| (1, 0) 2 | ACT UN |
| (1, 0) 3 | Siop Fferm ddigon anniben ei golwg. |
| (1, 0) 4 | Mae hi'n gynnar yn y bore ym mis Mai. |
| (1, 0) 5 | Mae MARIA KAMROWSKA, merch leol, yn glanhau a pharatoi'r silffoedd. |
| (1, 0) 6 | Daw EILIR LEWIS, perchenog y fferm drws nesaf i fewn. |
| (1, 0) 62 | Saib. |
| (1, 0) 131 | Clywir sŵn car yn arafu y tu allan. |
| (1, 0) 132 | Mae EILIR yn gadael ei feddyliau ac yn mynd allan trwy'r drws i weld pwy sydd yno. |
| (1, 0) 137 | EILIR yn mynd allan drwy'r drws. |
| (1, 0) 138 | Saib. |
| (1, 0) 139 | Sŵn drysau fan yn agor a chau. |
| (1, 0) 140 | Clywir peth deialog o'r tu fas. |
| (1, 0) 156 | Saib. |
| (1, 0) 159 | Daw GORDON i fewn yn cario blwch, a golwg braidd yn swil arno. |
| (1, 0) 169 | Aiff GORDON allan. |
| (1, 0) 170 | EILIR yn ei wylio o'r drws wrth iddo fynd. |
| (1, 0) 220 | Clywir sŵn car yn agosáu. |
| (1, 0) 224 | Mae'r ddau yn edrych allan trwy'r drws yn tra bod y car tynnu lan ar y clos gerllaw. |
| (1, 0) 225 | Ânt allan at y car, gan adael y llwyfan yn wag am funud. |
| (1, 0) 226 | Clywir sŵn sgwrs gymysg y tu allan ar y clos. |
| (1, 0) 254 | Daw GERALLT i fewn tra bod y sgwrsio'n dal i fynd yn ei flaen tu allan. |
| (1, 0) 255 | Mae'n mynd draw at y cownter, yn codi'r bocs ac astudio'r label sydd arno. |
| (1, 0) 256 | Daw MARIA at drothwy'r drws. |
| (1, 0) 271 | Mae hi'n mynd nôl draw at y cownter, yn dechrau ail-afael yn ei gwaith, ac yn dawel ddiawlio GERALLT yn ei hiaith ei hun. |
| (1, 0) 273 | Mae hi'n cyrraedd y drws ac yn edrych i fewn. |
| (1, 0) 274 | Mae ANGHARAD gyda hi. |
| (1, 0) 326 | Saib. |
| (1, 0) 369 | Daw MARIA a BARBARA i fewn. |
| (1, 0) 370 | Mae MARIA'n ei thywys i edrych ar ddarn o'r llawr. |
| (1, 0) 392 | Daw GERALLT i fewn â bagiau o'r car yn ei ddwylo. |
| (1, 0) 393 | Mae EILIR yn ei ddilyn. |
| (1, 0) 402 | Saib. |
| (1, 0) 468 | Mae'n mynd allan, a BARBARA yn ei ddilyn. |
| (1, 0) 469 | Saib. |
| (1, 0) 494 | Saib. |
| (1, 0) 495 | Clywir sŵn car EILIR yn gyrru i ffwrdd. |
| (1, 0) 496 | Ymhen rai eiliadau, daw BARBARA yn ôl i fewn. |
| (1, 0) 517 | Mae ffôn ANGHARAD yn canu. |
| (1, 0) 522 | Mae BARBARA a GERALLT yn syllu ar ei gilydd am funud. |
| (1, 0) 523 | Mae BARBARA yn codi'i hysgwyddau ato. |
| (1, 0) 562 | Daw MARIA i fewn. |
| (1, 0) 563 | Mae hi'n sylwi ar JANE. |
| (1, 0) 577 | Saib. |
| (1, 0) 584 | Mae JANE ac ANGHARAD yn cychwyn am y drws bach sy'n arwain tuag at y tŷ. |
