Ciw-restr

Hamlet, Tywysog Denmarc

Llinellau gan Brenin (Cyfanswm: 166)

 
(1, 2) 251 Er dylai eto farw Hamlet ein
(1, 2) 252 Hanwylaf frawd, fod yn ei cof yn îr,
(1, 2) 253 A bod yn weddus iawn i ninau ddwyn
(1, 2) 254 Ein tristwch ni a thristwch mawr ein gwlad
(1, 2) 255 Yn gydgasgledig mewn un ael o wae;
(1, 2) 256 Er hyn i gyd, â natur brwydrodd pwyll,
(1, 2) 257 Fel y gwnawn ddoeth dristâu am dano ef,
(1, 2) 258 Yn nghyd a chofio am ein lles ein hun.
(1, 2) 259 Am hyny gynt ein chwaer, yn awr ein hoff
(1, 2) 260 Frenines, a chydgyfranogydd o'r
(1, 2) 261 Filwraidd a rhyfelgar deyrnas hon,
(1, 2) 262 A gymerasom, megys gyda rhyw
(1, 2) 263 Lawenydd tra hanerog,—gydag un
(1, 2) 264 Chwerthinus lygad, ac un llygad gwlyb;
(1, 2) 265 A llon ddigrifwch yn yr arwyl, ac
(1, 2) 266 A galar-gân yn y briodas, gan
(1, 2) 267 Gydbwyso'u mwyniant gyda'r alaeth oll,—
(1, 2) 268 Yn wraig; ac yn hyn oll nì wnaethom ni
(1, 2) 269 Yn groes i'ch mawr ddoethineb, yr hwn aeth
(1, 2) 270 Yn rhwydd o blaid y pethau hynod hyn.
(1, 2) 271 Ac am hynyna oll, ein diolch mawr.
(1, 2) 272 Yn awr y canlyn, fel y gŵyr pob un,
(1, 2) 273 Fod Fortinbras ieuengaidd gyda rhyw
(1, 2) 274 Syniadau gwagsaw am ein breiniol werth;
(1, 2) 275 Neu ynte 'n tybied fod eìn teyrnas ni
(1, 2) 276 Bron ag ymddatod, neu mewn cywair drwg,
(1, 2) 277 O achos marw ein hanwylaf frawd,—
(1, 2) 278 A chan freuddwydio am y fantais fêdd,
(1, 2) 279 Ni pheidiodd â llythyrau ein blino ni,
(1, 2) 280 Gan erfyn arnom ro'i i fyny yr
(1, 2) 281 Holl diroedd hyny gollwyd gan ei dad,
(1, 2) 282 Trwy bob rhwym cyfraith i law'n dewraf frawd;
(1, 2) 283 Hynyna am dano ef. Am danom ni,
(1, 2) 284 Ac am ein cyfarfyddiad y pryd hwn,
(1, 2) 285 Hyn ydyw 'r pwnc: yggrifenasom ni.
(1, 2) 286 Yn awr, at Norway, ewythr Fortinbras,—
(1, 2) 287 'R hwn trwy anallu a gorweiddiog 'stâd,
(1, 2) 288 Nis clyw ond prin beth yw bwriadau 'i nai,—
(1, 2) 289 Fel gallom rwystro ei rodiad pellach ef;
(1, 2) 290 Yn gymaint a bod yr holl drethi, a'r
(1, 2) 291 Holl restrau, a'r llawn gyfraniadau 'n cael
(1, 2) 292 Eu codi oll oddiar ei ddeiliaid ef:—
(1, 2) 293 Ac yma gyrwn chwi, Cornelius dda,
(1, 2) 294 A chwithau, Voltimand, i gludo ein
(1, 2) 295 Hanerchiad hwn at Norway hen, heb ro'i
(1, 2) 296 I chwi bersonol genad i wneud dim
(1, 2) 297 Negesaeth gyda 'r brenin, pellach nag
(1, 2) 298 A ganiateir gan yr erthyglau hyn:
(1, 2) 299 Rhwydd hynt i chwi; a'ch brys ganmolo eich
(1, 2) 300 Ffyddlondeb i'ch dyledswydd, yn y tro.
 
(1, 2) 302 Ni anmeuwn ddim; o galon rho'wn ffarwel.
 
