Cuesheet

Deufor-Gyfarfod

Lines spoken by Desc (Total: 77)

(1, 0) 1 GOLYGFA.─Cartref JOHN PRICE ar Y Twmp, Aberpandy─y gegin.
(1, 0) 2 (Rhoddir cyfarwyddiadau'r llwyfan o safbwynt y gynulleidfa.)
(1, 0) 3 Gorchuddir y muriau â phapur ac arno batrwm mawr, lliwiedig, ond bod y lliwiau bellach wedi pylu.
(1, 0) 4 Yn y gongl bellaf ar y dde y mae drws yn agor i'r stryd; ynghanol y mur ar y dde, ffenestr, ac arni lenni o ddefnydd cyffredin a |blind brown holland|.
(1, 0) 5 Trwy'r ffenestr hon canfyddir mur garw o faen.
(1, 0) 6 Ynghanol y pared ar yr aswy y mae lle tân hen ffasiwn.
(1, 0) 7 Nid oes tân ynddo, eithr o'i flaen y mae fire-screen rhad o bapur.
(1, 0) 8 Uwch ben, ar y silff ben tân, y mae nifer o gannwyll-brenni prês, cloc, heyrn smwddio, tê-cadi, etc.
(1, 0) 9 Yn y gongl bellaf, ar yr aswy, tu draw i'r lle tân, y mae drws yn arwain i'r gegin fach a thrwy honno i'r ardd.
(1, 0) 10 Yn yr un pared, ond yr ochr hyn i'r lle tân, y mae drws y parlwr.
(1, 0) 11 ~
(1, 0) 12 Mae'r dodrefn yn gyffredin a diaddurn, ac wedi cyflawni gwasanaeth da.
(1, 0) 13 Yn erbyn y mur cefn, oddeutu'r canol, saif hen ddreser yn llwythog o jiwgiau a phlatiau.
(1, 0) 14 Ar yr ail silff y mae llestr diaddurn, yn dal tusw mawr o |sweet peas|.
(1, 0) 15 Ar y silff isa' rhes o lyfrau â'u cloriau yn dangos bod cryn lawer o ddarllen arnynt.
(1, 0) 16 O bob tu'r dreser, silff lyfrau yn crogi ar y mur ac yn llawn o gyfrolau.
(1, 0) 17 Saif pump o gadeiriau cegin yn y drefn a ganlyn─un yn erbyn y mur ar y dde yr ochr hyn i'r ffenestr, un gerllaw drws y parlwr, un gerllaw drws y gegin fach, ac un o bobtu'r dreser.
(1, 0) 18 Hefyd y mae ger y lle tân gadair freichiau â chefn uchel.
(1, 0) 19 Ynghanol yr ystafell saif bord gron hen ffasiwn ac arni liain coch diraen..
(1, 0) 20 Ar y mur cefn o bobtu'r dreser y mae darluniau o Gladstone a Spurgeon.
(1, 0) 21 Mewn mannau eraill y mae darluniau Henry Richard a rhai o gewri pulpud Cymru.
(1, 0) 22 ~
(1, 0) 23 Pan gwyd y llen gwelir JOHN PRICE yn eistedd yn y gadair freichiau ar yr ochr aswy i'r ford, a GWEN ar yr ochr dde i'r ford yn eistedd yn y gadair a symudasai o'i lle gerllaw'r ffenestr.
(1, 0) 24 ~
(1, 0) 25 Gŵr oddeutu trigain oed, garw a chaled yr olwg arno, ydyw JOHN PRICE.
(1, 0) 26 Mae'n llwyd ei wedd─un o nodweddion cyffredin y glowr─ac ar ei gern gwelir y graith las a achosir gan y llwch glo.
(1, 0) 27 O dan ei ên ymestyn o'r naill glust i'r llall rimyn afler o farf brithwen.
(1, 0) 28 Amdano y mae siwt o hen ddillad a chadach gwddf yn darn-guddio crys o wlanen cartref.
(1, 0) 29 Awgryma ei symudiadau araf ac afrosgo y gallu i ymgynnal yn amyneddgar ond yn gyndyn, sy'n sylfaen i'w natur.
(1, 0) 30 Ar ddechrau'r ddrama, tra mae ef a GWEN gyda'i gilydd, dengys ryw fath ar dynerwch trwstan tuag ati a thuag at GWILYM trwy'r ddrama, eithr ni chanfyddir mohono yn ei ymwneud â'r cymeriadau eraill.
(1, 0) 31 ~
(1, 0) 32 Gwahanol iawn ei nodweddion ydyw GWEN, ei briod─gwraig dirion a chanddi lais mwyn a wyneb caredig odiaeth, er braidd yn brudd.
(1, 0) 33 Y mae hyd yn oed yn ei gwên elfen o hiraeth sy'n awgrymu rhyw fywyd mewnol ac atgof a theimlad yn cael y lle blaenaf ynddo.
(1, 0) 34 Gwraig fechan, drigain mlwydd ydyw, ac yn cadw ei hoed yn dda, er bod ei gwallt yn wyn.
(1, 0) 35 Mae wedi ymwisgo yn hollol ddirodres ond yn hynod o ddestlus.
(1, 0) 36 Ar ddechrau'r ddrama mae hi'n brysur gywiro 'sanau a thoreth ohonynt at ei llaw mewn basged ar y ford.
(1, 0) 37 Gwelir PRICE, a'i spectol ar flaen ei drwyn, a'i wyneb yn crychu gan angerddolder ei ymdrech i gyflawni gorchwyl anghyfarwydd, yn ysgrifennu'r cyfeiriad ar amlen ac yna'n dodi'r llythyr ynddo.
(1, 0) 38 Wedi cau'r amlen dyry iddo ddyrnod drom i'w sicrhau; hefyd, efallai, i amlygu gollyngdod.
 
