| (0, 4) 341 | Duw fo'n gwarchod, y câr Pobun, beth yw rhyw gyfarchiad fel yna? |
| (0, 4) 342 | Beth sydd o'i le arnat? |
| (0, 4) 363 | Ni bydd hynny ddim mor hawdd i chwi, myn gafr, achos y mae'ch cogydd yn un mor dda, a'r gwin heblaw hynny yn twymo'r gwaed. |
| (0, 4) 364 | 'Rwyf i'n ddigon cartrefol lle'r wyf. |
| (0, 4) 367 | Ni bydd ef ddim yn gyffredin yn siarad fel hyn. |
| (0, 4) 396 | Mi wn. |
| (0, 4) 397 | Y tu ôl i'r talcen y mae'r drwg, rhyw sychter yn yr ymennydd. |
| (0, 4) 398 | Mi welais yr un helynt ar fy nhad fy hun, [fe fyddai'n aml fel hyn]. |
| (0, 4) 399 | Rhaid iti yfed llwnc er mwyn i'r gwin ireiddio d'ymennydd di. |
| (0, 4) 400 | Hwdiwch, hogiau! |
| (0, 4) 401 | Poethwch y gwin nes bod yr angerdd yn codi i'r awyr, a dodwch sinamwn a sinsir ynddo. |
| (0, 4) 455 | [Fy nghyfaill tenau, gwae ni, gwae ni, cawn glywed ei gân am yr eira oer!] |
| (0, 4) 485 | O ryw ddrwg yn y gwaed y cyfyd peth fel hyn. |
| (0, 4) 486 | Mi baraf dwymo cwpanaid o win eto i chwi. |
| (0, 4) 514 | Ni chlywaf i ddim llef. |
| (0, 7) 688 | Gan bwyll, fy nghâr Pobun. |
| (0, 7) 689 | Os gwrandewi arnaf i, dim ond un gair—gan bwyll! |
| (0, 7) 691 | Dim ond gan bwyll. |
| (0, 7) 692 | Nid am adael y mae'r sôn—cywilydd i mi fyddai'ch gadael mewn trybini, |
| (0, 7) 694 | [Cymerwn, fel y dywedwyd, ynwir! |
| (0, 7) 695 | Gwelwch ein bod yn ffyddlon i chwi.] |
| (0, 7) 697 | Perthynasau ydym ni! |
| (0, 7) 699 | [Do... |
| (0, 7) 700 | Mi wn, Pobun... |
| (0, 7) 701 | Felly y bu, ond nid wyf i'n deall y cwbl!] |
| (0, 7) 703 | [Ie, fel y dywedwyd—] |
| (0, 7) 705 | [Ie, fel y dywedwyd eisoes, "Mae gwaed yn dewach na dŵr."] |
| (0, 7) 707 | [Ha, byth? |
| (0, 7) 708 | Yn siwr, lle ni bo dim byd, yno bydd hawl y brenin wedi colli.] |
| (0, 7) 710 | [Nid wrth glustiau byddar yr oeddych yn llefaru.] |
| (0, 7) 713 | [Ai sicr gennych i chwi ddeall y gennad yn iawn?] |
| (0, 7) 715 | [Y geiriau a'u hystyr, a ddeallsoch chwi'r cwbl yn iawn?] |
| (0, 7) 717 | Hynny yw, meddaf i—rhyw ymwelwr heb ei eisiau ydoedd? |
| (0, 7) 718 | H'm, gâr! |
| (0, 7) 720 | Felly'r ydych yn barnu megis finnau? |
| (0, 7) 721 | Ie, fel y dywedwyd, ie, Duw'n rhwydd gyda thi, fy nghâr, Pobun, dyna i chwi'r cwbl sy gennyf i i'w ddywedyd. |
| (0, 7) 723 | [Ond odid nad oes i ti ryw ddymuniad arall? |
| (0, 7) 724 | Siarad yn eglur, y câr.] |
| (0, 7) 727 | Pa fath gyfrif, dywed? |
| (0, 7) 730 | [Beth? |
| (0, 7) 731 | Y tu draw? |
| (0, 7) 732 | Ai dyna fel y mae hi? |
| (0, 7) 733 | Na, Pobun, nid af i yno, ac ni'm cei i i'th ganlyn! |
| (0, 7) 734 | Byddai well gennyf fod mewn tywyllwch ar fara a dŵr am ddeng mlynedd!] |
| (0, 7) 737 | Hai, ŵr! |
| (0, 7) 738 | Beth sydd? |
| (0, 7) 739 | Cymer galon, ddyn, a phaid â dechrau cwyno! |
| (0, 7) 740 | Ond rhaid iti adael i mi ddywedyd hyn—ni ddygi di monof i unwaith ar hyd y llwybr yna. |
| (0, 7) 746 | [{Gan aros ennyd a dywedyd dros ei ysgwydd.} |
| (0, 7) 747 | Ni elli di mo'n hudo ni, gad hynny heibio, ond y mae i mi enethig lân adref sy'n awyddus dros ben am deithio. |
| (0, 7) 748 | Pe bai honno wrth dy fodd, fe'i rhoddwn iti o ewyllys da. |
| (0, 7) 749 | Efallai yr ai hi gyda thi i'r daith.] |
| (0, 7) 751 | Aros yma, a dymuno pob da i tithau! |