|
|
|
|
(0, 1) 20 |
Diau, ni ellir goddef hyn yn hwy; mae pob creadur yn caledu ei galon i'm herbyn yn ddrygionus, nid ofnant rhagof ddim, a byw y maent yn waeth nag anifeiliaid. |
(0, 1) 21 |
Dallwyd eu llygaid ysbrydol ym meddwdod pechod, dyna'r modd y maent, ac nid adwaenant monof i fel eu Duw; ar bethau daearol yn unig y mae eu bryd, a'r peth a fo uwchlaw hynny, ni bydd ond dirmyg ganddynt; a phan edrychwyf arnynt weithion, llwyr angof ganddynt y Cyfamod a wneuthum â hwynt, fel y rhoddais fy ngwaed erddynt ar y Groes, a'm crogi innau ar bren y dioddef fel yr enillent hwy fywyd. |
(0, 1) 22 |
Tynnais y pigau drain o'u traed, a'u dwyn ar fy mhen fy hun fel coron; gwneuthum y cwbl a allwn, ac eto gwael fy mharch ganddynt. |
(0, 1) 23 |
Am hynny, â chyfiawn frys, dygaf ddydd brawd arnynt, a barnu Pobun yn ôl ei haeddiant. |
(0, 1) 24 |
Pa le yr wyt ti, Angau, fy nghennad rymus? |
(0, 1) 25 |
Dyred ger fy mron. |
|
|
(0, 1) 27 |
Dos di at Bobun a dywed wrtho yn fy enw i mai rhaid iddo gychwyn ar bererindod ar yr awr a'r dydd hwn, ac nad gwiw iddo ei ysgôi. |
(0, 1) 28 |
A phar iddo ddwyn gydag ef ei lyfr cyfrif, ac na cheisied nac oedi na phetruso. |