| (1, 0) 1 | GOLYGFA |
| (1, 0) 2 | ~ |
| (1, 0) 3 | Mae'r llwyfan wedi ei rannu'n dri ─ mae golygfa llys ynadon yn y cefn, yna cynulleidfa y llys ac ar y dechrau mae blaen y llwyfan yn wag. |
| (1, 0) 4 | Cyn codi'r golau mae pawb yn ei le yn barod ar wahân i'r ynadon. |
| (1, 0) 5 | Pan ddaw'r golau, clywir cymeradwyaeth swnllyd gan aelodau'r oriel gyhoeddus. |
| (1, 0) 6 | Mae un ohonynt ar ei draed yn eu hannerch. |
| (1, 0) 36 | Daw'r ynadon i mewn yn gwisgo hetiau blodeuog. |
| (1, 0) 62 | Daw'r Offisar a Samuel Jones i mewn. |
| (1, 0) 63 | Mae Sami'n edrych ar goll braidd. |
| (1, 0) 82 | Mae'n rhannu adroddiadau i'r ynadon a'r clerc tra mae'r gynulleidfa yn siarad ymysg ei gilydd. |
| (1, 0) 122 | Mae'n tynnu ei lyfr nodiadau allan o'i boced a throi i'r dudalen gywir. |
| (1, 0) 123 | Mae'n darllen yn fawreddog. |
| (1, 0) 156 | Y golau'n tywyllu a llais Sami i'w glywed yn fain dros yr uchelseinydd yn dweud 'Dwi'n oer... |
| (1, 0) 157 | dwi'n oer..." gan gryfhau fel mae'r doctor yn mynd rhagddo. |
| (1, 0) 160 | Clywir Sami'n dweud 'Dwi'n oer...dwi'n oer!" nes ei fod yn gweiddi'n niwrotig. |
| (1, 0) 161 | Mae tywyllwch llwyr ar ôl geiriau'r Doctor ─ digon o amser i rai o'r gynulleidfa yn y llys i adael y llwyfan. |
| (1, 0) 162 | Cwyd sbot o olau ar ochr flaen chwith y llwyfan lle mae Sami yn ei gwman. |
| (1, 0) 163 | Ar ôl i'r llais dros yr uchelseinydd orffen, daw rhai o gynulleidfa'r llys i flaen y llwyfan mewn dillad plant. |
| (1, 0) 164 | Mae'r golau'n codi arnynt ac maent yn dawnsio mewn cylch gan weiddi-canu 'Sami bach yn oer, Sami bach yn oer!' |
| (1, 0) 165 | Yna daw clerc y llys ─ mae wedi tynnu ei siwt a'i dei ac mae'n gwisgo trowsus bach; P.C. Davies ─ mae'n gwisgo cap ysgol yn lle helmed ac wedi rowlio ei drowsus i fyny at ei bengliniau, a'r Doctor sydd hefyd mewn dillad plentyn, ymlaen at weddill y plant. |
| (1, 0) 166 | Mae'r golau'n ehangu i gynnwys canol y llwyfan ond gan gadw golygfa'r llys yn y tywyllwch os yn bosibl. |
| (1, 0) 175 | Daw Cadeiryddes y Fainc i mewn fel Annie gyda sgarff rownd ei llygaid a'i breichiau allan yn ymbalfalu ei ffordd. |
| (1, 0) 176 | Mae'r plant yn rhedeg o'i chwmpas. |
| (1, 0) 333 | Mae'r plant yn gadael rhesi'r 'dosbarth' ac yn rhedeg o amgylch Sami. |
| (1, 0) 334 | Exit y Doctor. |
| (1, 0) 355 | Sami yn cychwyn ato eto ─ tua chornel chwith y llwyfan a'r un peth yn digwydd eto. |
| (1, 0) 356 | Ar ôl iddo ddisgyn yr ail waith, nid yw'n codi tan i'r plant fynd allan i'r chwith efo'r gadair yn gweiddi 'Sami bach yn oer, Sami bach yn oer' ac i un ohonynt gymryd y sgarff oddi ar ei lygaid cyn mynd. |
| (1, 0) 357 | ~ |
| (1, 0) 358 | Fel mae sŵn y plant yn distewi, daw Siopwraig i mewn o'r chwith i flaen chwith y llwyfan, yr Helth Inspector i mewno'r dde i ganol y llwyfan a'r Doctor i mewn o'r dde i flaen dde y llwyfan. |
