynd yno
onyd trwyddo fo dim or paso
Nyd oes deallwnme

1-300301-600