(1, 2) 304 Yn awr, Laertes, beth yw 'ch newydd chwi?
(1, 2) 305 Soniasoch am ddymuniad; pa beth yw,
(1, 2) 306 Laertes? Ni chei ymresymu gyda pen
(1, 2) 307 Y Daniad byth, ac wed'yn golli 'th lais:
(1, 2) 308 Pa beth, Laertes, a ddymunet gael;
(1, 2) 309 Nas gwnawn ei gynyg, cyn it' ofyn dim?
(1, 2) 310 Nid yw perthynas calon gyda 'r pen,
(1, 2) 311 Na'r llaw 'n fwy ufudd i y safn,
(1, 2) 312 Nag ydyw gorsedd Denmarc i dy dad.
(1, 2) 313 Pa beth, Laertes, fynit ti ei cael?
 
(1, 2) 322 Ond a oes genych ganiatâd eich tad?
(1, 2) 323 Beth dd'wed Polonius?
 
(1, 2) 330 Laertes, dewis d' awr; dy amser da,
(1, 2) 331 A'th gyfleusderau goren wrth dy fryd —
(1, 2) 332 Yn awr, fy nghefnder Hamlet,—
 
(1, 2) 335 Paham y mae 'r cymylau eto yn
(1, 2) 336 Ymhongian drosot ti?
 
(1, 2) 365 Mae yn felus iawn,
(1, 2) 366 A chanmoladwy yn dy natur di, Hamlet,
(1, 2) 367 I roi y parch galarus hwn i'th dad;
(1, 2) 368 Ond rhaid dy fod yn gwybod; wele 'th dad
(1, 2) 369 A gollodd dad; a chollodd hwnw dad;
(1, 2) 370 A'r un oedd fyw, yn gorfod, am ryw hyd,
(1, 2) 371 Ymroi i alar fel y gweddai fab:
(1, 2) 372 Ond mae parâu mewn annyddanwch yn
(1, 2) 373 Gyndynrwydd tra annuwiol; gofid yw
(1, 2) 374 Sydd yn annynol; ac arddangos wna
(1, 2) 375 Ewyllys sydd anufudd iawn i'r Nef;
(1, 2) 376 A chalon heb gael nefol nerth i'w rhan
(1, 2) 377 A meddwl diamynedd; deall gwyrol,
(1, 2) 378 Heb gael dysgyblaeth iawn: canys am
(1, 2) 379 Yr hyn y gwyddom a raid ddygwydd, ac
(1, 2) 380 Sydd mor gyffredin, ag yw unrhyw beth
(1, 2) 381 I synwyr dyn, paham, gan hyny, y rho'wn
(1, 2) 382 Mewn gwrthwynebrwydd croes, anniddig, hyn
(1, 2) 383 At ein calonau? Ffei, mae hyn yn fai
(1, 2) 384 Yn erbyn Nef, yn fai yn erbyn yr?
(1, 2) 385 Un marw, yn fai yn erbyn natur, ac
(1, 2) 386 I reswm, gwrthun yw; i'r hwn y mae
(1, 2) 387 Marwolaeth tadau yn gyffredin beth.
(1, 2) 388 A'r hwn sy 'n dweud o'r cyntaf un erioed,
(1, 2) 389 I'r hwn fu farw heddyw, Hyn sydd raid.
(1, 2) 390 Atolwg fab, gan hyny bwrw di
(1, 2) 391 Y galar afraid hwn i'r ddaear laith,
(1, 2) 392 A meddwl bellach ein bod ni fel tad:
(1, 2) 393 Cân's sylwed byd, ti yw 'r agosaf un
(1, 2) 394 I'n gorsedd, ac nid gronyn llai o serch
(1, 2) 395 Nag a ddangosa 'r tad anwylaf at
(1, 2) 396 Ei fab, ddangoswn ninau atat ti.
(1, 2) 397 Yn wir, mae'th fwriad di o fyn'd yn ôl
(1, 2) 398 I Wittenberg, i'r ysgol, yn dra chroes
(1, 2) 399 I'n dymuniadau; ac atolwg 'rym
(1, 2) 400 Ar i ti aros yma, yn holl wên
(1, 2) 401 A chysur ein golygon, penaf gŵr,
(1, 2) 402 O fewn ein llys, ein câr a'n hanwyl fab.
 
