1-300301-600

Y Gŵr Kadarn (c1530)

Anyhysbys, gol. Sarah Beatrice Campbell

Ⓗ 2005 Sarah Beatrice Campbell
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Llinellau 301-600
Offeiriad
yma i neb mor kartre
kawn fyned y naill ay lawenydd ne
Ne y yffern dragowydd le
yn harglwydd krist yn helpy
fo ddychon yn gwaredy.
kredwn gobeithiwn yntho;
Arhown yn koel an pwys arno;
Clodforwn ef ay enw
a diolchwn am yr elw
enillodd tynodd ni allan
o gaeth kaethiwed Sattan
Anrhydeddwn grist Jesy
Ni addylen y gary.
kanwn iddo wiw salme
Amoliant drwy ganiaday
Nyddyle neb onyd y fofawl
na gogoniant tragwyddawl
yddo y perthyn ternas ne
Dygodd ni yr peradwys le
doyeded pawb yma amen
Nato duw chedel amgen


Gŵr Cadarn
doydest yrowran yn drada
yn ddesgedig miath glowa
pe gwneiti ar ol dyddywediad
Miawnawn fwy o goel yffeiriad
oroi geniad ac naddigi
Mi ga ddoydyd peth om fansi
pwy sy rowron mor fydol
Achw chi y gwyr ysbrydol
yn llawn o chwant achebyddra
Allawn ofalchedd athra
odrachwant pryd modd a gwedd
yn priodi rhianedd
Ni ellwchi heb genysgaeth
briodi neb yssowaeth
Chwchwi y pier merched gwchion
Arnoni yr ellygion
ochwant ych perchill gwydde
ych kymdeithas chwi sy ore
yrydech yn rydrwm
yn dryd werthy ych degwm
Trwy gyfiri da ay gelkio
Nychaifdm fyned heibio
heb roddi yr tryan tlawd
Nag elwissen nachardawd
dylech i y perssonied
helpy peth ar y gweinieyd
chwi y ddoy dwch yn dda dros ben
Ac y wnewch ymhell amgen
ych ymorweddiad chwi ach arfer
a ddyle fod yn lanter
i ni yma y llygion
Ac yddangos yffordd inion
Ach gweithredoedd chwi yn deskleirio
y bawb wrth fyned heibio
Ach ateb chwi ymhob lie
yn kyd gordio ach geirie
nid rhwymo y beichie trymion
ai rhoi ar gefner gwenion
Achw chwi ychynayn yn gryfion
yn dwyn y beichie ysgafnion
ydrych wch ar ych siars
ni thal dim gwneythyr migmars
ni fyn duw byw moi fokio
gwiliwch i fod yn digio
yfo ydiw ysgryptiwr yn swm
fo wyr dial yn rydrwm
efo a fedyr hir ddiodde
ag a feder daly hyd adre


Offeiriad
Dyryfedd yr byd fethy
Ayrllwynog syn prygethy
Gwiliwch bawb ar ych gwydde
ag er dolwg kyrchwch nhw adre


Gŵr Cadarn
ymhob gwlad ymegir glew
Gwneythym ytt fwstard rylew
karfym ynrhy dost ar briw
ag am hyny maer ymliw
Nyd odwy fi yn ryfygy
yn derbyn di y bregethy
i geisio gochlyd dy gas
a drachefnet ymhwrpas
Mi ga ffaf ar yrholl swyddogion
Medra i ykymal yn inion
nid oes arnafi ddim gofal
ka wneythyd kam heb ddial


Offeiriad
Gwir iawn tebig ywr gyfrayth
ymay yn dryan hyn yssowayth
y rwyd we adar gopyn
Ny chettyna ond ydilin
Gwybed man yddalhi yndi
ar ednog a dyr drwyddi
kym orthed dyw bob tylawd gwan
y kywaythogion nhwy ymdrawan


Gŵr Cadarn
Mi ga yrwy yn llaw tarth a gwres
Ddig o win ym hwtres
pyr ddeinti fwyd lleseylyd
ffob pob [peth] wrth fyngenfyd
ymay geni ddeg oweission
yn gwisgo lifre gleission


Offeiriad
hawdd yw geny dy gredy
ybod nhwy yn dechre glassy
o eisie bwyd adiod
ni rydd kybydd chwaith gormod
kefaist nef ar yddayar
kyfiawn yw dyw assiomgar
gwilia golli yr ychelfyd
wrth gael yma dy wnfyd
Deal di hyn dy hyn
nachaiff neb un nef ond un
nid oes yt oth holl goweth
ond dy ddillad ath liniaeth
yssydd y bob dyn tlawd
y ssyn byw wrth y gardawd


Gŵr Cadarn
Ay fynghyffly by <&> yrwytti yfeger
Rhaid ytti ddyssgy gwell faner
syn swyddog mawr yn yngwlad
na fid mwy mor fath siarad
ond markia di fyngeirie
mi th ro herwydd dy sodle


