|
|
|
|
(0, 7) 1254 |
Anrhydeddus Briaf, mae'n dy annerch Agamemnon: |
(0, 7) 1255 |
mae'n deisyf amser i gladdu a meddyginiaethu ei ddynion. |
(0, 7) 1256 |
Mae hefyd yn fodlon am Antenor ei gyfnewid |
(0, 7) 1257 |
am unferch arglwydd Calchas, hon ydyw Cresyd. |
(0, 7) 1258 |
Os bodlon i'r heddwch |
(0, 7) 1259 |
yr owran dywedwch |
(0, 7) 1260 |
ac i'r gyfnewid - |
(0, 7) 1261 |
am Antenor rhoi Cresyd. |
|
|
(0, 9) 1651 |
Yr urddasol arglwyddi ar gwbwl o Droea ac Asia, |
(0, 9) 1652 |
oddi wrth frenhinoedd Groeg yr wyf i'n dyfod yma, |
(0, 9) 1653 |
ac yn dwyn i chwi y carcharwr hyn yn gyfnewid |
(0, 9) 1654 |
am unferch Calchas, fel yr oedd eich addewid. |
(0, 9) 1655 |
Diolchgar ydynt hwythau |
(0, 9) 1656 |
am yr heddychol ddyddiau, |
(0, 9) 1657 |
a'r cytundeb yn sicir |
(0, 9) 1658 |
o'u rhan hwy a gedwir. |
|
|
(0, 9) 1677 |
Siriwch! Paham yr ydych chwi cyn budredd? |
(0, 9) 1678 |
Eich annwyl dad ar hynt a gewch ei weled, |
(0, 9) 1679 |
hwn sydd yn cystuddio mewn hiraethus ofalon |
(0, 9) 1680 |
eich bod yn byw oddi wrtho ym mysg ei elynion. |
(0, 9) 1681 |
Os tybiwch chwi y galla |
(0, 9) 1682 |
i'ch meddylie roddi esmwythdra, |
(0, 9) 1683 |
rwy'n deisyfu arnoch ac yn erfyn, |
(0, 9) 1684 |
a hyn allan, fy ngorchymyn. |
(0, 9) 1685 |
~ |
(0, 9) 1686 |
Mi a wn, Cresyd, fod yn chwith ac yn ddieithr gennych - |
(0, 9) 1687 |
nid yw hyn ryfeddod i'r sawl a ŵyr oddi wrthych - |
(0, 9) 1688 |
gyfnewid cydnabyddiaeth y Groegwyr, sydd i chwi yn ddieithriaid, |
(0, 9) 1689 |
am y Troeaid, eich cymdogion, a Throea, y man y'ch ganed |
(0, 9) 1690 |
Na feddyliwch nas cewch weled |
(0, 9) 1691 |
ym mysg y Groegwyr wŷr cyn laned |
(0, 9) 1692 |
ag sydd yn Nhroea a'i swydd, |
(0, 9) 1693 |
a chwaneg o garedigrwydd. |
|
|
(0, 9) 1702 |
Mi a fynnwn i chwi fy nghymryd megis eich brawd diniwed, |
(0, 9) 1703 |
ac na wrthodych fy ngharedigrwydd pan ddelych ym mysg dieithriaid, |
(0, 9) 1704 |
er bod eich prudd-der o achosion mawr yn tyfu, |
(0, 9) 1705 |
nid hwyrach mewn amser y gallwn i eich helpu. |
(0, 9) 1706 |
Onide hyn a wyddwn, |
(0, 9) 1707 |
eich trymder nis ychwanegwn, |
(0, 9) 1708 |
ond trwm a fyddwn innau |
(0, 9) 1709 |
dros drymder eich meddyliau. |
(0, 9) 1710 |
~ |
(0, 9) 1711 |
Er bod y Troeaid wrth y Groegwyr yn ddicllon, |
(0, 9) 1712 |
a'r Groegwyr wrth y Troeaid beunydd yn greulon, |
(0, 9) 1713 |
yr un duw cariad mae'r ddwyblaid yn ei wasanaethu, |
(0, 9) 1714 |
a'r ddwyblaid mae'n orfod i'r duw yma eu helpu. |
(0, 9) 1715 |
Er duw, pwy bynnag a'ch digiodd, |
(0, 9) 1716 |
arnaf i na roddwch anfodd; |
(0, 9) 1717 |
myfi ni chlywaf arnaf |
(0, 9) 1718 |
ryglyddu eich dig na'ch gwaethaf. |
|
|
(0, 9) 1727 |
At y Groegwyr gan ein bod yn owran yn agosed, |
(0, 9) 1728 |
neu at dent Calchas - bellach all ein gweled - |
(0, 9) 1729 |
mi adawaf, i gadw fy nghyfrinach angall |
(0, 9) 1730 |
wedi ei selio yn fy meddwl tan ryw amser arall. |
(0, 9) 1731 |