| (1, 0) 588 | Mae BARBARA yn mynd y ffordd arall, am y drws mawr sy'n arwain nôl at y clos. |
| (1, 0) 589 | Wrth iddi fynd drwyddo, mae'n cwrdd â PETER. |
| (1, 0) 612 | Mae hi'n edrych arno. |
| (1, 0) 613 | Saib. |
| (1, 0) 614 | Ti 'di newid. |
| (1, 0) 615 | 'Di heneiddo. |
| (1, 0) 616 | You look a lot older. |
| (1, 0) 617 | Crwt ysgol ôt ti pan es i o 'ma. |
| (1, 0) 618 | A nawr wyt ti 'di tyddu. |
| (1, 0) 619 | Wyt ti'n ddyn. |
| (1, 0) 624 | Saib. |
| (1, 0) 625 | Mae JANE yn syllu arno. |
| (1, 0) 626 | Yna mae hi'n estyn ato ac yn cyffwrdd â'i ben. |
| (1, 0) 630 | Saib. |
| (1, 0) 631 | Yna mae JANE yn chwerthin yn uchel; os chwerthin yw hyn. |
| (1, 0) 632 | Mae'n hi'n tawelu wedyn. |
| (2, 0) 637 | ACT DAU |
| (2, 0) 638 | Cae gwair wedi'i glirio. |
| (2, 0) 639 | Bêls gwair ar wasgar. |
| (2, 0) 640 | Noswaith braf yn hwyr ym mis Mehefin. |
| (2, 0) 641 | Mae GORDON yn pwyso yn erbyn un o'r bêls ac yn chwarae gitâr tra bod MARIA ar y ffôn yn tecstio. |
| (2, 0) 708 | Clywir sŵn injan motor beic yn agosáu ac arafu. |
| (2, 0) 709 | Tra bod GORDON yn straffaglu i roi ei gitâr i gadw yn ei gasyn, mae'r injan yn diffodd. |
| (2, 0) 710 | Clywir llais yn galw rhywbeth o du fewn i'r helmet, ond nid yw'n ddealladwy. |
| (2, 0) 739 | Mae'n nhw'n ymadael, ac ymhen ychydig eiliadau clywir sŵn y beic yn tanio ac yn symud i ffwrdd. |
| (2, 0) 740 | Saib. |
| (2, 0) 742 | Mae'n dechrau cicio'r belen wair. |
| (2, 0) 743 | Heb yn wybod iddo, mae EILIR wedi bod yn ei wylio. |
| (2, 0) 790 | Mae GORDON yn straffaglu i ymadael. |
| (2, 0) 791 | Allan. |
| (2, 0) 792 | Mae EILIR yn canu i'w hunan {'Yr Arad Goch', efallai}. |
| (2, 0) 793 | Tra'i fod wrthi, clywir lleisiau JANE a GERALLT ymhellach i ffwrdd. |
| (2, 0) 795 | Saib. |
| (2, 0) 796 | Mae ateb yn dod yn nid yw'r gynulleidfa'n ei glywed. |
| (2, 0) 861 | Daw ANGHARAD a PETER i fewn; hwythau wedi bod yn cerdded y caeau. |
| (2, 0) 1004 | Saib eto. |
| (2, 0) 1005 | Yn y tawelwch, fe ddaw sŵn o'r pellter; fel sŵn llinyn yn torri. |
| (2, 0) 1006 | Mae'r atsain yn raddol ddistewi. |
| (2, 0) 1007 | Saib. |
| (2, 0) 1046 | Clywir sŵn mwmial ateb o'r pellter. |
| (2, 0) 1063 | Clywir sŵn JIM yn mwmial siarad drwy'r amser. |
| (2, 0) 1064 | Mae'n nhw'n ymddangos. |
| (2, 0) 1065 | Mae GERALLT ac ANGHARAD yn tywys JIM yn ofalus. |
