|
|
|
|
(0, 3) 158 |
Astudiais, och! Ffilosoffi, |
(0, 3) 159 |
A chyfraith, do, a Meddyginiaeth, |
(0, 3) 160 |
A Diwinyddiaeth—gwae fyfi!— |
(0, 3) 161 |
Drwy lafur mawr a garw driniaeth. |
(0, 3) 162 |
A dyma fi, 'r ynfytyn plaen, |
(0, 3) 163 |
Cyn ddoethed bob tipyn ag oeddwn o'r blaen! |
(0, 3) 164 |
Fe'm gelwir yn Athro a Doethur, mae'n wir, |
(0, 3) 165 |
A minnau ers deng mlynedd hir |
(0, 3) 166 |
Yn tynnu 'nisgyblion ar hyd ac ar draws |
(0, 3) 167 |
Gerfydd eu trwyn, heb fod ronyn haws, |
(0, 3) 168 |
I weld nad oes dim y gallwn ei wybod!— |
(0, 3) 169 |
Mae hynny agos a llosgi 'nghydwybod. |
(0, 3) 170 |
'Rwyf lawn cyn ddoethed â'r crach ysgolorion, |
(0, 3) 171 |
Athrawon, Meistriaid, Offeiriaid, Llenorion; |
(0, 3) 172 |
'Does wendid nac ameu a bair im ffaelu, |
(0, 3) 173 |
Ac nid wyf yn ofni na diawl na'i deulu. |
(0, 3) 174 |
Collais drwy hynny bob rhyw sirioldeb; |
(0, 3) 175 |
Am wybod dim a fyddai fuddioldeb, |
(0, 3) 176 |
Neu beth i'w ddysgu, ni waeth heb ffugio, |
(0, 3) 177 |
Er gwella dynion na'u diwygio; |
(0, 3) 178 |
At hynny, 'does imi nac aur na chlud, |
(0, 3) 179 |
Na pharch na diddanwch yn y byd; |
(0, 3) 180 |
Ni ddaliai gi ddim yn hwy mo'r driniaeth, |
(0, 3) 181 |
O'r herwydd, ymroddais at Ddewiniaeth, |
(0, 3) 182 |
Rhag na bo ambell bwnc i'w drafod |
(0, 3) 183 |
Na ddeuai'n glir drwy bwyll a thafod, |
(0, 3) 184 |
Fel na bo rhaid, drwy chwys a phendroni, |
(0, 3) 185 |
Im draethu'r ddysg na wn i moni, |
(0, 3) 186 |
Ac fel y gwypwyf beth yw'r byd |
(0, 3) 187 |
A'r hyn a gynnwys oll i gyd, |
(0, 3) 188 |
A gweld ei had a'i rym i'w eigion |
(0, 3) 189 |
Yn lle rhyw ddelio mewn geiriau gweigion! |
(0, 3) 190 |
~ |
(0, 3) 191 |
O loergan leuad, a weli di, |
(0, 3) 192 |
Am yr olaf waith, fy llafur i? |
(0, 3) 193 |
Dydi, a welais i mor dlos |
(0, 3) 194 |
Uwchben fy nesg aml hanner nos; |
(0, 3) 195 |
O blith papurau a llyfrau lu, |
(0, 3) 196 |
Gyfeilles brudd, y'th wyliwn fry! |
(0, 3) 197 |
Och! na chawn fynd i gopa'r bryn |
(0, 3) 198 |
Ynghanol dy oleuni gwyn; |
(0, 3) 199 |
Crwydro gydag ysbrydion lu |
(0, 3) 200 |
Drwy ogofeydd y creigiau fry, |
(0, 3) 201 |
Hofran yn dy hanner goleu |
(0, 3) 202 |
I'w canlyn hwy uwchben y dolau; |
(0, 3) 203 |
Poen meddwl wedi'i lwyr anghofio, |
(0, 3) 204 |
A mi'n dy wlith yn nwyfus nofio! |
(0, 3) 205 |
Gwae! yma'r wy'n y carchar cau, |
(0, 3) 206 |
Felltigaid, dywyll bared ffau, |
(0, 3) 207 |
Lle rhaid i wawl y nefoedd wiw |
(0, 3) 208 |
Ryw dorri'n llwyd trwy wydryn lliw, |
(0, 3) 209 |
A fforchi yn y llyfrdy, fo |
(0, 3) 210 |
A gny pryfetach, tan ei lwch; |
(0, 3) 211 |
A'i bared yntau, hyd y to, |
(0, 3) 212 |
A phapur myglyd trosto'n drwch; |
(0, 3) 213 |
Gwydrau ac estyll ym mhob cwrr, |
(0, 3) 214 |
Ac offer lu ar draws a hyd, |
(0, 3) 215 |
Hynafol ddodrefn, ddidrefn dwrr— |
(0, 3) 216 |
Dy fyd, y peth a elwi'n fyd! |
(0, 3) 217 |
A fynni dithau holi pam |
(0, 3) 218 |
Y rhydd dy galon ynot lam? |
(0, 3) 219 |
Paham y daw rhyw ofid mud |
(0, 3) 220 |
I darfu gwerth dy yrfa i gyd? |
(0, 3) 221 |
Yn lle bod gyda Natur fyw, |
(0, 3) 222 |
I lonni dyn, a luniai Duw, |
(0, 3) 223 |
Bod yma yn y mwg a'r staen, |
(0, 3) 224 |
Rhwng ysgerbydau ac esgyrn braen! |
(0, 3) 225 |
Ffo! ymaith dos i'r wlad sy draw |
(0, 3) 226 |
A'r llyfr, sy lawn o bethau cudd, |
