Cuesheet

Cwm Glo

Lines spoken by Dai (Total: 149)

 
(1, 1) 18 Hei, dere mlân, Dic.
(1, 1) 19 I bwy wyt ti'n gweithio te?
(1, 1) 20 Ma hi'n bryd bwyd.
(1, 1) 21 Teilwng i'r gweithwr ei fwyd.
(1, 1) 22 Dere o'na, Bob; gad y bocs 'na i fod nawr.
 
(1, 1) 46 Duw' cato pawb, Dic, rwyt ti wrth dy fodd yn twyllo'r plant 'ma.
(1, 1) 47 Be well ma neb o ofyn bendith, leicwn i wbod?
(1, 1) 48 Nid bod gwahaniaeth gen i, wada di bant.
(1, 1) 49 Ond mi fydde'n well iti adel y crwtyn 'na i roi ei fwyd yn ei grombil na throi am bwytu i ofyn bendith.
(1, 1) 50 Dwy i na Idwal byth yn gofyn bendith, a dŷm ni ddim wedi trengi yto, e Id?
 
(1, 1) 70 Ei?
(1, 1) 71 O do, was; do, do; os wyt ti am wybod; 10 to 1, 'machan i.
(1, 1) 72 A mae gen i geffyl heddi 'ed; snip 20 to 1.
 
(1, 1) 75 Be sy gen ti bore 'ma?
(1, 1) 76 Sandwitsh wy, myn diawl i.
(1, 1) 77 He, he, he, fyti di mo rheina i gyd.
(1, 1) 78 Gad weld...
 
(1, 1) 82 Cer i grafu.
 
(1, 1) 84 He, he, he.
(1, 1) 85 DIC
 
(1, 1) 87 Gad y ffŵl i fod.
(1, 1) 88 Mae e mor ddigywilydd â mochyn.
(1, 1) 89 Weldi, mae gen i afal iti.
 
(1, 1) 91 A fyti di un,Id?
 
(1, 1) 93 Cymer.
 
(1, 1) 99 Ie, falle; ond does dim weldi.
(1, 1) 100 Gwrando Id, beth well wyt ti o foddrach am lywodraeth ac oriau gwaith!
(1, 1) 101 Oes swllt gyda thi?
(1, 1) 102 Rho fe i fi i roi ar Lucky Jim.
(1, 1) 103 Sure snip, 20 to 1.
 
(1, 1) 111 Dyma gyfle dy fywyd iti.
(1, 1) 112 Ceffyl first class!
 
(1, 1) 114 "This gallop goes to show that Lucky Jim is now back on his best."
(1, 1) 115 Gordon Doni sy ar ei gefen e hefyd.
(1, 1) 116 "He went right away and finished ten lengths in front of Opojac."
(1, 1) 117 A dyna i ti frid, 'machan i.
(1, 1) 118 Pedigri!
(1, 1) 119 Does dim ceffyl gwell nag e leni.
(1, 1) 120 A mi ges i'r tip o'r reit fan, mei boi.
(1, 1) 121 Good Luck oedd ei fam e, a Jim Crow oedd ei dad.
(1, 1) 122 Roedd Lucky Star a Starlight yn perthyn iddo ar un ochr, a My Jim a Croc Crow yn ei waed e ar yr ochr arall.
(1, 1) 123 Oes swllt gyda...
(1, 1) 124 Bah!!
 
(1, 1) 146 Dyna ffŵl wyt ti'n cabarddylu dy ben gyda hen ddwli felna.
 
(1, 1) 175 Be gythraul sy'n bod arnat ti?
(1, 1) 176 Fe allai dyn feddwl mai ti sy'n 'y nhalu i.
 
(1, 1) 178 Rwy'n gwneud digon am yr arian rwy'n gael, myn asen i.
(1, 1) 179 Be well mae neb o chwysu'i enaid maes.
(1, 1) 180 Nhw {gan bwyntio at y twnnel ar y chwith uchaf } fydd yn cael y proffits i gyd, ac wfft faint o waith mae nhw'n wneud.
(1, 1) 181 Mae Dai yn gwybod digon o bolitics heb weirles na dim i ddeall cymaint â hynny, ta beth.
(1, 1) 182 Mi ddes i maes o'r ffas na bum munud o'ch blaen chi, a nawr rwy'n cael sbel fach, tra bo chi'ch tri'n cwpla.
(1, 1) 183 A falle bydd 'y ngharre i wedi torri, neu rywbeth, pan fyddwch chi'n mynd nôl—a mi ga innau'r minimwm dydd Gwener.
(1, 1) 184 Faint mwy gei di, a faint mwy geith Id, ar ôl iddo gabarddylu ei ben?
 
