| (1, 0) 957 | Fy Nhad a'm Brenin! |
| (2, 1) 1028 | Yn ara' deg, frawd bach, yn ara' deg! |
| (2, 1) 1029 | Y mae ailddechrau rywbryd ar bob chwarae, |
| (2, 1) 1030 | —Ar chwarae gwyddbwyll ac ar chwarae teyrnas. |
| (2, 1) 1031 | Mynwes yr ynfyd sy'n coleddu siom |
| (2, 1) 1032 | Y collwr sâl. |
| (2, 1) 1034 | Mae'r werin dost ar lawr |
| (2, 1) 1035 | Ar ôl dy chwyldro sydyn; onid braint |
| (2, 1) 1036 | Tywysog yw eu codi? |
| (2, 1) 1044 | Llawn digon imi ddweud |
| (2, 1) 1045 | Wrth fy mrawd bach fel hyn. |
| (2, 1) 1047 | Gwêl, Solomon, |
| (2, 1) 1049 | Fy ngherbyd ar y ífordd, wrth borth y brenin; |
| (2, 1) 1050 | Y grymus Metheg-Ama ydyw gyrrwr |
| (2, 1) 1051 | Y ddau farch du, porthiannus. Esgyn dithau |
| (2, 1) 1052 | A Meffiboseth iddo, ac fe'ch dwg |
| (2, 1) 1053 | Trwy borth y ddinas ac am dro i'r wlad. |
| (2, 1) 1055 | Ti gei,—tan wers a gofal Metheg-Ama; |
| (2, 1) 1057 | A'r dydd y dwedo wrthyf fod dy freichiau |
| (2, 1) 1058 | Yn ddigon cryf i drin dau geffyl nwyfus, |
| (2, 1) 1059 | Heb droi fy ngherbyd, mi rof anrheg iti— |
| (2, 1) 1060 | Cerbyd i ti dy hun â dau farch gwyn. |
| (2, 1) 1064 | Gan bwyll!—O wers i wers mae dysgu gyrru |
| (2, 1) 1065 | Y cerbyd hwn,—fel cerbyd y wladwriaeth. |
| (2, 1) 1067 | Gall diffyg pwyll rhwng brodyr droi y ddau. |
| (2, 1) 1077 | Dydd da i'n harglwydd a'n brenhinol dad. |
| (2, 1) 1081 | Newyddion drwg o Hebron, lle y'm ganed? |
| (2, 1) 1089 | Nid rhyfedd chwaith! Fy Hebron hardd a hen, |
| (2, 1) 1090 | A'i chastell tyrog yng Nghadernid Jwda, |
| (2, 1) 1091 | A'i thraddodiadau 'n ôl at Abraham |
| (2, 1) 1092 | A Sara, sydd â'u hesgyrn yno'n huno'n |
| (2, 1) 1093 | Ogof Macpela; Hebron sydd â'r heniaith |
| (2, 1) 1094 | Yn groyw, gadarn, ar dafodau'i phlant, |
| (2, 1) 1095 | Nid megis bratiaith y Jebiwsiaid hyn |
| (2, 1) 1096 | O'n cwmpas yng Nghaersalem. |
| (2, 1) 1102 | Nid adeiladau sydd yn gwneud prifddinas; |
| (2, 1) 1103 | Nid urddas gair y brenin na'i gynghorwyr, |
| (2, 1) 1104 | Ond urddas llên ac iaith a hir wasanaeth. |
| (2, 1) 1109 | Frodyr da, dywedwch |
| (2, 1) 1110 | Beth sydd yn uno cenedl tan brifddinas? |
| (2, 1) 1114 | Meffiboseth? |
| (2, 1) 1124 | Beth sydd yn uno cenedl, F'arglwydd Joab? |
| (2, 1) 1141 | Crefydd sy'n uno cenedl, f'arglwydd frenin. |
