|
|
(1, 0) 1 |
Sgubor Cefn Eithin, Llanfair Moyddin, fore Sadwrn yn yr Haf. |
(1, 0) 2 |
~ |
(1, 0) 3 |
Y mae muriau ysgubor yn wynebu'r edrychwyr. |
(1, 0) 4 |
Yn y cornel i'r dde y mae cryglwyth mawr o wellt, ac y mae gwellt hefyd mewn anhrefn ar y llawr. |
(1, 0) 5 |
Yn y pen nesaf i'r edrychwyr o'r mur ar y ochr chwith y mae drws yn arwain allan. |
(1, 0) 6 |
~ |
(1, 0) 7 |
Cyfyd y llen a neb i'w weled ar y llwyfan. |
(1, 0) 8 |
Cedwir ef felly am ychydig amser, nes bod y gyunlleidfa ar fin anesmwytho. |
(1, 0) 9 |
Yna sylwir ar ryw aflonyddwch yn y gwellt tua chanol y llwyfan, a gwelir pen a pheth o gorff dyn ifanc yn ymddangos. |
(1, 0) 10 |
Pan ddel cyfle i sylwi ar ei ddillad gwelir nad ydynt o ddeunydd da iawn, a bod llaid ac ôl cerdded arnynt, eithr nad ydynt yn hollol mor wael â rhai crwydryn cyffredin. |
(1, 0) 11 |
Y mae iddo wyneb agored, pleserus, llygaid gleision, a gwallt du, cyrliog. |
|
|
(1, 0) 14 |
Y mae aflonyddwch eto yn y gwellt a'r tro hwn ymddengys pen dyn tua thrigain a phump oed. |
(1, 0) 15 |
Y mae mwy o awyrgylch y gwir dramp o gylch hwn. |
(1, 0) 16 |
Y mae ei ddillad yn awgrymu'r coed-foneddig - yn ymbil am barch, ond yn methu a'i gael. |
(1, 0) 17 |
~ |
(1, 0) 18 |
Y mae ei wyneb hefyd yn gyd'wedd â'r dillad - wyneb mawr, crwn, llawn profiad o ymylon bywyd a direidi, a llinellau cyfrwys yn ymddangos oddeutu'r llygaid pan fo'n chwerthin. |
(1, 0) 19 |
Y mae ei farf "gafr" a'i wallt ac aeliau trwchus yn frith. |
(1, 0) 20 |
~ |
(1, 0) 21 |
Gwelir ei fod yn hoffi'r dull "pregethwrol" o lefaru pan fo wrth ei fodd, eithr dylid gwahaniaethu rhwng hyn a'r "hwyl" a ddaw i'w leferydd yn nes ymlaen. |
(1, 0) 22 |
Cyfyd o'r gwellt yn fwy disymwth na Dafydd, a daw ei eiriau cyntaf yn fuan ar |
(1, 0) 23 |
ôl rhai Dafydd. |
|
|
(1, 0) 117 |
Edrych Malachi yn synfyfyrgar am ysbaid. |
(1, 0) 118 |
Yna daw gwawr o ddeall cyfrwys i'w wedd. |
(1, 0) 119 |
Ysgwyd ei ben yn araf a dyry fath ar winc. |