|
|
|
|
(0, 1) 2 |
Ledrithion gwelwon! wele chwi'n dynesu, |
(0, 1) 3 |
Oedd hoff i'm golwg dwys ym more byd, |
(0, 1) 4 |
A geisiaf nau eilwaith eich anwesu, |
(0, 1) 5 |
A blyg fy nghalon eto dan yr hud? |
(0, 1) 6 |
Ymdyrrwch yna ynteu, ac ymresu, |
(0, 1) 7 |
Megys y dowch o darth a niwl ynghŷd; |
(0, 1) 8 |
Yn ieuanc eto, cryn fy nghalon hithau |
(0, 1) 9 |
O dan yr hud a ddaw pan ddeloch chwithau. |
(0, 1) 10 |
~ |
(0, 1) 11 |
I'ch canlyn, fe ddaw cof am ddyddiau mwynion, |
(0, 1) 12 |
A chyfyd llun rhai annwyl mwy nad ynt; |
(0, 1) 13 |
Fel rhyw hen ramant hanner mud, daw swynion |
(0, 1) 14 |
Y cariad cyntaf a'r gyfeillach gynt; |
(0, 1) 15 |
Daw gofid hefyd, ac atseinia gŵynion |
(0, 1) 16 |
Bywyd ei hunan a'i drofâog hynt, |
(0, 1) 17 |
Ac enwa imi lawer hoff gydymaith |
(0, 1) 18 |
O'm blaen o'i ddedwydd awr a gipiwyd ymaith. |
(0, 1) 19 |
~ |
(0, 1) 20 |
Ni chlywant hwy mo'r newydd gân, y rheiny |
(0, 1) 21 |
Y canwn iddynt gerddi'r bore llon; |
(0, 1) 22 |
Ar wasgar, mwy, yr aeth y mwyn gwmpeini, a |
(0, 1) 23 |
A'r atsain gyntaf, bellach, mud yw hon; |
(0, 1) 24 |
Fy nghân, yn awr, i estron dorf y seini, |
(0, 1) 25 |
A'u clod ei hun sydd megys braw i'm bron; |
(0, 1) 26 |
A'r sawl o'm cân a gaffo ddim diddigrwydd, |
(0, 1) 27 |
Os ceir, drwy'r byd y crwydra mewn unigrwydd. |
(0, 1) 28 |
~ |
(0, 1) 29 |
A mi, rhyw ryfedd hiraeth mwy a'm tery |
(0, 1) 30 |
Am dawel fyd di boen yr ysbryd fry; |
(0, 1) 31 |
A nawf fy sisial gân, fel chwa pan chwery |
(0, 1) 32 |
Drwy dannau telyn, yn ddilafar su; |
(0, 1) 33 |
Rhed iasau drwof, dagrau li'n goferu, |
(0, 1) 34 |
A'r galon gref, yn wan a masw y try; |
(0, 1) 35 |
A feddaf, megys draw ymhell y gwelaf, |
(0, 1) 36 |
A'r peth a aeth, sydd, eto, ddiogelaf. |