| (2, 1) 1142 | Un Duw, un allor, un teyrngarwch dwys, |
| (2, 1) 1143 | Yn asio llwyth wrth lwyth yn fflam un ffydd. |
| (2, 1) 1144 | Am hynny, f'arglwydd frenin, dyma 'nghyngor; |
| (2, 1) 1145 | Gwneler Caersalem yn brifddinas crefydd |
| (2, 1) 1146 | Israel a Jwda gan Orseddfainc Dafydd... |
| (2, 1) 1147 | Erys yr Arch o hyd mewn pabell foel, |
| (2, 1) 1148 | A ninnau'n byw mewn plasau o goed cedrwydd. |
| (2, 1) 1149 | Cyfoder yma Demel genedlaethol, |
| (2, 1) 1150 | Un enw gwell y sydd na "Dinas Dafydd," |
| (2, 1) 1151 | A'r enw hwnnw—"Dinas y Brenin Mawr." |
| (2, 1) 1176 | Fy mrenhinol dad, |
| (2, 1) 1177 | Nes codi'r deml unol yng Nghaersalem |
| (2, 1) 1178 | Fe lŷn pob tref wrth ei huchelfa'i hun. |
| (2, 1) 1179 | A chan mai Hebron yw 'nhref enedigol, |
| (2, 1) 1180 | Atolwg, gollwng fi yfory, ac af |
| (2, 1) 1181 | At allor Hebron. Talaf yr adduned |
| (2, 1) 1182 | Fan honno i Dduw am gymod mwyn â'm tad; |
| (2, 1) 1183 | Ac felly yr enillwn yr Hebroniaid. |
| (2, 1) 1220 | Rho imi ddeucant, Joab. |
| (2, 1) 1271 | Cyn dod o'n Brenin grasol i'w neuadd heddiw |
| (2, 1) 1272 | Addewais i'm cyd-dywysogion hyn |
| (2, 1) 1273 | Fenthyg fy ngherbyd i roi tro i'r wlad, |
| (2, 1) 1274 | A ganiatei-di hynny? |
| (2, 1) 1276 | Y grymus Metheg-Ama. |
| (2, 1) 1282 | Hwde!... Dyro fy chwip i Metheg-Ama. |
| (2, 1) 1342 | Dy enw yw Ahimâs? |
| (2, 1) 1344 | Ac oni welais-i di gyda Llanciau Joab, |
| (2, 1) 1345 | Wrthi'n ymarfer ddoe ar ymgodymu |
| (2, 1) 1346 | A thaflu gwaywffon ac ymryson ras? |
| (2, 1) 1348 | Ac oni welais-i di'n ymryson ras |
| (2, 1) 1349 | A Chŵsi ddu, gwas Joab? |
| (2, 1) 1352 | Threchaist-ti mono? |
| (2, 1) 1354 | "Ddim eto!" Beth yw ystyr hynny? |
| (2, 1) 1359 | Purion uchelgais, ond 'threchi-di mono byth. |
| (2, 1) 1360 | Mae haul Ethiopia'n fflam yn ei gyhyrau. |
| (2, 1) 1366 | Am gant o siclau arian?... Bodlon fi! |
| (2, 1) 1367 | O fewn tri mis? Rhagorol! Ond, fy nhad, |
| (2, 1) 1368 | Mae'r peth fel dwyn dy arian da. |
| (2, 1) 1391 | Duw gadwo'r Brenin. |
| (2, 1) 1395 | Beth a ddywedaist-ti? |
| (2, 1) 1399 | Ond gellir cau amdano a'i ddirymu. |
| (2, 1) 1401 | Be' ddwedwn-ni wrth bobol Hebron 'fory? |
| (2, 1) 1403 | Ofer, fy arglwydd? |
| (2, 1) 1406 | Trwy symud ei brifddinas i Gaersalem? |
