Cuesheet

Yr Anfarwol Ifan Harris

Lines spoken by David Henry (Total: 133)

 
(1, 0) 92 Ie, dere ngwas i.
(1, 0) 93 Paid ti a digalonni.
 
(1, 0) 112 Nawr, nawr, Ifan, machgen i...
 
(1, 0) 114 Wel... y... wel... ych mab chi yw e'n iawn, ynte?
(1, 0) 115 Wrth gwrs, 'dwy ddim am ddangos amharch...
 
(1, 0) 128 All right, Deborah, all right.
 
(1, 0) 163 Eistedd lawr, Ifan, eistedd lawr.
(1, 0) 164 Mae gen i eisiau siarad a thi.
(1, 0) 165 Ddaw hi ddim nol am spel.
 
(1, 0) 169 Rwyt ti'n poeni braidd gormod ar dy fam, Ifan.
 
(1, 0) 172 Rwyt ti'n poeni braidd mwy na sydd eisiau, Ifan.
(1, 0) 173 Treia'r baco yma sy gen i...
(1, 0) 174 Braidd mwy na sydd eisiau.
(1, 0) 175 Wrth gwrs, rwy'n dy edmygu di am wneud hynny, mewn ffordd o siarad.
(1, 0) 176 Mi fuasai'n dda iawn gen i fod yn berchen ar y gallu, ond dyna fe.
(1, 0) 177 Ches i ddim o'r dalent.
(1, 0) 178 Ond wedi'r cwbwl, dy fam di yw hi...
 
(1, 0) 183 Dy dad, Ifan?
(1, 0) 184 Dy hen lys-dad!
(1, 0) 185 Rwyt ti'n bartners a fi, ifan!
(1, 0) 186 Paid ti ag anghofio hynny.
 
(1, 0) 189 Dy hen lys-dad, Ifan!
(1, 0) 190 Paid ti ag anghofio dy hen lys-ddad!
 
(1, 0) 194 Rhyw greadur anfodddog wyt ti, Ifan.
(1, 0) 195 Dyna beth rhyfedd yw'r natur ddynol.
(1, 0) 196 Rwy'n meddwl llawer am y natur ddynol.
(1, 0) 197 Dyna ti.
(1, 0) 198 Mae genti ryw allu rhyfedd i droi pawb a phopeth oddeutu i ti yn dan gwyllt.
(1, 0) 199 Dyna finne wedyn, weldi, yn i hela hi yn y blaen {yn dechreu "canu grwndi"} yn smo-co mhib, yn dawel fach, yn enjoyo... dim byth yn cynhyrfu neb... yn en-joyo...
 
(1, 0) 203 Mi fyddant yn dadorchuddio'r cof-golofn i dy dad - coffa da am dano... am hanner awr wedí dau, a mi fydd te i'r plant...
 
(1, 0) 206 Wel, ti ofynnodd, Ifan.
 
(1, 0) 208 Fyddai hynny ddim yn deg a dyn mawr... i adael iddo orwedd yn dawel yn i fedd.
(1, 0) 209 'Dyn nhw byth yn gneud hynny a dynion mawr.
 
(1, 0) 211 Mi ga i orwedd yn dawel yn 'y medd, pan af i oddiyma... yn dewel fach.
(1, 0) 212 'Roedd dy dad yn ddyn mawr, Ifan.
 
(1, 0) 217 Wel, ti ofynnodd y cwestiwn, Ifan.
 
(1, 0) 227 Rhaid i ti beidio a chymryd pethe fel yna...
 
(1, 0) 233 Wel, mi ddwedaist lawer o wir wrtho... fel rwy i'n cofio dy dad, beth bynnag.
(1, 0) 234 Ond 'dwy ddim yn deall pam rwyt ti'n cymryd pethe yn y wedd yna, Ifan.
(1, 0) 235 Cofia di, dim pob teulu all godi monument yn y ty...
 
(1, 0) 237 Museum?
 
(1, 0) 248 Ie, wel, edrych di mor lwcus wyf fi fod dy dad yn ddyn mawr.
(1, 0) 249 Dyna'r gadair a'r sofa fwyaf cysurus yn y wlad...
 