| (2, 0) 1066 | Mae'r tri yn siarad ar draws ei gilydd. |
| (2, 0) 1084 | Mae'n nhw'n diflannu i'r asgell. |
| (2, 0) 1085 | Y sgwrs a'r mwmial yn mynd yn ei flaen. |
| (2, 0) 1157 | Saib. |
| (2, 0) 1158 | Daw BARBARA i fewn, wedi cynhyrfu. |
| (2, 0) 1170 | Mae'n symud i ffwrdd. |
| (2, 0) 1171 | Saib. |
| (3, 0) 1183 | ACT TRI |
| (3, 0) 1184 | Noswaith yn hwyrach yn yr haf. |
| (3, 0) 1185 | Mae hi'n raddol dywyllu trwy gydol yr olygfa. |
| (3, 0) 1186 | Ystafell yn y tŷ wedi'i haddurno ar gyfer parti o ryw fath. |
| (3, 0) 1187 | Drws yn y cefn yn arwain at yr ardd; ar yr ochr chwith, drws yn arwain at ystafell arall, lle mae 'na gerddoriaeth yn chwarae a pheiriant karaoke. |
| (3, 0) 1188 | Mae 'na fwrdd gyda bwffe a diodydd wedi'u gosod arni yn yr ystafell. |
| (3, 0) 1189 | Ymddengys fod yna dipyn o fwyd ar ôl, a bod y rhan fwyaf o'r gwesteion eisoes wedi cymryd peth ohono, gan fod platiau gwag wedi'u defnyddio i'w gweld ar y bwrdd ac o gwmpas yr ystafell. |
| (3, 0) 1190 | Gwelir BARBARA, a JANE weithiau, yn cerdded drwy'r lle yn ysbeidiol. |
| (3, 0) 1191 | Ger y drws gwydr yn y cefn, saif BRIAN PENRHIW, ffermwr lleol, sy'n siarad yn uchel gyda grŵp o'i gyfeillion. |
| (3, 0) 1198 | Daw ymatebion oddi wrth y gwrandawyr: 'Ha, ha...'; 'O na, wedi neud yn iawn am un nosweth, Jane...'; 'Gymrith hi fwy 'na ny!'; 'Diawl 'na, drycha ar 'i seis e'!', ac yn y blaen. |
| (3, 0) 1199 | Mae JANE yn symud i ffwrdd oddi wrthyn nhw. |
| (3, 0) 1206 | BRIAN yn gorwedd ar ei hyd ar llawr gyda'i goesau ar led, a'i dafod allan: chwerthin brwd o blith ei griw o gyfeillion. |
| (3, 0) 1207 | Rhywbryd yn ystod y cyfan, daw PETER, sydd braidd yn feddw, i fewn drwy'r drws ar y chwith a phigo bwydach o'r bwrdd bwffe. |
| (3, 0) 1211 | Yn ystod y chwerthin sy'n dilyn y jôc, daw BARBARA i fewn i'r ystafell. |
| (3, 0) 1217 | Â allan yn gyflym. |
| (3, 0) 1218 | Saib. |
| (3, 0) 1252 | Yn ystod y sgwrs ganlynol, clywir MARIA o'r ystafell nesaf yn canu gyda'r peiriant karaoke: 'Eternal Flame' gan The Bangles, o bosib; sdim ots pa mor dda mae hi'n canu... |
| (3, 0) 1265 | Sŵn MARIA'n canu yn y cefndir. |
| (3, 0) 1266 | Mae PETER yn dawel. |
| (3, 0) 1267 | Saib. |
| (3, 0) 1270 | Mae BRIAN yn mynd; mae PETER yn crwydro i ran arall o'r ystafell. |
| (3, 0) 1271 | Nid yw BARBARA a JANE yn ei weld pan ddônt i fewn. |
| (3, 0) 1299 | Daw sŵn rhywbeth yn torri o'r ardd, a chwerthin mawr. |
