Sibrwd yn y Nos (1998)

Noël Greig
add. Siôn Eirian

Ⓗ 1998 Siôn Eirian
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.


Testun llawn Sibrwd yn y Nos



Manylion

Sibrwd yn y Nos, gan Noël Greig. Addasiad Cymraeg gan Siôn Eirian.

Cyhoeddwyd y ddrama dan y teitl Nid Ar Efallai Bach a olygwyd gan Eirwen Hopkins, gan Gyngor Celfyddydau Cymru (1af Ionawr 2005).

All rights strictly reserved.


Cymeriadau


Alff
Patshyn
Alff a Patshyn
Sosban
Sosban a Patshyn
Y Tri
Y Ferch
Beth
Pawb
Corws
Llais


Perfformiadau

Addasiad yw hwn gan Siôn Eirian o ddrama Noël Greig Whispers in the Dark a gomisiynnwyd fel cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Iolo a Theatr Gwent ym 1998 ac a berfformiwyd am y tro cyntaf gan Theatr Iolo ar 29ain Medi 1998 yn Ysgol y Wern, Llanishen, Caerdydd gyda’r cast canlynol:

Alff Linda Owen Jones
Patshyn Emyr John
Sosban Dyfrig Morris
Beth Liz Armon-Lloyd
Cyfarwyddwr Erica Eirian
Cyfansoddwr a Chyfarwyddwr Cerdd Paula Gardiner
Cynllunydd Andrew Harrison
Rheolwr Llwyfan Catherine Husband


Gair am Sibrwd Yn Y Nos

Drama hudolus gyda chaneuon yw hon sy’n adrodd hanes tri storiwr teithiol, Sosban, Patshyn ac Alff, a’u hymdrech i gadw eu straeon a’u caneuon yn fyw, ac ymgais Alff i ffeindio ei chwaer fach goll.

Ysbrydolwyd Noël Greig i sgrifennu’r ddrama wedi iddo ddarllen am yr “athrawon bon clawdd” yn Iwerddon yn y ddeunawfed ganrif. Gan fod y Saeson wedi gwahardd dysgu Gaeleg a thraddodiadau Gwyddelig byddai’r athrawon hyn yn teithio’u cymunedau gan gasglu’r trigolion ynghyd mewn llecynnau cudd a throsglwyddo’u dysg drwy “sibrwd yn y nos” fel petae.

Wedi ei lleoli mewn gwlad amhenodol, mae ei ddrama yn adleisio profiadau sawl diwylliant, ac fe’i perfformiwyd mewn gwledydd ar draws y byd.

Gyda sel bendith Noel trawsleolodd addasiad Siôn Eirian y ddrama i dir Cymru. Gan ddefnyddio iaith fyddai’n addas ar gyfer Cymry Cymraeg ac ail iaith, mae’r tri storiwr yn cadw eu hiaith, eu straeon a’u caneuon yn fyw. Saesneg yw iaith ein cawr ni ac yn ein cynhyrchiad ni roedd ei gwisg yn awgrymu athro Fictorianaidd o gyfnod Brad y Llyfrau Gleision a’r Welsh Not.

Un tro roedd pawb yn y wlad yn hapus, yn adrodd straeon,
yn canu caneuon, yn cadw ein hanes ni’n fyw.
Wedyn daeth y cewri...”

Ar gyfer oedran 6 i 9.

Erica Eirian, Cyfarwyddwr (1998)