Cuesheet

Llwybrau Anrhydedd

Lines spoken by Ann (Total: 91)

 
(1, 0) 15 Yn wir, mishtir bach, mae yr hen grwt yna wedi mynd yn rhyfedd iawn oddiar pan ych chwi a finne wedi dechre caru.
(1, 0) 16 Chawn ni ddim siarad gair â'n gilydd na fydd e yn treial watcho a gwrando o hyd, fel pe byddai ein caru ni yn rhyw fater pwysig iawn iddo ef.
 
(1, 0) 22 Eithaf da, mishtir bach, ond dwyf fi ddim am i chi gredu mai dim ond gyda chwi yr wyf wedi cael cynnyg priodi hefyd.
 
(1, 0) 26 Ie, ond yn siwr i chwi, ces i gynnyg pum mlynedd yn ol ar John, Tynyfron.
(1, 0) 27 Gwidwar yw John, mae yn wir, ac nid yw yn un o'r rhai glanaf, ond y mae yn berchen ar ei le bach ei hunan, ac y mae grân ar bethau yn Tynyfron.
(1, 0) 28 Y mae yn well i ferch i gael dyn â thipyn o arian ganddo a thipyn o brofiad mewn bywyd na chael rhyw hogyn pen-chwiban nad oes ganddo dim synnwyr yn ei ben, na gras yn ei galon, na cheiniog o arian yn ei logell.
 
(1, 0) 31 Ac own ni yn mynd i weyd ta chi yn gadael llony i fi, ces i gynnyg hefyd ar William, gwas Ty'r-ddol.
(1, 0) 32 Fe wariodd swlltau yn ffair G'langaea ar ffeirins i mi, ac mi dalodd am ride i mi ar y ceffylau bach hefyd, a mae bob nos Sul am fy hebrwng i adre o'r cwrdd.
 
(1, 0) 35 O'r gore, mishtir bach, yr wyf yn eithaf boddlon, ond rhaid i mi gael amser i baratoi fy |nhress| briodas.
(1, 0) 36 Yr wyf am gael un newydd spon.
(1, 0) 37 Fe briododd Mary, morwyn Plas-bach yn ei hen |ddress|, a mawr fu y siarad yn y pentre am hynny, ac y maent yn edrych i lawr ar Mary byth oddiar hynny.
 
(1, 0) 41 Ia'n wir, charwn ni ddim i deulu clonc y pentre ddwad i wybod.
(1, 0) 42 Wa'th chi wyddoch, mishtir bach, fel y ma nhw yn siarad am bob peth.
(1, 0) 43 Y maent yn estyn at un stori, ac yn tynnu oddiwrth stori arall, ac nid yw y stori yn agos yr un fath wedi iddi fyned trwy ddwylaw a thafodau teulu y glonc.
 
(1, 0) 66 Alright, mishtir bach, yn y funud nawr.
 
(1, 0) 100 Ie, gwythien o aur, a finne yn gweithio blwyddyn gyfan am ddeuddeg punt, ac y mae ychydig o fy nghyflogau yn aros heb eu talu o hyd.
 
(1, 0) 103 Gwythien o aur.
 
(1, 0) 106 Ma digon o'u heisiau nhw arnoch chi, mishtir bach.
(1, 0) 107 Wedi i Pinken farw 'doedd gennych chwi ddim arian i gael buwch yn ei lle hi, a phe buaswn ni yn gwasgu am fy nhipyn cyflogau.
 
(1, 0) 110 Arian pobl eraill yn wir, a minnau yn mynd─
 
(1, 0) 123 A Jones y Gellideg.
 
(1, 0) 129 Hwre!
(1, 0) 130 hwre!
 
(1, 0) 141 Chware teg i mishtir.
(1, 0) 142 Y mae mishtir yn mynd i'r cwrdd bob dydd Sul.
(1, 0) 143 Chollodd e ddim dydd Sul eleni, ond pan ddaeth Beauty â llo bach, ac fe ddigwyddodd yr hen fuwch ddod ar amser cwrdd.
(1, 0) 144 Ond pan oeddynt yn dewis diaconiaid yn Salem, bu dim cymaint a son am enw mishtir.
 
(1, 0) 155 For shame, Morris, a dweyd sut beth.
(1, 0) 156 Os mai priodi mishtir er mwyn ei arian wnaiff hi, y mae yn well iddo fod hebddi.
(1, 0) 157 Ychydig o gysur gaiff e gyda hi.
 
