Cuesheet

Y Llyffantod

Lines spoken by Cerberws (Total: 155)

 
(0, 2) 1508 Wel, beth ydy peth fel hyn?
 
(0, 2) 1511 Dionysos!
(0, 2) 1512 Rhyfedd iawn dy weld di yma!
 
(0, 2) 1514 Felly?
(0, 2) 1515 Wel, mi gawn y manylion i gyd yn y man.
 
(0, 2) 1517 Poeth.
(0, 2) 1518 Chwys diferol.
(0, 2) 1519 Prysur w'chi.
(0, 2) 1520 Trio'i dal hi ymhobman ar unwaith.
 
(0, 2) 1522 Fi?
(0, 2) 1523 Yfed ar ddyletswydd?
(0, 2) 1524 Hollol groes i'r Rheolau.
(0, 2) 1525 Ddylwn i ddim.
 
(0, 2) 1527 Ond gan mai ti sy'n 'i gynnig o, wel, mi gymera i ryw lymaid.
 
(0, 2) 1529 Llawer o gic ynddo fo?
 
(0, 2) 1533 Ond dipyn mwy blasus!
 
(0, 2) 1535 O, ymweliad arbennig, ddwedaist ti?
 
(0, 2) 1537 Rhaid cael y ffurflen briodol felly.
(0, 2) 1538 Aros di!
 
(0, 2) 1540 Ia, dyma hi.
(0, 2) 1541 "Special Visits. To be filled in triplicate".
(0, 2) 1542 Rwan, enw?
 
(0, 2) 1544 Nid dyna'r pwynt.
(0, 2) 1545 Rhaid imi ofyn yn ffurfiol i ti.
(0, 2) 1546 A rhaid i titha, yr un mor ffurfiol, roi'r ateb.
 
(0, 2) 1548 Nid fy lle i ydy gofyn pam.
(0, 2) 1549 Dyna'r Rheol.
(0, 2) 1550 Rwan, unwaith eto — enw?
 
(0, 2) 1553 "Occupation and/or Profession."
(0, 2) 1554 Be rown ni fel galwedigaeth?
 
(0, 2) 1557 Categori?
(0, 2) 1558 Dionysos
(0, 2) 1559 Trydydd.
 
(0, 2) 1561 "Godling".
(0, 2) 1562 Dironysos
(0, 2) 1563 Beth?
(0, 2) 1564 "Godling" — duwcyn bach yn nhafodiaeth Athen.
(0, 2) 1565 Un o'r mân-dduwiau, i fod yn fanwl, fel tae.
 
(0, 2) 1567 "Reason for and motive or purpose of visit"?
 
(0, 2) 1569 "Nature of business or matter to be discussed"?
 
(0, 2) 1571 Beth!
(0, 2) 1572 Achub Athen?
(0, 2) 1573 Chlywais i erioed y fath beth!
 
(0, 2) 1577 "Approximate duration of visit"?
 
(0, 2) 1579 Thâl hynny ddim.
(0, 2) 1580 Hynny ydy, rhaid iti fod yn fwy penodol nag amhenodol, mewn ffordd o siarad.
(0, 2) 1581 Mewn geiria eraill rhaid iti roi rhyw syniad i mi...
(0, 2) 1582 Wel?
 
(0, 2) 1585 Reit, dyna'r cyfan am wn i.
(0, 2) 1586 Mi fedra i lenwi'r gweddill fy hun, rhag gwastraffu amser...
(0, 2) 1587 Rwan, beth am dy gydymaith?
 
(0, 2) 1591 Hanner munud!
 
(0, 2) 1593 Beth ydy peth fel hyn?
 
(0, 2) 1595 Rwy'n synnu atat ti, Dionysos.
(0, 2) 1596 "Blatant breach of the Regulations and Contravention of the Law".
(0, 2) 1597 Dyna be ydy hyn!
 
(0, 2) 1599 Nid i mi.
(0, 2) 1600 Waeth heb na hel dail.
(0, 2) 1601 Mae'r peth yn drosedd anfaddeuol.
 
(0, 2) 1603 Yn ôl "Regulation 7 Sub-Section 2B" mae hwn yn "Prohibited Immigrant".
 
