|
|
(1, 0) 1 |
GOLYGFA─"Drawing room" tŷ MR. a MRS. WALTER MORGAN. |
(1, 0) 2 |
Gan mai pobl wedi reteirio o fusnes laeth yn Llundain ydynt a chan mai uchelgais MRS. MORGAN ydyw bod yn rhywun ym mywyd cymdeithasol y pentref a'r ardal, "drawing room" yw'r enw iawn ar yr ystafell. |
(1, 0) 3 |
Y mae ffenestr ffrensh fawr yn y cefn yn agor i'r lawnt a'r ardd a dyna'r unig ffenestr y mae'n rhaid wrthi at amcanion y chwarae. |
(1, 0) 4 |
Un drws sydd i'r ystafell ac y mae hwnnw ar y chwith. |
|
|
(1, 0) 6 |
~ |
(1, 0) 7 |
Prynhawn braf yng nghanol yr haf yw hi a thywynna'r haul y tu allan i'r ffenestr ffrensh. |
(1, 0) 8 |
~ |
(1, 0) 9 |
Ychydig o ddodrefn sydd yn yr ystafell fel y gweddai i "drawing room" fodern. |
(1, 0) 10 |
Y mae "'settee" ar y chwith rhwng y ffenestr ffrensh a'r drws ac y mae desg fechan neu "bureau" ar y dde. |
(1, 0) 11 |
Yma a thraw ceir tua phedair o gadeiriau ac y mae un gadair freichiau, partner y "'settee," ar y dde i'r ffenestr. |
(1, 0) 12 |
Yn y canol y mae "pouf" a symudir o le i le fel y bo'i angen. |
(1, 0) 13 |
~ |
(1, 0) 14 |
Pan gyfyd y llen gwelir rhan o WALTER, dyn tua 55 oed, yn cysgu ar y "'settee," a'i draed |
(1, 0) 15 |
(heb esgidiau amdanynt) ar y "pouf". |
(1, 0) 16 |
Mae'r rhan anweledig, y rhan uchaf, o dan bapur newydd. |
(1, 0) 17 |
Gwelir hwnnw yn codi ac yn disgyn ychydig fel yr anadla. |
(1, 0) 18 |
~ |
(1, 0) 19 |
Daw GEINOR i mewn drwy'r drws,─merch ifanc, tua'r ugain oed, yn llawn bywyd. |
(1, 0) 20 |
Edrych o gwmpas am eiliad neu ddwy ac yna â ymlaen yn ddistaw a chogleisio un o draed WALTER. |
(1, 0) 21 |
Nid yw ef yn dihuno ond rhwbia wadn y droed honno yn erbyn cefn y llall ac ymdawela eilwaith. |
(1, 0) 22 |
Gwna GEINOR yr un peth eto a'r tro hn gwelir cyffro dan y papur a daw ei wyneb i'r amlwg. |
|
|
(1, 0) 123 |
Daw MRS. MORGAN i mewn yn sydyn drwy'r drws. |
(1, 0) 124 |
Benyw ganol oed wedi cadw'n dda ac yn gwisgo'n dda yw hi. |
(1, 0) 125 |
Sieryd yn ddistaw ond gan ddisgwyl gwrandawiad ac wedi hen arfer â chael ufudd-dod.} |
(1, 0) 126 |
MRS. |
|
|
(1, 0) 152 |
 Ganon drwy'r ffenestr ffrensh. |
(1, 0) 153 |
Eistedd WALTER ar y dde gan baratoi i wisgo'i esgid. |
|
|
(1, 0) 155 |
Syrth yr esgid i'r llawr o'i ddwylo. |
(1, 0) 156 |
Caiff ei syfrdanu. |
(1, 0) 157 |
Metha ddweud dim am ennyd, ond daw rhyw sŵn o'i wddf. |
|
|
(1, 0) 326 |
Daw MRS. MORGAN î mewn a MISS JANE OLIVER a MR. DEMETRIUS JONES yn eî dilyn. |
(1, 0) 327 |
Mae JANE yn hollol wahanol w chwaer o ran corff ac ysbryd. |
(1, 0) 328 |
Corff hytrach yn eiddil sydd ganddi ond y mae ei hwyneb wedi cadw yn syndod o ifanc. |
(1, 0) 329 |
Digon hawdd deall paham y mae GEINOR yn hoff ohoni. |
(1, 0) 330 |
Dyn tua hanner cant oed yw DEMETRIUS JONES. |
(1, 0) 331 |
Mae yn arbennig o ofalus yng nghylch ei wisg a'i osgo.] |
|
|
(1, 0) 371 |
Daw CARNOLYN R. REES i mewn drwy'r ffenestr ffrensh. |
(1, 0) 372 |
Dyn tua hanner cant oed ydyw wedi gwisgo fel Americanwr. |
(1, 0) 373 |
Hynodion ei olwg a'i wisg ydynt─dant aur, spectol gorn fawr, esgidiau swêd, het Panama, a dillad goleuach eu lliw na'r rhai a welir yn gyffredinol yng Nghymru. |
(1, 0) 374 |
Y mae'n siarad Gymraeg llithrig, eithr gyda rhyw gymaint o acen a goslef yr Americanwr. |
(1, 0) 375 |
Y mae morthwyl y "'geologist" yn ei law.} |