| (1, 0) 1 | Amser: Yr oes hon. |
| (1, 0) 2 | Lle: Ty Merfyn Owen yn Nhreweilgi. |
| (1, 0) 3 | Digwydd popeth yn ystod un diwrnod. |
| (1, 0) 4 | ~ |
| (1, 0) 5 | Ystafell yn nhy Merfyn Owen. |
| (1, 0) 6 | Lle tân ar ganol y pared, yn wynebu'r gynulleidfa. |
| (1, 0) 7 | Drws i fyned allan ar y chwith; ffenestr rhyngddo â'r pared pellaf. |
| (1, 0) 8 | Piano ar y dde i'r lle tân, a'i chefn at y pared. |
| (1, 0) 9 | Drws arall ar y dde i fynd i'r gegin. |
| (1, 0) 10 | Dwy gadair esmwyth, un o bobtu i'r lle tân. |
| (1, 0) 11 | Bwrdd brecwest ar ganol y llawr. |
| (1, 0) 12 | Lluniau ar y parwydydd. |
| (1, 0) 13 | Papurau a llyfrau ar dop y piano ac ar lawr. |
| (1, 0) 14 | Basged bapur wast rhwng y piano a'r drws i'r gegin, a honno yn fwy na llawn. |
| (1, 0) 15 | Cyfyd y llen gan ddangos Merfyn a Gwladys yn bwyta eu brecwest. |
| (1, 0) 42 | Gwladys yn rhoi ysgrech ac yn hel ei dillad at ei gilydd. |
| (1, 0) 45 | Curo ar y drws. |
| (1, 0) 49 | Marged yn dyfod i mewn, yn dodi bwndel o lythyrau ar y bwrdd yn ymyl Merfyn, ac yna yn myned ymaith. |
| (1, 0) 50 | Rhai o'i phapurau cyrlio gwallt yn syrthio wrth iddi fvnd. |
| (1, 0) 157 | Cyfyd y ddau ac ant allan drwy ddrws y gegin. |
| (1, 0) 158 | Daw Marged i mewn gan glirio'r llestri a thaclu'r ystafell. |
| (1, 0) 159 | Y gloch yn canu ar y chwith. |
| (1, 0) 160 | Marged yn rhedeg i'r drws, ac yn dyfod yn ei hol, a Miss Jones i'w chanlyn. |
| (1, 0) 174 | Marged yn mynd i'r gegin. |
| (1, 0) 175 | Miss Jones yn tynnu ei phethau, yna yn edrych o'i chwmpas. |
| (1, 0) 176 | Yn mynd at y piano, ac yn canu darn bach o fiwsig arni. |
| (1, 0) 177 | Yna yn codi ac yn edrych ar y dodrefn a'r lluniau ar y parwydydd, a'r papurau hyd y cadeiriau ac ar lawr. |
| (1, 0) 178 | Yn codi ei hysgwyddau ac yn ucheneidio ac ysgwyd ei phen. |
| (1, 0) 179 | Yn eistedd ac yn synfyfyrio a'i llaw dan ei gên. |
| (1, 0) 180 | Yn codi ac yn cerdded o gwmpas drachefn, ac yn eistedd eilwaith. |
| (1, 0) 181 | Marged yn dyfod â the a bara ac ymenyn i mewn, ac yn eu dodi ar y bwrdd. |
| (1, 0) 182 | Miss Jones fel pe heb sylwi bod Marged yno o gwbl, yn dal i synfyfyrio. |
| (1, 0) 190 | Marged yn cychwyn i fwrdd. |
| (1, 0) 237 | Marged yn mynd allan, a Miss Jones yn synfyfyrio ac yn sipian y te yn araf. |
| (1, 0) 238 | Y drws yn agor yn ddistaw, a rhywun yn edrych i mewn, yna yn oilio yn ei ôl yn sydyn, heb i Miss Jones ei weled. |
| (1, 0) 239 | Miss Jones yn cyfodi ac yn cychwyn at y drws. |
| (1, 0) 240 | Marged yn dyfod i mewn yn sydyn i'w chyfarfod, ac yn cau'r drws ar ei hôl. |
| (1, 0) 253 | Marged yn myned ymaith. |
| (1, 0) 254 | Miss Jones yn myned ac yn edrych ar y piano, yn enwedig ar enw'r gwneuthurwyr, yna yn mynd ac yn eistedd i lawr, gan godi ei hysgwyddau ac ucheneidio. |
| (1, 0) 255 | Y drws yn agor, a Morgan yn dyfod i mewn. |
| (1, 0) 256 | Miss Jones yn cyfodi ac yn ei wynebu. |
| (1, 0) 264 | Ennyd o ddistawrwydd. |
| (1, 0) 265 | Cyfyd Morgan ac a at y piano. |
| (1, 0) 266 | Rhed ei fysedd hyd-ddi. |
| (1, 0) 267 | Eistedd ar yr ystôl, a chân ryw ychydig farrau o fiwsig yn ysgafn. |
| (1, 0) 268 | Miss Jones: Yr ydych yn hoff o fiwsig syr? |
