| (1, 0) 501 | 'Esu, 'dwi 'di ca'l llond bol o'r hen le 'ma. |
| (1, 0) 503 | Mor dawal. |
| (1, 0) 505 | Hen le oer. |
| (1, 0) 507 | Mae o bron â 'ngyrru fi rownd y bend. |
| (1, 0) 510 | Ond, chwara' teg Ann ─ mae hi'n galad arnon ni... |
| (1, 0) 512 | Hy, cath wedi cael ei chaneri neithiwr debyg. |
| (1, 0) 515 | Mae'n galad ar rei 'sdi. |
| (1, 0) 518 | 'Roedd hi'n galad arno fynta hefyd dwi'n siŵr. |
| (1, 0) 520 | Am fod 'i 'leave' o wedi gorffen o'n i'n 'i feddwl siŵr. |
| (1, 0) 521 | Nôl i'r ffrynt heddiw ia? |
| (1, 0) 523 | Join ddy clyb 'ta, 'ngenath i. |
| (1, 0) 525 | Clwb dim dynion 'de? |
| (1, 0) 526 | 'Does 'na 'run i'w ga'l yn unlla 'sdi. |
| (1, 0) 529 | Dyn! |
| (1, 0) 530 | 'Choelia i ddim yn fy mywyd. |
| (1, 0) 534 | Dwn 'im ─ 'chydig o trening i hwn a mi fydd cystal ag unrhyw ddyn. |
| (1, 0) 536 | Dowch yn nes. |
| (1, 0) 538 | Hei, Sami ─ ti'n gw'bod be'? |
| (1, 0) 540 | Mae'r hogan acw... {mae'n pwyntio at Anwen} yn dy ffansio di... |
| (1, 0) 543 | Actia'r part hogan i mi ga'l dipyn o hwyl. |
| (1, 0) 545 | Wel, be' ti'n mynd i'w wneud am y peth, e? |
| (1, 0) 547 | I'w cha'l hi i ddod allan efo ti siŵr iawn. |
| (1, 0) 549 | Gwranda. |
| (1, 0) 550 | Wyt ti isho i imi ddangos i ti? |
| (1, 0) 551 | Mi fyddi di'n ddyn wedyn yli. |
| (1, 0) 552 | Yn ffilm star ella. |
| (1, 0) 553 | Rwan cwyd i mi gael dangos i ti. |
| (1, 0) 555 | Sbia ar hyn. |
| (1, 0) 557 | Hi there, pussy cat. |
| (1, 0) 558 | Ti'n dod am diod bach efo fi? |
| (1, 0) 559 | (Wrth Anwen, fel petai'n gweini.) |
| (1, 0) 560 | Siampen! |
| (1, 0) 561 | Keep 'da change! |
| (1, 0) 563 | Here's lookin' at you, kid. |
| (1, 0) 565 | Ti'n gweld? |
| (1, 0) 566 | Mae o'n hawdd yn tydi? |
| (1, 0) 567 | Rwan tria di o... |
| (1, 0) 570 | Ty'd rwan Sami bach. |
| (1, 0) 573 | O, ti'n rel llo gwlyb yn dwyt? |
| (1, 0) 575 | Faint ydi dy oed di Sami? |
| (1, 0) 577 | Faint ydi dy oed di'r lembo? |
| (1, 0) 580 | Y... y... newydd droi ugain... y... dest iawn... ydi o wchi... |
| (1, 0) 587 | Dwyt ti ddim yn ffarmwr yn nagwyt, a dwyt ti ddim yn conshi ─ fasa fo ddim yn gw'bod be' mae hynny'n ei feddwl. |
| (1, 0) 588 | Felly pam nad wyt ti yn yr armi 'ta, 'mlodyn gwyn i? |
| (1, 0) 593 | R'wbath yn bod arnat ti, ia Sami bach? |
| (1, 0) 594 | Deud ti be rwan 'ngwas bach annwyl i. |
| (1, 0) 597 | Am bod ti'n dwlali. |
| (1, 0) 602 | Mi fasat ti'n lladd yn hogia ni. |