1-300

Y Dioddefaint (c1552)

Anyhysbys, gol. Gwen Ann Jones

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Llinellau 1-300

Llyma y dioddefaint yngymraec ar englynion gair kyrch ynessa i gallwyd wrth ddysc a synwyr a dyallt ai droior llading ynghymraec ac llyma i dechrav ynhwy yn enw duw

Y kenadwr
1. Tewch ach siarad a gwrandewch
am y chwedyl mawr meddyliwch
hen ag ífaink yn ych sswydd
ychware ich gwydd a welwch

2. Ssuddas dravtvr yn llawen
gwerthodd Jessu heb amgen
jr twsogion pena yn y tir
yn wir er dec ar hvgaen

3. Jessu o nassreth daliasson
y gwyr ar arfe krevlon
hyd at anas essgob ffraeth
mewn rwym kaeth anvonason

4. Negis ffelwn wr gorwlad
drwy gael ysgorn a mokiad
danvoned essgob anas
at gayffas heb ddim kariad

5. Ssyr keyffas lle i denvonen
j gynghorwyr mawr adwaenen
danvonen at beilatvs
ywchel ievstvs kaer sselen

6. Yw farnv yn varwol daith
wrth ddefod ievstvs vnwaith
am fod Jessu yn draetvr yn
yn ddyn yn erbyn kyfraith

7. (Ssyr pilad jestys gwrol
vn y arfe yrddasol
aeth yw noyadd val i gwn
y dydd hwn anrydeddol)

8. Jessu kyrchwyd geir i vron
j edrych i weithredon
ac erdolwyn y bobloedd tewch
a gwrandewch i atebion


Syr Peilad
9. Rowch ych holl ddyallt chwi
atavi jestvs peilad
arglwiddi ychel ystad
gwrandewch vi drwy vawr cariad

10. Kanys myfi ysydd yn dala r kledd
o gyfiownder a mowredd
dan ssissar brenin kadarn
ac yn rroi barn brenhinedd

11. Ac am hyn idd wi yn gorchymyn
ssirif a sserssiant danvn
y ddwyn y kyrcharwyr ger vy mron
j roi kyfreithie vddyn


Yr Iddew Kyntaf
12. Anrydeddvs yn ich kaid
syr peilad jestys kadarn blaid
dissmas dessmas barbas
yssy yn van draetiriaid

12a. Chwchwi swyddwyr kyfraeth ffraeth
ich pwer i mae penaeth
gwybyddwch ar vyrr varny
ar yr jessu o nasraeth


Yr Ail Iddew
12b. Kans meddyliodd grogin jaith
a throi yn nasiwn ei kyfraith
a thyny yn pobol oi gradd
moeswch i ladd ar vnwaith


Y Trydydd Iddew
12c. I maen gwneythyr ymddiddanon
in pobol gredyn ffyddlon
ac yn dwedyd mai mab duw
a brenin yw iddewon


Y iiij Iddew
12d. Nid ofne ef bregethy
am hyn ir ym yw farny
i vyrhav i hoedel ai oes
ar y groen i derfyny


Syr Peilat
12e. Chwi r iddewon dowch garbron
ar jessu rowch arwyddion
a dangoswch ym i waith
mi a rof ywch gyfraith inion

12f. Gwybyddwch ym llys varny
wrth vraint gweryd a gally
a gwybyddwch eto pam
Rac roí kam varn ar jessu


Yr Iddew Ail
13. Gwrandewch ievstys arnomi
ller ymi yn deisif ichwi
heddiw yw yn pasc ywchel ddydd
ynyd yw yn Rydd ini i dori


Syr Peilad
14. Pa draetyriaeth achosion
o vlaen ystadawl ddynion
a ellwchi brofi yn wir
ar jessu o dir yr iddewon


Yr Iddew Kyntaf
15. Oni bai vod i traetyriaeth
yn i veddwl traws Ryfeddaeth
ni ddygesym fe yr awr hon
gar bron ych arglwyddieth


Syr Peilad
16. Kymerwchi ef eilwaith
dan ych power ar vnwaith
a rhowchi y farn arno
megis i bo ych kyfraith


