|
|
|
|
(0, 1) 463 |
Rhydd i bob dyn ei farn, |
(0, 1) 464 |
Ac i bob barn ei llafar. |
(0, 1) 465 |
Clywsom eiriau Cleon a'i addewid gwag, |
(0, 1) 466 |
Sydd inni, bellach, o'i ail-adrodd fynych dro |
(0, 1) 467 |
Yn ddincod ar y dannedd. |
(0, 1) 468 |
Tyrd, Cadmos, be sy gennyt ti i'w ddweud? |
(0, 1) 469 |
Beth yw dy neges di i Athen? |
|
|
(0, 1) 535 |
Be ddwedodd o — Socrates yn y Ddalfa? |
(0, 1) 536 |
Wel, a bod yn hollol onest, |
(0, 1) 537 |
Dyw hynna ddim yn syndod inni. |
(0, 1) 538 |
Wedi'r cyfan, dyn peryglus ydy o — eithafwr, |
(0, 1) 539 |
Sy'n arwain ein ieuenctid ar ddisberod |
(0, 1) 540 |
A mwydro eu meddyliau â'i syniadau od. |
(0, 1) 541 |
Fe fydd yn ddiogel yn y carchar: dyna'r lle |
(0, 1) 542 |
I ddysgu'r wers fod ufuddhau a chydymffurfio llwyr |
(0, 1) 543 |
Yn bwysig mewn cymdeithas. |
|
|
(0, 3) 1978 |
Wedi'r cyfan, beth sydd a wnelom ni ag Athen? |
(0, 3) 1979 |
Paham y dylem yma yn ein bythol hedd |
(0, 3) 1980 |
Roi heibio ein hysbrydol ddiddordebau; |
(0, 3) 1981 |
Ein breiniol, ddyrchafedig fyfyrdodau |
(0, 3) 1982 |
Er mwyn ymboeni â bawaidd hynt a helynt |
(0, 3) 1983 |
Y truan hwn a'i debyg? |
|
|
(0, 3) 2056 |
Fel y dywedaist, Plwton, cawsom gan y Gwrol Rai |
(0, 3) 2057 |
Dderbyniad rhwydd a phob cwrteisi; |
(0, 3) 2058 |
Cyn rhoi yn gryno ger eu bron |
(0, 3) 2059 |
Ddiffuant gais Dionysos. |
(0, 3) 2060 |
Yna rôl iddynt ymneilltuo dro |
(0, 3) 2061 |
I ymgynghori'n ddwys a phwyllog drin a thrafod, |
(0, 3) 2062 |
Fe gawsom ganddynt, toc, ddatganiad fel a ganlyn: |
(0, 3) 2063 |
"Gwerthfawrogwn daerni ple Dionysos, |
(0, 3) 2064 |
Anrhydedd inni oedd ei dderbyn. |
(0, 3) 2065 |
Eto i gyd, nid yw ein gallu, gwaetha'r modd |
(0, 3) 2066 |
Yn llawn gymhesur â'i fawr hyder ynom. |
(0, 3) 2067 |
Ond gwyddom a deallwn yn rhy dda |
(0, 3) 2068 |
Pa bryder a'i cymhellodd. |
(0, 3) 2069 |
Mae cyflwr Athen a'i hargyfwng trist |
(0, 3) 2070 |
Yn loes i ninnau hefyd. |
(0, 3) 2071 |
Ond ofer fyddai inni fynd yn ôl |
(0, 3) 2072 |
I geisio'i hysbrydoli. Ni allem ychwanegu dim |
(0, 3) 2073 |
Nas argymhellwyd gennym eisoes yn y dyddiau gynt. |
(0, 3) 2074 |
A hyd yn oed petaem dros dro'n dychwelyd, |
(0, 3) 2075 |
Yn y carchar fyddem ninnau hefyd cyn pen dim, |
(0, 3) 2076 |
Fel llawer gwron arall sydd y funud hon |
(0, 3) 2077 |
Mewn cyffion, am iddynt wrthod plygu glin |
(0, 3) 2078 |
I ormes, ac am feiddio codi llais |
(0, 3) 2079 |
Yn erbyn cydymffurfio gwasaidd eu cyd-wladwyr. |
(0, 3) 2080 |
Pa angen ysbrydoliaeth arall sydd? |
(0, 3) 2081 |
Mae i bob oes ei harwyr. |
(0, 3) 2082 |
Mae tynged Athen, bellach, yn ei dwylo hi ei hun." |