(1, 0) 159 Ennyd o ddistawrwydd.
 
(1, 0) 177 Wrth ddweyd hyn, cwyd yn araf a gesyd y fasged a'r hosanau ar y dreser.
(1, 0) 178 Yna, gan led-troi, digwydd iddi edrych drwy'r ffenestr.
(1, 0) 179 Mae'n synnu a dechreua siarad yn frysiog.
 
(1, 0) 192 Cymer lestr a'r blodau ynddo oddiar y dreser a gesyd ef ar y ford.
(1, 0) 193 Clywir sŵn traed oddiallan.
(1, 0) 194 ~
(1, 0) 195 Daw GWILYM a SAM THATCHER i mewn.
(1, 0) 196 ~
(1, 0) 197 Mae SAM yn ddwy a deugain oed, ond yn edrych yn hŷn gan fod ei wallt yn deneu ac yn dechrau britho.
(1, 0) 198 Mae ei wyneb yn felyn-ddu gan losg haul a phob tywydd, ac wedi ei addurno â rhibyn afler o foustache brith.
(1, 0) 199 Un fraich sydd ganddo, ac y mae'r llawes wag, y chwith, wedi ei gwthio i boced ei siaced las.
(1, 0) 200 Gwisga drowsus moleskin a phocedi tu blaen ynddo.
(1, 0) 201 Mae'n arfer ganddo fachu bawd ei law dde ym mhoced ei drowsus pan mae yn segur.
(1, 0) 202 Deil o dan ei fraich flag goch wedi ei rholio am y pastwn.
(1, 0) 203 Mae ei leferydd yn ei fradychu mai Cockney ydyw, ac yn ei oddefgarwch mawrfrydig o Aberpandy a'i holl ffyrdd, datguddir ysbryd trahaus brodor o'r Brifddinas.
(1, 0) 204 ~
(1, 0) 205 Mae GWILYM yn dair neu bedair-ar-hugain oed, wedi ymwisgo yn blaen ond yn daclus.
(1, 0) 206 Gwna afiechyd ei wyneb yn llwyd a theneu.
(1, 0) 207 Ymddengys yn ŵr ifanc meddylgar a llawn cydymdeimlad, ac yn ddiragrith oherwydd ei fod yn meddu llawer o hiwmor tawel.
(1, 0) 208 Llefara'n bwyllog ac ystyriol, ac yn fynych sylla i wyneb y sawl sy'n ymddiddan ag ef megis un sy'n amcanu at dreiddio dan yr wyneb.
(1, 0) 209 Yn ei ymwneud â phobl eraill dengys gwrteisrwydd dirodres un yn ddiwylliedig wrth natur.
(1, 0) 210 Tuag ato ef dengys pawb dynerwch diffael; yn wir, eu hawydd i'w ymgeleddu ef ydyw'r elfen gyffredin sy'n cadw'r teulu yn gyfan.
 
(1, 0) 218 Mae GWEN yn brysio i'r gegin.
(1, 0) 219 Dechreua GWILYM fynd i gyfeiriad y gadair gerllaw'r dreser ond rhed ei dad o'i flaen i'w hestyn gan ddweyd, "Olreit, olreit, machan i," a gesyd hi ar y dde i'w gadair ei hun wrth y ford.
(1, 0) 220 Wedi dodi ei |flag| ar y dreser, cymer SAM y gadair yr eisteddai GWEN arni gynneu.
(1, 0) 221 Dyma ei le cynefin wrth y ford.
(1, 0) 222 Mae'r tri dyn yn eistedd.
(1, 0) 223 Tyn GWILYM ato y llestr yn cynnwys y blodau a chraffa arnynt fel un sy'n eu deall.
 
(1, 0) 229 Daw GWEN i mewn o'r gegin gefn, yn cario'r tebot, plataid o fara 'menyn a phlataid o deisennau crynion─|Welsh cakes|.
(1, 0) 230 Cymer y gadair a saif yr ochr dde i'r dreser ac eistedd wrth y bwrdd ar y llaw dde i SAM.
(1, 0) 231 Gadewir lle LEWIS yn wag, rhwng GWILYM a GWEN.
(1, 0) 232 Mae GWEN yn arllwys tê.
 
(1, 0) 237 Ysgwyd PRICE ei ben mewn diflastod.
 
(1, 0) 240 Curo ar y drws.
 
(1, 0) 242 Gwelir ISAAC PUGH yn sefyll ar y trothwy, hen ŵr wedi ymwisgo yn gyffredin a diraen.
(1, 0) 243 Gan ei fod ef a PRICE yn anghydweld ar faterion o bwys yng nghapel Horeb, mae ei ymarweddiad braidd yn ffurfiol, ond yn awgrymu, yr un pryd, addfwynder gostyngedig a goddefgar.
 
(1, 0) 297 Cymer y tê a dechreua ei droi yn egniol.
(1, 0) 298 Yna yf ef.