Ciw-restr

Pros Kairon

Llinellau gan Mac (Cyfanswm: 294)

 
(1, 0) 30 Palas, ar fenaid i!...
(1, 0) 31 Be wyt ti'n 'i ddweud?...
(1, 0) 32 E?
 
(1, 0) 36 Agos atat ti.
 
(1, 0) 38 Ia, dyna'r gair,─cartrefol.
(1, 0) 39 Fel tae o wedi'i wneud inni.
(1, 0) 40 A'r dodrefn─edrych ar y dodrefn.
 
(1, 0) 42 Dyma iti goedyn!
(1, 0) 43 E?
(1, 0) 44 Coedyn gwerth chweil.
(1, 0) 45 Heb gainc na thwll pry.
(1, 0) 46 Mae o fel melfed.
(1, 0) 47 A graen arno fo fel be-wyt-ti'n-alw, fel cefn macrell.
 
(1, 0) 49 Gwaith llaw, 'sti.
(1, 0) 50 Llafur cariad.
(1, 0) 51 Crefftwr.
(1, 0) 52 'Dydyn nhw ddim yn gwneud dodrefn fel hyn heddiw.
 
(1, 0) 54 Cadeiria reit solet hefyd.
 
(1, 0) 56 Ia, solet iawn.
 
(1, 0) 59 Eisio hoelen neu ddwy efalla.
(1, 0) 60 Ond pethma bach ydy hynny─
 
(1, 0) 62 E?
 
(1, 0) 64 Fel sipsiwn, ia.
 
(1, 0) 66 Cartre am y tro cynta...
(1, 0) 67 Sut mae deall y Drefn, sgwn i!
 
(1, 0) 69 Ia, wyddost ti─petha.
(1, 0) 70 Sut mae deall petha?
 
(1, 0) 75 E?
(1, 0) 76 Wyt ti'n meddwl?...
(1, 0) 77 Ia, dodrefn gwerth chweil.
(1, 0) 78 Gwaith crefftwr, digon hawdd gweld.
(1, 0) 79 A dyna iti beth arall...
 
(1, 0) 81 Dewcs annwyl!
 
(1, 0) 84 Dewcs annwyl!
 
(1, 0) 89 Dewcs, wyddwn i ddim 'chi.
(1, 0) 90 Hynny ydy 'doeddwn i ddim wedi'ch gweld chi yn fan'na.
(1, 0) 91 E?
(1, 0) 92 'Doeddwn i ddim yn meddwl...
(1, 0) 93 O'r Swyddfa 'rydych chi, decini?...
(1, 0) 94 Hynny ydy, wedi dwad yma i be-ydach-chi'n alw?
 
(1, 0) 96 Mi ddywedodd y dyn rywbeth, wyt ti'n cofio?
 
(1, 0) 98 Wel, mae'n dda gen i'ch cyfarfod chi...
(1, 0) 99 Mac ydy'r enw.
(1, 0) 100 A dyma'r wraig, Sadi.
(1, 0) 101 Mae'n siŵr iddyn nhw sôn wrthych chi amdanom ni.
(1, 0) 102 Hynny ydy, yn y Swyddfa yna?
 
(1, 0) 105 Pwy,─dyn y Swyddfa?
 
(1, 0) 107 E?
(1, 0) 108 Wel, dweud wnaeth o.
(1, 0) 109 Hynny ydy...
 
(1, 0) 111 Ia, eistedd di i lawr.
(1, 0) 112 Mae'n siŵr dy fod ti wedi blino...
(1, 0) 113 Heb gael gorffwys yn iawn ers tro byd, wyddoch chi, Mr...?
(1, 0) 114 Mr...?
(1, 0) 115 Wel, mi wyddoch fel mae hi wedi bod arnom ni yn y wlad yma.
(1, 0) 116 Yr holl drybini a'r tryblith a─
 
(1, 0) 118 E?
 