(0, 3) 227 |
Gwaith Nostradamus[1] tan ei law, |
(0, 3) 228 |
I'th arwain, onid digon fydd? |
(0, 3) 229 |
Pan ddysger di gan Natur hithau, |
(0, 3) 230 |
Ti adnabyddi hynt y bydoedd, |
(0, 3) 231 |
A daw yr enaid rym i tithau. |
(0, 3) 232 |
Megys y sieryd yr ysbrydoedd; |
(0, 3) 233 |
Ofer, tra byddo pŵl deimladau, |
(0, 3) 234 |
I'r Arwydd roddi Datguddiadau— |
(0, 3) 235 |
Ysbrydion, sydd o'm hamgylch i, |
(0, 3) 236 |
O'm clywoch, doed eich ateb chwi! |
|
|
(0, 3) 238 |
Ha! pa ryw wynfyd sydd yr ennyd hon |
(0, 3) 239 |
Ar unwaith trwy bob synnwyr yn ehedeg? |
(0, 3) 240 |
Mae pur lawenydd bywyd ieuanc llon |
(0, 3) 241 |
Drwy bob gwythïen fawr a bach yn rhedeg! |
(0, 3) 242 |
Ai Duw oedd ef, a wnaeth y Daflen hon, |
(0, 3) 243 |
Sydd yn tawelu ynof bob blinderau, |
(0, 3) 244 |
Gan lenwi'r druan galon â mwynderau, |
(0, 3) 245 |
Ac â rhyw ddirgel egni, ger fy mron, |
(0, 3) 246 |
Sy'n agor nerthoedd Natur i'w dyfnderau? |
(0, 3) 247 |
Ai duw wyf innau? Mwy, ysgafned wyf! |
(0, 3) 248 |
Mi welaf Natur yma yn ei nwyf |
(0, 3) 249 |
Yn gorwedd ger bron f'enaid i yn noeth, |
(0, 3) 250 |
A gwn yn awr holl ystyr geiriau'r Doeth: |
(0, 3) 251 |
"Nid ydyw byd yr ysbryd tan ei glo, |
(0, 3) 252 |
Dy deimlad ti, a'th galon farw, y sydd; |
(0, 3) 253 |
Fyfyriwr, dos yn llawen yn dy dro, |
(0, 3) 254 |
A golch dy farwol fron yng ngwawl y dydd!" |
|
|
(0, 3) 256 |
Mae'r cyfan drwy ei gilydd megys gwe, |
(0, 3) 257 |
A'r naill drwy'r llall yn bod a llenwi ei le; |
(0, 3) 258 |
Egnïon nef, yn uwch ac is, esgynnant, |
(0, 3) 259 |
A'r cwpan aur, i'w gilydd yr estynnant! |
(0, 3) 260 |
O'r nef a thros y ddaear y disgynnant, |
(0, 3) 261 |
Gan hidlo bendith o'u hadanedd, |
(0, 3) 262 |
A'r cwbl i gyd trwy'r cyfan yn gynghanedd! |
(0, 3) 263 |
Pa chwarae! Eto, dim ond chwarae yw! |
(0, 3) 264 |
Ddi derfyn Natur, sut y'th ddaliaf di? |
(0, 3) 265 |
Dy fronnau, ble? Dy ffrwd sy fythol fyw, |
(0, 3) 266 |
Y crog y nef a'r ddaear wrthi hi, |
(0, 3) 267 |
Y cyrch i'w chyrraedd bob rhyw fynwes wyw, |
(0, 3) 268 |
A lleibio'i llif—ai ofer gwanc i mi? |
|
|
(0, 3) 270 |
Y mae i'r Arwydd yma amgen rhin! |
(0, 3) 271 |
Ysbryd y Ddaear, 'r wyt yn agoshau, |
(0, 3) 272 |
Mae f'egni ynof eisoes yn cryfhau, |
(0, 3) 273 |
Mae ias i'm ysu, megys newydd win; |
(0, 3) 274 |
Mae arnaf awydd yn y byd anturio, |
(0, 3) 275 |
A phrofi bydol arial a dolurio, |
(0, 3) 276 |
Yn erbyn yr ystormydd ymgyndynnu, |
(0, 3) 277 |
A bod, pan dorro'r llong, heb unwaith grynu! |
(0, 3) 278 |
Tywylla uwch fy mhen— |
(0, 3) 279 |
Fe gudd y lloer ei lliw— |
(0, 3) 280 |
Gwelwa goleuni'r lamp! |
(0, 3) 281 |
Diffydd!—gwing rhyw belydr coch |
(0, 3) 282 |
O gylch fy mhen;—a syrth |
(0, 3) 283 |
Rhyw ias or neni lawr |
(0, 3) 284 |
A gafael ynof! |
(0, 3) 285 |
Mi a'i gwn, O, ysbryd taer, gerllaw'r wyt ti! |
(0, 3) 286 |
Amlyga di dy hun! |
(0, 3) 287 |
Ha! fel yr ymgynhyrfa 'nghalon i! |
(0, 3) 288 |
A newydd iasau'n ysu, |
(0, 3) 289 |
Y mae fy holl synhwyrau'n ymddyrysu! |
(0, 3) 290 |
Y mae fy nghalon iti'n llwyr yn plygu, |
(0, 3) 291 |
Pe costiai 'mywyd, dyred i'th amlygu! |
|
|
(0, 3) 296 |
Erchyll yw dy ddrych! |
|
|
(0, 3) 300 |
Gwae! Ni allaf fod lle bych! |
|
|
(0, 3) 313 |
Y fflamgi! pam y ciliwn rhagot tu? |
(0, 3) 314 |
Myfi yw, a'th gydradd dithau, Faust wyf i! |