| (3, 0) 1301 | Mae hi'n mynd allan. |
| (3, 0) 1302 | Clywir peth twrw a chwerthin. |
| (3, 0) 1324 | Aiff BARBARA drwodd yn cario'r brws. |
| (3, 0) 1430 | Saib. |
| (3, 0) 1431 | Mae JANE yn syllu arno. |
| (3, 0) 1432 | Yna, yn sydyn, mae hi'n ei daro yn ei wyneb. |
| (3, 0) 1433 | Aiff PETER allan heb ddweud gair. |
| (3, 0) 1434 | Mae Jane yn eistedd ar bwys y bwrdd bwyd. |
| (3, 0) 1435 | O'r distawrwydd, daw sŵn rhywun [GORDON] yn canu 'Love Me Tender' ar y peiriant karaoke. |
| (3, 0) 1438 | Mae hi'n drysu rhwng gwawd a gwefr; mae MARIA yn gwrando arno, yn chwerthin ar brydiau, ond weithiau hefyd yn symud i'r gerddoriaeth. |
| (3, 0) 1439 | Yng nghanol y gân, daw BARBARA i fewn. |
| (3, 0) 1447 | Daw'r gân i ben yn sydyn, a chlywir sŵn yr helynt am beth amser cyn iddo ddistewi gyda GORDON yn amlwg wedi gadael. |
| (3, 0) 1451 | Daw nifer o'r gwesteion i fewn o'r ardd, lle mae'r helynt nawr yn digwydd. |
| (3, 0) 1452 | Maent yn cynnwys GARRY a BRIAN. |
| (3, 0) 1453 | Mae'n nhw'n gwylio'r hyn sy'n digwydd yn yr ardd o hyd. |
| (3, 0) 1465 | Daw ANGHARAD i fewn. |
| (3, 0) 1487 | Mae e'n llwyddo i gael GARRY i adael gydag e. |
| (3, 0) 1488 | Wrth iddyn nhw fynd allan trwy'r drws tua'r chwith, mae'n nhw'n cwrdd ag EILIR. |
| (3, 0) 1494 | Mae'n nhw'n mynd allan. |
| (3, 0) 1526 | Mae hi'n mynd allan eto tuag at yr ardd. |
| (3, 0) 1527 | Mae ANGHARAD ar ei phen ei hunan am funud. |
| (3, 0) 1528 | Mae hi'n cerdded o amgylch am gwpwl o eiliadau. |
| (3, 0) 1529 | Wedyn, mae'n tynnu ei ffôn o'i phoced, ac yn darllen neges destun. |
| (3, 0) 1530 | Mae hi'n synnu at yr hyn mae hi'n darllen ac yn gwneud galwad ffôn. |
| (3, 0) 1535 | Saib. |
| (3, 0) 1536 | Mae hi'n gwrando ar y llais ar ochr arall y llinell. |
| (3, 0) 1538 | Mae'r alwad drosodd. |
| (3, 0) 1539 | Mae hi ar ei phen ein hun eto am funud, yn anghrediniol. |
| (3, 0) 1540 | Daw GERALLT a JANE i fewn. |
| (3, 0) 1541 | Mae GERALLT wedi bod yn yfed. |
| (3, 0) 1560 | Saib. |
| (3, 0) 1561 | Daw BARBARA i fewn, a sefyll wrth y drysau sy'n mynd allan i'r ardd. |
| (3, 0) 1562 | Mae GERALLT yn mynd draw at y bwrdd ac yn codi rhyw damaid o rywbeth a'i fwyta. |
| (3, 0) 1564 | Aiff ANGHARAD allan. |
| (3, 0) 1589 | Clywir sŵn EILIR yn dod nôl i fewn drwy'r gegin. |
| (3, 0) 1592 | Daw EILIR i fewn. |
| (3, 0) 1593 | Mae'n edrych arnyn nhw am eiliad. |
