|
|
(1, 0) 1 |
Pan gyfyd y llen, gwelir ROLANT HUW yn eistedd ar y seil wrth y tân, yn darllen "Seren tan Gwmwl", o waith Jac Glan-y-Gors. |
(1, 0) 2 |
Y mae'n amlwg fod sylwadau miniog a bachog yr awdur wrth fodd ei galon. |
(1, 0) 3 |
Tyrr allan i chwerthin yn uchel. |
(1, 0) 4 |
Daw ei wraig #Sara |
(1, 0) 5 |
i mewn, a chyn gynted ag y daw drwy'r drws, dywed: |
|
|
(1, 0) 8 |
Y mae ganddi swp o ddillad yn ei breichiau, ac y mae yn eu rhoi ar y bwrdd o'i blaen. |
(1, 0) 9 |
Yn ystod yr ymddiddan a ganlyn, y mae'n eu trin a'u dosbarthu, etc. |
|
|
(1, 0) 91 |
Daw IFOR i mewn drwy ddrws y gegin fach, yn ddrwg ei dymer. |
(1, 0) 92 |
Y mae ar ganol gwisgo, a heb ei gôt. |
|
|
(1, 0) 166 |
Cyflyma'r tempo yma. |
|
|
(1, 0) 188 |
Erbyn hyn y mae Ifor wedi cilio'n araf ac ofnus at ddrws y gegin fach. |
(1, 0) 189 |
Mae ei fam yn mynd ati i'w gysuro dan fflangell lem ei dad. |
|
|
(1, 0) 233 |
Rolant yn mynd allan i'r cyntedd. |
(1, 0) 234 |
Clywir lleisiau'r ddau yno. |
|
|
(1, 0) 237 |
Daw y ddau i mewn. |
|
|
(1, 0) 294 |
Oddi yma ymlaen, cyflyma'r tempo, hyd at exit Mr. Foster, a chyfyd tymer Rolant. |
(1, 0) 295 |
Erys Mr. Foster yn ddi-gyffro bron. |
|
|
(1, 0) 386 |
Yn ystod y sgwrs sy'n dilyn, y mae ROLANT yn bur anesmwyth, heb allu setlo'i lawr i wneud dim. |
(1, 0) 387 |
Mae SARA erbyn hyn wedi cael pecyn yr hen Feti at ei gilydd. |
(1, 0) 388 |
Y mae'n paratoi i fynd allan. |
|
|
(1, 0) 403 |
Y mae SARA yn mynd. |
(1, 0) 404 |
Chwilia ROLANT am lyfr, cymer un a gwna ei hun yn gyfforddus i ddarllen ar y setl wrth y tân, fel ar ddechrau'r chwarae. |
(1, 0) 405 |
~ |
(1, 0) 406 |
Ymhen ysbaid gwelir drwy'r ffenestr wyneb JAC GLAN-Y-GORS. |
(1, 0) 407 |
Edrycha hwnnw o'i gwmpas yn wyliadwrus, yna y mae'n tapio'n ddistaw ar y ffenestr. |
(1, 0) 408 |
Cwyd Rolant ei olwg, ond y mae ei gefn at y ffenestr, ac ni wêl Jac. |
(1, 0) 409 |
~ |
(1, 0) 410 |
Dechreua'r tapio drachefn, yn uwch. |
(1, 0) 411 |
Trŷ Rolant at y ffenestr, a gwêl wyneb Jac. |
(1, 0) 412 |
Neidia ar ei draed, gan sibrwd gyda chryn syndod, "Jac"! |
(1, 0) 413 |
~ |
(1, 0) 414 |
Amneidia Rolant arno i ddod i mewn drwy'r cefn, a rhuthra i dynnu llenni'r ffenestr at ei gilydd. |
(1, 0) 415 |
Diffodda'r ddwy gannwyll sydd ar y silf-ben-tân, nes bod y llwyfan rhwng tywyll a golau. |
(1, 0) 416 |
~ |
(1, 0) 417 |
Yna egyr ddrws y bac, a daw JAC i mewn. |
(1, 0) 418 |
Y mae hwnnw'n cario pecyn bychan. |
(1, 0) 419 |
~ |
(1, 0) 420 |
Yn ystod rhan gyntaf yr ymgom sy'n dilyn, ymddengys Rolant yn lled anesmwyth, yn edrych o gwmpas yr ystafell yrŵan ac yn y man, a chlustfeinio am unrhyw sŵn dieithr. |
|
|
(1, 0) 443 |
Y mae'n cymryd yr unig gannwyll, ac yn croesi i oleuo'r ddwy arall ar y silff-ben-tân. |
|
|
(1, 0) 513 |
Mae'n dal i chwerthin, ac ni all Rolant yntau beidio ag ymuno yn yr hwyl. |
(1, 0) 514 |
~ |
(1, 0) 515 |
A phan fo'r chwerthin ar ei fan uchaf, daw JANET FOSTER, merch y Person, i mewn heb gnocio, yn ôl ei harfer. |
(1, 0) 516 |
~ |
(1, 0) 517 |
Saif yn sydyn pan wêl pwy sydd yno. |
(1, 0) 518 |
Derfydd y chwerthin hefyd yn sydyn iawn. |
|
|
