|
|
|
|
(1, 0) 6 |
Cwpan y grawnwin melys, |
(1, 0) 7 |
min wrth fin, min wrth fin, |
(1, 0) 8 |
cwpan a'i sawr fel y mefus, |
(1, 0) 9 |
cwpan sy'n gusan yr haul ar wefus, |
(1, 0) 10 |
cwpan y gwin. |
(1, 0) 11 |
~ |
(1, 0) 12 |
Mac carol y flwyddyn mewn cerwyni |
(1, 0) 13 |
yn sypiau, grawnsypiau gwin, |
(1, 0) 14 |
a'r winllan yn synnu ysgawned ei llwyni |
(1, 0) 15 |
a'r basgedeidiau grawn o'r twyni, |
(1, 0) 16 |
fin wrth fin, |
(1, 0) 17 |
wedi cyrraedd eu ffin. |
(1, 0) 18 |
~ |
(1, 0) 19 |
Dawnsiwn, canwn, lanciau, llancesi, |
(1, 0) 20 |
glin wrth lin, min wrth fin, |
(1, 0) 21 |
Bacchws lon a'r grawn yn ei dresi |
(1, 0) 22 |
a'i draed dano, siawns, |
(1, 0) 23 |
i arwain y ddawns, |
(1, 0) 24 |
Bacchws a Fenws i gusanu ag anwesu,─ |
(1, 0) 25 |
gwin ar fin yw min ar fin. |
(1, 0) 26 |
Dawnsiwn orfoledd cynhaea'r winwydden, |
(1, 0) 27 |
canwn i'r gwin, min wrth fin, |
(1, 0) 28 |
diod cariadon |
(1, 0) 29 |
ag offeiriadon, |
(1, 0) 30 |
hwb i galon |
(1, 0) 31 |
yr hen a'r blin,─ |
(1, 0) 32 |
dawnsiwn orfoledd cynhaea'r winwydden, |
(1, 0) 33 |
glin wrth lin. |
(1, 0) 34 |
~ |
(1, 0) 35 |
Cwpan y grawnwin melys, |
(1, 0) 36 |
min ar fin yw gwin ar fin, |
(1, 0) 37 |
cwpan a'i sawr a'i wawr fel y mefus, |
(1, 0) 38 |
cwpan sy'n gusan yr haul ar wefus, |
(1, 0) 39 |
cwpan y gwin, y gwin. |
|
|
(1, 0) 86 |
Ond serch |
(1, 0) 87 |
sy'n clymu c'lonnau mab a merch, |
(1, 0) 88 |
a phlentyn siawns yw serch. |
(1, 0) 89 |
Unwn ddwylo, |
(1, 0) 90 |
pa raid wylo? |
(1, 0) 91 |
Pwy sy dlawd pan fo'n anwylo? |
(1, 0) 92 |
~ |
(1, 0) 93 |
Os siawns |
(1, 0) 94 |
sy'n cyplu c'lonnau yn ei dawns, |
(1, 0) 95 |
hai, yfwn ati, Siawns! |
(1, 0) 96 |
Unwn ddwylo, |
(1, 0) 97 |
pa raid wylo? |
(1, 0) 98 |
Pwy sy dlawd pan fo'n anwylo? |
|
|
(1, 0) 129 |
Mae bod yn fyw yn fawr ryfeddod, |
(1, 0) 130 |
canwn i'r byw, y byw o bob oed; |
(1, 0) 131 |
gwell llygoden fyw na llew wedi darfod; |
(1, 0) 132 |
canwn cyn drewi; cyn rhewi o bob troed |
(1, 0) 133 |
a gorwedd yn y llan yn anniddan lonydd, |
(1, 0) 134 |
dawnsiwn i serch a llannerch llawenydd; |
(1, 0) 135 |
heddiw mae byw; canwn i ddaioni |
(1, 0) 136 |
a phêr haelioni'r ddaear crioed. |
|
|
(1, 0) 161 |
Be' wnewch chi, be' wnewch chi â'r aeres? |
(1, 0) 162 |
Nid ei chloi hyd ei thranc |
(1, 0) 163 |
na'i chau mewn lleiandy |
(1, 0) 164 |
i suro'n grin |
(1, 0) 165 |
yn rhyw flin abades! |
(1, 0) 166 |
O rhowch hi i'r llanc, |
(1, 0) 167 |
rhowch hi i'r llanc gydag aur o'r banc |
(1, 0) 168 |
i goroni cynhaea'r gwinllandy. |
(1, 0) 169 |
Be' wnewch chi â'r ferch siwgwr candi? |
(1, 0) 170 |
Nid fel anwariad |
(1, 0) 171 |
ei bwrw i'r llaid, |
(1, 0) 172 |
ond ei rhoi hi i'w chariad, |
(1, 0) 173 |
ag fe brifiwch yn daid, |
(1, 0) 174 |
fe brifiwch yn daid |
(1, 0) 175 |
a mwyneiddio yn hen fel hen frandi. |
|
|
(1, 0) 183 |
Unwn ddwylo, |
(1, 0) 184 |
pa raid wylo, |
(1, 0) 185 |
pwy sy dlawd pan fo'n anwylo? |