Offeiriad
Nyd oes amafi yrowran
fawr oth ofn gwna dy amkan
Raid iti or byd ymadel
mae ar der fyn dy chwedel
dy gyfoeth di aeth ar ben
fo gair ran oth flonhegen
Gwel yrange syndyfod
Nyd oes ytti yma ond diwmod


Gŵr Cadarn
och fine mi ddechry nays
Am dano son pen glowais
yr angredig was kreylon
Gelyn oes abradwr kalon
yspia y diw fo n agos
Nyd raid prydery heb achos


Gwraig
ofenaid kymerwch gyssyr
Chwi orfydd wch ych dolyr
Gwai fifanwyl gedymayth
Nachawni farw ar un waith
y gal ran oth bridd wely
Amaint yrwy yn dygary
Ny bydday fyw fawr ar dol
Ny rodiai yn Iach ddim or heol
Ny welir gwen arfyngene
fy newis gwr yw ange
Ny ffriodai neb ond dayar
Affridd y fydd fy nghymar


Gŵr Cadarn
O tynwch hi oddiwrthy
Anedwch hi att fyngwely
Rhag ofn iddi ffeintio
trymed genthi ymado
Myfi ai gadawa hi yn secktor
Ar fy holl olyd am trysor
os hi haydde arna fi y chary
niwnaeth hi ddim or koegi



y gwsnaethwr ai chariad


Gwasnaethwr
o fenaid tewch asson
ag na thorwch ych kalon
pa les ychwi er krio
Siriwch peidiwch ach wylo
y chwi y gewch ych gwssnaythio
Ar sawl yfynoch ych kary
Ach rwysg ar wyr gwchion
Ac byd wrth fodd ych kalon


Gwraig
0 taw asson ac nag yngan
1 fordd ath di yrwan
kyn glymed darffo i gladdu
Dyred attafi ymgrysymy


Offeiriad
ymay yn dyfod yma gar llaw
Ange nifyne fyned heibiaw
nid a fo adre yn sethrig
rhaid ido gael dy fenthig


Gŵr Cadarn
0 rowch werth mawr yffesygwr
ymi amfod yn helpwr
1 gael enyd fy hoedel
Rag gorfod or byd ymadel


Offeiriad
na feddwl di yr estyner does
duw a ranodd hyd yreinioes
yn dy bechod efoth ddaliwyd
Raid ytti fyned tyar llochriwyd


Gŵr Cadarn
a ga fine fynghoweth
yfynd gida mi ymaeth
mi addygym boen a gofal
wrth y kasgly nhw yn ddyfal


Offeiriad
Ny chei di ddim ond ygymerayst
Raid ytti gado nhwy lie kefaist
Ay roi nhw yfynydd yth feistir
yrhwn arno yroedd dy hyder


Gŵr Cadarn
O gwae ar draws ag arhyd
y gassglo gormodd olyd
pen ddel atto for kledi
fo fydd anoedd roi kyfri
och fi dduw maen idifar
wrth fynigwydd ir ddayar
och na biaswnni gwell yr tlawd
o drigaredd achardawd
na helpaswn bob dyn gwan
kyn myned or byd allan
na naythwni lai o ddrwg
fyngelyn i oedd fyngolwg


Offeiriad
fo fydd yn rowyr ettifary
erstalm dylasyt hyny
pen oyddyti yn ry greylon
yn kospi yma tlodion
Dwyn dar tryan aychwenych
Agwneythyr drwg yn fynych
kam arfer dy fawr goweth
trwy neythyr trwm ansyrieth
Mayn raid itti heb Rymedi
fyned yninion y boini


Gŵr Cadarn
krist iesu oth ddaioni
Tostiria wrth fyngledi
ystyn dylaw, moes dynerth
Ac nacholl di dy bridwerth
O llawn wyt odrygaredd
pob kadarn gwan yddiwedd


Offeiriad
byost gebydd kywaythog
ag erioed yn anrrigarog
ti a gai yr owan wrth dangen
yr un fessyr ar un llathen


Gŵr Cadarn
Archaf yddyw fy helpy
y gwir nid neges gwady
os miafym yn ddigon drwg
Ar y tlawd yn dal kilwg
ond trech yw dyw oy drigaredd
Ayddioddefaint nam kamwedd
er dowad amafi bechy
duw naddo ro fi y fyny
wrth fy nghyflwr tostiria
Naddala fi ar y gwayth
Gollwng drosgof fymhechod
yr hwn y brynaist na wrthod
ath wRth fawr waed trwy ddiodde
Archollion nyd drwy Chware
Gyda hoylio dy draed ath ddwylo
dy brik breny ath skyrsio
Gyryr pige drain yth ben
er helpy dyn wrth angen
An tyny ni gaethiwed
onid krist nid oes ymwared
odduw kymer fymharti
Had fi rrag mynd i boeni


[Rhagor o destun i'w ychwanegu]


1-300301-600