|
|
|
|
(1, 0) 120 |
Na chei di, Nansi, na'r plant ddim starvo tra bo Dafi'r Teiliwr yn gallu iwso nodwydd. |
(1, 0) 121 |
Ar dy ffordd adre galw yn ein tŷ ni, a gwêd wrth Marged am roi cwded o flawd i ti, a phishyn o ham y mochyn coch. |
|
|
(1, 0) 124 |
Mae 'ngwâd i'n berwi wrth ych clwed chi, Mr. Williams, yn siarad fel 'na. |
(1, 0) 125 |
Mi allem feddwl fod lladd gwningen yn fwy o bechod na lladd dyn neu blentyn. |
(1, 0) 126 |
Mae'r ffermwyrs 'ma ag ofan siarad o'ch blaen chi. |
(1, 0) 127 |
Mi wyddan mai notis ga nhw, ond diolch i'r nefoedd, 'rwyf i yn byw ar dir fy hunan, a does ofan na sgweier nac arglwydd arna i. |
(1, 0) 128 |
Odi chi'n meddwl fod y Bod mowr wedi trefnu yr hen fyd 'ma i'r cyfoethog yn unig? |
(1, 0) 129 |
Na, na, mi wela i bethe gwell yn dod; fe fydd y gweithiwr a'r tlawd, fel y gwna addysg ledaenu, yn dechreu gweld mai caethion ydynt, yn rhwym, gorff ac enaid, dan law dynion fel chi, a Duw'ch helpo chi a'ch sort y dyddiau hynny. |
(1, 0) 130 |
Mi ellwch ddychrynu Nansi Jac Potcher a ffermwyrs Llansilio, ond mae Dafi'r teiliwr yn golygu bod yn ddyn rhydd, ac yn golygu pregethu rhyddid hefyd. |
|
|
(1, 0) 164 |
Hwre, bendigedig! |