(1, 0) 521 |
Cyfyd y ddau. |
(1, 0) 522 |
Rolant yn araf araf, ond Jac ar unwaith, heb anghofio'i foesau da. |
(1, 0) 523 |
Mae'n amlwg na ŵyr Rolant druan beth i'w wneud â'r sefyllfa newydd hon. |
(1, 0) 524 |
Wedi edrych o un i'r llall yn ddigon ffwndrus, dywed yn drwsgl braidd: |
|
|
(1, 0) 567 |
Drwy'r adeg, hyd at ei exit y mae Rolant yn lled aneswyth ac anghyfforddus yn ystod y sgwrs rhwng Janet a Jac. |
(1, 0) 568 |
Ond y mae'r ddau yna yn mwynhau pob moment ohoni. |
(1, 0) 569 |
Dylai'r ddau ddangos hyn yn glir, er mwyn datblygu'r gomedi. |
|
|
(1, 0) 593 |
Y mae Rolant a Jac bron â chael eu taro'n fud gan syndod. |
(1, 0) 594 |
Ond dywed y ddau o'r diwedd, bron gyda'i gilydd: |
|
|
(1, 0) 646 |
Mae'n mynd o gwmpas yr ystafell, ac edrych yng nghwpwrdd y dresel, etc., tra y sieryd y ddau arall. |
|
|
(1, 0) 665 |
Wedi i Rolant fynd allan ceir distawrwydd am ennyd neu ddau. |
(1, 0) 666 |
Yma dywed Janet yn eithaf swynol: |
|
|
(1, 0) 676 |
Cyflyma'r tempo yn sydyn. |
(1, 0) 677 |
Sieryd Janet yn gyflym mewn 'stage whisper', gan dorri'r brawddegaw'n gwta, ond pob gair a ddywed yn dangos ei bod o ddifrif calon. |
|
|
(1, 0) 689 |
Daw Rolant yn ôl. |
|
|
(1, 0) 731 |
Daw Jac ato'i hun yn sydyn. |
(1, 0) 732 |
Cyflyma'r tempo ar unwaith. |
(1, 0) 733 |
Sieryd Jac yn gyflym, ac y mae o ddifrif am unwaith. |
(1, 0) 734 |
Darfu'r cellwair. |
|
|
(1, 0) 761 |
Y mae'n cydio yn ei bac, ac ar gychwyn allan pan y daw Sara ac Ifor i mewn. |
(1, 0) 762 |
Arafa'r tempo. |
|
|
(1, 0) 774 |
Ifor yn croesi at Jac, ac yn estyn ei law iddo. |
(1, 0) 775 |
Mae rhyw golyn yng nghynffon pob ymadrodd o eiddo Ifor yma, ond ymddengys yn eithaf siriol a chyfeillgar: |
|
|
(1, 0) 807 |
Clywir cnocio awdurdodol ar y drws canol. |
(1, 0) 808 |
Cyflyma'r tempo ar unwaith. |
|
|
(1, 0) 812 |
Cnocio eto, a llais: "Agorwch, yn enw'r Brenin!". |
|
|
(1, 0) 820 |
Mae Jac yn camu at y drws hwnnw, ond saif Ifor ar ei ffordd, â'i gefn at y drws. |
|
|
(1, 0) 823 |
Cyffro, a'r cnocio yn dal. |
|
|
(1, 0) 833 |
Cnocio eto, a llais Mr. Foster i'w glywed. |
|
|
(1, 0) 837 |
Egyr y drws, a daw Mr. Foster i mewn. |
(1, 0) 838 |
Dilynir ef gan Capten Rogers, swyddog ym Milishia Sir Ddinbych. |
|
|
(1, 0) 893 |
Ac fel yr â Capt. Rogers i gymryd gafael yn Jac, clywir lleisiau'r Milishia oddi allan, ac hefyd lais arall. |
(1, 0) 894 |
Egyr drws, a daw JANET i mewn yn frysiog. |
(1, 0) 895 |
Hawdd gweld bod rhywbeth anghyffredin wedi peri iddi frysio yno. |
|
|
(1, 0) 945 |
Yn mynd allan gan floeddio'r geiriau yn histeraidd. |
|
|
(1, 0) 948 |
Saib am ennyd neu ddwy. |
|
|
(1, 0) 962 |
Â'r Capten allan. |
|
|
(1, 0) 1027 |
Y mae'n troi at Jac, a cheisio'i orau i ymddangos mor ddi-gyffro ag y sydd modd. |
|
|
(1, 0) 1037 |
Mr. Foster a Rolant yn mynd allan. |
(1, 0) 1038 |
Saib fer. |
|
|
(1, 0) 1064 |
Y mae Jac yn ymgrymu i gusanu ei llaw. |
(1, 0) 1065 |
Yn sydyn, tynn hi ato'i hun, a chusana'r ddau ei gilydd. |
(1, 0) 1066 |
Y maent yn ymwahanu, ac â Janet at y drws. |
|
|
(1, 0) 1070 |
A chyn iddi fynd allan, dywed yntau'n dawel wrthi. |
|
|
(1, 0) 1072 |
LLEN |