| (1, 2) 218 | Mae gan eich Gras syniad uchel am Glyndwr? |
| (1, 2) 220 | Ai nid felly Arglwydd Grey? |
| (1, 2) 323 | Atal dy dafod, gyfaill mwyn, er mwyn dy wlad! |
| (1, 2) 399 | Fy Arglwydd Frenin! |
| (1, 2) 400 | Cyn it roi dy air a wnei di wrando arnaf fi? |
| (1, 2) 401 | 'Rwyf finnau'n Gymro.. |
| (1, 2) 402 | Gwn rywbeth yw fy ngwlad. |
| (1, 2) 403 | Gwn rywbeth am y gorthrwm a gafodd hi a'i phlant. |
| (1, 2) 404 | Gwn am yr ysbryd a'i meddianna hi. |
| (1, 2) 405 | Gwn am allu a dylanwad Owen Glyndwr. |
| (1, 2) 406 | Gwn mai gwaith hawdd a fyddai iddo gynneu tân a ledai'n chwyrn o'r De i'r Gogledd, o Gaergybi i Gaerdydd. |
| (1, 2) 407 | Ac er mwyn heddwch gwlad apelio 'rwyf na fydded i ti gynhyrfu pob ryw ysbryd drwg trwy roi dyfarniad yn yr achos hwn ar sail deddf mor anghyfiawn─deddf sy'n sarhad ar degwch Lloegr ac ar hunanbarch pob Cymro! |