(0, 2) 1605 Amhosib!
 
(0, 2) 1607 Ystumio'r Gyfraith?
(0, 2) 1608 I mi mae'r Gyfraith yn gysegredig, pob llythyren ohoni.
(0, 2) 1609 Ewch i unman heb Gyfraith.
(0, 2) 1610 Wnewch chi affliw o ddim heb Gyfraith.
(0, 2) 1611 A gwas y Gyfraith ydw i.
(0, 2) 1612 Nid y fi sy'n gwneud y Gyfraith.
(0, 2) 1613 Ond fy nyletswydd i ydy gofalu bod y Gyfraith yn cael ei chadw.
(0, 2) 1614 Pob Cyfraith.
(0, 2) 1615 Nid fy lle i ydy gofyn prun ai Cyfraith Dda ynte Cyfraith Ddrwg ydy hi.
(0, 2) 1616 Mater i eraill ydy dehongli'r Gyfraith.
(0, 2) 1617 Fel y dwedais i, gweinyddu'r Gyfraith yn unig ydy fy ngorchwyl i.
(0, 2) 1618 Ac felly cheith hwn, pwy bynnag ydy o, ddim mynd cam ymlaen.
(0, 2) 1619 Hyd yn oed yn dy gwmni di.
(0, 2) 1620 Hynny ydy, nes daw 'i amser o fel pawb arall.
(0, 2) 1621 Mi gaf olwg ar ei gymwysterau o bryd hynny.
 
(0, 2) 1623 Does yna neb erioed o deip hwn {cyfeirio at Nicias} wedi mynd heibio i mi, wyddost ti.
(0, 2) 1624 Dim un copa gwalltog!
 
(0, 2) 1626 Dim un.
(0, 2) 1627 Record go dda, 'te?
 
(0, 2) 1629 O mi wn i be rwyt ti'n mynd i ddweud.
(0, 2) 1630 Bod yna un wedi mynd.
(0, 2) 1631 Mae hynny oes y cogau yn ôl.
(0, 2) 1632 A dim ond trwy dwyll y llwyddodd o, deall di!
(0, 2) 1633 Felly dydw i ddim yn ei gyfri o...
(0, 2) 1634 Am hwnnw roeddet ti'n meddwl, ynte?
(0, 2) 1635 Y canwr-pop gwallt hir hwnnw, beth bynnag oedd ei enw fo.
 
(0, 2) 1637 la, rhywbeth felly.
(0, 2) 1638 A wyddost ti be, fedra i ddim diodde 'i deip o byth er hynny.
(0, 2) 1639 Codi 'ngwrychyn i bob amser.
(0, 2) 1640 Meddwl am ddim ond am ferchaid a chyffuriau, a sothach o'r fath.
 
(0, 2) 1642 Dim amheuaeth!
(0, 2) 1643 Beth oedd o'n i wneud yn Hades, meddet ti?
(0, 2) 1644 Cymowta ar ôl y ferch honno, dyna iti be.
 
(0, 2) 1646 Beth?
 
(0, 2) 1648 Ia, mae o'i lawr gen i yn rhywle.
(0, 2) 1649 Doeddwn i ddim yn 'i ddisgwyl o.
(0, 2) 1650 Fe ddaeth o yma, chwap, fel huddyg i botes.
(0, 2) 1651 A mi ddweda i sut y twyllodd o fi.
 
(0, 2) 1653 Ro'n i'n gofyn cwestiynau iddo fo.
(0, 2) 1654 Yn union fel ro'wn i'n dy holi di rwan.
(0, 2) 1655 Ac yn sydyn, dyna fo'n gofyn imi gâi o fwyta brechdanau a oedd ganddo fo mewn papur.
(0, 2) 1656 "Dim gwrthwynebiad", medda fi, "yn ôl y Rheolau", medda fi....
(0, 2) 1657 Ydy'r gwin yma braidd yn gry dwedwch?...
(0, 2) 1658 Ple roeddwn i hefyd?
 