(1, 1) 187 'Y nal!
(1, 1) 188 Gyda phwy?
(1, 1) 189 Pwy sy'n mynd i'n nal i?
(1, 1) 190 Pwy sy'n mynd i wybod mod i wedi cael pum munud fach cyn brecwast?
 
(1, 1) 192 Un peth leiciwn i nawr fyddai pinshed fach o faco.
 
(1, 1) 194 Oes pinshed fach gen ti, Dic?
 
(1, 1) 198 Wel der â blewyn te!
 
(1, 1) 202 Y diawl, yn gwneud sport ar'y mhen i!
 
(1, 1) 204 Mi leiciwn i gael mwgyn bach o hon nawr.
 
(1, 1) 211 O reit, o reit, rwyt ti'n barticlar iawn.
(1, 1) 212 Doedd dim drwg yn hynna,—anghofio'i bod hi yn y boced ' ma wnes i.
(1, 1) 213 A rwyt ti wedi dod â gwaed i 'ngheg i.
 
(1, 1) 219 O ca dy lol.
 
(1, 1) 227 Petai ti'n ffeierman mai fyddai raid i fi gael rhyw ffordd arall falle.
(1, 1) 228 Ond mae Ianto Lloyd yn olreit.
 
(1, 1) 230 Peint bach yn y "Lion."
(1, 1) 231 Myn asen i bois rych chi'n dwp.
 
(1, 1) 234 Morgan Lewis!
(1, 1) 235 Yr hen gi.
(1, 1) 236 Does gydag e ddim byd i weud.
(1, 1) 237 Os dwed e rywbeth mi ro i ei hanes iddo fe, reit inyff.
(1, 1) 238 Mae ei enw e'n drewi trwy Cwm Glo i gyd.
 
(1, 1) 242 O, rwyt ti'n teimlo, wyt ti?
(1, 1) 243 Pam wyt ti'n teimlo te?
(1, 1) 244 Pwy eisiau iti deimlo sy?
 
(1, 1) 249 O'r sant, sut ag wyt ti.
(1, 1) 250 Does dim raid iti fecso amdana i, mi alla i brofi popeth wy i'n weud.
 
(1, 1) 252 Mi neiset ti Foi Sgowt go dda, siwr o fod.
(1, 1) 253 Dyna pam mae Bet Lewis yn dy leicio di fallai.
(1, 1) 254 Ar y fencoes i Id, mae gen ti cheek yr Hen Foi i hongian am bwytu tŷ'r Manager ac esgus caru ei chwaer.
 
(1, 1) 256 Fallai bod hi rywbeth yn debyg i Moc ei brawd.
 
(1, 1) 261 Stic di at Bet, mei boi.
(1, 1) 262 Duw ŵyr be gei di gyda'r hen Foc—ond dwy i ddim yn credu cei di Bet gydag e'n glou iawn.
(1, 1) 263 Fallai fod cwestiynau ar bethau felna yn yr ecsam.
(1, 1) 264 He, he, he.
 
(1, 1) 281 Diaist i mae Idwal yn meddwl tipyn o Bet.
(1, 1) 282 Mi ges i beth o'i ofan e nawr.
 
(1, 1) 291 Arnyn nhw mae'r bai, nhw ddechreuodd.
(1, 1) 292 A mae Bob yn gwybod cymaint â finnau llawn.
 
(1, 1) 296 Does dim eisiau iti foddrach amdanyn nhw.
(1, 1) 297 Does neb wedi rhoi hawl iti i fesan yn 'y musnes i, oes e, er dy fod ti'n esgus bod mor dduwiol ac yn gweddïo rownd abowt.
 
(1, 1) 300 Pait di â becso dim amdanyn nhw.
(1, 1) 301 Maen nhw'n cael amser go dda.
(1, 1) 302 Ca di dy geg amdanyn nhw.
 