| (2, 1) 1409 | Hen stori ddeunaw mlynedd! Dwyt ti 'rioed |
| (2, 1) 1410 | Yn dal yn ddigllon am yr anffawd hwnnw? |
| (2, 1) 1416 | Gad i'r hen stori. Oni thalodd Dafydd |
| (2, 1) 1417 | Yn ddrud mewn penyd ac mewn edifeirwch? |
| (2, 1) 1418 | Tosturiodd Duw; maddeuodd Nathan Broffwyd! |
| (2, 1) 1419 | Pa synnwyr i |ti| ddal yn ddig o hyd? |
| (2, 1) 1426 | Beth sydd a wnelo hynny â threthi Hebron? |
| (2, 1) 1429 | Welais-i mo'r Frenhines |
| (2, 1) 1430 | Ers dyddiau bellach. Prin yn wir y daw |
| (2, 1) 1431 | Ar draws fy llwybr i, os gall hi beidio. |
| (2, 1) 1433 | Mae Solomon a minnau'n eithaf ffrindiau. |
| (2, 1) 1435 | Na wn i. |
| (2, 1) 1436 | Clywais ei bod ar daith i weld ei thylwyth. |
| (2, 1) 1444 | 'Feiddiai-hi byth. |
| (2, 1) 1447 | Beth yw dy gyngor? |
| (2, 1) 1453 | F'arglwydd Ahitoffel, bradwriaeth yw! |
| (2, 1) 1465 | A phe cytunwn, byddai 'nhad yn ddiogel? |
| (2, 1) 1478 | Na chaiff, yn enw Duw! |
| (2, 1) 1479 | Beth sydd yn rhaid ei wneud? |
| (2, 1) 1484 | Beth am Gaersalem? |
| (2, 1) 1492 | Abhitoffel, beth wyt-ti? Ai proffwyd doeth |
| (2, 1) 1493 | Yn gweld trwy'r llen, a'th air fel gair y nef? |
| (2, 1) 1494 | Ai adlais i uchelgais llosg fy mron? |
| (2, 1) 1495 | Ai cennad Satan, y gwrthryfelwr mawr |
| (2, 1) 1496 | A gododd blaid yn erbyn Gorsedd Nef |
| (2, 1) 1497 | A chael ei hyrddio i'r pwll? |
| (2, 3) 1842 | Dim enaid byw! Mae'r adar wedi ffoi |
| (2, 3) 1843 | O gyrraedd ein cleddyfau. |
| (2, 3) 1859 | Atal dy law!... Llais Meffiboseth yw. |
| (2, 3) 1861 | Cyfod mewn heddwch. Nid oes gennyf gweryl |
| (2, 3) 1862 | Â thi fy mrawd-dywysog. |
| (2, 3) 1869 | Gad iddo, arglwydd. |
| (2, 3) 1871 | Gwrando Meffiboseth, |
| (2, 3) 1872 | Yr wyf mor hoff o'm tad ag yr ydwyt tithau. |
| (2, 3) 1873 | Ond llawn o dwyll a dichell yw'r Frenhines. |
| (2, 3) 1879 | Yr wyt ti'n |
| (2, 3) 1880 | Rhy ifanc i wleidyddiaeth; ac ni wyddost |
| (2, 3) 1881 | Mor enbyd cyflwr Israel. |
| (2, 3) 1884 | Ac ni niweidiwn innau ef er dim; |
| (2, 3) 1885 | Fe ddown i ddealltwriaeth.—Amdanat ti, |
| (2, 3) 1886 | Nac ofna ddim. Ni ddaw i tithau niwed. |
| (2, 3) 1887 | Cei aros yma'n Ddistain Llys y Brenin. |
| (2, 3) 1888 | A wyt-ti'n fodlon? |
| (2, 3) 1890 | O'r gorau... Ple mae'r goron... Wyddost ti? |
| (2, 3) 1899 | Wyddost ti ddim mwy? |