| (3, 0) 1621 | Saib. |
| (3, 0) 1622 | Daw ANGHARAD i fewn yn ystod y distawrwydd anesmwyth. |
| (3, 0) 1626 | Saib. |
| (3, 0) 1627 | Ni all GERALLT ateb. |
| (3, 0) 1647 | Yng nghanol y gweiddi a'r cweryla, mae JANE wedi symud draw ta y bwrdd. |
| (3, 0) 1648 | Mae hi'n codi plât sy'n cario Black Forest Gateau cyfan, a'i luchio ar y llawr. |
| (3, 0) 1649 | Distawrwydd. |
| (3, 0) 1696 | Saib hir. |
| (3, 0) 1697 | Mae BARBARA yn cerdded i ganol yr ystafell i gyfeiriad EILIR, yn tynnu'r fodrwy ddyweddïo oddi ar ei bys, a'i daflu i'r llawr yn nghanol y gateau. |
| (3, 0) 1698 | Aiff allan tuag at yr ardd. |
| (3, 0) 1700 | Mae'n camu draw at y gacen slwtj a chodi'r fodrwy allan ohoni. |
| (3, 0) 1701 | Mae'n ei gosod yn ei geg i'w glanhau, ac yna'n ei thynnu allan. |
| (3, 0) 1704 | Aiff allan drwy'r dws arall. |
| (4, 0) 1705 | ACT PEDWAR |
| (4, 0) 1706 | Bore braf ym mis Medi. |
| (4, 0) 1707 | Mae'r siop wedi'i wacáu, a'r cynnyrch sy'n weddill wedi'i osod mewn blychau yn barod i'w gasglu. |
| (4, 0) 1708 | Mae ambell liain llwch wedi'i gosod dros y silffoedd a welwyd yn Act 1, mewn ymdrech ddigon aneffeithiol i awgrymu gofal. |
| (4, 0) 1709 | Mae ANGHARAD a BARBARA wrthi yn helpu i glirio a sgubo'r lle. |
| (4, 0) 1710 | Saif PETER ar un ochr, braidd yn ansicr ynglŷn â beth i'w wneud yn y sefyllfa bresennol. |
| (4, 0) 1742 | Mae'r ddwy yn chwerthin am foment. |
| (4, 0) 1743 | Peter yn edrych braidd yn anesmwyth. |
| (4, 0) 1744 | Mae ffôn ANGHARAD yn canu eto. |
| (4, 0) 1750 | Mae BARBARA yn chwerthin eto, ond gellir clywed chwerwedd ynddo. |
| (4, 0) 1751 | Saib. |
| (4, 0) 1778 | Mae ffôn ANGHARAD yn canu eto. |
| (4, 0) 1789 | Wrth iddi siarad mae GERALLT yn dod mewn drwy'r drws yn frysiog ac o fewn dim i daro i mewn iddi. |
| (4, 0) 1790 | Mae'n cerdded heibio iddi'n ddiamynedd ac yn mynd draw at rai o'r blychau ar y llawr. |
| (4, 0) 1791 | Mae yntau ar y ffôn, ac yn siarad yn reit uchel. |
| (4, 0) 1792 | Mae ANGHARAD ac yntau'n siarad ar draws ei gilydd, nes ei bod hi'n cael digon ar geisio cystadlu â'i lais ef, ac yn crwydro allan drwy'r drws. |
| (4, 0) 1812 | Mae'n diffodd a rhoi'r ffôn i lawr. |
| (4, 0) 1813 | Mae'n edrych o'i gwmpas. |
| (4, 0) 1814 | Ymhen ychydig, fe ddaw ANGHARAD yn ôl i fewn. |
| (4, 0) 1819 | GERALLT yn siglo'i ben. |
| (4, 0) 1824 | Daw JANE a BARBARA i fewn o gyfeiriad y tŷ. |
