| (0, 13) 1026 | Pobun! aros! |
| (0, 13) 1027 | Deliwch ef, deliwch, hai! |
| (0, 13) 1028 | Hwde, di, dyma fi yn dyfod i'th gyrchu, wele fì! |
| (0, 13) 1029 | Aros, Pobun—draw ag ef! |
| (0, 13) 1030 | Rhaid ei fod yn fyddar o'i ddwy glust! |
| (0, 13) 1031 | [Beth a wnai yn y tŷ hwn? |
| (0, 13) 1032 | Ewch i'w gael allan! |
| (0, 13) 1033 | Mi ddisgwyliaf yma wrth y ddôr. |
| (0, 13) 1034 | Gafaelaf ynddo a dygaf ef i'm canlyn. |
| (0, 13) 1035 | Feallai y bydd raid i mi aros yn hir—bydded! nid wy'n ofni dim amdano,] eiddof i ydyw yn groen ac yn flew, cyn sicred ag y bu neb erioed. |
| (0, 13) 1037 | [{Heb glywed.} |
| (0, 13) 1038 | Rhaid mynd y ffordd yma.] |
| (0, 13) 1040 | [Yn sicr, neges gennyf yma.] |
| (0, 13) 1042 | [Benyw gwerylgar! |
| (0, 13) 1043 | Gallaf ysgôi. |
| (0, 13) 1047 | Rhaid i mi ddisgwyl gerllaw'r ddôr wrth fy swydd, er mwyn mynd ag un a ddaw allan y ffordd yma i'm canlyn ar hyd ffordd arbennig. |
| (0, 13) 1049 | Na mi â thithau, af y ffordd acw. |
| (0, 13) 1051 | [{Gan wasgu ei glustiau.} |
| (0, 13) 1052 | Twrw! |
| (0, 13) 1053 | Oferedd! |
| (0, 13) 1054 | 'Tramgwydd!] |
| (0, 13) 1057 | Dim ffordd! dim ffordd! onid oes yma ffordd? |
| (0, 13) 1058 | [Dim lle i gymaint â throed sefyll, rhoi hwb na naid?] |
| (0, 13) 1059 | Ai e? |
| (0, 13) 1060 | Bydd yma ffordd ar unwaith! |
| (0, 13) 1065 | Ydyw'r cyfeillion hyn hefyd yn y chwarae, heb wybod yn well na segura a rhythu [yn hwyr y nos ac yn gynnar y bore, tra bo pobl eraill, yn sur ddigon, yn edrych at eu gorchwylion?] |
| (0, 13) 1067 | [{Yntau, wrth y gynulleidfa, gan eistedd ar lawr.}] |
| (0, 13) 1068 | 'Rwy'n gofyn, a oes yma amheuaeth o fath yn y byd? |
| (0, 13) 1069 | A oes yma ryw fater yn y fantol? |
| (0, 13) 1070 | Dim oll, dim oll, cyn wired â'm byw. |
| (0, 13) 1071 | Oes yma rywun yn eistedd yma a daerai yn fy wyneb i na pherthyn y dyn yma ddim i mi? |
| (0, 13) 1072 | Bolerwr a llyncwr o'r gorau, anlladwr, hudwr, torrwr priodas, [mor ddigrefydd â phagan du, hŷ ar air a gweithred, mor anghofus o'i Dduw â'r bwystfil yn y coed, ysbeiliwr gweddwon ac amddifaid, gormeswr, cenfigennwr, cas at bawb! |
| (0, 13) 1074 | Nid oes gennyf ddigon o eiriau i'w ddisgrifio, a mynn y rhai hyn fy rhwystro rhag cael gafael arno a rhoi tro ar ei gorn gwddw, [gan weiddi, "dos i lawr, gnawd, a bydd farw!" |
| (0, 13) 1075 | Sôn am ei achub rhagom ni? |
| (0, 13) 1076 | A ddeliwch ati mewn gwaed oer, heb ofni rhag fy llid, fy nannedd llym a'm dyrnau caead?] |
| (0, 13) 1077 | A hynny a hawl a chyfiawnder o'm plaid i? |
| (0, 13) 1080 | Ers pa bryd? |
| (0, 13) 1081 | Ymha le? |
| (0, 13) 1082 | Pa fodd? |
| (0, 13) 1083 | A ddigwydd hyn ar ddim ond gair? |
| (0, 13) 1084 | [Os bydd un wedi rhoi ei fywyd a'i weithredoedd i ni yn unig, o fwriad ac amcan, faen ar faen ac o ddydd i nos, a dry peth cyson felly ar un amrantiad yn newydd?] |
| (0, 13) 1086 | [Hai! chwedl gwrâch a rhagrith noeth! |
| (0, 13) 1087 | Golchwch i mi'r croen heb ei wlychu! |
| (0, 13) 1088 | Baldordd! |
| (0, 13) 1089 | Clebran! |
| (0, 13) 1090 | Waeth gen i boer na pheth o'r fath!] |
| (0, 13) 1091 | Tystiolaeth? |
| (0, 13) 1092 | Dygwch gymaint â gair a roddai i chwi un hawl arno ger bron barn! |
| (0, 13) 1098 | Rhof y gorau iddi, af yn f'ôl, waeth ei adael, pesgwch ef eich hunain; mae cyfog arnaf yma, mi af adref. |
| (0, 13) 1099 | [{Cyfyd Ffydd a Gweithredoedd.} |
| (0, 13) 1100 | Ystori deg, cyn gliried â'r haul, ond bod blew yn y cawl er hynny! |
| (0, 13) 1101 | Deuthum yma'n ddiofal a llawen fy mryd, gan feddwl dywedyd mai myfi oedd y perchen. |
| (0, 13) 1102 | Ie, gâr, ie, dyna'r darnau'n deilchion! |
| (0, 13) 1103 | "Does dim ffordd yma. |
| (0, 13) 1104 | 'Does dim ffordd yma!" |
| (0, 13) 1105 | Ha! merchetos! |
| (0, 13) 1106 | Cawl ympryd a gwialen, dyna fel y gwnawn i â hwy! |
| (0, 13) 1107 | Yma—eu chwythu ymaith. |
| (0, 13) 1108 | "'Does dim ffordd!" |
| (0, 13) 1109 | Mi ewyllysiwn losgi'r adyn! |
| (0, 13) 1110 | A dyma fo'n dyfod mewn crys gwyn yn rhagrithiol ac yn wylaidd dros ben. |
| (0, 13) 1111 | Nid yw'r byd ond hurt, isel a salw, grym bob amser o flaen tegwch. |
| (0, 13) 1112 | A fo deg, ffyddlon a deallus, fe'i meistrolir gan gyfrwystra a thwyll.] |