Ciw-restr

Macbeth

Llinellau gan Banquo (Cyfanswm: 26)

 
(1, 3) 106 Pa faint o ffordd y sydd oddiyma i Fforres?
(1, 3) 107 Pa bethau yw'r rhai hyn, mor wyw a gwyllt eu golwg?
(1, 3) 108 Nid tebyg monynt i drigolion daear, ac eto, maent a'u traed arni.
(1, 3) 109 Ai byw chwi?
(1, 3) 110 Neu a ydych yn unpeth y gall dyn ei holi?
(1, 3) 111 Mi dybygwn eich bod yn fy neall, gan fod y naill a'r llall ohonoch yn dodi ei bys migyrnog ar ei gwefus denau.
(1, 3) 112 Merched a ddylech fod, wrth eich golwg, ac eto, y mae eich barfau'n gwahardd i mi ddeongli mai dyna ydych.
 
(1, 3) 120 Ha, ŵr da, pam yr ydych yn cyffroi cymaint, ac yn edrych fel pe bai arnoch ofn pethau â sŵn mor hyfryd ynddynt?
 
(1, 3) 122 A chwithau, yn enw'r gwir, ai drychiolaethau ydych, ai'r hyn, yn wir, y mae ei lun tu allan arnoch?
(1, 3) 123 Yr ydych yn cyfarch fy nghydymaith bonheddig yn rasol yn awr, ac â darogan gwych am feddiant urddasol a brenhinol obaith nes bod y cwbl fel cyfaredd arno; wrthyf i, ni leferwch ddim.
(1, 3) 124 Os gellwch chwilio hadau amser, a dywedyd pa ronyn a dyf a pha'r un ni thyf, lleferwch wrthyf innau, nad wyf yn deisyf nac yn ofni na'ch cariad na'ch cas.
 
(1, 3) 141 Y mae byrlymau ar dir fel ar ddŵr, a dyma rai ohonynt.
(1, 3) 142 I ba le y diflanasant?
 
(1, 3) 145 A oedd yma'r fath bethau ag yr ydym yn sôn amdanynt, ynteu a fwytasom ni'r gwreiddyn gwenwynig sy'n cymryd y rheswm yn garcharor?
 
(1, 3) 147 Byddwch chwithau eich hun yn frenin.
 
(1, 3) 149 Ie, dyna'r gair yn union.
(1, 3) 150 Ond, pwy sydd yma?
 
(1, 3) 157 Pa beth!
(1, 3) 158 A ddichon y diawl ddywedyd y gwir?
 
(1, 3) 169 Fe ddichon hynny, o'i gredu'n llwyr, eich ennyn chwithau eto hyd at y goron, heblaw Arglwyddiaeth Cawdor.
(1, 3) 170 Ond rhyfedd yw, er mwyn ein hennill ni i'n niwed ein hunain, bydd cyfryngau'r tywyllwch yn fynych yn dwedyd y gwir wrthym, yn ein hennill â rhyw fân bethau gonest i'n bradychu i bethau o'r pwys mwyaf.
(1, 3) 171 Atolwg, geraint, un gair
 
(1, 3) 181 Gwelwch y synfyfyrdod y mae'n cydymaith ynddo!
 
(1, 3) 184 Nid yw ei urddas newydd, mwy na'n dilladau dieithr, yn gorwedd yn wastad ar y peth fo tanynt, onid trwy gymorth arfer.
 
(1, 3) 188 Deilwng Arglwydd, yr ydym at eich galwad pan fynnoch.
 
(1, 3) 193 Yn llawen iawn.