Moeswch i mi, Cresyd, |
(0, 9) 1732 |
eich llaw, eich cred, eich addewid |
(0, 9) 1733 |
ar gaffael o Diomedes |
(0, 9) 1734 |
fod yn nesaf ddyn i'ch mynwes. |
|
|
(0, 9) 1736 |
Mae cymaint o farchogion ym mysg Groegwyr mor rhinweddol, |
(0, 9) 1737 |
cyn laned, cyn foneddigeidded, ac mor weddus naturiol, |
(0, 9) 1738 |
a phob un a wnaiff ei orau am ei einioes a'i fywyd |
(0, 9) 1739 |
ar gael ohonynt ennill eich gwasanaeth chwi, Cresyd. |
(0, 9) 1740 |
Arnoch chwi y deisyfaf, |
(0, 9) 1741 |
am y boen a'r drafael yma, |
(0, 9) 1742 |
yng ngwydd y rhain fy enwi |
(0, 9) 1743 |
yn wasanaethwr ufudd i chwi. |
|
|
(0, 12) 1892 |
Fy nghariadus argwlyddes, beth a fynnwch chwi ymofyn? |
(0, 12) 1893 |
Am Droea neu am Droeaid, na soniwch amdanyn. |
(0, 12) 1894 |
Gyrrwch allan obaith chwerw a gwnewch lawenydd. |
(0, 12) 1895 |
Codwch i fyny'ch calon a'ch glendid o newydd, |
(0, 12) 1896 |
oherwydd mae Troea |
(0, 12) 1897 |
wedi ei dwyn ei hun i'r gwaetha; |
(0, 12) 1898 |
nid ydyw hon ond aros |
(0, 12) 1899 |
y trwm ddiwedd sydd yn agos. |
(0, 12) 1900 |
~ |
(0, 12) 1901 |
Meddyliwch fod Groegwyr yn gystal gwŷr eu hymddygiad, |
(0, 12) 1902 |
cyn onest, cyn ffyddloned, cyn berffeithied mewn cariad |
(0, 12) 1903 |
ag ydyw un Troewr, ac o lawer yn garedicach |
(0, 12) 1904 |
i ufuddhau i'ch meddyliau ac i'ch gwasanaethu yn ffyddlonach. |
(0, 12) 1905 |
Chwi a roesoch im gennad |
(0, 12) 1906 |
i draethu wrthych beth o'm siarad: |
(0, 12) 1907 |
fe ddywed pobl lawer |
(0, 12) 1908 |
na ddylid caru merch mewn prudd-der. |
(0, 12) 1909 |
~ |
(0, 12) 1910 |
Bid hysbys i ti, Cresyd, mai unfab Tideus y'm barned, |
(0, 12) 1911 |
a'm bod cyn foneddiced ag un Troewr ar a aned, |
(0, 12) 1912 |
a phe buasai fy nhad fyw hyd y dyddiau yma |
(0, 12) 1913 |
mi a fuaswn frenin ar Arge a Chalsedonia. |
(0, 12) 1914 |
Ei farwolaeth a gyrches |
(0, 12) 1915 |
pan fu'r rhyfel wrth Thebes, |
(0, 12) 1916 |
fe lladdwyd Polimeite |
(0, 12) 1917 |
a llawer o'r rhai gore. |
(0, 12) 1918 |
~ |
(0, 12) 1919 |
F'anwylyd, gan fy mod yn gwasanaethu eich anrhydedd, |
(0, 12) 1920 |
a chwithau yw'r ferch gyntaf a ddymunais ei thrugaredd, |
(0, 12) 1921 |
erfyn yr wyf yn lleigus gael chwaneg wrthych siarad. |
(0, 12) 1922 |
Beth a bair ddrwgdybio ond hir ymdroi mewn cariad? |
(0, 12) 1923 |
Fy meddwl ni rhaid dangos, |
(0, 12) 1924 |
ni wnaiff geiriau ond paentio'r achos; |
(0, 12) 1925 |
y peth sydd raid ei wneuthur |
(0, 12) 1926 |
nid gwaeth yn fuan nag yn hwyr. |
|
|
(0, 17) 2148 |
Ti yw butain i'r Troeaid erioed er pan y'th aned, |
(0, 17) 2149 |
dos ymaith o'm golwg, na ad im byth dy weled! |
(0, 17) 2150 |
Yr owran ym mysg Groegwyr fwyfwy'n puteinia: |
(0, 17) 2151 |
os doi di byth lle y byddwyf, â'r cledd hwn y'th laddaf. |
(0, 17) 2152 |
Y neb a wnelo ddeunydd |
(0, 17) 2153 |
ar butain ffals ei deurudd! |
(0, 17) 2154 |
Dos ymaith i buteinia: |
(0, 17) 2155 |
na ad dy weled mwy ffordd yma. |