(1, 0) 120 O, ia?...
(1, 0) 121 Dewcs!
(1, 0) 122 Ond fel roeddwn i'n dweud Mr. Martin, digwydd troi i'r Swyddfa wnes i, y bore yma.
(1, 0) 123 Busnes preifat.
(1, 0) 124 Hynny ydy, wel, newid ein cardia.
(1, 0) 125 Mi wyddoch mor bwysig ydy cael eich cardia'n iawn.
(1, 0) 126 A dyma'r dyn yn gofyn imi, hynny ydy, cynnig swydd imi.
(1, 0) 127 'Wel', medda finna, 'mae'n dibynnu', medda fi.
(1, 0) 128 'Ar natur y gwaith', medda fi.
(1, 0) 129 'Hynny ydy', medda fi, 'be fyddwn i'n 'i wneud?', medda fi.
 
(1, 0) 131 E?...
(1, 0) 132 Tybed?
 
(1, 0) 135 Reit.
(1, 0) 136 Ble 'roeddwn i?
(1, 0) 137 O ia.
(1, 0) 138 'Dim ond byw mewn tŷ', medda fo.
(1, 0) 139 'Tŷ sy'n perthyn i'r Swyddfa yma.
(1, 0) 140 Byw ynddo fo, a'i gadw fo'n dwt ac yn lân.
(1, 0) 141 Gwneud eich cartre ynddo fo.
(1, 0) 142 Ei ddefnyddio fo'n ôl eich doethineb', medda fo.
 
(1, 0) 146 'Am amser amhenodol', medda fo wedyn.
(1, 0) 147 Mae'n debyg bod arnyn nhw eisio'i gadw fo'n barod rhag ofn,─wel, ar gyfer rhywbeth neu'i gilydd.
(1, 0) 148 Er na ddwedodd o ddim am hynny, cofiwch.
 
(1, 0) 150 Wel nid pob dydd y cewch chi gynnig fel yna.
(1, 0) 151 A rydyn ni wedi blino crwydro.
(1, 0) 152 Mae ar bawb eisio rhoi gwreiddia i lawr yn y diwedd.
(1, 0) 153 Hynny ydy, gwneud cartre, ac ati.
 
(1, 0) 155 Y cynta erioed.
(1, 0) 156 Wel, fel y dwedais i, mi wyddoch fel y mae wedi bod arnon ni yn y wlad yma.
(1, 0) 157 Chawson ni ddim cyfle o gwbwl...
(1, 0) 158 Wnewch chi ddim eistedd am funud, Mr. Martin?
 
(1, 0) 160 Go brin y medrwn ni gynnig paned o dê ichi.
(1, 0) 161 Hynny ydy, wyddon ni ddim ple mae'r gegin eto!
 
(1, 0) 167 Maen debyg y byddwch chi'n dwad i'n gweld ni o bryd i'w gilydd, Mr. Martin?
 
(1, 0) 170 E?
 
(1, 0) 174 O?
(1, 0) 175 Ia wel, dyna ni.
(1, 0) 176 Mae hynna'n ddigon teg...
(1, 0) 177 Ac wrth gwrs, mi wnawn ein gora glas, fel y dywedais i wrth y dyn...
 
(1, 0) 179 Mae modd ei wneud o'n lle bach digon be-ydach-chi'n-alw...
(1, 0) 180 Beth oedd o, dwedwch─hen stordy neu rywbeth?
(1, 0) 181 Ac eto mi fuo fo'n dŷ i fyw ynddo fo unwaith.
(1, 0) 182 Mi welais i'r enw wrth ochr y drws.
(1, 0) 183 Enw digon od ydy o hefyd,─ Pros... Pros...
 
(1, 0) 185 Ia, dyna fo.
(1, 0) 186 Pa iaith ydy honno, sgwn i?...
(1, 0) 187 Wrth gwrs, mi fydd yma ddigon i' wneud.
(1, 0) 188 Yn ara deg y daw o a─
 
(1, 0) 190 E?
 
(1, 0) 193 O?
(1, 0) 194 Dewcs!...
(1, 0) 195 Be mae on 'i feddwl, sgwn i?
(1, 0) 196 Mae yna ryw ystyr iddo fo, decini?...
(1, 0) 197 Peth rhyfedd ydy enw 'te!
(1, 0) 198 Unwaith rydych chi'n rhoi enw i rywun ne rywbeth mae ganddo fo afael arnoch chi, rywsut.
 
(1, 0) 200 E?
 
(1, 0) 202 Naddo, 'chi.
(1, 0) 203 Dim o gwbl.
(1, 0) 204 Wnaeth y dyn ddim gofyn imi...
(1, 0) 205 Ydych chi am imi arwyddo rhywbeth?
 