Yr Ail Iddew
17. Nid yw gyfion i nyni
wrth gyfraith ladd na llosgi
na dwyn neb i gael angav
ond kadarnhav kyfreithiav


Syr Peilad
18. Jessu o nassreth gair ymron
kyfod dy law yn inion
a dywaid wir wrthyfi
wyd ti vrenin iddewon


Jessu
19. A wyd ti yn dywedyd hyn yn ffraeth
wrth dy veddwl natyriaith
pa vn ai kael gan arall
val angall wybodaeth


Syr Peilad
20. Jessu gwrand o vatebion
nid vy ngwaed i yw r iddewon
dy bobyl ath gynhedlaeth
yn ffraeth ath gyhyddason

21. Ac ymeddiant ith roeson
dywaid ym eiriav inion
ai brenin iddewon wyd
ai nad wyd moes atebion


Jessu
22. Pei hanffwn i or wlad hon
o rywogaeth iddewon
vy ngwyssnaythwyr a ymladd
kyn ím poynaer gwyr o radd

23. Or achos hyn níd wyvi
o gynhedleth yrheni
ac ni bv ingychwniad
ich gwlad ni chefais barch ynddi


Syr Peilad
24. Er nad ydiw dy wreiddin
or wlad yma nath veithrin
mi a ddyweda chwedyl gwir
mewn ryw dir ir wyd vrenin


Jessu
25. Ydd wyd ti yn y ddweydyd oth dafod
yn ryw le yn vrenin vy mod
j hyny j m ganed i ir tir
a thi yn wir a gai wybod

26. Fy siwrnai a gymereis
jr byd hwn penn imroddais
j ddwyn tyst ar wirionedd
nid balchedd a gymerais

27. Dal gida gwirionedd
a chida baraint a rhinwedd
ac yn wirion er i mwyn
jr wyvi yn dwyn kynawd daiaredd


Syr Peilad
28. Gwelwch nad wyvi iddewon
yn kael achos gyfreiddlon
j dyly Jessu o nassreth
ddwyn marvoleth grevlon


Yr Iddewon
29. Hyn yw yn kostwm ni gwrandewch
bob pasc os gofynwch
y gwr ssydd ei alw gar bron
brenin iddewon kymerwch

30. Drwy lan gymod ac vrddas
o chawn dravtvr i gael gras
kymerwch jessu ichwi
ni cheissiwni ond barabas


Syr Peilad
Myn mahownd yr iddewon
cchi vynwch roi gwr gwirion
j varfolaeth ar ysgroes
er nad os dim achosion

32. Nid wyvi yn kael achosion
j roi jessu yn gyfreithlon
moeswch ym ddwr i molchi
y mae r gwr yma yn wirion

33. Mi a molchais nid wi waeth
vy nwylaw ei waedolaeth
ni ellais i gydgordio
na chytvno varfolaeth


Yr Iddewon
34. Nage gedwchi i waed efo
arnomi an plant i ssyrthio
a rowch veddwl ych penaeth
a bernwch y varfolaeth


Syr Peilad
35. Er vy mod yn wr pena
a bod yn Roi kyfraith arna
y mae vo yn wr gwirion
ar awr hon mi ai kadwa


Yr Iddewon
36. Nid ydychithe gowir ych rin
j gyfraith ssisar yn brenin
mae yn gwnvthyr tresswn heb gel
ai alw yn vchel vrenin


Syr Peilad
37. Paham chwi gewch iddewon
weled vy ngally krevlon
dywevdwch ym ych myddyliav
y gwblav ych wllysiav


Yr Iddewon
38. Peilatvs jestvs kadarnaf
dan ssisar y gwr penaf
y mae vo yn dywevdvd ffalstwr yw
mae vo yw mab duw gorycha

39. Chwchi yssydd ievstvs geirwir
ych kadarnhav yn gelwir
pob dyn a wnel kamwedd maith
wrth ych kyfraith i treir


Syr Peilad
40. Paham nad wyti yn traythv
pa le ith enw di jessu
mae imi yr vn a vynwy ym gradd
ai dy ladd ai dy farnw

1-300