(1, 0) 254 Paid nawr, wir, Ifan.
(1, 0) 255 Rwyt ti'n ngneud i'n nervous...
 
(1, 0) 263 O wyt, Ifan, wyt.
(1, 0) 264 Rwyt ti'n bod, ac yn cadw tipyn o dwrw...
 
(1, 0) 266 Wel, rown i dan yr argraff mod i...
 
(1, 0) 272 Rwyt tî'n ymylu, Ifan, at fod yn llym.
(1, 0) 273 Dipyn bach yn gas oedd beth ddwedest ti nawr.
 
(1, 0) 278 Ie, wel.
(1, 0) 279 Mae rhyw wirionedd yn hynna.
(1, 0) 280 'Rwyt ti'n rhoi dy hun yn yr un cyflwr.
(1, 0) 281 Mae hynny'n rhyw gysur.
 
(1, 0) 287 Wel, fyddai hynny ddim yn good for trade, weldi, i ddyn oedd yn gwneud coffine.
 
(1, 0) 292 Wel Ifan, roedd dy dad... mae'n rhaid cyfaddef... yn ddyn mawr...
(1, 0) 293 O'r goreu, o'r goreu, Ifan, 'does dim eisie i ti wylltu!
 
(1, 0) 295 O leia, mae pawb yn dweud hynny ers rhyw ugain mlynedd mwy neu lai.
 
(1, 0) 298 Wel, rhaid i ti gofío fod llawer ohonyn nhw'n ifanc iawn bryd hynny.
 
(1, 0) 304 Pobol y marwnadau?
(1, 0) 305 Beth wyt tí'n feddwl wrth hynna, nawr?
 
(1, 0) 308 Wel, os rwy'n dy ddeall di, 'roedd dy dad ddim yn rhyw wr mawr ìawn gyda'r teip yna.
 
(1, 0) 311 Wel, wrth gwrs... mor bell ag oedd y teulu yn y cwestiwn, do'wn i ddim mewn sefyllfa bryd hynny...
 
(1, 0) 313 Ddim yn hollol, Ifan... neu, a bod yn onest... 'dwy ddim yn meddwl y buasai hi wedi mhriodi i.
(1, 0) 314 Ifan, pe bai rhywun wedi dweud wrthw i pan oedd dy dad yn ein plith ni, y buaswn i'n ail wr i wraig Ifan Harrís mi fuaswn wedi dychrynu!
 
(1, 0) 317 O cofia di, roedd dy dad a finnau'n í tharo hi'n burion pan fyddai digwydd i ni gyfarfod.
(1, 0) 318 Mi welais i e'n garedig iawn i fi, mae'n rhaid dweyd, ond dra bitsi!
(1, 0) 319 'Doedd e ddim dyn a fyse'n dy demtio di i fynd yn ail wr iddo ar fyr rybudd!...
(1, 0) 320 Enaid aflonydd.
(1, 0) 321 Enaid aflonydd!
(1, 0) 322 Yn cynhyrfu pawb oddeutu iddo.
(1, 0) 323 Fuodd dim dyn a mwy o elynion mewn un man ar y ddaear.
 
(1, 0) 326 Na ffrindie.
(1, 0) 327 'Roedd pob un yn elyn neu yn ffrind iddo.
 
(1, 0) 330 Wel, a bod yn onest... dim amharch cofia... does geni ddim cof i mi feddwl hynny'n hunan pan oedd e yma.
(1, 0) 331 Dim fel byddi di'n meddwl am ddyn mawr.
(1, 0) 332 Ifan Harris.
(1, 0) 333 Wel, Ifan Harris oedd e.
(1, 0) 334 Dim rhyw ffys felny yn i gylch e gyda neb.
(1, 0) 335 A hefyd roedd e'n adnabyddus drwy Gymru gyfan.
(1, 0) 336 Ond 'doedd neb ohono ni oedd yn i nabod e, allet ti weyd, yn son am dano fel dyn mawr.
(1, 0) 337 'Roedd e'n un ohono ni.
(1, 0) 338 Ond diast, erbyn meddwl, roedd e'n wahanol i bob un arall rywsut!
 