(1, 0) 208 Dewcs, tybed?
 
(1, 0) 210 'Rydych chi'n iawn ar f'engoch i.
(1, 0) 211 Ond mater bach fydd setlo hynny.
 
(1, 0) 213 Mae yna gytia defnyddiol i lawr acw.
(1, 0) 214 Rhai mawr hefyd.
(1, 0) 215 Hen stablau ac ati, mae'n debyg.
(1, 0) 216 Mi fedra i wneud defnydd o'r rheina.
(1, 0) 217 Hynny ydy, mi fydda'n bechod eu cadw nhw'n wag...
(1, 0) 218 Ydych chi'n siŵr na wnewch chi ddim eistedd, Mr. Martin?
 
(1, 0) 221 E?
 
(1, 0) 223 O ia, yn hollol.
(1, 0) 224 Ei gadw fo mewn trefn.
(1, 0) 225 A mi fyddwn ni'n siŵr o wneud, peidiwch â phryderu!
(1, 0) 226 Mi fydd y wraig wrthi, gyda hyn, fel mam y cnafon.
(1, 0) 227 A minna'r ochr arall fel dyn yn lladd nadrodd!
(1, 0) 228 O, mi edrychwn ni ar 'i ôl o!...
(1, 0) 229 Mae croeso ichi eistedd, Mr. Martin.
(1, 0) 230 Ond mae'n debyg eich bod yn ddyn prysur ac eisio mynd, ac ati.
 
(1, 0) 232 E?
 
(1, 0) 234 Na, dydy o ddim, 'rydych chi yn llygad eich lle...
(1, 0) 235 Y peth cynta fyddwn ni'n 'i wneud rŵan fydd dadbacio.
(1, 0) 236 Dyma hynny sydd gennym ar ein helw, Mr. Martin.
(1, 0) 237 Yn yr hen gas yma.
(1, 0) 238 Y cyfan o'n heiddo yn y byd mawr yma'n grwn.
 
(1, 0) 240 E?
(1, 0) 241 Na fydd, digon gwir.
(1, 0) 242 Hynny ydy, 'rydyn ni wedi bod yn hynod o lwcus...
(1, 0) 243 Arhoswch am funud, Mr. Martin, imi alw ar y wraig.
 
(1, 0) 245 Sadi!
(1, 0) 246 Sadi!
(1, 0) 247 Tyrd, mae Mr. Martin ar fynd...
 
(1, 0) 249 Fydda yna ddim tewi arni tawn i'n gadael ichi fynd â hitha ddim yma...
(1, 0) 250 Petha od ydy merched.
(1, 0) 251 Hynny ydy, 'dydyn nhw ddim 'run fath â ni, ddynion.
(1, 0) 252 Mae nhw mor be-ydych-chi'n-alw a chyfnewidiol.
(1, 0) 253 Fel ceiliogod-gwynt, neu ieir-gwynt yn hytrach!
(1, 0) 254 Rhaid bod yn ofalus sut 'rydych chi'n eu trin nhw, ne mae hi'n siop-siafins ar unwaith!
 
(1, 0) 256 Mr. Martin, Sadi─mae o ar gychwyn.
 
(1, 0) 258 Ia, wel, fedrwn ni wneud dim ond diolch ichi, Mr. Martin.
 
(1, 0) 260 Ac os digwydd ichi ddwad i'r cyffinia yma, dowch i'n gweld ni.
(1, 0) 261 Mi gewch paned bryd hynny, reit siŵr.
 
(1, 0) 265 Ia wel, chi sy'n gwybod, Mr. Martin.
(1, 0) 266 Hynny ydy... ac fel dywedais inna o'r blaen, diolch o galon ichi.
 
(1, 0) 268 A phob hwyl ichi.
 
(1, 0) 273 E?
(1, 0) 274 Wel ia.
(1, 0) 275 Ond eto'n ddigon tawel; digon di-ffwdan.
 
(1, 0) 277 Twt, ti syn dychmygu petha'...
(1, 0) 278 Tae waeth, mae o wedi mynd.
(1, 0) 279 Welwn ni mono fo eto...
(1, 0) 280 Wel, be wyt ti'n feddwl o'r lle.
(1, 0) 281 Ydy o'n plesio?
(1, 0) 282 E?
(1, 0) 283 E?
 
