|
|
|
|
(0, 1) 254 |
Gwas a meistr, ddwedwn i, a barnu wrth eu gwisg |
(0, 1) 255 |
A'u hymarweddiad. Ys gwn i o ble y daethon nhw? |
(0, 1) 256 |
O Delffi, Thebau, neu o Gorinth bell ei hun? |
(0, 1) 257 |
Does wybod yn y byd pwy ydyn nhw, |
(0, 1) 258 |
Prun ai pererinion llesg neu garedigion llon |
(0, 1) 259 |
Y Ddrama. Neu Thesbiaid hwyrach — dau actor brwd |
(0, 1) 260 |
A'u bryd ar ennill clod ar hen lwyfannau Athen. |
(0, 1) 261 |
Beth bynnag ydyn nhw, mae hyn yn amlwg ddigon |
(0, 1) 262 |
Nid caridyms mo'r rhain, nid dau o'r llu twristiaid hurt |
(0, 1) 263 |
Sy'n tyrru yma o bob cwr, pob un â'i dafod allan, bron |
(0, 1) 264 |
Yn awchio am ddiwylliant tridiau, |
(0, 1) 265 |
A llygad-rythu'n geg-agored, syn |
(0, 1) 266 |
Ar ogoniannau adfeiliedig ein gorffennol. |
|
|
(0, 1) 268 |
Ond dacw rywun yn mynd atyn nhw i ysgwyd llaw, |
(0, 1) 269 |
A dweud bod croeso Athen 'run mor hael |
(0, 1) 270 |
Er gwaetha gwae y rhyfel. |
|
|
(0, 1) 327 |
Nid i glywed newydd drwg, gobeithio! |
(0, 1) 328 |
Rydym wedi hen flino ar bryder, gwae a gofid; |
(0, 1) 329 |
Ac yn dyheu am ryw friwsionyn bach o gysur; |
(0, 1) 330 |
Llygedyn bach o obaith. |
(0, 1) 331 |
Gad inni fwynhau rhyw awr ne ddwy o seibiant, |
(0, 1) 332 |
I stelcian yma ar y sgwâr |
(0, 1) 333 |
A sgwrsio'n ddioglyd efo hwn a'r llall |
(0, 1) 334 |
Heb sôn am ryfel. Wedi'r cyfan |
(0, 1) 335 |
Rhyw bethau bach fel hyn sy'n bwysig |
(0, 1) 336 |
I sgafnu'r baich sydd ar ein sgwyddau beunydd, |
(0, 1) 337 |
Rhag bod ein bywyd yn ddiflastod llwyr. |
(0, 1) 338 |
A heno, mae'n rhy braf i fwydro am faterion dwfn |
(0, 1) 339 |
Na datrys cymhlethdodau'r byd. |
(0, 1) 340 |
Yn hytrach, noson yw i wneud dim oll |
(0, 1) 341 |
Ond sipian gwin, neu wrando'n swrth ar felys gân, |
(0, 1) 342 |
Neu garu! |
|
|
(0, 1) 436 |
A'r morwyr wedi blino; |
(0, 1) 437 |
A hyd y gwyddon nid oes i ni na hafan deg na hindda. |
(0, 1) 438 |
Rydym yn dechrau cynefino â thywydd drwg; |
(0, 1) 439 |
Diflastod inni bellach yw addewidion gwag |
(0, 1) 440 |
A geiriau teg na ellir eu gwireddu. |
(0, 1) 441 |
Rho inni rywbeth pendant i gynnal a chryfhau ein ffydd, |
(0, 1) 442 |
A chodi ein calonnau. |
|
|
(0, 1) 698 |
Na, na Ddieithryn, ofer gofyn dim i ni |
(0, 1) 699 |
Does gennym ni run farn i'w chynnig; |
(0, 1) 700 |
Neu, yn hytrach, gwir f'ai dweud bod gennym amryw. |
(0, 1) 701 |
Mae rhai ar dân ynghylch y peth a'r peth, |
(0, 1) 702 |
Ac eraill sydd yn haeru run mor daer |
(0, 1) 703 |
Yn hollol i'r gwrthwyneb. |
(0, 1) 704 |
Pob un, wrth gwrs, |
(0, 1) 705 |
Yn credu gydag argyhoeddiad llwyr |
(0, 1) 706 |
Mai efô sy'n iawn, a bod pob daliad |
(0, 1) 707 |
Sy'n wahanol, nid yn unig yn sarhâd |
(0, 1) 708 |
Personol iddo ef ei hun, ond hefyd |
(0, 1) 709 |
Yn golygu aflwydd mawr i Athen. |
(0, 1) 710 |
Ond teg yw dweud, yn ddistaw bach, fod ambell lais, |
(0, 1) 711 |
Os nad yw'n plesio'r Awdurdodau'n llawn, |
(0, 1) 712 |
Yn cael ei fygu, neu ei foddi'n llwyr |
(0, 1) 713 |
Gan gytgan cryf y cydymffurfwyr. |
(0, 1) 714 |
~ |
(0, 1) 715 |
Fe welwch, felly, mai peth anodd iawn |
(0, 1) 716 |
I ni yw rhoi ein barn yn bendant, glir. |
(0, 1) 717 |
Rhyw ymbalfalu, rydym, yn y niwl, |
(0, 1) 718 |
A gogr-droi mewn penbleth. Beth arall |
