|
|
|
|
(1, 1) 915 |
Pwy sydd yma'n taenu canu cwynion? |
(1, 1) 916 |
Drwg genyf adlais cân anfodlon. |
|
|
(1, 1) 919 |
O pa'm na foddlonwn i'n Creawdwr, |
(1, 1) 920 |
Pa fath bynag fyddo'n cyflwr? |
(1, 1) 921 |
Dysgwn ymostwng i'w rymusder, |
(1, 1) 922 |
A'n hamgylchiade mewn iach hyder. |
(1, 1) 923 |
~ |
(1, 1) 924 |
Mae Paul yn rhoddi pur gyf'rwyddwyd, |
(1, 1) 925 |
Pa fodd i ymddwyn mewn hawddfyd ac adfyd, |
(1, 1) 926 |
I fod yn llawn, neu fod mewn prinder, |
(1, 1) 927 |
Mewn helaethrwydd neu gyfyngder. |
(1, 1) 928 |
~ |
(1, 1) 929 |
Boddloni tan y cystudd tryma', |
(1, 1) 930 |
Bod mewn addfwynder ac iseldra; |
(1, 1) 931 |
Bod fel Dafydd gyda Simei, |
(1, 1) 932 |
Poen fall deithydd, pan felldithie. |
(1, 1) 933 |
~ |
(1, 1) 934 |
Dysgwn garu Duw'r goleuni, |
(1, 1) 935 |
Pob peth a weithia er daioni; |
(1, 1) 936 |
Ac os na ddysgwn fod yn foddlon, |
(1, 1) 937 |
Mae pob peth ini dan felldithion. |
|
|
(1, 1) 942 |
Diame fod rhai felly'n byw; |
(1, 1) 943 |
Ond pan aeth Dafydd i gysegr Duw, |
(1, 1) 944 |
Dealle'u diwedd hwynt i'r eitha', |
(1, 1) 945 |
Bod cwymp a dinystr ar eu gwartha'. |
|
|
(1, 1) 960 |
Mae llaw Rhaglunieth yn ddirgeledd, |
(1, 1) 961 |
Yn godde'i rai ddyfetha'u mawredd; |
(1, 1) 962 |
Fel goddef gynt i Adda gwympo, |
(1, 1) 963 |
Er hyny'n dyner a llaw dano. |
(1, 1) 964 |
~ |
(1, 1) 965 |
Nid pechod hwnw na'i hiliogeth, |
(1, 1) 966 |
A'i gwnaeth ef yn ddall o'i enedigeth, |
(1, 1) 967 |
Ond fel yr amlygid gallu'r Silo, |
(1, 1) 968 |
Wyrthie mwyndeg wrth eu mendio. |
|
|
(1, 1) 973 |
Mae'n gofyn hyn trwy bob caledi, |
(1, 1) 974 |
I ddyn i ymestyn a'i holl egni, |
(1, 1) 975 |
I wneud ei ore'n help yr Arglwydd, |
(1, 1) 976 |
I wella'i gyflwr trwy onestrwydd. |
(1, 1) 977 |
~ |
(1, 1) 978 |
Ar hyd y nos bu rhai'n ymboeni, |
(1, 1) 979 |
Mewn aflwydd, blinder, a thylodi; |
(1, 1) 980 |
Pan daflent y rhwyd wrth air y Mawredd, |
(1, 1) 981 |
Tu dehe'r llong, hwy gaent ddigonedd. |
(1, 1) 982 |
~ |
(1, 1) 983 |
A'r gwahan glwyfion oedd yn sefyll, |
(1, 1) 984 |
Yn y porth cyn mentro i'r gwersyll; |
(1, 1) 985 |
Ond pan fentrasant at Raglunieth, |
(1, 1) 986 |
Hwy gaent yn hylwydd lawn gynalieth. |
(1, 1) 987 |
~ |
(1, 1) 988 |
Peth mawr cael gras a gwir foddlonrwydd, |
(1, 1) 989 |
I fentro'n gwbwl ar yr Arglwydd, |
(1, 1) 990 |
Tu hwnt i ofid, llid a chyffro, |
(1, 1) 991 |
Gwyn eu byd y sawl a'i caffo. |
|
|
(1, 1) 996 |
Braint a heddwch i'r gydwybod, |
(1, 1) 997 |
Boddloni yn mhob peth ond ar bechod; |
(1, 1) 998 |
I hyn mi ganaf rai penillion, |
(1, 1) 999 |
Er anog pawb i fod yn foddlon. |
|
|
(1, 1) 1076 |
Ffarwel 'rwan, mi af ar gerdded, |
(1, 1) 1077 |
Gobeithio fod rhyw rai'n ystyried; |
(1, 1) 1078 |
Gwirionedd Duw sy'n dda yn mhob agwedd, |
(1, 1) 1079 |
A hwn a'n barna ni yn y diwedd. |