| (2, 3) 1902 | Na phoena ragor. Fe ddown ni o hyd i'r goron. |
| (2, 3) 1903 | Ond edrych—gwna gymwynas â mi, 'wnei-di? |
| (2, 3) 1905 | Llychlyd y ffordd wrth deithio yma o Hebron, |
| (2, 3) 1906 | A'r haul yn danbaid arnom. |
| (2, 3) 1914 | Na, nid wy'n ofni gwenwyn |
| (2, 3) 1915 | Gan Meffiboseth, ond ni ddeisyfaf win. |
| (2, 3) 1916 | Mae 'ngenau'n gras,—syched am ffrwyth sydd arnaf |
| (2, 3) 1917 | O'r ardd frenhinol wedi'n hymdaith boeth. |
| (2, 3) 1918 | Grawnsypiau pêr ac aur-afalau'r brenin, |
| (2, 3) 1919 | Y rhain ymrithiai o'm blaen o Hebron yma. |
| (2, 3) 1920 | A ei-di i gasglu rhai? |
| (2, 3) 1925 | Does dim twyll |
| (2, 3) 1926 | Yn agos iddo. Y mae'n werth ei ennill |
| (2, 3) 1927 | O blaid fy hawl,—yr olaf o Dŷ Saul. |
| (2, 3) 1928 | Eistedd, Ahitoffel, mae mwy i'w drafod. |
| (2, 3) 1929 | Na phrepian Meffiboseth. |
| (2, 3) 1933 | O! nid fel hyn bûm i'n dyfalu'r foment |
| (2, 3) 1934 | Cawn eistedd yn fy nhro ar Orsedd Dafydd. |
| (2, 3) 1935 | Yr oedd y Llys yn llawn; ac â llef utgyrn |
| (2, 3) 1936 | Y rhoddai 'nhad y goron ar fy mhen, |
| (2, 3) 1937 | Wedi i Sadoc fy eneinio i |
| (2, 3) 1938 | I gyd-deyrnasu â'm tad; a phawb yn bloeddio |
| (2, 3) 1939 | "Duw gadwo Absalom!" a "Duw gadwo Dafydd!" |
| (2, 3) 1945 | Nid heb waed |
| (2, 3) 1946 | Y dof yn frenin bellach. |
| (2, 3) 1954 | Tyrfa Caersalem! Oriog fel y gwynt |
| (2, 3) 1955 | Yw honno byth. Heddiw yn frwd "Hosanna," |
| (2, 3) 1956 | Yfory'n bloeddio "Ymaith." |
| (2, 3) 1964 | Pa fodd nad aethost tithau heddiw |
| (2, 3) 1965 | Gyda dy gyfaill Dafydd?... Ai dyma'r tâl |
| (2, 3) 1966 | Am ei holl garedigrwydd iti? |
| (2, 3) 1975 | Do, nid anghofiais hynny, Ahitoffel. |
| (2, 3) 1976 | Mwyn yw dy eiriau, Hŵsai. A daethost yma |
| (2, 3) 1977 | Yn gyntaf o'r dinaswyr i'm croesawu, |
| (2, 3) 1978 | 'Rwy'n gwerthfawrogi'r weithred. |
| (2, 3) 1986 | Croeso i'n plith, Gynghorwr. Eistedd yma. |
| (2, 3) 1987 | Rho imi fantais dy brofiadol farn. |
| (2, 3) 1989 | F'arglwydd Ahitoffel, trafod yr oeddit |
| (2, 3) 1990 | Ffordd i droi oriog ffydd y dyrfa'n ffaith. |
| (2, 3) 2008 | Chytunais i erioed i ladd fy nhad. |
| (2, 3) 2016 | Na! Na!... Fy arglwydd Hŵsai, |
| (2, 3) 2017 | Beth yw dy gyngor di? |
| (2, 3) 2074 | Hŵsai a roes y cyngor gorau heddiw. |
