Ciw-restr

Macbeth

Llinellau gan Banquo (Cyfanswm: 25)

 
(1, 3) 100 Pa faint o ffordd y sydd oddiyma i Forres?
(1, 3) 101 Pa bethau yw'r rhai hyn, mor wyw a gwyllt eu trwsiad, nad tebyg ynt i drigolion daear, ac eto sydd arni?
(1, 3) 102 Ai byw chwi?
(1, 3) 103 Neu a ydych unpeth y dichon dyn ei holi?
(1, 3) 104 Mi dybygwn eich bod yn fy neall, gan fod y naill a'r llall ohonoch ar unwaith yn dodi ei bys migyrnog ar ei gwefus deneu.
(1, 3) 105 Merched a ddylech fod, wrth eich golwg, ac eto, y mae eich barfau'n gwahardd i mi ddehongli mai dyna ydych.
 
(1, 3) 111 Hawyr! pam y cyffrowch gymaint, ac edrych fel pe bai arnoch ofn y pethau y mae hyfryted swn ynddynt?
(1, 3) 112 A chwithau, yn enw'r gwir, ai drychiolaethau ydych, ai'r hyn y mae ei lun allanol arnoch?
(1, 3) 113 Yr ydych yn cyfarch fy nghydymaith urddasol â gras yn awr ac a darogan gwych am urddasol feddiant a brenhinol obaith, onid yw'r cwbl fel cyfaredd arno; wrthyf fi, ni leferwch.
(1, 3) 114 O gellwch chwi chwilio hadau amser, a dywedyd pa ronyn a dyf a pha'r un na thyf, lleferwch wrthyf finnau, nad wyf yn deisyf nac yn ofni na'ch cariad na'ch cas.
 
(1, 3) 129 Mae byrlymau ar dir fel ar ddwr, a dyma rai o honynt.
(1, 3) 130 I ba le y diflanasant?
 
(1, 3) 133 A oedd yma'r fath bethau ag yr ydym yn siarad am danynt, ynte a fwytasom ni'r gwreiddyn gwenwynig sy'n gwneuthur y rheswm yn garcharor?
 
(1, 3) 135 Byddwch chwithau'n frenin eich hunan.
 
(1, 3) 137 Ie, dyna'r gair yn union.
(1, 3) 138 Ond pwy sydd yma?
 
(1, 3) 145 Pa beth!
(1, 3) 146 A ddichon y diafol ddywedyd y gwir?
 
(1, 3) 156 Fe ddichon hynny, o'i gredu'n llwyr, eich ennyn chwi eto hyd at y goron, heblaw arglwyddiaeth Cawdor.
(1, 3) 157 Ond rhyfedd yw, er mwyn ein hennill i'n niwed ein hunain, y mae cyfryngau'r tywyllwch yn fynych yn dywedyd y gwir wrthym, gan ein hennill â rhyw fân bethau gonest i'n bradychu i bethau o'r pwys mwyaf.—
(1, 3) 158 Atolwg, geraint, un gair.
 
(1, 3) 167 Gwelwch y synfyfyrdod y mae'n cydymaith ynddo.
 
(1, 3) 170 Nid yw ei urddau newydd, mwy na'n dillad dieithr yn gorwedd yn wastad ar a fo tanynt namyn drwy gymorth arfer.
 
(1, 3) 174 Deilwng arglwydd, yr ym at eich galwad pan fynnoch.
 
(1, 3) 179 Yn llawen iawn.