(1, 0) 288 Toc.
 
(1, 0) 290 Toc.
(1, 0) 291 Tamaid o fwyd yn gynta.
(1, 0) 292 Fedra i ddim symud heb damaid o fwyd.
(1, 0) 293 Bron llwgu.
(1, 0) 294 Fy stumog i,─mae hi fel crempog ar fas cefn i.
 
(1, 0) 300 A photel o win, 'rhen chwaer!
 
(1, 0) 306 Hidia di befo ble ges i hi.
(1, 0) 307 Mae hi yma.
(1, 0) 308 Aros.
 
(1, 0) 311 E?
(1, 0) 312 Dim ond am funud.
 
(1, 0) 315 Hwyrach y cawn ni gyfle rŵan i wisgo rhai o'r rhain.
(1, 0) 316 E?
(1, 0) 317 Wedi'r cyfan, rhaid inni drio byw yn ôl ein safle newydd.
 
(1, 0) 336 Wel, mae'n rhaid inni drio bod yn barchus rŵan, fel pawb arall...
(1, 0) 337 Mae'r hen gloc yma wedi mesur dipyn go lew o'n hoes ni.
(1, 0) 338 E?
(1, 0) 339 A hynny heb nogio unwaith.
 
(1, 0) 343 Ffyddlon, a be-wyt-ti'n-alw, didrugaredd...
(1, 0) 344 Sôn am grefydd, dim ond tri chwestiwn sylfaenol sydd yna, 'sti.
(1, 0) 345 O ble y daethon ni?
(1, 0) 346 Be ydyn ni'n i wneud yma?
(1, 0) 347 A, i ble rydyn ni'n mynd?
 
(1, 0) 349 E?
 
(1, 0) 352 Ia, fel ro'n i'n dweud, chwilio am ateb i'r tri chwestiwn yna ydy swm a sylwedd pob crefydd ac athroniaeth, 'sti.
(1, 0) 353 Ffaith iti...
(1, 0) 354 Duwcs, mae'r corcyn yma'n be-wyt-ti'n-alw...
(1, 0) 355 A, dyna fo!...
(1, 0) 356 Rŵan...
 
(1, 0) 358 Gwaed a gwlith a chusan yr haul!
 
(1, 0) 360 Hidia befo.
 
(1, 0) 362 Yr un ydy'r awch.
 
(1, 0) 365 Does yna ddim tebyg i gaws i ddenu'r blas o'r gwin!
 
(1, 0) 367 Dweud roeddwn i─dim tebyg i─
 
(1, 0) 369 E?
 
(1, 0) 371 Caws,─dim tebyg iddo fo i hudo'r blas o hanfod y gwin.
 
(1, 0) 373 Ia, rwyt ti yn llygad dy le.
(1, 0) 374 Dwy ochor i'r un gwirionedd...
 
(1, 0) 379 Taw â sôn!
(1, 0) 380 Twt twt!
(1, 0) 381 E?
 
(1, 0) 383 Ia, mae'n anodd credu.
(1, 0) 384 Ond fel y dwedaist ti gynna, pa ddiben dyfalu?...
(1, 0) 385 Chwaneg o win?
 
(1, 0) 388 Melys moes mwy!
 
(1, 0) 390 Wyt ti wedi edrych allan yna?...
(1, 0) 391 Tyrd at y ffenast am funud.
 
(1, 0) 393 Tyrd.
 
(1, 0) 396 Weli di?
(1, 0) 397 Gardd!
(1, 0) 398 Chwarter acer os ydy hi lathen sgwâr.
 
(1, 0) 401 Eitha da...
(1, 0) 402 Hynny ydy, go lew.
(1, 0) 403 Ond mae yna bosibiliadau dirifedi.
(1, 0) 404 O, mi ydw i'n ysu i fynd ati!
(1, 0) 405 Ffaith iti,─ysu.
(1, 0) 406 Wyt ti'n gweld lawnt yna, ryw ddiwrnod?
(1, 0) 407 Lawnt fel─fel darn o felfed gwyrdd!
 
(1, 0) 409 Rhosynnau a pherlysiau!
 