| (4, 0) 1825 | Mae BARBARA'n cario'r hoover. |
| (4, 0) 1861 | Mae JANE yn agor y botel. |
| (4, 0) 1862 | Bloeddiadau, ychydig yn wantan. |
| (4, 0) 1869 | Mae hi'n yfed; yna'n dal ei llaw dros ei cheg am foment. |
| (4, 0) 1870 | Saib. |
| (4, 0) 1889 | Ymddengys EILIR wrth y drws. |
| (4, 0) 1890 | Yn raddol, mae'r lleill yn sylwi ei fod yno. |
| (4, 0) 1916 | Mae JANE ac ANGHARAD wedi mynd. |
| (4, 0) 1917 | Mae EILIR a PETER yn syllu ar ei gilydd am foment. |
| (4, 0) 1975 | Saib. |
| (4, 0) 1976 | Daw JANE yn ôl i fewn. |
| (4, 0) 2027 | Clywir sŵn car yn arafu ac tynnu mewn y tu allan. |
| (4, 0) 2105 | Daw BARBARA i fewn. |
| (4, 0) 2111 | Allan yn gyflym. |
| (4, 0) 2112 | Wrth ei bod hi'n gadael, daw GERALLT i fewn trwy'r drws arall. |
| (4, 0) 2115 | Mae JANE yn amneidio'n wyllt ato. |
| (4, 0) 2116 | Mae'n rhythu ati, yna'n gweld bod BARBARA ac EILIR yno. |
| (4, 0) 2117 | Mae'n deall y sefyllfa o'r diwedd, ac yn dilyn JANE. |
| (4, 0) 2153 | Mae'n hi'n aros, ac yn syllu tuag ato. |
| (4, 0) 2155 | Mae EILIR yn mynd allan. |
| (4, 0) 2156 | Mae BARBARA yn araf suddo i'w chwrcwd, yn dal i afael ar yr Hoover. |
| (4, 0) 2157 | Mae'n hi'n crïo. |
| (4, 0) 2158 | Ar ôl peth amser, daw JANE yn ôl i fewn. |
| (4, 0) 2166 | Daw GERALLT ac ANGHARAD i fewn, PETER yn dilyn. |
| (4, 0) 2183 | Daw MARIA a GORDON i fewn; mae golwg hapus iawn ar wyneb GORDON. |
| (4, 0) 2210 | Aiff MARIA a GORDON allan. |
| (4, 0) 2219 | Sŵn ceir y tu allan. |
| (4, 0) 2220 | Wrth fod MARIA a GORDON yn gadael, mae'r tacsi wedi cyrraedd. |
| (4, 0) 2235 | Mae PETER, ANGHARAD a BARBARA yn cario'r bagiau allan. |
| (4, 0) 2237 | Dim ond GERALLT a JANE sydd ar ôl. |
| (4, 0) 2251 | Maent yn cofleidio'i gilydd am foment. |
| (4, 0) 2252 | Yna mae GERALLT yn torri i ffwrdd. |
| (4, 0) 2253 | Iawn. |
| (4, 0) 2254 | Pffffwwww. |
| (4, 0) 2255 | Ma pethe 'da ni i neud. |
| (4, 0) 2256 | Bryd i ni glatsho bant â 'i! |
| (4, 0) 2257 | Dere. |
| (4, 0) 2259 | Ânt allan. |
| (4, 0) 2260 | Clywir sŵn yr allwedd yn troi yn y drws. |
| (4, 0) 2261 | Sŵn siarad, ffarwelio, ac wedyn, ymhen munud, y tacsi'n gadael. |
| (4, 0) 2262 | Saib fer. |
| (4, 0) 2263 | Yn sydyn, mae'r drws nesaf at y tŷ yn agor. |
| (4, 0) 2264 | Daw JIM i fewn. |
| (4, 0) 2281 | Saib eto. |
| (4, 0) 2282 | Yn y tawelwch, fe ddaw sŵn o'r pellter; fel sŵn llinyn yn torri. |
| (4, 0) 2283 | Mae'r atsain yn raddol ddistewi. |