| (1, 0) 272 | Dechreua Morgan ganu'r piano drachefn, yn ysgafn ac yn araf. |
| (1, 0) 273 | Gwrendy Miss Jones yn astud arno, gan guro'r amser â blaen ei throed. |
| (1, 0) 343 | Curo ar y drws o'r gegin. |
| (1, 0) 345 | Marged yn dyfod i mewn, a golwg cynhyrfus arni. |
| (1, 0) 353 | Morgan yn myned allan. |
| (1, 0) 354 | Marged yn cychwyn ar ei ôl. |
| (1, 0) 377 | Morgan yn dyfod yn ei ôl. |
| (1, 0) 378 | Miss Jones yn syllu arno. |
| (1, 0) 401 | Cyfyd Miss Jones a gwisg ei phethau. |
| (1, 0) 402 | Egyr Morgan y drws iddi, ac ant allan gyda'i gilydd. |
| (1, 0) 403 | Daw Marged i mewn, edrych o'i chwmpas, a at y piano ac edrych arni fel pe bai beth byw; ysgydwa ei phen a chwyd ei dwylaw, gan adael iddynt ddisgyn yn glec ar ei ffedog. |
| (1, 0) 404 | Yna, dechreua glirio'r bwrdd. |
| (1, 0) 405 | Cenir y gloch. |
| (1, 0) 406 | Rhed Marged allan drwy ddrws y gegin. |
| (1, 0) 407 | Daw Merfyn i mewn drwy'r llall. |
| (1, 0) 408 | Saif ar ganol y llawr, gan wthio ei ddwylaw i waelod pocedi ei lodrau. |
| (1, 0) 409 | Rhydd gic i'r fasged bapur oni bo'n rholio ar lawr; teifl ei gap ar ei hôl, ac eistedd i lawr ar gadair wrth y tân, gan godi ei draed ar ymyl y fantell, a thanio sigaret. |
| (1, 0) 410 | Daw Gwladys i mewn o'r gegin, a chwlwm o flodau yn ei llaw. |
| (1, 0) 448 | Gwladys yn mynd. |
| (1, 0) 449 | Merfyn yn cerdded o gwmpas yn anesmwyth, yn edrych ar y piano ac ar y naill beth â'r llall yn yr ystafell. |
| (1, 0) 450 | Gwladys yn dyfod yn ei hôl. |
| (1, 0) 493 | Estyn ei llaw iddo, a dawnsiant ar ganol y llawr am ennyd. |
| (1, 0) 494 | Safant yn sydyn. |
| (1, 0) 495 | Gollynga Gwladys ei gwallt yn gawod aur dros ei hysgwyddau, cofleidia Merfyn hi. |
| (1, 0) 496 | Yna safant gar edrych ar ei gilydd. |
| (1, 0) 535 | Merfyn yn ei chusanu ar ei thalcen, ac yn mynd ac yn eistedd ar y gadair a chuddio ei wyneb â'i ddwylaw. |
| (1, 0) 537 | Dyd Gwladys y gadwyn o'i llaw ar y silff, dyd ei het am ei phen, heb edrych ar Merfyn, a rhed allan drwy'r drws ar y chwith heb gofio'r gadwyn. |
| (1, 0) 538 | Gyda'i bod wedi mynd, egyr y drws ar y dde, a daw Miss Jones a John Morgan i mewn yn ddistaw. |
| (1, 0) 539 | Ni chyfyd Merfyn mo'i ben. |
| (1, 0) 540 | Edrych y ddau ano. |
| (1, 0) 541 | A Miss Jones ata yn araf, a dyd ei llaw ar ei ysgwydd. |
| (1, 0) 542 | Ni chwyd yntau mo'i olwg. |
| (1, 0) 555 | Tynn ei gadach poced allan, pesycha, a sych ei wefusau unwaith neu ddwy. |
| (1, 0) 556 | Gwelir marciau cochion ary cadach poced. |
| (1, 0) 557 | Eisteddwch, ma'm. |
| (1, 0) 558 | Eisteddwch, syr. |
| (1, 0) 559 | Y mae'n ddrwg gennyf. |
| (1, 0) 577 | Safant gan edrych bob un ar ei gilydd am ennyd. |
| (1, 0) 578 | Gwladys yn sychu ei llygaid, a Merfyn yn pesychu. |
| (1, 0) 581 | Distawrwydd. |
| (1, 0) 582 | Gwladys a Merfyn yn edrych ar ei gilydd. |
| (1, 0) 596 | Gan estyn ei law iddo. |
| (1, 0) 597 | Ysgydwant ddwylaw. |
| (1, 0) 609 | Llithra at y piano, dechreua ganu cainc fywiog, gyflym, troella Gwladys a Merfyn o gwmpas ar ganol y llawr, saif Miss Jones i edrych arnynt, gan sychu ei llygaid, a gwelîr Marged yn nrws y gegin yn edrych yn synn. |
| (1, 0) 610 | ~ |
| (1, 0) 611 | LLEN |