(1, 1) 304 Mae'r hen groten yn burion, does dim eisiau iti ffysan lot amdani hi.
(1, 1) 305 Mae lot o anal ynddi hi eto.
 
(1, 1) 307 Nage, pymtheg.
 
(1, 1) 309 Mae hi'n dda ddigon.
(1, 1) 310 Tra geill yr hen fenyw, cheith dim un gwyntyn croes ddrysu blewyn o'i gwallt hi.
(1, 1) 311 A mae'r cythraul bach yn gwybod sut mae troi ei mam am ei bys bach.
(1, 1) 312 Mae Bet Lewis, whâr y manager, yn estyn rhywbeth iddyn nhw bob dydd 'ed.
(1, 1) 313 Diawst i, mae hi'n dod yn hen groten fach lân, hefyd, my boi.
 
(1, 1) 322 Ym mhle wyt ti'n pregethu dy' Sul?
(1, 1) 323 Mae'n well iti fynd lawr ar dy liniau nawr i gadw cwrdd diwygiad.
(1, 1) 324 Weldi, 'ma emyn newydd iti, newydd sbon:
(1, 1) 325 ~
(1, 1) 326 "Aeth croten fach ifanc o'r Rhyl..."
 
(1, 1) 328 Ma'r hen Ianto Lloyd yn dod.
 
(1, 1) 330 Nage, myn yffern i, Morgan Lewis, y manager...
 
(1, 1) 333 Bore da, syr.
(1, 1) 334 Mae hi'n fore ffein.
 
(1, 1) 336 Gweddol.
(1, 1) 337 Talcen go galed.
 
(1, 1) 341 Dyw'r wraig yco ddim hanner iach, syr.
 
(1, 1) 354 Dyma beth yw lwc y diawl, a does dim cocso arno fe.
 
(1, 1) 356 A mae golwg shêp ar hon hefyd...
(1, 1) 357 Yr hen grwt bach y cythraul 'na.
(1, 1) 358 Damo, damo, damo...
 
(1, 1) 372 Reit.
 
(1, 1) 374 Beth sy'n bod, syr, dyma f...
 
(1, 1) 378 Oes e? O...?
 
(1, 1) 389 Y crwtyn na, syr.
(1, 1) 390 Bob... Bob, dere ma.
 
(1, 1) 393 Hon yw'r gynta bore ma...
(1, 1) 394 Ond rwy i wedi bod yn disgwyl yr halier os amser nawr, syr.
 
(1, 1) 406 Crwtyn eiddil yw e, a dyw e ddim yn credu mewn gweithio'n rhy galed.
 
(1, 1) 433 O, fel na, iefe.
(1, 1) 434 Rwy'n eitha bodlon mynd.
(1, 1) 435 He, he, he.
(1, 1) 436 Pwy sens sy mewn gweithio'n enaid maes fan hyn i chi gael y pres.
(1, 1) 437 Rwy i'n hen barod...
 
(1, 1) 442 Does dim eisiau i ti, Dic, fegian trosto i.
(1, 1) 443 He, he, he, bachan pert yw e i ddannod ceffylau a chwrw i fi.
(1, 1) 444 Mae ceffylau a chwrw yn respectabl wrth rai o'r pethau mae fe'n eu henjoio.
(1, 1) 445 Mae gwinoedd a...
 
(1, 1) 448 Gobeithio y daw'r un lwc i chwithau bob enaid!
(1, 1) 449 A mi ddaw, o daw, daw.
(1, 1) 450 Mi fydd y cwmni ma wedi cael y gorau maes ohonoch chwi cyn hir... a mi fyddwch chwi'n cael eich tipio maes i ben y tip yna—rhy hen a rhy stiff i blygu.
 
(1, 1) 453 Do, do, mei boi.
(1, 1) 454 A glywaist ti fi'n dweud wrthyt ti a Dic?
(1, 1) 455 Mae digon o fois ifainc ar yr hewl nawr i lanw'ch llechwi....
(1, 1) 456 Mi fydd Idwal yn fanager ryw ddiwrnod falle—os caiff e chwarae teg.
(1, 1) 457 He, he, he.
 
(1, 1) 459 Reit mei bois {wrth fynd i'r twnnel ar y chwith.}
(1, 1) 460 A gwnewch fel mynnoch chwi â'ch job!
(1, 1) 461 Piclwch hi!