|
|
|
|
(1, 7) 249 |
'I Blas Gogerddan heb dy dad! |
(1, 7) 250 |
Fy mab, erglyw fy llef: |
(1, 7) 251 |
Dos dithau'n ôl i faes y gad |
(1, 7) 252 |
Ac ymladd gydag ef! |
(1, 7) 253 |
Dy fam wyf i, a gwell gan fam |
(1, 7) 254 |
It golli gwaed fel dwfr, |
(1, 7) 255 |
Neu agor drws i gorff y dewr, |
(1, 7) 256 |
Na derbyn bachgen llwfr.' |
(1, 7) 257 |
~ |
(1, 7) 258 |
'I'r nefoedd dos, ac yno gwêl |
(1, 7) 259 |
Arluniau'r Prysiaid pur; |
(1, 7) 260 |
Mae tân yn llygad llym pob un, |
(1, 7) 261 |
Yn olau ar y mur.' |
(1, 7) 262 |
'Nid fi yw'r mab amharcha'i fam, |
(1, 7) 263 |
Ac enw tŷ ei dad; |
(1, 7) 264 |
Cusenwch fi, fy mam,'medd ef, |
(1, 7) 265 |
Ac aeth yn ôl i'r gad. |
(1, 7) 266 |
~ |
(1, 7) 267 |
Daeth ef yn ôl i dŷ ei fam, |
(1, 7) 268 |
Ond nid, ond nid yn fyw: |
(1, 7) 269 |
Medd hithau, 'O fy mab! fy mab! |
(1, 7) 270 |
O maddau im, O Dduw! |
(1, 7) 271 |
Ar hyn, atebai llais o'r mur: |
(1, 7) 272 |
'Trwy Gymru tra rhed dwfr, |
(1, 7) 273 |
Mil gwell yw marw'n fachgen dewr |
(1, 7) 274 |
Na byw yn fachgen llwfr.' |
(1, 7) 275 |
~ |
(1, 7) 276 |
[Ceiriog] |