(1, 2) 407 Wel, mae hyn yn ateb serchog iawn a theg;
(1, 2) 408 Bydd fel nyni yn Denmarc.—Meistres, de'wch;
(1, 2) 409 Mae y cydsyniad mwynaidd, parod hwn,
(1, 2) 410 Gan Hamlet, yn mawrloni 'm calon i:
(1, 2) 411 Oherwydd hwn, ni chaiff un iechyd da
(1, 2) 412 A yfa Denmarc heddyw, fod heb ei
(1, 2) 413 Gyhoeddi i'r cymylau gyda thwrf
(1, 2) 414 Magnelau; yna twrf y brenin a
(1, 2) 415 Adseinia'r nef drachefn, nes bydd yn ail-
(1, 2) 416 TIboefaru daear-daran. Dew'ch i ffordd.
 
(2, 2) 1366 Croesaw, gu Rosencrantz a Guildenstern!
(2, 2) 1367 Bu'm yn hiraethu am eich gwel'd yn hir.
(2, 2) 1368 'Roedd pwys y gwaith oedd genyf i chwi wneud
(2, 2) 1369 Yn peri imi anfon gyda brys.
(2, 2) 1370 Chwi glywsoch am drawsffurfiad Hamlet, gwn:
(2, 2) 1371 Efelly galwaf fi ef; gan nad yw
(2, 2) 1372 Nac yr allanol nac y mewnol ddyn
(2, 2) 1373 Yn debyg i'r hyn fyddai: pa beth yw
(2, 2) 1374 Yn amgen na marwolaeth brudd ei dad,
(2, 2) 1375 A barodd ei arweiniaw ef mor bell
(2, 2) 1376 O ddealltwriaeth iawn am dano ei hun,
(2, 2) 1377 Nis gallaf fi freuddwydio: erfyn 'r wyf
(2, 2) 1378 I chwi eich dau, yn gymaint ag eich bod
(2, 2) 1379 O ddyddiau mor ieuengaidd wedi eich dwyn
(2, 2) 1380 I fyny gydag ef; ac hefyd, gan eich bod
(2, 2) 1381 Mor gydnabyddus â'i ieuenctyd a'i
(2, 2) 1382 Dymherau ef,—fod i chwi orphwys am
(2, 2) 1383 Beth amser yn ein llys; fel galloch chwi
(2, 2) 1384 Trwy gwmni ei hudo i bleserau; ac
(2, 2) 1385 I gasglu hyd y byddo yn gyfleus,
(2, 2) 1386 A oes un dim, nas gwyddom ni, yn ei
(2, 2) 1387 Dristâu fel hyn, yr hyn pe 'i gwyddid sydd
(2, 2) 1388 Yn gorphwys yn ein gallu i'w wellâu.
 
(2, 2) 1409 Ein diolch, Rosencrantz, gu Guildenstern.
 
(2, 2) 1423 Ti fuost eto 'n dad newyddion da.
 
(2, 2) 1432 O adrodd hyny; 'rwy 'n awyddus iawn
(2, 2) 1433 Am glywed.
 
(2, 2) 1437 Dos i'w moesgyfarch, dwg y ddau i fewn.
 
(2, 2) 1439 Fe ddywed, anwyl Gertrude, iddo ef
(2, 2) 1440 Ddarganfod pen a ffynon holl an-hwyl
(2, 2) 1441 Eich mab.
 
(2, 2) 1446 Wel, ni a'i chwiliwn ef. Mawr groesaw i chwi,
(2, 2) 1447 Gyfeillion da! mynega, Voltimand,
(2, 2) 1448 Pa air oddiwrth ein brawd o Norway?
 
(2, 2) 1479 Boddlona ni yn dda,
(2, 2) 1480 A phan y cawn gyfaddas amser, ni
(2, 2) 1481 Ddarllenwn, ac atebwn, yn ei bryd,
(2, 2) 1482 Ar ol rhoi dwys ystyriaeth idd y peth.
(2, 2) 1483 Yn y cyfamser, diolch wnawn i chwi
(2, 2) 1484 Am wneud eich gwaith mor brydlon ac mor dda.
(2, 2) 1485 Ewch i'ch gorphwysfa; heno ni a wnawn
(2, 2) 1486 Gydwledda: croesaw calon i chwi 'n ol.
 
(2, 2) 1542 Ond sut dderbyniad roddodd hi i'w serch?
 
(2, 2) 1544 Fel ffyddlawn a thra anrhydeddus ddyn.
 
(2, 2) 1573 A dybiwch chwi mai hyny yw?
 
(2, 2) 1578 Erioed, hyd ag y gwyddom ni.
 
(2, 2) 1586 Pa fodd y gallwn roddi mwy o brawf
(2, 2) 1587 I'r peth?
 
(2, 2) 1601 Nyni
(2, 2) 1602 A fynwn wneuthur prawf o hono ef.