| (1, 0) 359 | Maent yn cario bwrdd neu ddesg fechan bob un gyda rhowlyn o bapur linen wedi ei binio i flaen pob desg. |
| (1, 0) 360 | Yn union cyn dechrau siarad maent yn gollwng y rhowlyn o'u blaenau. |
| (1, 0) 361 | Byddai'n medru bod yn effeithiol pe gellir cael sbot yn dilyn Sami o'r naill i'r llall. |
| (1, 0) 399 | Saib. |
| (1, 0) 404 | Saib. |
| (1, 0) 405 | Nid yw Sami'n edrych ar y cerdyn. |
| (1, 0) 411 | Saib. |
| (1, 0) 421 | Mae'r Helth Inspector yn gollwng ei rhowlyn o flaen ei desg ac arno mae'r geiriau 'Yn eisiau, gofalwr tai bach'. |
| (1, 0) 457 | Mae'r Doctor yn dadrowlio'r hysbyseb ar flaen ei ddesg ac arno mae'r geiriau: 'Yn eisiau: Dynion i'r Armi.' |
| (1, 0) 491 | Saib. |
| (1, 0) 496 | Mae'r Siopwraig, Yr Helth Inspector a'r Doctor yn gafael yn eu byrddau a mynd allan. |
| (1, 0) 497 | ~ |
| (1, 0) 498 | Clywir lleisiau'r plant dros yr uchelseinydd yn gweiddi-canu: Sami bach yn oer. Oeri! Oeri! OERI! |
| (1, 0) 499 | ~ |
| (1, 0) 500 | Daw dwy ferch i mewn o ochr chwith y llwyfan, maent yn gwisgo dillad y 40au, llawer o golur, sgidia sodlau uchel a handbags. |
| (1, 0) 509 | Daw Megan i'r golwg. |
| (1, 0) 554 | Mae'n ei godi a chan afael rownd iddo fo mae'n mynd at Anwen ac yn defnyddio ei freichiau ef fel petai'n bwped i gyffwrdd Anwen. |
| (1, 0) 605 | Mae'r tair yn mynd allan i'r dde. |
| (1, 0) 606 | Clywir sŵn Sarjant yr Hôm Gards yn gweiddi 'lefft, rait, lefft, rait' etc. o ochr chwith y llwyfan am dipyn cyn iddo ef a thri milwr yn cario sosban, cot a brwsh llawr ymddangos. |
| (1, 0) 622 | Troi at y milwyr. |
| (1, 0) 625 | Mae'r milwr yn cerdded mewn sgwar ffurfiol ymlaen, yna at Sami, rhoi'r gôt iddo ac yn ôl rownd y cefn i'w safle. |
| (1, 0) 629 | Mae'n martsio fel yr un o'i flaen a rhoi brwsh llawr iddo. |
| (1, 0) 632 | Mae yntau'n rhoi sosban am ben Sami. |
| (1, 0) 633 | Yna a'r Sarjant at Sami. |
| (1, 0) 636 | Sami'n ceisio ymsythu. |
| (1, 0) 640 | Sami yn mynd o flaen rhes y milwyr. |
| (1, 0) 644 | Sami'n cychwyn troi i'r dde ond yn cywiro'i hun. |
| (1, 0) 647 | Maent yn mynd rownd i gefn y llwyfan gyda Sami yn arwain, yna fel y maent yn dod yn ôl tua blaen y llwyfan mae'r tri milwr arall yn aros yn y cefn gan adael i Sami droi mewn cylchoedd dan orchmynion y Sarjant sy'n sefyll ar ochr dde'r llwyfan. |
| (1, 0) 649 | Daw'r plant a chynulleidfa'r llys i mewn gan weiddi 'Sami Sosban! Sami Sosban!' yn wawdlyd. |
| (1, 0) 650 | Ar uchafbwynt y gweiddi daw P.C. Davies a'r Offisar i mewn. |
| (1, 0) 654 | Mae'r lle'n tawelu'n raddol. |
| (1, 0) 658 | Mae'n troi a gweld Sami. |
| (1, 0) 666 | Mae'n ei thynnu a'i rhoi i'r Offisar. |
| (1, 0) 668 | Mae'n ei roi i'r Offisar. |
| (1, 0) 670 | Ei rhoi i'r Offisar sy'n mynd allan. |
