| (0, 1) 349 | Atheniaid a chymrodyr! |
| (0, 1) 350 | Wna i mo'ch cadw chi yn hir; anerchiad byr sy gen i. |
| (0, 1) 351 | Eto i gyd fedra i ddim gorbwysleisio fy neges. |
| (0, 1) 352 | Fel y gwyddoch, Gyfeillion, cyfnod cythryblus ydy hwn. |
| (0, 1) 353 | Cyfnod o argyfwng. |
| (0, 1) 354 | Yn wir nid gor-liwio fai dweud bod tynged Athen yn y fantol. |
| (0, 1) 457 | Rhagrith! |
| (0, 1) 470 | Gyfeillion dydy huodledd Gleon ddim gen i. |
| (0, 1) 471 | Fedra i ddim byseddu tannau eich calonnau. |
| (0, 1) 472 | Na chorddi eich teimladau efo ffregod barddonllyd ffug. |
| (0, 1) 474 | Fe glywsoch Cleon rwan yn rhestru cardod prin ei Blaid fel tae o'n fendith hael o'r nef. |
| (0, 1) 475 | A disgwyl i chwithau syrthio'n ufudd-ddiolchgar ar eich gliniau. |
| (0, 1) 476 | Plaid y Bobol, wir! |
| (0, 1) 477 | Plaid y Tlodion! |
| (0, 1) 478 | Rhagrith gwên-deg. |
| (0, 1) 479 | Ond dyna'u hanes nhw erioed cynllwyn a thwyll dan gochl rhinwedd. |
| (0, 1) 480 | Pregethu rheidrwydd aberth yn ddi-baid — gan eraill. |
| (0, 1) 481 | O, mae Cleon a'i Blaid yn eitha bodlon! |
| (0, 1) 482 | Swyddi bras i'r hogia. |
| (0, 1) 483 | A phawb yn pluo 'i nyth ei hun. |
| (0, 1) 484 | Ond gwneud sŵn gwerinol wrth wneud... |
| (0, 1) 485 | Dau swllt yr wythnos i'r henoed! |
| (0, 1) 486 | Dau swllt! |
| (0, 1) 487 | Prin ddigon i brynu crystyn sych i rygnu byw ymlaen. |
| (0, 1) 488 | Yn y cyfamser, mae'r rhyfel gwallgo yma'n mynd o ddrwg i waeth. |
| (0, 1) 489 | Ac Athen yn gwaedu'n raddol i farwolaeth. |
| (0, 1) 491 | Fy neges i yn syml ydy hyn — heddwch! |
| (0, 1) 492 | A diwedd ar y lladd a'r rheibio, yr anrhaith a'r diodde. |
| (0, 1) 493 | Tywalltwyd gormod o waed yn barod. |
| (0, 1) 494 | Mae'r Ddinas yn llawn gweddwon a phlant amddifaid. |
| (0, 1) 495 | Heddwch, ar unrhyw delerau fydd yn diogelu ein hunan-barch. |
| (0, 1) 496 | Heddwch cyn i Athen fynd yn sarn, a dim ar ôl ond pentwr o adfeilion myglyd! |