| (0, 2) 1273 | C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca! |
| (0, 2) 1274 | Mor hyfryd yw anthem y Broga! |
| (0, 2) 1275 | A dyma ni'n glyd, |
| (0, 2) 1276 | Yn hapus ein byd, |
| (0, 2) 1277 | Peidiwch, da chi, â'i ddifetha. |
| (0, 2) 1278 | ~ |
| (0, 2) 1279 | Pa ddiben pryderu |
| (0, 2) 1280 | Am helbul yfory, |
| (0, 2) 1281 | A mwydro eich pennau |
| (0, 2) 1282 | Â dyrys broblemau? |
| (0, 2) 1283 | Rhyfygu penwynni |
| (0, 2) 1284 | Yw mynych ymboeni |
| (0, 2) 1285 | A gwahodd y rhychau |
| (0, 2) 1286 | Ar draws eich talcennau. |
| (0, 2) 1287 | Os ydych am heddwch, |
| (0, 2) 1288 | A hyfryd lonyddwch, |
| (0, 2) 1289 | Fe'u cewch os dewiswch |
| (0, 2) 1290 | Ddi-hîd ddifaterwch. |
| (0, 2) 1291 | ~ |
| (0, 2) 1292 | C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca! |
| (0, 2) 1293 | Mor hyfryd yw anthem y Broga! |
| (0, 2) 1294 | A dyma ni'n glyd |
| (0, 2) 1295 | Yn hapus ein byd, |
| (0, 2) 1296 | Peidiwch, da chi, â'i ddifetha. |
| (0, 2) 1297 | ~ |
| (0, 2) 1298 | Ystyriwch am funud |
| (0, 2) 1299 | Mor fregus yw bywyd, |
| (0, 2) 1300 | Mor fyr ac adeiniog |
| (0, 2) 1301 | Mor gwta a gwibiog. |
| (0, 2) 1302 | Gan hynny, doethineb |
| (0, 2) 1303 | Yn sicr yw'r wireb: |
| (0, 2) 1304 | Mwynhewch yn frwdfrydig |
| (0, 2) 1305 | Y wledd ddiflanedig. |
| (0, 2) 1306 | Os bydd unrhyw ddanod |
| (0, 2) 1307 | Am hyn, neu anghydfod, |
| (0, 2) 1308 | Ein dull ni, Lyffantod, |
| (0, 2) 1309 | Yw boddi'r Gydwybod! |
| (0, 2) 1310 | ~ |
| (0, 2) 1311 | C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca! |
| (0, 2) 1312 | Mor hyfryd yw anthem y Broga! |
| (0, 2) 1313 | A dyma ni'n glyd |
| (0, 2) 1314 | Yn hapus ein byd, |
| (0, 2) 1315 | Peidiwch, da chi, â'i ddifetha. |
| (0, 2) 1316 | ~ |
| (0, 2) 1317 | Ein gofal ni beunydd — |
| (0, 2) 1318 | Ein hunig ddyletswydd — |
| (0, 2) 1319 | Yw gweld bod ein ffosydd |
| (0, 2) 1320 | A'n llynnoedd yn llonydd; |
| (0, 2) 1321 | Dim rhaid bod yn effro — |
| (0, 2) 1322 | Ond gochel rhag cyffro — |
| (0, 2) 1323 | Cawn gwsg mewn seguryd |
| (0, 2) 1324 | A nefol esmwythyd. |
| (0, 2) 1325 | Mor ddibwys i Lyffant |
| (0, 2) 1326 | Yw iaith a diwylliant, |
| (0, 2) 1327 | A chenedlaetholdeb |
| (0, 2) 1328 | Yn ddim ond ffolineb! |
| (0, 2) 1329 | ~ |
| (0, 2) 1330 | C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca! |
| (0, 2) 1331 | Mor hyfryd yw anthem y Broga! |
| (0, 2) 1332 | A dyma ni'n glyd |
| (0, 2) 1333 | Yn hapus ein byd |
| (0, 2) 1334 | Peidiwch, da chi, â'i ddifetha. |
| (0, 2) 1335 | ~ |
| (0, 2) 1336 | Ym mhob oes ceir ffyliaid |
| (0, 2) 1337 | Ac amryw benboethiaid, |
| (0, 2) 1338 | Sy'n teimlo rhyw ysfa |
| (0, 2) 1339 | I wella'r sefyllfa! |
| (0, 2) 1340 | Mae rhai'n ddigon eiddgar |
| (0, 2) 1341 | I fyned i garchar; |
| (0, 2) 1342 | Ac eraill yn barod |
| (0, 2) 1343 | I ddiodde merthyrdod! |
| (0, 2) 1344 | Rôl meddwl yn sobor |
| (0, 2) 1345 | Am hyn, dyma'n cyngor: |
| (0, 2) 1346 | Os baich yw Egwyddor, |
| (0, 2) 1347 | Peth doeth yw ei hepgor! |
| (0, 2) 1348 | ~ |
| (0, 2) 1349 | C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca! |
| (0, 2) 1350 | Mor hyfryd yw anthem y Broga! |
| (0, 2) 1351 | A dyma ni'n glyd, |
| (0, 2) 1352 | Yn hapus ein byd, |
| (0, 2) 1353 | Peidiwch, da chi, â'i ddifetha. |