(1, 0) 190 Ie, y mae eisiau dillad newydd ar mishtir.
(1, 0) 191 Does dim balchter ynddo fe.
(1, 0) 192 Pan fyddaf fi wedi trafferthu i gael ei golar yn loew, fe aiff mishtir i'r cwrdd dy' Sul wedyn yn ei grafat goch, am fod honno, ebai fe, yn fwy cymffyrddus.
(1, 0) 193 Yr unig tro y mae mishtir yn gwisgo colar yw pan bo |meeting| rhent, neu gymanfa bregethu yn Salem.
 
(1, 0) 202 Ie, ma ishe rhywbeth ar mishtir yn lle Darby a'r cart.
(1, 0) 203 Pan y mae yn myned dy' Sadwrn i farchnad Llandilo, ddaw e ddim gartre nes bo hì yn rhywbryd o'r nos.
(1, 0) 204 Rhyng bod Darby dipyn yn gloff a mishtir yn galw yn y tafarnau mae e byth a hefyd ar yr hewl, ond chware teg i mishtir, mae e yn mynd i'r cwrdd bore dy' Sul wedyn.
 
(1, 0) 219 Ie'n wir, trigain mil o bunnau.
(1, 0) 220 Garw byth na buaswn wedi gwneud yn siwr ohono, a minnau wedi cael cymaint o gynnyg.
(1, 0) 221 Does gen i ddim golwg ar yr hen Forris yna.
(1, 0) 222 Mae pawb yn gwybod ei hanes ef.
(1, 0) 223 Hen sgwlyn wedi colli ei job trwy feddwi.
(1, 0) 224 Y mae digon a gormod yn ei ben ef, ond y mae ei galon mor ddued a simne glo |ring|.
(1, 0) 225 Pa eisiau iddo fe i |saco| ymhen mishtir y gallai fe gael y ferch lanaf yn Nyffryn Tywi os mynnai ef.
(1, 0) 226 Wyddis ar y ddaear beth osodith Morris ym mhen mishtir eto.
(1, 0) 227 Dyw i ddim yn talu i ferch fod yn rhy independant.
(1, 0) 228 Mae hi y rhan amlaf yn 'difaru.
 
(1, 0) 238 Rwy'n awr yn un ar hugain
(1, 0) 239 O flwyddi llawn mewn oed;
(1, 0) 240 Ac wedi byw wrth odre
(1, 0) 241 Y mynydd mawr erioed;
(1, 0) 242 Mae rhai yn hoffi teithio
(1, 0) 243 I weld pellterau'r byd:
(1, 0) 244 Ond byw wrth droed y mynydd
(1, 0) 245 Y byddaf fi o hyd.
(1, 0) 246 ~
(1, 0) 247 Rwy'n mynd i'r gwely'n gynnar,
(1, 0) 248 Rwy'n codi gyda'r wawr;
(1, 0) 249 Caf glywed can yr 'hedydd
(1, 0) 250 Ar ben y mynydd mawr.
(1, 0) 251 Rwy'n godro'r gwartheg blithion
(1, 0) 252 Bob bore a phob hwyr;
(1, 0) 253 A llaethi'r lloi yn gyson
(1, 0) 254 Sydd wrth fy modd yn llwyr.
(1, 0) 255 ~
(1, 0) 256 Mae rhai yn byw ar foethau,
(1, 0) 257 A gwino'dd o bob math;
(1, 0) 258 Rwyf finnau'n iach fy ngruddiau
(1, 0) 259 Wrth fyw ar gawl a lla'th:
(1, 0) 260 Mae rhywrai mewn segurdod
(1, 0) 261 Yn treulio'u hoes yn llwyr,
(1, 0) 262 Ond gweithio byddaf finnau
(1, 0) 263 O'r bore hyd yr hwyr.
(1, 0) 264 ~
(1, 0) 265 Mae rhai yn gwisgo'n gostus
(1, 0) 266 Mewn rhyw sidanau drud;
(1, 0) 267 A dilyn duwies ffasiwn
(1, 0) 268 Eu hymffrost yn y byd.
(1, 0) 269 Caf finnau wisgoedd cynnes
(1, 0) 270 O wlân y llwdwn du
(1, 0) 271 Sy'n pori ar lechweddau
(1, 0) 272 Y mynydd ger y ty.
(1, 0) 273 ~
(1, 0) 274 Pwy omedd im' freuddwydio
(1, 0) 275 Am ddyddiau lawer gwell
(1, 0) 276 Pwy omedd im' ddelfrydau
(1, 0) 277 Ar ben y talfryn pell.
(1, 0) 278 Pwy wyr na welir finnau
(1, 0) 279 Os ffawd o'm hochor dry,
(1, 0) 280 Yn wraig i'r cyfoethocaf
(1, 0) 281 Wrth droed y Mynydd Du.