(1, 0) 340 Roedd dy dad... dim amharch, cofia!
 
(1, 0) 344 'Roedd dy dad yn ddyn... wel, ddweda i ddim i fod e'n ddyn cas.
(1, 0) 345 Ond 'doedd e ddim yn ddyn oedd llawer o fobol yn ei hoffi.
(1, 0) 346 Roedd gydag e ryw fforddd o gynhyrfu pobol.
(1, 0) 347 Dyn disymwth, Ifan.
(1, 0) 348 Roedd e'n hela'r lle'n wenfflam weithie.
(1, 0) 349 O'r arswyd!
(1, 0) 350 Roedd e'n ddyn ddychrynllyd pan cynhyrfe fe!
 
(1, 0) 353 Pe bai dy dad yn gwneud tro caredig a thi mi gofiet hynny dy holl fywyd...
 
(1, 0) 355 Ond rwy'n cofio pan ddechreuodd dy fam edrych arno fel dyn mawr.
 
(1, 0) 358 Ydw.
(1, 0) 359 Wrth gwrs, 'roedd hynny flynyddau wedi iddo fynd i America i sefydlu'r wladwriaeth newydd hynny oedd e'n son cymaint am dano.
(1, 0) 360 Ar y cynta, weldi, 'doedd gyda hi gynnig i'r peth.
(1, 0) 361 'Down i ddim wedi priodi pryd hynny.
(1, 0) 362 Rwy'n cofio iddi ffyrnigo'n enbyd pan ddaeth rhyw damed allan mewn papur... rhywbeth ynghylch "Syniadau Ifan Harris ar Foesoldeb".
 
(1, 0) 364 Wrth gwrs, paid a son gair wrth... mm... mm... mm
 
(1, 0) 367 O!
(1, 0) 368 Ffyrnigo'n enbyd!
(1, 0) 369 Ond o dipyn i beth, 'achan, wrth bod hwn a'r llall yn dwad i son am Ifan Harris, fod Ifan Harris yn ddyn mawr, a bod e o flaen i oes, a rhywbeth felny... wel, dwn i ddim,... fe ddechreuodd newid rywsut.
(1, 0) 370 Down i ddim yn i deall hi'n iawn...
 
(1, 0) 373 Wel Ifan, 'does gen i ddim lle i achwyn.
(1, 0) 374 Roeddwn i'n gwybod o'r dechreu mai Number Two fyddwn i... ond...
 
(1, 0) 376 Rhaid cyfaddef, mi es i'n dipyn bach mwy o Number Two nag own i wedi fargeinio am dano.
 
(1, 0) 410 Man-a-man i ti wneud, Ifan.
(1, 0) 411 Fe wyddost tí lawer mwy am adrodd na'i fam.
 
(1, 0) 442 Man-a-nman i ti wneud.
 
(1, 0) 499 Ie, wel, mae yna bwynt fan yna...
 
(1, 0) 526 Fi!?
 
(1, 0) 529 Ond y Mawredd!
(1, 0) 530 Wnes i ddim Speech erioed yn y mywyd!
 
(1, 0) 532 Ie, nage!
(1, 0) 533 Mae'n rhaid i fi gael gwybod nawr.
(1, 0) 534 O'r trugeredd!
(1, 0) 535 Alla i byth a gneud speech.
 
(1, 0) 537 Gneud Speech!
(1, 0) 538 Gneud speech!
(1, 0) 539 Gneud speech!
 
(1, 0) 544 Gneud speech!
(1, 0) 545 Fi?
 
(1, 0) 572 Gneud speech!
 
(1, 0) 593 Does dim eisie i |fi| wneud speech, oes e?
 
(1, 0) 618 Deborah!
(1, 0) 619 Rwy'n begian arnoch chi...
 
(1, 0) 621 O! Ifan, bachgen, cyffra!
(1, 0) 622 Mae peth fel hyn yn arswydus.
(1, 0) 623 Gneud speech!
(1, 0) 624 O!
 
(1, 0) 630 Nid gneud yr araith yw'r pwynt.
(1, 0) 631 I thraddodi ni ydi'r peth mawr.
(1, 0) 632 O dier, dier!