(1, 0) 411 A Thresi Aur!
(1, 0) 412 A Blodau'r Cledd!
 
(1, 0) 414 Dyn yn ei ardd,─pinacl gwareiddiad!
 
(1, 0) 416 Cytia,─hen stablau ac ati.
(1, 0) 417 Digon o le...
(1, 0) 418 Wyddost ti be ddwedais i o dan fy ngwynt pan welais i nhw gynna efo Mr. Martin?
 
(1, 0) 420 Ieir!
(1, 0) 421 Dyna be ddwedais i,─Ieir!
 
(1, 0) 425 Ia, cadw ieir.
(1, 0) 426 Bugeilio da-pluog.
(1, 0) 427 Cyfuno proffid a phleser.
(1, 0) 428 'Defnyddio'r lle yn ôl ein doethineb', ─dyna ddwedodd o.
(1, 0) 429 Dyna'r amod.
(1, 0) 430 Fedra i feddwl am ddim gwell, fedri di?
 
(1, 0) 432 Pleser a phroffid!
(1, 0) 433 Wya a chig a phlu i'r gobennydd!
(1, 0) 434 Heb sôn am eu cwmni tra byddan nhw'n fyw...
(1, 0) 435 Beth wyt ti'n feddwl o'r syniad?
 
(1, 0) 443 A'r ceiliog?
 
(1, 0) 445 O?
 
(1, 0) 450 Wya, a chig a phlu i'r gobennydd.
 
(1, 0) 455 Twt, twt!
 
(1, 0) 457 E?
(1, 0) 458 Mae gen ti ormod o be-wyt-ti'n-alw dychymyg, 'sti.
(1, 0) 459 Hynny ydy... ia, wel... rhaid imi fynd i weld y stafelloedd eraill yna rŵan.
 
(1, 0) 461 E?...
(1, 0) 462 Pam?
 
(1, 0) 464 Be wyt ti'n 'i feddwl, 'tywyll'?
 
(1, 0) 466 Ond mae yna ola yma!
 
(1, 0) 468 Dewcs!
(1, 0) 469 Dim bylbia, mae'n debyg...
(1, 0) 470 O wel, mi ga i eu setlo nhw fory.
(1, 0) 471 Haws gwneud yng ngola dydd...
(1, 0) 472 A pheth arall, mi ydw i wedi hen flino heno.
 
(1, 0) 474 E?
(1, 0) 475 Ia, hwnnw hefyd...
(1, 0) 476 O wel, gorffwys amdani.
 
(1, 0) 478 Be wyt ti'n 'i feddwl?
 
(1, 0) 481 Hidia befo.
(1, 0) 482 Esmwyth cwsg potas maip.
 
(1, 0) 484 Os na fyddwn ni, wnawn ni ddim poeni rhyw lawer!
 
(1, 0) 486 Pa gadair gymeri di?
 
(1, 0) 489 Ia, digon gwir.
(1, 0) 490 Mi gymera i hon felly...
 
(1, 0) 492 Dewcs, mae hi'n oer!
 
(1, 0) 494 Syniad da.
 
(1, 0) 499 Fedra i ddim cysgu efo nhw am fy nhraed.
(1, 0) 500 Mi wyddost ti hynny'n iawn.
 
(1, 0) 506 Gwynt oer ar fy mhen i.
 
(1, 0) 508 A, dyna welliant!
 
(1, 0) 510 Wyt ti ddim wedi blino, dwed?
 
(1, 0) 514 Cyffyrddus?
 
(1, 0) 516 Mi newidiwn ni gadeiria os mynni di.
 
(1, 0) 518 Ia, wel, ti sydd i ddweud.
 
(1, 0) 520 Mi gei di newid toc os byddi di'n teimlo felly.
 
(1, 0) 522 Dim ond iti wybod,─dyna oedd gen i.
 
(1, 0) 524 Nos dawch.
 
(1, 0) 528 Ia?
 
(1, 0) 530 E?
 
(1, 0) 548 Reit...
(1, 0) 549 Wel, nos dawch eto.
 
(1, 0) 552 Wyddost ti be, tawn i'n ddyn crefyddol...
 
(1, 0) 554 Tawn i'n ddyn crefyddol, diawch synnwn i flewyn na fyddwn i'n gweddïo heno!