| (1, 0) 676 | Daw'r Doctor i mewn; mae P.C. Davies yn mynd allan, mae'r plant a chynulleidfa'r llys wedi rhannu'n ddau grwp ─ un yn mynd yn ôl i un ochr y llwyfan yn lein syth a'r llall yn mynd yn ôl i ochr arall y llwyfan. |
| (1, 0) 677 | Mae dwy stand dal cotiau ar bob ochr i'r llwyfan ers y dechrau a chynfasau gwynion arnynt. |
| (1, 0) 678 | Maer criw yn cymryd cynfas wen bob un oddi ar y standiau ac yn eu gwisgo amdanynt. |
| (1, 0) 679 | Rhaid mesur y cynfasau a rhoi pinnau ynddynt ymlaen llaw fel bod pawb yn gwybod pa un yw ei un ef a bod modd ei rhoi amdano'n gyflym a heb dynnu gormod o sylw. |
| (1, 0) 680 | Ar hyn o bryd mae'r ddwy res a'u cefnau at ganol y llwyfan. |
| (1, 0) 686 | Sami'n gwneud. |
| (1, 0) 689 | Ar y gair hwn mae'r ddwy res yn troi i wynebu canol y llwyfan GYDA'I GILYDD gan droi'r ysgwydd sy'n wynebu'r gynulleidfa gyntaf. |
| (1, 0) 693 | Mae Sami'n mynd ar ei benliniau. |
| (1, 0) 696 | Mae'r Doctor yn mynd allan drwy gefn y llwyfan a phan yw Sami'n cychwyn siarad mae'r gynulleidfa a'r plant yn cerdded i mewn i ganol y llwyfan yn raddol gan gau'n hanner cylch o gwmpas Sami ─ fel muriau tafell. |
| (1, 0) 700 | Edrych yn wyllt o'i gwmpas ar y 'waliau' sydd wedi cau amdano bellach. |
| (1, 0) 701 | Yng nghefn y llwyfan mae swyddogion y llys yn mynd i'w safleoedd yn ddistaw yn barod ar gyfer yr olygfa nesa') |
| (1, 0) 703 | Mae'n gweiddi yn awr gan dynnu ei goban i ffwrdd. |
| (1, 0) 705 | Yna'n ddistawach, fel un wedi ei ddychryn. |
| (1, 0) 714 | Mae'r ddwy 'wal' yn symud yn ôl gyda'i gilydd ond yn dal i wisgo'r cynfasau gwynion gan edrych yn syth o'u blaenau fel doliau yn awr. |
| (1, 0) 715 | Mae'r golau'n codi'n gyflym ar olygfa'r llys. |
| (1, 0) 716 | Mae Sami yng nghanol y llwyfan. |
| (1, 0) 725 | Ben Little yn ceisio'i dawelu. |
| (1, 0) 732 | Yr ynadon yn sibrwd ymysg ei gilydd. |
| (1, 0) 736 | Saib. |
| (1, 0) 752 | Ar yr un pryd mae'r Clerc yn rhoi nod i'r Doctor sy'n symud ymlaen at Sami, yn rhoi'r goban dros ei ysgwydd a'i symud i gornel flaen chwith y llwyfan ─ lle mae'r sbot yn codi arno ar y diwedd. |
| (1, 0) 753 | Yna ar ôl geiriau olaf y Gadeiryddes a'r Doctor allan. |
| (1, 0) 756 | Ar y geiriau hyn mae'r ddwy res yn tynnu eu cynfasau gwyn a symud ymlaen i ganol y llwyfan ac eistedd i lawr ─ ar y cynfasau fel yr oeddent ar ddechrau'r ddrama. |
| (1, 0) 757 | Mae popeth yn bywiogi eto. |
| (1, 0) 766 | Y gynulleidfa'n canu 'Fe orchfygwn ni'. |
| (1, 0) 767 | Mae'r golau'n graddol dywyllu arnynt ac maent yn canu'n ysgafnach. |
| (1, 0) 768 | Mae'r sbot yn codi ar Sami yng nghornel chwith y llwyfan a chlywir ei lais dros yr uchelseinydd yn dweud yn ysgafn i ddechrau 'Dwi'n oer... dwi'n oer'. |
| (1, 0) 769 | Diffoddir y golau ar olygfa'r llys gan adael dim ond y sbot a chlywir llais Sami'n dweud yr un geiriau yn uwch ac yn uwch nes ei fod yn fyddarol. |
| (1, 0) 770 | Tywyllwch. |