| (0, 1) 250 | Edrychwch! |
| (0, 1) 251 | Be welwch chi draw yna ar gwr y sgwâr |
| (0, 1) 252 | Fel pe'n ansicr ple i droi? |
| (0, 1) 253 | Dieithriaid i bob golwg. |
| (0, 3) 1925 | Geiriau doeth, Plwton, ac argymhelliad teg |
| (0, 3) 1926 | Ar achlysur mor chwap annisgwyl, |
| (0, 3) 1927 | Mor feiddgar, ac mor syfrdan anarferol. |
| (0, 3) 1928 | Pa ddewis arall sydd? Ar dir cwrteisi, felly, |
| (0, 3) 1929 | Synnwyr-cyffredin a chymhwyster diplomatig |
| (0, 3) 1930 | Hyd yn oed, rhaid inni dderbyn dy gyngor. |
| (0, 3) 1967 | Plwton, rwyt ti'n gofyn rhywbeth anodd iawn; |
| (0, 3) 1968 | Wedi'r cyfan nid ar chwarae bach |
| (0, 3) 1969 | Y gallwn ni, Barchus Gynghorwyr Hades, |
| (0, 3) 1970 | Ystumio'r Tragwyddol Ddilys Ddeddfau — |
| (0, 3) 1971 | Hyd yn oed ar daer ymbiliad Dionysos — |
| (0, 3) 1972 | Ac argymell cam mor syfrdan chwyldroadol. |
| (0, 3) 1973 | Oni fyddai hyn yn agor drws? |
| (0, 3) 1974 | Oni fyddai'n gynsail i bob math o flin helbulon? |
| (0, 3) 1975 | Mae'r ddau ddimensiwn mor gyfan-gwbwl ar wahân |
| (0, 3) 1976 | A'r agendor rhyngddyn nhw mor fawr, |
| (0, 3) 1977 | Ni allaf ddirnad sut mae modd ei bontio. |
| (0, 3) 1997 | O'r gorau, Plwton, rhag gwastraffu dim |
| (0, 3) 1998 | O'n hamser ar ryw gant-a-mil o fân betheuach |
| (0, 3) 1999 | A malu awyr hyd at syrffed |
| (0, 3) 2000 | Am fanylion dibwys pitw, di-ben-draw: |
| (0, 3) 2001 | Cynigiaf yma'n ffurfiol ein bod ni, |
| (0, 3) 2002 | Bwyllog Gynghorwyr Hades, |
| (0, 3) 2003 | Yn anfon cynrychiolaeth gref, rhag blaen |
| (0, 3) 2004 | At y cyfryw wrol arwyr — cewri Athen |
| (0, 3) 2005 | Yn y dyddiau gynt — a rhoi yn syml ger eu bron |
| (0, 3) 2006 | Gynllun a chais Dionysos. |