(0, 2) 1660 O ia, brechdanau.
(0, 2) 1661 Wel yn sydyn, dyma fo'n tynnu teisen allan.
(0, 2) 1662 "Dyma ichi gacen werth chweil", medda fo.
(0, 2) 1663 "Yn llawn o gyrans gora Corinth", medda fo.
(0, 2) 1664 "Ac wedi ei thylino gan nwydus lodesau, llygatddu lluniaidd", medda fo...
(0, 2) 1665 Merched eto, sylwch!...
(0, 2) 1666 "A'u crasu, medda fo wedyn, 'a'u crasu ar gerrig cysegredig, euraid-Ynys Samos...
(0, 2) 1667 Gymerwch chi damaid?", medda fo wedyn.
(0, 2) 1668 Wel ar ôl y fath ganmol, sut oedd modd imi wrthod?
(0, 2) 1669 Hynny ydy, heb ymddangos... {mae Cerberws yn ymladd yn erbyn cwsg}... heb ymddangos yn be-ydach-chi'n-'i-alw... be-ydach-chi'n-'i-alw...!
 
(0, 2) 1671 Dyna fo'r gair...
(0, 2) 1672 Anghwrtais...
(0, 2) 1673 "Tamaid bach", medda fo.
(0, 2) 1674 "Lleia erioed", medda fi.
(0, 2) 1675 "Dim ond mymryn i brofi dan fy naint", medda fi wedyn.
(0, 2) 1676 "Dydw i ddim i fod i fwyta ar ddyletswydd."
(0, 2) 1677 "Dyma chi", medda ynta wedyn, a rhoi andros o sleisen imi...
(0, 2) 1678 Wel, i lawr â hi.
(0, 2) 1679 Blasus tu hwnt!
(0, 2) 1680 Erioed wedi profi gwell...
(0, 2) 1681 Ond nid cyrans Corinth yn unig oedd yn y gacen honno.
(0, 2) 1682 O na!
(0, 2) 1683 Roedd y cnaf strywgar wedi rhoi rhyw gyffur felltith ynddi...
 
(0, 2) 1685 Cyffuria...
(0, 2) 1686 Finna, wedyn yn dechra teimlo... dechra teimlo'n gysglyd... hynny ydy... ia... cysglyd... cysglyd... c... y... s... g... l... y... d...!
 
(0, 4) 2276 Wel rwy i'n brysur ofnadwy, Dionysos.
(0, 4) 2277 Official duties.
(0, 4) 2278 Dim amser i ddal pen rheswm na malu awyr.
 
(0, 4) 2282 Edrych yma Dionysos, rwyt ti wedi achosi digon o drafferth a helbul imi'n barod.
(0, 4) 2283 Ti a'r tipyn gwas yna oedd gen' ti o'r Byd Arall.
(0, 4) 2284 Mi leciwn i gael gafael arno fo!
 
(0, 4) 2287 Dim golwg, y bwbach beiddgar!
(0, 4) 2288 Rhaid ei fod o wedi sleifio heibio y tu ôl imi pan oeddwn i'n sgwrsio efo ti wrth y Porth.
(0, 4) 2289 Y llabwst anghwrtais!
(0, 4) 2290 Ond aros imi gael fy nwylo arno fo.
(0, 4) 2291 Mi fydd yn difaru hyd at ei flewyn olaf!
 
(0, 4) 2293 Dim o gwbwl.
(0, 4) 2294 Rhy amlwg.
(0, 4) 2295 Dyna mae o'n 'i |ddisgwyl| inni gredu.
(0, 4) 2296 O na, mae gen i syniad go lew ble mae o.
(0, 4) 2297 O oes!
 
(0, 4) 2299 Y lle mwya annhebygol inni fynd i chwilio amdano fo.
 
(0, 4) 2301 Yn ymyl Tartarws.
(0, 4) 2302 Ar fy ffordd yno roeddwn i rwan.
(0, 4) 2303 Ddoi di efo fi?
 
(0, 4) 2311 Dyna fo'r llaprwth powld!
(0, 4) 2312 Hei, ti yna, aros!
 
(0, 4) 2314 Wyt ti'n clywed, y cnaf digywilydd!
(0, 4) 2315 Yr adyn haerllug!
(0, 4) 2316 Tyrd yma imi gael gafael ar dy wegil di!