| (2, 3) 2079 | Pam "ei ladd"? |
| (2, 3) 2085 | Yr un hen stori.—Oni ddwedais wrthyt |
| (2, 3) 2086 | Dalu ohono'n ddrud mewn edifeirwch? |
| (2, 3) 2087 | Tosturiodd Duw, a hyd yn oed Nathan Broffwyd. |
| (2, 3) 2088 | Paham y deli i sôn o hyd am ladd? |
| (2, 3) 2098 | 'Chei-di mo'i ladd! |
| (2, 3) 2102 | Dyna ddigon |
| (2, 3) 2103 | A chofia 'mod i'n fab i Ddafydd Frenin. |
| (2, 3) 2106 | Beth? Mab i ti? |
| (2, 3) 2118 | Mae deunaw mlynedd er y trosedd hwn. |
| (2, 3) 2132 | Yr wyt ti'n wallgof! |
| (2, 3) 2137 | 'Wyt-ti'n fy mygwth? Wyt-ti'n codi'r cledd |
| (2, 3) 2138 | Yn f'erbyn innau, fel yn erbyn Dafydd? |
| (2, 3) 2142 | Cofiaf y lleill, |
| (2, 3) 2143 | "Ni leddir brenin gan chwaraewyr gwyddbwyll, |
| (2, 3) 2144 | Digon fydd cau o'i gwmpas i'w ddirymu..." |
| (2, 3) 2145 | Dilynaf gyngor Hŵsai. |
| (2, 3) 2154 | Ffrind, tywallt win. |
| (2, 3) 2161 | Llwydd i tithau! |
| (2, 3) 2163 | A diolch am aeddfedrwydd barn a phwyll |
| (2, 3) 2164 | Yn lle gwylltineb gwallgo. |
| (2, 3) 2166 | Beth oedd hyn'na? |
| (2, 3) 2173 | 'Wyddwn i ddim |
| (2, 3) 2174 | Hyd heddiw fod Ureias yn fab iddo. |
| (2, 3) 2178 | Megis y gwnaethost ti, trwy ddyfod ataf |
| (2, 3) 2179 | A'th gyngor, er dy gariad tuag at Dafydd |
| (2, 3) 2180 | Fy nhad. |
| (2, 3) 2185 | Na minnau byth. Ac O! mi allwn wylo |
| (2, 3) 2186 | Wrth gofio'i groeso... Nid i'w erbyn ef |
| (2, 3) 2187 | Y codais i wrthryfel, ond Bathseba. |
| (2, 3) 2188 | Hi sy'n rheoli; a pha wir dywysog |
| (2, 3) 2189 | A adai i hon ladrata'i etifeddiaeth |
| (2, 3) 2190 | I'w phlentyn siawns? |
| (2, 3) 2196 | Byth ni chytunai |
| (2, 3) 2197 | Tan orfod rhyfel. Ni adai balchder iddo. |
| (2, 3) 2204 | Hollol ofer! |
| (2, 3) 2205 | Dychwelai hwy â sen. Ni chyfamodai |
| (2, 3) 2206 | Joab nac yntau â rhyw haid o fradwyr. |
| (2, 3) 2207 | Minnau, ni siomwn wŷr a fentrodd bopeth |
| (2, 3) 2208 | Er mwyn unioni cam â min y cledd. |
| (2, 3) 2209 | Bellach, beth bynnag fo, rhaid cario'n hymgyrch |
| (2, 3) 2210 | Ymlaen i fuddugoliaeth neu i fedd. |
| (2, 3) 2215 | Ai un o'm milwyr i...? |
| (2, 3) 2226 | "Mae'r chwarae trosodd," meddai, "a minnau'n gollwr." |
| (2, 3) 2229 | Bellach, beth bynnag fo, rhaid cario'n hymgyrch |
| (2, 3) 2230 | Ymlaen, i fuddugoliaeth neu i fedd. |