| (0, 2) 68 | Dyma dŷ'r gŵr goludog, Pobun. |
| (0, 2) 69 | O, f'arglwydd, yr wyf yn crefu arnat, dyro i mi gymorth o'th dosturi, a bydd drugarog at dlawd. |
| (0, 2) 73 | O, fy meistr, Pobun, tosturia wrthyf. |
| (0, 2) 78 | O, fy meistr Pobun, atat ti yr wyf yn dal fy llaw. |
| (0, 2) 79 | Gwelais innau well dyddiau gynt. |
| (0, 2) 80 | Unwaith bûm gymydog i ti, dŷ wrth dŷ, ond bu raid i mi ymadael. |
| (0, 2) 84 | Rhodd fach yw honyna. |
| (0, 2) 89 | Honyna, pe cawn fy rhan fel brawd o gymydog o honyna, byddwn eto'n iach a dedwydd. |
| (0, 2) 91 | Am hynny yr wyf yn penlino o'th flaen. |
| (0, 2) 92 | Rhan y pwrs yna â mi, dim ond hynny. |
| (0, 2) 98 | Yr wyt ti'n gyfoethog dros fesur. |
| (0, 2) 99 | Pe rhennit y god yn gyfartal â mi, byddai cistiau ddigon gennyt wedyn, a'r rhenti a'r llogau yn llifo i mewn iddynt. |
| (0, 2) 109 | Os yw'r arian hyn i fynd am yr ardd, nid rhaid i ti ond amneidio—yn lle un pwrs y mae deg ar dy helw. |
| (0, 2) 110 | Galw am un araÌl rhag blaen, a rhan â mi, os wyt ti'n Gristion. |