| 1 | Yr un yw'r olygfa drwy'r ddrama—cegin fawr Gwmhelyg. |
| 2 | Hen ddodrefn derw sydd ynddi; bwrdd yn y canol, rhai cadeiriau derw o'i amgylch, cadair freichiau ger y lle tân ar y chwith a dreser yn y cefn ar y dde. |
| 3 | Yng nghanol y cefn y mae ffenestr. |
| 4 | Y mae drws ar y chwith yn arwain i'r gegin fach ac i'r llaethdy; hwn yw'r drws a ddefnyddir i fynd i mewn ac allan o'r buarth. |
| 5 | Y mae drws arall ar y dde yn arwain i'r gweddill o'r tŷ. |
| 6 | Uwchben y lle tân y mae rhestl i'r dryll ac y mae'r pethau arferol ar y silff-ben-tân. |
| 7 | ~ |
| 8 | Gan fod pymtheng mlynedd rhwng y prolog ac Act I rhaid newid ychydig ar y llwyfan rhyngddynt. |
| 9 | Tebyg y bydd newid y lliain bwrdd a llenni'r ffenestr yn ddigon. |
| 10 | Gorau i gyd po leiaf o amser a gymerir wrth y gwaith hwn. |
| 12 | Pan gyfyd y llen, gwelir Mrs. LLOYD yn glanhau cyllyll â bocs a bricsen wrlh y bwrdd. |
| 13 | Benyw tua 35 oed ydyw, eithr y mae gofid wedi gwneud ei ôl ar ei hwyneb yn barod. |
| 14 | Daw WILLIAM i mewn yn araf o'r chwith. |
| 15 | Er ei fod tua 60 oed, y mae'n heini ei osgo. |
| 111 | Clywir llais DAFYDD yn gweiddi "Mam", yna rhuthra i mewn—bachgen oddeutu 10 mlwydd oed. |
| 118 | Ei fam yn codi ac yn ei arwain oddi wrth eì dadcu ac yna yn eistedd drachefn ger y bwrdd gan gadw DAFYDD wrth ei hochr. |
| 193 | WILLIAM a DAFYDD yn mynd. |
| 194 | MRS LLOYD yn eistedd ger y bwrdd. |
| 195 | ~ |
| 196 | LLEN |