(0, 1) 719 |
Allwn ni ei wneud? A dal ein gobaith |
(0, 1) 720 |
Y bydd Athen annwyl drwy ryw hynod wyrth |
(0, 1) 721 |
Yn dal i fyw; gan syfrdan sylweddoli |
(0, 1) 722 |
Yr arswydus ffaith fod ein diwylliant, |
(0, 1) 723 |
Etifeddiaeth, iaith — yn wir, bod ein bodolaeth |
(0, 1) 724 |
Hyd yn oed, yn gwegian uwch y gwagle. |
|
|
(0, 3) 1766 |
Mae tawelwch yn ein pentre ni heddiw, |
(0, 3) 1767 |
Mudandod galar rhy ddwfn i ddagrau; |
(0, 3) 1768 |
Nid oes, bellach, ochenaid i liniaru gwewyr y galon. |
(0, 3) 1769 |
Ai breuddwyd echrydus a gawsom ni neithiwr |
(0, 3) 1770 |
Pan ddaeth y belen dân o'r nef |
(0, 3) 1771 |
Ynghanol rhuo gwyllt y dreigiau du |
(0, 3) 1772 |
A wibiodd drosom drwy gymylau'r nos? |
(0, 3) 1773 |
A gawn ni ddeffro yn y man i'n gweld ein hunain |
(0, 3) 1774 |
Yn eistedd ar farwydos ein haelwydydd oer, |
(0, 3) 1775 |
A chofleidio'r plant i wneud yn siwr |
(0, 3) 1776 |
Eu bod yn gynnes a dianaf, iach? |
(0, 3) 1777 |
Na, na, ofer yw'r gobaith gwan y mynnem gydio ynddo |
(0, 3) 1778 |
Fel y cydia un ar foddi, laswelltyn. |
(0, 3) 1779 |
Gwyddom, pe codem ein llygaid, |
(0, 3) 1780 |
Y gwelem y lliain llonydd yn y gornel, |
(0, 3) 1781 |
A'r llaw fach, ddisymud, yn ymestyn oddi tano. |
(0, 3) 1782 |
Eisteddwn, felly, gan syllu'n hurt i'r lludw llwyd, |
(0, 3) 1783 |
I ail-fyw yr arswyd ddaeth i'r pentre neithiwr |
(0, 3) 1784 |
Ar fachlud haul. Clywn eto sŵn y traed |
(0, 3) 1785 |
A llais y swyddog swta yn y stryd. |
(0, 3) 1786 |
Clywn chwerthiniad iach plentyndod |
(0, 3) 1787 |
Yn fferru'n sydyn yn riddfaniad hir. |
(0, 3) 1788 |
Gwelwn fflach y bidog gwaedlyd yn y fflam |
(0, 3) 1789 |
A'r milwyr yn symud o dŷ i dŷ |
(0, 3) 1790 |
Mor hamddenol â phladurwyr yn y meysydd ŷd. |
(0, 3) 1791 |
Yna, y distawrwydd syfrdan, a chlindarddach |
(0, 3) 1792 |
Y cerbydau dur yn toddi draw i'r tarth. |
(0, 3) 1793 |
Clywn eto sgrech y fam |
(0, 3) 1794 |
Uwchben y corffyn bychan yn y llwch |
(0, 3) 1795 |
Sy'n llwtra gwlyb o gnawd a gwaed, |
(0, 3) 1796 |
A hithau'n darnio'i dillad yn ei hing. |
(0, 3) 1797 |
Wylo chwerw fu yma drwy oriau'r tywyllwch. |
(0, 3) 1798 |
Udodd y cŵn, hwythau eu galarnad trist |
(0, 3) 1799 |
O stomp a drewdod yr adfeilion. |
(0, 3) 1800 |
Ond heddiw mae'n pentre ni'n dawel, dawel. |
(0, 3) 1801 |
Torrodd y wawr, ond ni welsom olau dydd; |
(0, 3) 1802 |
Dringodd yr haul dros ysgwydd y grib, |
(0, 3) 1803 |
Ond ni threiddiodd ei belydrau |
(0, 3) 1804 |
I lymder oer ein calonnau clwyfedig. |
(0, 3) 1805 |
Bellach, nid oes gennym ddim ar ôl |
(0, 3) 1806 |
Ond diymadferthwch ac anobaith du. |
(0, 3) 1807 |
Ac eto, rhywfodd rhaid stryffaglio ymlaen, |
(0, 3) 1808 |
Heb wybod dim ond mai fel hyn |
(0, 3) 1809 |
Mae pethau wedi bod erioed, |
(0, 3) 1810 |
A bod ein gwaed yn staenio'r canrifoedd. |
|
|
(0, 3) 1931 |
Cytunwn yn llwyr. |
(0, 3) 1932 |
Rhodded Dionysos ei adroddiad inni felly, |
(0, 3) 1933 |
Ac esbonied pa sefyllfa enbyd |
(0, 3) 1934 |
A pha achos dwys a barodd iddo ddod i Hades |
(0, 3) 1935 |
Ar siwrna mor frawychus. |
(0, 3) 1936 |
Siaraded yn rhwydd: fe gaiff wrandawiad astud; |
(0, 3) 1937 |
Wedi'r cyfan nid bob dydd |
(0, 3) 1938 |
Y'n gelwir yma ger dy fron |
(0, 3) 1939 |
I drafod cais mor hynod! |