| (1, 0) 74 | Mi rydw i wedi astudio'r person hwn yn ofalus iawn ─ mae o dan fy ngofal personol i yn yr ysbyty. | 
| (1, 0) 75 | Ces diddorol iawn, iawn. | 
| (1, 0) 76 | Elfennau o'r clefydau nosophobia, ffilophobia a ffrwadophobia'n perthyn iddo fo. | 
| (1, 0) 77 | Eithriadol! | 
| (1, 0) 78 | Meddwl plentyn er ei fod o yn tynnu at ei drigain. | 
| (1, 0) 79 | Wedi ei fagu gan ei nain mae'n debyg, ─ er nad ydan ni'n siwr os oedd hi'n perthyn drwy waed. | 
| (1, 0) 80 | Diddorol 'dach chi'n gweld. | 
| (1, 0) 81 | Wedyn mi rydan ni wedi cael llawer o dystiolaeth gan gyn-athrawon, gan gyfoedion oedd yn yr ysgol hefo fo ─ a gwahanol aelodau o'i gymdeithas leol o... | 
| (1, 0) 94 | Felly mi garwn argymell fod y llys yn ystyried Samuel Jones yn ddiffygiol ei feddwl ac yn un nad yw'n gyfrifol am ei weithrediadau. | 
| (1, 0) 155 | Os oedd meddwl abnormal Samuel yn deud ei fod o'n oer... | 
| (1, 0) 158 | ...yna mi fyddai'i gorff o'n wirioneddol oer. | 
| (1, 0) 159 | Roedd hyn yn mynd yn ôl i'w blentyndod o mae'n debyg ─ diddorol wyddoch chi ─ ac mae o i'w weld drwy'i lencyndod o adeg y rhyfel hefyd diddorol iawn... | 
| (1, 0) 215 | Dwi heb gael tro ers lot... | 
| (1, 0) 458 | Isho ymuno a'r armi ia? | 
| (1, 0) 459 | Wel, maen nhw'n cymryd rwbath ond iddyn nhw basio'r medical yn gynta ti'n gweld. | 
| (1, 0) 460 | Rwan agor dy geg a deud "A". | 
| (1, 0) 462 | Yr argian fawr, mi roedd hwnna'n swnio'n wag. | 
| (1, 0) 463 | Tria fo eto. | 
| (1, 0) 465 | Mm. | 
| (1, 0) 466 | Wyt ti wedi gweld doctor o'r blaen, Sami? | 
| (1, 0) 468 | Mae gen i lythyrau gan athrawon ysgol fan hyn ac un gan dy blismon pentra di ac yn ôl be' maen nhw'n ddeud, mi ddylat ti fod wedi gweld un ers blynyddoedd. | 
| (1, 0) 469 | Be' ydi dy broblem di, Sami? | 
| (1, 0) 471 | Be' wyt ti'n da yn fa'ma 'ta? | 
| (1, 0) 473 | Methu cael job, ia? | 
| (1, 0) 475 | Agor dy grys. | 
| (1, 0) 478 | Paid a dychryn. | 
| (1, 0) 479 | Dim ond gofyn i ti agor dy grys wnes i. | 
| (1, 0) 480 | Dim ond eisiau testio curiadau dy galon di 'rydw i. | 
| (1, 0) 481 | Rwan agor... | 
| (1, 0) 484 | Ond pam? | 
| (1, 0) 485 | Be 'di'r matar? | 
| (1, 0) 487 | Oes gen ti ofn bod yn oer 'ta? | 
| (1, 0) 492 | Hym. | 
| (1, 0) 493 | Diddorol iawn. | 
| (1, 0) 494 | Mi rwyt ti'n ges arbennig iawn. | 
| (1, 0) 495 | 'Does 'na ddim lle i rai fel ti yn yr armi wrth gwrs, ond mi rwyt ti'n ddiddorol iawn. | 
| (1, 0) 682 | Dyma ti Sami, gwisga hon. | 
| (1, 0) 684 | Wrth gwrs ei bod hi ─ mae popeth yn wyn mewn 'sbyty. | 
| (1, 0) 685 | Rwan gwisga hi... | 
| (1, 0) 687 | Mi gei di berffaith hedd a chwarae teg i wella yn fan'ma ti'n gweld. | 
| (1, 0) 688 | Mi gei di lonydd... | 
| (1, 0) 690 | Mi fydd y nyrsus yn edrych ar dy ol di ─ yn rhoi bwyd i ti, yn dy folchi di, yn newid dy ddillad di ac mi fydda inna'n trio dy wella di. | 
| (1, 0) 691 | Fydd dim rhaid i ti wneud dim byd, na phoeni am ddim byd. | 
| (1, 0) 692 | Rwan gorwedd i lawr yn dy wely... | 
| (1, 0) 694 | ... gad lonydd i ni wneud y cyfan. | 
| (1, 0) 695 | Cofia paid â phoeni, a phaid â meddwl. | 
| (1, 0) 720 | Ie, wel ar ôl cyfnod y rhyfel 'roedd yn amhosibl i'r claf gael gwaith wrth gwrs. | 
| (1, 0) 721 | Doedd ganddo fo ddim cymwysterau na thestimonials ac mi roedd pobl yn sylwi fod rhywbeth o'i le arno fo. | 
| (1, 0) 722 | Ac yn y diwedd mi ddaethon nhw ag o atom ni i'r ysbyty... | 
| (1, 0) 730 | Y cyfan sydd gen i i'w ddweud yw awgrymu mai'r peth gorau fyddai iddo ddychwelyd atom ni. | 
| (1, 0) 731 | Mae gen i ofn ei fod o'n un o'r rheiny sydd wedi cael eu geni i'r byd er mwyn i weddill cymdeithas ofalu amdanyn nhw. |