Ciw-restr

Pobl yr Ymylon

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 24)

(1, 0) 1 Sgubor Cefn Eithin, Llanfair Moyddin, fore Sadwrn yn yr Haf.
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 Y mae muriau ysgubor yn wynebu'r edrychwyr.
(1, 0) 4 Yn y cornel i'r dde y mae cryglwyth mawr o wellt, ac y mae gwellt hefyd mewn anhrefn ar y llawr.
(1, 0) 5 Yn y pen nesaf i'r edrychwyr o'r mur ar y ochr chwith y mae drws yn arwain allan.
(1, 0) 6 ~
(1, 0) 7 Cyfyd y llen a neb i'w weled ar y llwyfan.
(1, 0) 8 Cedwir ef felly am ychydig amser, nes bod y gyunlleidfa ar fin anesmwytho.
(1, 0) 9 Yna sylwir ar ryw aflonyddwch yn y gwellt tua chanol y llwyfan, a gwelir pen a pheth o gorff dyn ifanc yn ymddangos.
(1, 0) 10 Pan ddel cyfle i sylwi ar ei ddillad gwelir nad ydynt o ddeunydd da iawn, a bod llaid ac ôl cerdded arnynt, eithr nad ydynt yn hollol mor wael â rhai crwydryn cyffredin.
(1, 0) 11 Y mae iddo wyneb agored, pleserus, llygaid gleision, a gwallt du, cyrliog.
 
(1, 0) 14 Y mae aflonyddwch eto yn y gwellt a'r tro hwn ymddengys pen dyn tua thrigain a phump oed.
(1, 0) 15 Y mae mwy o awyrgylch y gwir dramp o gylch hwn.
(1, 0) 16 Y mae ei ddillad yn awgrymu'r coed-foneddig - yn ymbil am barch, ond yn methu a'i gael.
(1, 0) 17 ~
(1, 0) 18 Y mae ei wyneb hefyd yn gyd'wedd â'r dillad - wyneb mawr, crwn, llawn profiad o ymylon bywyd a direidi, a llinellau cyfrwys yn ymddangos oddeutu'r llygaid pan fo'n chwerthin.
(1, 0) 19 Y mae ei farf "gafr" a'i wallt ac aeliau trwchus yn frith.
(1, 0) 20 ~
(1, 0) 21 Gwelir ei fod yn hoffi'r dull "pregethwrol" o lefaru pan fo wrth ei fodd, eithr dylid gwahaniaethu rhwng hyn a'r "hwyl" a ddaw i'w leferydd yn nes ymlaen.
(1, 0) 22 Cyfyd o'r gwellt yn fwy disymwth na Dafydd, a daw ei eiriau cyntaf yn fuan ar
(1, 0) 23 ôl rhai Dafydd.
 
(1, 0) 117 Edrych Malachi yn synfyfyrgar am ysbaid.
(1, 0) 118 Yna daw gwawr o ddeall cyfrwys i'w wedd.
(1, 0) 119 Ysgwyd ei ben yn araf a dyry fath ar winc.