Cuesheet

Cwm Glo

Lines spoken by Bob (Total: 38)

 
(1, 1) 24 Reit!
(1, 1) 25 Rwy'n dod, nawr.
 
(1, 1) 44 O Arglwydd, bendithia ein bwyd, i'n cadw yn fyw, i'th wasanaethu Di, er mwyn Iesu Grist.
(1, 1) 45 Amen.
 
(1, 1) 52 Shŵr o fod.
(1, 1) 53 Oni bai fod rhywbeth yn hynny fuase mo mam wedi trafferthu i'n dysgu ni i ofyn bendith, na dweud pader o ran hynny.
(1, 1) 54 A dyw Dic Evans ddim yn ddigon o ffŵl i wneud hynny am gymaint o flynyddoedd os nad oes dim byd yn hynny.
(1, 1) 55 Pam na wnei di ddiolch am y bendithion 'ma, Id?
 
(1, 1) 67 Dyw Dai ddim yn hitio dim am senedd na pholitics na fotio, nac am oriau gwaith neb arall, nac am Ragluniaeth na Duw chwaith.
(1, 1) 68 Gest ti lwc ar dy geffyl ddoe Dai?
 
(1, 1) 80 Hei, rho nhw nôl.
(1, 1) 81 I fi rhoth mam nhw, nid i ti.
 
(1, 1) 94 Thenciw.
 
(1, 1) 130 Beth wyt ti'n wneud?
(1, 1) 131 Dangos hi i fi.
 
(1, 1) 135 Rhywbeth am area'r sgwars na yw hi, iefe ddim?
 
(1, 1) 137 Triangle ABC.
(1, 1) 138 Odw.
 
(1, 1) 144 ACDE yr un area yn gywir â ABFG plus BCHK.
 
(1, 1) 156 Ie, ond sut?
 
(1, 1) 172 Wel, wir, brecwast go brin sy gen i heddi a ffido Dai a chwbwl.
 
(1, 1) 186 A mi ga innau'r hewl wedyn...
 
(1, 1) 214 Anghofio tynnu dy bib o dy boced; ac anghofio rhoi baco i mewn.
(1, 1) 215 Good man, Dai.
 
(1, 1) 224 Wedes i hynny wrtho fe.
(1, 1) 225 Mae'r glo rwy i wedi roi ar y top yn iawn, ond... wni ddim be sy'n ei chanol hi.
 
(1, 1) 232 Ond beth 'se Morgan Lewis y manager yn dod lawr?
(1, 1) 233 Be ddigwyddai inni wedyn?
 
(1, 1) 271 Go on, Id.
(1, 1) 272 Dere mlaen Dai.
(1, 1) 273 Rwyt ti'n bostio dy fod ti'n gallu ymladd.
(1, 1) 274 Nawr te, dere mlaen.
 
(1, 1) 284 Mi ddylet ti fod wedi rhoi un iddo, reit ym môn ei glust a left-hook yn ei chops e.
 
(1, 1) 288 O, does dim o'i ofan e arna i.
 
(1, 1) 352 Reit, syr.
 
(1, 1) 396 Oet ti'n galw, Dai?
 
(1, 1) 401 Fi rasodd ei thop hi, syr.
 
(1, 1) 404 Rwy i wedi bod wrthi â'm holl egni syr.